| (1, 1) 2 | |Now, by your leave, gentlemen and ladies|: |
| (1, 1) 3 | |O, silence! my fellows, don't be so foolish|; |
| (1, 1) 4 | |Pray stand back, ye crowdy gang|, |
| (1, 1) 5 | Neu'r ydych yn annghariadus. |
| (1, 1) 6 | ~ |
| (1, 1) 7 | |Oh! make more room| o'r haner, |
| (1, 1) 8 | |Between the fool and the fidler|, |
| (1, 1) 9 | |l'd wish to have a pretty dance|, |
| (1, 1) 10 | Lle gwelo |Nance, my dear|. |
| (1, 1) 11 | O ffei, dyna ddigon, 'rwy'n chwanog i ddiogi, |
| (1, 1) 12 | Mae dychryn a henaint yn dechreu 'nihoeni; |
| (1, 1) 13 | A hyny sy'n sobreiddio gwres, |
| (1, 1) 14 | Fy rhodres a'm gwyrhydri. |
| (1, 1) 15 | ~ |
| (1, 1) 16 | Mae genyf |act| ar gynydd, |
| (1, 1) 17 | A freuddwydiodd Twm y Prydydd; |
| (1, 1) 18 | I adrodd ffyrdd naturieth ffol |
| (1, 1) 19 | Y byd a'i ddynol ddeunydd. |
| (1, 1) 20 | ~ |
| (1, 1) 21 | Ac fe alle bydd rhai wrth wrando, |
| (1, 1) 22 | Yn debygol o gael eu pigo; |
| (1, 1) 23 | Mae'n anhawdd cael seigie lle bo cege cas, |
| (1, 1) 24 | I bob un gael blas i'w blesio. |
| (1, 1) 25 | ~ |
| (1, 1) 26 | Ond yn lle gwresogedd seigie, |
| (1, 1) 27 | Chwi gewch frith-gig sych o'ch blaene, |
| (1, 1) 28 | A digon o fwstard gyda'ch bwyd, |
| (1, 1) 29 | Triniwch, fe a gwyd i'ch trwyne. |
| (1, 1) 30 | ~ |
| (1, 1) 31 | Ni fynwn ddim 'run faner |
| (1, 1) 32 | Ag interlutie'r Cwper,[1] |
| (1, 1) 33 | Bregethu duwioldeb yn ei chrys, |
| (1, 1) 34 | I rai f'o a blys am bleser. |
| (1, 1) 35 | ~ |
| (1, 1) 36 | Am osod 'r y'm ni yn mhob mesur, |
| (1, 1) 37 | Y gwir am bethe natur; |
| (1, 1) 38 | Mae'n fwy cyfaddas nag ysgrythyr glaer, |
| (1, 1) 39 | Yn eisteddfa'r taer watwarwyr. |
| (1, 1) 40 | ~ |
| (1, 1) 41 | 'Ran fe ddyle duwioldeb ddilys |
| (1, 1) 42 | Gael ei gosod mewn cyfle parchus; |
| (1, 1) 43 | Nid taflu geme, a rhoi manna i'r moch |
| (1, 1) 44 | Da gwyddoch, nid yw gweddus. |
| (1, 1) 45 | ~ |
| (1, 1) 46 | Mae amser i bob amcan, |
| (1, 1) 47 | Wedi'i drefnu a'i wahanu yn ei le'i hunan; |
| (1, 1) 48 | Amser i alaru dan y rhod, |
| (1, 1) 49 | A rhyw ddyddie i fod yn ddyddan. |
| (1, 1) 50 | ~ |
| (1, 1) 51 | Fe ddyle pob peth yn weddedd, |
| (1, 1) 52 | Fod wedi'i ranu wrth drefn gwirionedd, |
| (1, 1) 53 | Rhag i'n llawenydd, dramgwydd dro, |
| (1, 1) 54 | Neu'n chware droi yn chwerwedd. |
| (1, 1) 55 | ~ |
| (1, 1) 56 | Mae mwy o bob ffieidd-dra, |
| (1, 1) 57 | Yn ei rym yr amser yma; |
| (1, 1) 58 | Nid oedd mo'r haner, 'rydwy'n siwr, |
| (1, 1) 59 | O niwed, cyn dw'r Noa. |
| (1, 1) 63 | Dyna'r ffasiwn sydd ar droed, |
| (1, 1) 64 | Ni fu'r ymliw erioed mor amled. |
| (1, 1) 69 | Fe aeth pobl y byd a'u llid yn llydan, |
| (1, 1) 70 | Bob un i wahanu am ei opiniwn ei hunan; |
| (1, 1) 71 | Ni fu 'rioed wrth dwr Babel, gafel g'oedd, |
