| (0, 3) 484 | Pa anghytûn ddisymwth benyd |
| (0, 3) 485 | a drwm ddigwyddodd i'th fywyd? |
| (0, 3) 488 | O fy arglwydd, pa dynged |
| (0, 3) 489 | a ddigwyddodd it ddrwg weithred? |
| (0, 3) 490 | A wnaeth y Groegiaid cyn gynted |
| (0, 3) 491 | dy liw a'th bryd cyn waeled? |
| (0, 3) 496 | Dy drymion eiriau a'm gwnaeth i'n drymach, |
| (0, 3) 497 | dy afiachus ochneidiau a'm gwnaeth yn afiach, |
| (0, 3) 498 | dy lesgrwydd a'th wendid a'm gwnaeth i'n llesgach. |
| (0, 3) 500 | Er y cariad fy rhyngom dywed im dy gyfrinach. |
| (0, 3) 501 | Dyledus i'th anwylgar |
| (0, 3) 502 | gael clywed dy garchar. |
| (0, 3) 503 | Oni adwaenost dy gymar? |
| (0, 3) 504 | Myfi ydyw - Pandar. |
| (0, 3) 513 | Onis gallaf it help na chysur, |
| (0, 3) 514 | byddaf rannog o'th boen a'th ddolur. |
| (0, 3) 515 | Anghenrhaid i gymdeithion wneuthur |
| (0, 3) 516 | y naill i'r llall yr hyn a ellir. |
| (0, 3) 517 | Cyn fodloned i ddwyn cystudd |
| (0, 3) 518 | ag a fyddwn i lawenydd; |
| (0, 3) 519 | ac am hynny na rydd arwydd |
| (0, 3) 520 | im i dybied angharedigrwydd. |
| (0, 3) 525 | A gedwaist di yn cyd mor guddiedig |
| (0, 3) 526 | oddi wrth dy annwyl gymdymaith caredig? |
| (0, 3) 527 | Gellit ddwyn dolur gorthrwm briwedig, |
| (0, 3) 528 | a minnau yn gallu it help am feddyg. |
| (0, 3) 529 | Nid ochain ac wylo |
| (0, 3) 530 | fel brenhines Niobo. |
| (0, 3) 531 | Y mae dagrau honno |
| (0, 3) 532 | i'w gweled eto. |
| (0, 3) 536 | O Dduw, o ble gall hyn ddigwyddo? |
| (0, 3) 541 | Gwranda, Troelus, fy anwylyd, |
| (0, 3) 542 | er nad wyf y gorau'n doedyd, |
| (0, 3) 543 | gwelais gyngor yr ynfyd |
| (0, 3) 544 | yn helpu'r doeth mewn adfyd. |
| (0, 3) 545 | Gwelais gwympio wrth fyned |
| (0, 3) 546 | y neb a fydde'n gweled; |
| (0, 3) 547 | a'r dall i'r un fan yn cerdded |
| (0, 3) 548 | heb gael na chwymp na niwed. |
| (0, 3) 552 | Beth o'th farwolaeth a feddylir |
| (0, 3) 553 | os achosion, hon nis gwyddir? |
| (0, 3) 554 | Os byw yw hon hi all dy helpio, |
| (0, 3) 555 | neu mae anras mawr i'th dwyllo. |
| (0, 3) 556 | ~ |
| (0, 3) 557 | Ti a elli ymgwyno, wylo a thuchan |
| (0, 3) 558 | heb un dyn yn gwybod oddi wrth dy riddfan, |
| (0, 3) 559 | a cholli'r peth, mae hyn yn drwstan, |
| (0, 3) 560 | a allai it ei gael pes gwneuthit dy gwynfan. |
| (0, 3) 561 | Mae llawer yn caru, |
| (0, 3) 562 | lawer blwyddyn o'r unty, |
| (0, 3) 563 | heb gael o fewn hynny |
| (0, 3) 564 | unwaith ymgusanu. |
| (0, 3) 565 | ~ |
| (0, 3) 566 | A fyn di i'r rhain am hyn o ddigwyddiad |
| (0, 3) 567 | ymroi eu hun mewn modd anynad, |
| (0, 3) 568 | a thrwy anras mawr a bwriad |
| (0, 3) 569 | i lladd ei hun wrth glun ei cariad? |
| (0, 3) 570 | Na wnan, peidian; |
| (0, 3) 571 | os mynan, bygythian; |
| (0, 3) 572 | i'w cariad, ymroddan; |
| (0, 3) 573 | ac yn ufudd, gwasanaethan. |
| (0, 3) 574 | ~ |
| (0, 3) 575 | Troelus, pes fy chwaer naturiol fyddai |
| (0, 3) 576 | yn drwm achos o'th gaeth feddyliau, |
| (0, 3) 577 | onis gwnai pob peth i'r gorau |
| (0, 3) 578 | y llaw hon yn wir a'i lladdai. |
| (0, 3) 579 | Datod galon blethedig |
| (0, 3) 580 | mewn meddyliau gorthrymedig; |
| (0, 3) 581 | nid oes dim help gan feddyg |
| (0, 3) 582 | lle bo'r briwio'n guddiedig. |
| (0, 3) 591 | O Troelus, er hyd y triniaist ofid |
| (0, 3) 592 | fe wnaeth cariad â thydi lendid. |
| (0, 3) 593 | Am synnwyr, rhinwedd, gwedd a phryd |
| (0, 3) 594 | dy gymhares yw Cresyd. |
| (0, 3) 595 | ~ |
| (0, 3) 596 | Meddwl, Troelus, trwy lawenydd naturiol, |
| (0, 3) 597 | fel y mae Cresyd yn ddaionus rinweddol, |
| (0, 3) 598 | felly y bydd i ti'n drugaror synhwyrol, |
| (0, 3) 599 | os medri oddi wrthi mewn pethau anghenrheidiol. |
| (0, 3) 600 | A medryd peidio |
| (0, 3) 601 | â rhoi dy waed mewn cyffro. |
| (0, 3) 602 | Ni all rhinwedd, lle y byddo, |
| (0, 3) 603 | â chywilydd gytuno. |
| (0, 3) 604 | ~ |
| (0, 3) 605 | Y tir sy'n dwyn y gwyg a'r chwyn yn chwannog; |
| (0, 3) 606 | yr tir sy'n dwyn iachus lysiau gwresog; |
| (0, 3) 607 | nesaf i'r boeth ddanhadlen bigog |
| (0, 3) 608 | mae'n tyfu yr eswmyth rosyn rhowiog. |
| (0, 3) 609 | I'r dyffryn, nesa yw'r mynydd; |
| (0, 3) 610 | i'r tywyllnos, nesa yw'r gloywddydd; |
| (0, 3) 611 | nes yw'r doeth na'r ffŵl yn gelfydd; |
| (0, 3) 612 | nesa i drymder yw llawenydd. |
| (0, 3) 613 | ~ |
| (0, 3) 614 | Edrych, am dy fod yn dyner wedi dy ffrwyno, |
| (0, 3) 615 | i'th helpu mewn amser gad i'r traeth dreio, |
| (0, 3) 616 | onide ofer yw'r boen sydd i'th helpio; |
| (0, 3) 617 | y synhwyrol a erys yw'r un[neb] a brysuro. |
| (0, 3) 618 | Bydd gywir dy ymddygiad, |
| (0, 3) 619 | bydd ddyfal a chaead, |
| (0, 3) 620 | bydd ufudd a gwastad |
| (0, 3) 621 | i wasanaethu dy gariad. |
| (0, 3) 630 | Fy llaw, fy mywyd, |
| (0