| (1, 1) 72 | Hyny ieithoedd sydd yma weithian. |
| (1, 1) 73 | ~ |
| (1, 1) 74 | Ac o ran fol dynion yn ymgyndynu, |
| (1, 1) 75 | A'u serch arnynt eu hunen yw'r achos o hyny; |
| (1, 1) 76 | Mae o rai duwiolaf yn y wlad, |
| (1, 1) 77 | Ryw fagad yn rhyfygu. |
| (1, 1) 87 | Mi glywes fel y gwahardded |
| (1, 1) 88 | I un fwrw allan gythreulied, |
| (1, 1) 89 | Gan rai, o eisie na buase fe'n fwy, |
| (1, 1) 90 | Yn eu dilyn hwy mewn dalied. |
| (1, 1) 100 | Wel, ymddyddan di am grefydd, |
| (1, 1) 101 | O'r |sect| a fynech di yn y gwledydd; |
| (1, 1) 102 | Mae pyncie'u barn, eu sarn a'u sel, |
| (1, 1) 103 | Yn groes ddi-gêl i'w gilydd. |
| (1, 1) 104 | ~ |
| (1, 1) 105 | Ond yr hen Eglwys Loegr, druan, |
| (1, 1) 106 | Yw mam buten yr holl gyfan; |
| (1, 1) 107 | Ei bastarddied hi'n aml yma wnawd |
| (1, 1) 108 | Heno, o'i chnawd ei hunan. |
| (1, 1) 118 | Wel, 'roeddwn i'n hoffi'n erchyll,: |
| (1, 1) 119 | Ymdderu yn nghylch crefydd eraill; |
| (1, 1) 120 | 'Rwyt ti yma'n barnu pawb tan eu bai, |
| (1, 1) 121 | Ond oes ofn arna'i sefyll. |
| (1, 1) 220 | Trwy'ch cenad, clywch fi'n canu, |
| (1, 1) 221 | 'Rwy'n taenu yn gyttun, |
| (1, 1) 222 | Eiriau blasus, arwydd Pleser, |
| (1, 1) 223 | By' a'i dymher yn mhob dyn. |
| (1, 1) 224 | Pa beth sydd fwy rymusder |
| (1, 1) 225 | Na Phleser mewn hoff lwydd? |
| (1, 1) 226 | Pleser anwyl, blys ei rinwedd, |
| (1, 1) 227 | Sydd ogonedd yn ein gwydd, |
| (1, 1) 228 | Natur plant a'u holl bleserau, |
| (1, 1) 229 | Swydd awch iraidd, sydd i chwareu, |
| (1, 1) 230 | Pleser ieuenctyd wynfyd unfon, |
| (1, 1) 231 | Caru a mynu merched mwynion. |
| (1, 1) 232 | Mae calon wiwlon alwad, |
| (1, 1) 233 | A rhediad pawb dan rhod, |
| (1, 1) 234 | Am ddilyn pleser, arfer ufydd, |
| (1, 1) 235 | Beunydd yma'n bod. |
| (1, 1) 236 | Pleser cybydd blys i'r cwbl, |
| (1, 1) 237 | Gweled mwyniant golud manwl; |
| (1, 1) 238 | Pleser ofer ydyw 'mrwyfo, |
| (1, 1) 239 | Gwario'i arian, curo a rorio; |
| (1, 1) 240 | A phleser anllad hoyw, |
| (1, 1) 241 | Yw gloyw fenyw fwyn; |
| (1, 1) 242 | A phleser meddwyn, gwydyn geudod, |
| (1, 1) 243 | Am ddiod i'w ymddwyn. |
| (1, 1) 244 | ~ |
| (1, 1) 245 | Mae pleser balchder hynod, |
| (1, 1) 246 | Am osod penau mawr, |
| (1, 1) 247 | A phleser cybydd fyddai cobio |
| (1, 1) 248 | Neu lusgo rhai'n i lawr. |
| (1, 1) 249 | Naturiaeth pob aderyn |
| (1, 1) 250 | Yw hoffi'i lun a'i lais, |
| (1, 1) 251 | Gogoniant hynod iddo'i hunan, |
| (1, 1) 252 | Yn gyfan pawb a gais. |
| (1, 1) 253 | Pleser crefftwyr craffti'u doniau, |
| (1, 1) 254 | Brolio'n faith eu gwaith a'u gwyrthiau; |
| (1, 1) 255 | Pleser eraill yw gweryru, |
| (1, 1) 256 | Rhai am gwn, a rhai am ganu; |
| (1, 1) 257 | A rhai am gablu eu gilydd |
| (1, 1) 258 | Am grefydd, neu rhyw grach; |
| (1, 1) 259 | Yn abwyd pleser mae'n cyplysu |
| (1, 1) 260 | I'w benu lawer bâch. |
| (1, 1) 261 | Mae rhyw bleser blysig afiaeth, |
| (1, 1) 262 | Yma'n taro'n mhob naturiaeth; |
| (1, 1) 263 | A rhyw demtasiwn |mosiwn| mesur, |
| (1, 1) 264 | Yn croyw hudo pob creadur, |
| (1, 1) 265 | Pleserau natur beunydd, |
| (1, 1) 266 | Llawenydd sydd i'w sarn, |
| (1, 1) 267 | Ond aflwydd cebystr wedi'r cwbl, |
| (1, 1) 268 | Feddwl fod y farn. |
| (1, 1) 274 | Mae natur Pleser yn fwy cryf ei foddion |
| (1, 1) 275 | Na dwfr, na thân, na da, na dynion; |
| (1, 1) 276 | Ac yn felysach na'r dil mêl |
| (1, 1) 277 | Ei fwyniant di gel i'r galon. |
| (1, 1) 282 | Gan ei myn'd yn |ddispute| mor eger, |
| (1, 1) 283 | Myfi ydyw'r blysig Arglwydd Pleser. |
| (1, 1) 286 | Dywed y gwir, drwy gariad, |
| (1, 1) 287 | Pa le y cefest ti ddechreuad? |
| (1, 1) 290 | O, 'r Cymro glew, mi glywa' |
| (1, 1) 291 | Yn ol yr hanes, mai myfi yw'r hyna'; |
| (1, 1) 292 | Yr oeddwn yno cyn tori'r ddeddf, |
| (1, 1) 293 | Yn wreiddiol gyneddf yn Adda. |
| (1, 1) 294 | ~ |
| (1, 1) 295 | Ond pan genedlwyd pechod, |
| (1, 1) 296 | A Gofid ddwad yno'n gafod, |
| (1, 1) 297 | Mi eis i gyda Chain, rhag teimlo'm mai, |
| (1, 1) 298 | I adeiladu tai ar y tywod. |
| (1, 1) 299 | ~ |
| (1, 1) 300 | A chwedi'n, yn mhen ychydig, |
| (1, 1) 301 | Mi eis gyda nghâr Tubal, ni fu erioed mo'n tebyg; |
| (1, 1) 302 | Wrth glywed gôf yn dulio haiarn a dur, |
| (1, 1) 303 | I ddyfeisio mesur miwsig. |
| (1, 1) 304 | ~ |
| (1, 1) 305 | Ac felly 'rwy'n Bleser eto, |
| (1, 1) 306 | Trwy natur yn crychneidio, |
| (1, 1) 307 | Am rai fo a ffidl wrth eu clun, |
| (1, 1) 308 | Neu delyn yn eu dwylo. |
| (1, 1) 323 | Ni waeth i ti p'un, mae rhei'ny weithie, |
| (1, 1) 324 | Yn caru pleser yn eu calone; |
| (1, 1) 325 | Eu dull a'u cerddediad ar bob cam, |
| (1, 1) 326 | Ydyw siarad am blesere. |
| (1, 1) 331 | Wel, edrych di ar foddion, |
| (1, 1) 332 | Ac ymddygiad y boneddigion; |
| (1, 1) 333 | Ond ydyw rhei'ny'n cael o hyd, |
| (1, 1) 334 | Yn fwynedd y byd a fynon' |
| (1, 1) 339 | Ni chymer boneddigion fawr o ofidi, |
| (1, 1) 340 | Oni thorant eu gyddfe neu eu perfeddi; |
| (1, 1) 341 | Am eu bolie a'u chwante tra bo ynddynt chwyth, |
| (1, 1) 342 | Mae'u naturieth nhw byth yn tori. |
| (1, 1) 347 | Peth caled ydyw barnu |
| (1, 1) 348 | Pa fodd mae'r doethineb mawr yn trefnu; |
| (1, 1) 349 | Os ychydig fon'ddigion alwyd o'u bai, |
| (1, 1) 350 | Mewn rhinwedd mae rhai er hyny. |
| (1, 1) 355 | Tu hwnt i bob teimlad na chyfiawnder, |
| (1, 1) 356 | Y gwyr o gyfraith sy'n mynu eu Pleser; |
| (1, 1) 357 | Nid ydynt hwy'n hidio dyn na Duw, |
| (1, 1) 358 | Ond myn'd yn un byw o bwer. |
| (1, 1) 359 | ~ |
| (1, 1) 360 | Mae'u rhwyde hwy'n cyrhedd fel gwe'r coryn, |
| (1, 1) 361 | A'u rhwysg a'u mawr osgo trwy'r byd yn goresgyn; |
| (1, 1) 362 | Gellir gweled cleisie ar Ddyffryn Clwyd, |
| (1, 1) 363 | Ac yn mache Llwyd Pen Mechyn. |
| (1, 1) 373 | Wel, llawer gwell a fyddwn ni er hyny, |
| (1, 1) 374 | Fod cyfreithwyr ffoglud yn uffern yn ffaglu; |
| (1, 1) 375 | Os byddwn nine'r boblach ga'dd flinder y byd, |
| (1, 1) 376 | O genfigen yn cydfygu. |
| (1, 1) 381 | Gâd heibio'r cyfreithwyr, a thro tuag adre', |
| (1, 1) 382 | At y bobl gyffredin a'r offeiriade; |
| (1, 1) 383 | 'Rwy'n gweled rhai canolig rhwng gwych a gwael, |
| (1, 1) 384 | Yn siwrach o gael plesere, |
| (1, 1) 389 | Wel, y ffermwyr i'w hateb a'i pia hi eto, |
| (1, 1) 390 | Maent hwy'n byw'n weddus ar ben eu heidde. |
| (1, 1) 403 | Nis gwn i ai celwydd ai gwir yw coelion, |
| (1, 1) 404 | Fod rhai wedi'u genii Ofid ac i gwynion;. |
| (1, 1) 405 | Ac mai 'chydig yn'y byd a gânt |
| (1, 1) 406 | O fwyniant, gwnant a fynon'. |
| (1, 1) 416 | Wel, ymro di'n fynych, mi dd'wedaf ine, |
| (1, 1) 417 | Fod rhai'n byw'n siriol yn eu Plesere; |
| (1, 1) 418 | Wrth ganu a dawnsio, a ffwndro'n ffol, |
| (1, 1) 419 | Gytunol efo'r tane. |
| (1, 1) 424 | Peth hawddgar yw dynes wenlan groen dene, |
| (1, 1) 425 | Wedi ymwisgo â dull odieth, yn hardd ei dillade. |
| (1, 1) 428 | Wel, wfft i ti Gofid, on'd wyt yn mhob gafel, |
| (1, 1) 429 | Yn dyfod yn o ryfedd, nod y dafarn a'r efel. |
| (1, 1) 433 | 'Rwy'n meddwl ac yn ofni |
| (1, 1) 434 | Nad hawdd ymado â thi; |
| (1, 1) 435 | 'Ran y peth a hauo ni yn ein blys, |
| (1, 1) 436 | Raid ini'n ofidus fedi. |
| (1, 1) 437 | ~ |
| (1, 1) 438 | Mae'n gorfod i lawer am fyw'n rhy lawen, |
| (1, 1) 439 | Gario eu gofid ar eu cefen; |
| (1, 1) 440 | Nid oes am boeni mawr a bach |
| (1, 1) 441 | Mo'i ddewrach ar y ddae'ren. |
| (1, 1) 442 | ~ |
| (1, 1) 443 | Mae'n rhaid i'r hen wrachod, lle codo fe'i wrychyn, |
| (1, 1) 444 | Nid gwiw gwneud cuchie, rhy hwyr fydd cychwyn; |
| (1, 1) 445 | Gan gario'u cyde, a'u codie, a'u cêr, |
| (1, 1) 446 | Rhag ofn ei wedd egr ddygyn. |
| (1, 1) 447 | ~ |
| (1, 1) 448 | Fe fedr ystwytho'n enbyd, |
| (1, 1) 449 | A digloi cymale dioglyd, |
| (1, 1) 450 | A gwneud i bawb fo'n chwenych byw |
| (1, 1) 451 | Feddwl am ryw gelfyddyd. |
| (1, 1) 452 | ~ |
| (1, 1) 453 | Gwneiff i rai rhag newyn ysgubo simneue, |
| (1, 1) 454 | Carthu tai bach, a chario carpie; |
| (1, 1) 455 | Rhai'n nadu ac yn crefu, yn llymion eu crwyn, |
| (1, 1) 456 | Rhai a |ballads| er mwyn eu bolie. |
| (1, 1) 457 | ~ |
| (1, 1) 458 | Felly mae Gofid, os ceiff rai mewn gefyn, |
| (1, 1) 459 | Yn burion |scoolmeistar|, fe wneiff iddynt ymestyn; |
| (1, 1) 460 | Os byddant i onestrwydd yn rhy |stiff| neu'n rhy falch, |
| (1, 1) 461 | Fe'i tyniff y gwalch nhw i'r tenyn. |
| (1, 1) 462 | ~ |
| (1, 1) 463 | Gan hyny'n bwyllus, dymunwn bellach, |
| (1, 1) 464 | Gael myn'd â rhyw |fusness| drwy'r byd a'i fasnach, |
| (1, 1) 465 | Heb ormod Gofid na Phleser chwaith, |
| (1, 1) 466 | Mae hono'n daith fwy doethach. |
| (1, 1) 1116 | Holo, Rondol, wr hylaw ar wndwn, |
| (1, 1) 1117 | Mae rhywbeth yn eich pigo chwi, debygwn. |
| (1, 1) 1120 | O cym'rwch amynedd, yr hen wr mwyna, |
| (1, 1) 1121 | A chodwch eich calon, 'ry'ch yn edrych yn wla. |
| (1, 1) 1129 | Wel, gwendid mawr i chwi gwyno am dani, |
| (1, 1) 1130 | Oni arosodd ei chytundeb gyda chwychwi? |
| (1, 1) 1131 | Hyd wahaniad ange nis gwrthode hi ei bywyd, |
| (1, 1) 1132 | Y darfu'r hen rwyd briodi. |
| (1, 1) 1135 | Wel, ni chewch chwi mo'ni eto ar dir, |
| (1, 1) 1136 | Fydde lanach i chwi'n wir foddloni. |
| (1, 1) 1137 | ~ |
| (1, 1) 1138 | Chwi glywsoch hen air yn dweyd yn groyw, |
| (1, 1) 1139 | Byw gyda'r byw, a'r marw gyda'r marw; |
| (1, 1) 1140 | Fe alle cewch eto wraig ddirus, |
| (1, 1) 1141 | Ac aur hwylus ar ei helw. |
| (1, 1) 1144 | Mae rhai'n magu merched eto'n ffri, |
| (1, 1) 1145 | Ei chystal, os oedd hi'n orchestol. |
| (1, 1) 1146 | ~ |
| (1, 1) 1147 | Gwell i chwi 'mroi i gym'ryd eich pleser, |
| (1, 1) 1148 | Nid oes ddim yn y byd ond ei amser; |
| (1, 1) 1149 | Mae genyf farwnad a phrofiad ffri, |
| (1, 1) 1150 | I'ch cysuro am dani'n dyner. |
| (1, 1) 1155 | Wel, dyma fi trwy'ch cenad, |
| (1, 1) 1156 | Ar burnaws yn dechreu'r barwnad. |
| (1, 1) 1204 | O'r Cymro teg hwylus, iechyd i'ch calon; |
| (1, 1) 1205 | Mi fynaf finau i chwi wraig eto cystal a Sian, |
| (1, 1) 1206 | Ddiogel, ac arian ddigon. |
| (1, 1) 1209 | Mi fedraf i gael dynes i chwi wrth eich bodd, |
| (1, 1) 1210 | A chanddi nodd mewn eiddo. |
| (1, 1) 1211 | ~ |
| (1, 1) 1212 | Mae hi'n siopwraig yn byw'n gryno, |
| (1, 1) 1213 | Tu allan i Landrillo.; |
| (1, 1) 1214 | Ceisiwch ymolchi ac ymloywi'n lân |
| (1, 1) 1215 | Eich hunan, a dewch yno. |
| (1, 1) 1395 | |Now, Mr. Rondol|, ewch er undyn |
| (1, 1) 1396 | I setlo a phriodi at ryw offeiriadyn. |
| (1, 1) 1400 | Daw yn y munud os na chellwch mo'ni |
| (1, 1) 1401 | 'Ran mae siopwr o'r dref yn cadw nâd |
| (1, 1) 1402 | A dynion o'r wlad am dani. |
| (1, 1) 1405 | Ie, ymwnewch ati hi (poeth y bo'ch) |
| (1, 1) 1406 | Gynt' galloch yn ddigellwair. |
| (1, 1) 1410 | Cychwynwch yn chwryn, mi ddof ar eich ol, |
| (1, 1) 1411 | Ffarwel i chwi Rondol Roundiad. |
| (1, 1) 1412 | ~ |
| (1, 1) 1413 | Wel, hawdd canfod heno'r cwm'ni tyner |
| (1, 1) 1414 | Na chais gweddwdod ond byr amser; |
| (1, 1) 1415 | Maent am ail-ym'glymu eu gore glâs |
| (1, 1) 1416 | Peth garw ydyw blas am bleser. |
| (1, 1) 1417 | ~ |
| (1, 1) 1418 | Ond merciwch chwi fy 'neidie, |
| (1, 1) 1419 | Nid ydyw'r drwg ond dechre; |
| (1, 1) 1420 | Hawdd yw disgyn i ryw scrap, |
| (1, 1) 1421 | Mae llawer |shape| o siope. |
| (1, 1) 1422 | ~ |
| (1, 1) 1423 | Peth mawr ydyw gormod rhyddid |
| (1, 1) 1424 | Anesmwythdra sy'n magu gofid; |
| (1, 1) 1425 | Llawer gwr cyfoethog cry': |
| (1, 1) 1426 | A ga'dd ei blygu o'i blegid. |
| (1, 1) 1427 | ~ |
| (1, 1) 1428 | Gofid am briodi, a mil mwy gofid gwedi; |
| (1, 1) 1429 | Mae dyn yn rhwystro tîn a phen fel maharen mewn mieri. |
| (1, 1) 1430 | ~ |
| (1, 1) 1431 | Cewch eto |sport| erwinol |
| (1, 1) 1432 | Wrth wrando eich ewythr Rondol; |
| (1, 1) 1433 | Rwy'n ame ceiff, am blesio'i gnawd |
| (1, 1) 1434 | Ei faeddu'n dlawd rhyfeddol. |
| (1, 1) 1436 | Gwaed Sion ac Ifan, edr'wch lle mae Gofid, |
| (1, 1) 1437 | O b'le 'rwyt ti heno yn rhodio mewn rhyddid? |
| (1, 1) 1440 | 'Rydwy'n awr mewn trafferth arw |
| (1, 1) 1441 | Gyda Rondol y cybydd sy'n wr gweddw, |
| (1, 1) 1444 | Mae arnaf gryn helynt yn cerdded ac ymholi; |
| (1, 1) 1445 | Y'nghylch yr opiniyne sydd yn yr eglwysi; |
| (1, 1) 1446 | Y Methodistied a'r Dissentars, |
| (1, 1) 1447 | Sy'n ffaelu ymdopio gyda'r |Dippers|, |
| (1, 1) 1452 | Wel, ond y |Dippers| sy bron myn'd yn dopie |
| (1, 1) 1453 | Mae hwy braidd yr un egwyddor a'r hwyed a'r gwydde |
| (1, 1) 1454 | Yn trochi eu gilydd tan ochr y geulan |
| (1, 1) 1455 | Fel y golchont hwy bechod mawr a bychan, |
| (1, 1) 1460 | Mae hi y'mhlith crefyddwyr yn lecsiwn gyffredin |
| (1, 1) 1461 | Fel pan 'roedd rhai yn bloeddio Miltwn a Watkin; |
| (1, 1) 1462 | A rhai'n codi tymer fel glaswellt pen tomen |
| (1, 1) 1463 | Na wyddent hwy haner oddiwrthynt eu hunen. |
| (1, 1) 1468 | Mae amlach adar mân yn canu'r bore |
| (1, 1) 1469 | Nag a fydd ganol dydd pan fo'r haul yn ole; |
| (1, 1) 1470 | Ac felly Lucifer, mab y wawr ddydd, |
| (1, 1) 1471 | Rhwng gole a thywyllwch mae ynte'n rhydd. |
| (1, 1) 1472 | ~ |
| (1, 1) 1473 | Ond mae dafad yn mysg pob trwst a thwrddan |
| (1, 1) 1474 | Yn adnabod llais ei hoen hunan; |
| (1, 1) 1475 | Yr oen eiff at ei fam yn gymwys, |
| (1, 1) 1476 | Ac felly'r gwir Gristion at yr eglwys. |
| (1, 1) 1486 | A wyddost ti beth, mae amryw'n diflasu |
| (1, 1) 1487 | Glywed Gofid yn dynwared pregethu. |
| (1, 1) 1495 | Wel, gwir a ddywedaf fineu'n union, |
| (1, 1) 1496 | Fod amryw yn gwneud cuchie ar y rhai cochion; |
| (1, 1) 1497 | Holl bobl goegedd trigolion Pleser, |
| (1, 1) 1498 | Ni wel'sant hwy erioed ddihirach amser. |
| (1, 1) 1503 | Hawdd gen'ti siarad rhyw hen syrwrw. |
| (1, 1) 1504 | Rhaid i mi fyn'd i |Cocking| sy'n rhywle tuag acw, |
| (1, 1) 1505 | Lle byddant hwy'n galonog yn damnio ar eu glinie, |
| (1, 1) 1506 | Ac yn mron myn'd yn siwrwd gyda'u plesere. |
| (1, 1) 1507 | ~ |
| (1, 1) 1508 | O! fel y mae holl fwriad nhwy'n groch eu lleferydd, |
| (1, 1) 1509 | Yn dodsio ac yn betio, ac yn pwtian eu gilydd; |
| (1, 1) 1510 | Hai'r brithgoch, hai'r brithwyn, hai'r llwydyn llidiog |
| (1, 1) 1511 | Diawl tynwch o'u gilydd, dyna i chwi geiliog. |
| (1, 1) 1527 | Wel chwi glywsoch hen ddiarhebion, |
| (1, 1) 1528 | Mae gyda'r cî y cerdd ei gynffon; |
| (1, 1) 1529 | A chyda'r drwg y rhed i dre', |
| (1, 1) 1530 | 'R drwg arall a'i droie geirwon. |
| (1, 1) 1531 | ~ |
| (1, 1) 1532 | O ran pob cyffelyb elfen |
| (1, 1) 1533 | A ymgais yn ddiamgen: |
| (1, 1) 1534 | Pe ca'i'r dyn annuwiol fyn'd i'r ne' |
| (1, 1) 1535 | Fe'i gwele'n rhyw le aflawen. |
| (1, 1) 1536 | ~ |
| (1, 1) 1537 | Mae'r dafarn yn fwy difyr, |
| (1, 1) 1538 | At chwedl y pechadur; |
| (1, 1) 1539 | Fel yr hwch i'r domen mae'n fwy iach, |
| (1, 1) 1540 | A hynotach i'w hen natur. |
| (1, 1) 1541 | ~ |
| (1, 1) 1542 | Ond cofiwn ei ddiwedd a chym'rwn ein dewis, |
| (1, 1) 1543 | Mae'r ange mor onest ag un yn yr ynys; |
| (1, 1) 1544 | Ni wneiff e ddim byd ond ein tynu ni i ben, |
| (1, 1) 1545 | Lle cwympo'r pren yr erys. |
| (1, 1) 1587 | |How now|, Mr. Rondol Roundiad? |
| (1, 1) 1588 | Pa fod, y gwr gloyw, 'ry'ch chwi'n ymglywed? |
| (1, 1) 1591 | Wel, Roundiad a |Cwacers| edr'wch acw, |
| (1, 1) 1592 | A droigoch yn barod yn eich trwst a'ch berw? |
| (1, 1) 1593 | 'Rwy'n ame y troi'r chwi cyn y Sul |
| (1, 1) 1594 | Yn fastard mul am elw. |
| (1, 1) 1597 | Ai crefydd y wraig a'th achub di'n ffraeth? |
| (1, 1) 1598 | Ow, Rondol, ti eist yn waeth na'r Indiad. |
| (1, 1) 1601 | Wel, rhaid iddynt sefyll ac ymroi |
| (1, 1) 1602 | Wrth ras, heb droi na throsi. |
| (1, 1) 1603 | ~ |
| (1, 1) 1604 | Ond eich crefydd chwi'n ddiragor. |
| (1, 1) 1605 | Sydd yn eich enw, a'ch cyweth, a'ch |onor|, |
| (1, 1) 1606 | Ac lle byddo'r galon yn llon ei llais, |
| (1, 1) 1607 | Yno mae trais y trysor. |
| (1, 1) 1612 | Wel, fydde'n anodd gan eich calon |
| (1, 1) 1613 | Werthu'ch holl dda a'i ranu i'r tlodion? |
| (1, 1) 1618 | Wel, yr oedd rhaglunieth, areth iach, |
| (1, 1) 1619 | Yn dweyd amgenach gyne. |
| (1, 1) 1624 | Fe geir clywed cyn pen hir ddyddie, |
| (1, 1) 1625 | Pa sut a fydd arnoch chwithe; |
| (1, 1) 1626 | Pe gwyddech am y felldith sydd yn eich nyth, |
| (1, 1) 1627 | Ni werthech chwi byth mo'ch pethe. |
| (1, 1) 1630 | Gwerthu cig hwch i brynu cig moch,— |
| (1, 1) 1631 | Gwnewch y peth a garoch ore. |
| (1, 1) 1634 | Trwy lawer o arian, a bod yn daer, |
| (1, 1) 1635 | Ceir brasder Caer a Bristo. |
| (1, 1) 1638 | Mae digon o lwnc, ni choeliaf lai, |
| (1, 1) 1639 | I ymweled â rhai miloedd. |
| (1, 1) 1645 | Wel, gwir yw'r ddiareb ragorol, |
| (1, 1) 1646 | Pob llwybr ceunant a red i'r canol: |
| (1, 1) 1647 | Peth anhawdd iawn yn tynu dyn |
| (1, 1) 1648 | O'i elfen ei hun yn wahanol. |
| (1, 1) 1649 | ~ |
| (1, 1) 1650 | Mae natur yn gadarn arw |
| (1, 1) 1651 | Beunydd mewn gwryw a benyw, |
| (1, 1) 1652 | Yn enwedig anlladrwydd ieuenctyd llawn, |
| (1, 1) 1653 | Peth hynod iawn yw hwnw. |
| (1, 1) 1654 | ~ |
| (1, 1) 1655 | Mae llawer o arfer ar gyfer Gofid, |
| (1, 1) 1656 | Canu cerdd i gynghori ieuenctid; |
| (1, 1) 1657 | Mi ro'f fine ar ganiad glymiad glir, |
| (1, 1) 1658 | Heb lwgr, y gwir o'i blegid. |
| (1, 1) 1753 | Wel, cofiwch hyn o ganiad ofer, |
| (1, 1) 1754 | Onide fe ddaw Gofid ar eich cyfer; |
| (1, 1) 1755 | Pan eloch chwi i 'winedd yr hen was, |
| (1, 1) 1756 | Fe dderfydd eich blas ar bleser. |
| (1, 1) 2081 | Wel, yn enw Pal Isaac, dyma fine Pleser, |
| (1, 1) 2082 | Mae hireth am danaf er's hir amser; |
| (1, 1) 2083 | Beth fydde 'rwan, gyfan gais, |
| (1, 1) 2084 | Gael clywed hoff adlais Ffidler. |
| (1, 1) 2085 | ~ |
| (1, 1) 2086 | Fe fydde'r duwiolion yn dawnsio tipyn, |
| (1, 1) 2087 | Ond mae pechod yn ffrydio mewn dawnsio cyffredin. |
| (1, 1) 2088 | Anfynych y byddant os cant fawl, |
| (1, 1) 2089 | Heb falchder diawl yn eu dilyn. |
| (1, 1) 2095 | Wel, dyma Ofid yn dwad, rhaid i mi dewi, |
| (1, 1) 2096 | Ond eto mi ymffensiaf am hyn o ffansi; |
| (1, 1) 2097 | Oni fydd Cyriadogs yn dawnsio wrth siawns? |
| (1, 1) 2098 | Rho anair i ddawns y rhei'ny. |
| (1, 1) 2118 | Wel, on'd oes rhai'n cerdded hyd y cwrdde, |
| (1, 1) 2119 | Ac f'alle'n hwrio cyn dwad adre? |
| (1, 1) 2120 | Ychydig o sadrwydd felly sy' |
| (1, 1) 2121 | Wedi glynu yn eu calone. |
| (1, 1) 2136 | Wel, un o'r Cyriadogs wyt ti, 'rwy'n credu, |
| (1, 1) 2137 | Ond ffydd eglwys Loegr ydwy'i'n garu. |
| (1, 1) 2140 | Wel, 'rydwy'i'r un ffydd a'r person a'r clochydd |
| (1, 1) 2141 | Sy'n byw yn y llane mewn llawenydd; |
| (1, 1) 2142 | A'r un ffydd a'r hen bobl, y llancie a'r plant, |
| (1, 1) 2143 | A glosiant i'r eglwysydd. |
| (1, 1) 2158 | Os bydd rhai ieuenc yn rhuo ryw afieth, |
| (1, 1) 2159 | Bydd yr hen rai brigwyn yn son am y bregeth. |
| (1, 1) 2167 | Mae hyny'n wir diwahanieth, |
| (1, 1) 2168 | Fod yn Eglwys Loegr ddifai athrawieth. |
| (1, 1) 2181 | Son am Meros, a rhyw groes gyfeirio, |
| (1, 1) 2182 | Son am ryw Bleser a f'o'r bobl yn blysio: |
| (1, 1) 2183 | 'Rwyt ti'n son am bethe ar draws ac ar hyd, |
| (1, 1) 2184 | Na wyr dynion ddim byd am dano. |
| (1, 1) 2189 | Ni waeth i ti dewi, mae'r bobl yn dechre, |
| (1, 1) 2190 | Myn'd bawb at eu Pleser, i ffwrdd yn gwplyse: |
| (1, 1) 2191 | Er gwaethaf Gofid a'i holl gwyn, |
| (1, 1) 2192 | Ymeth yn fwyn yr âf fine. |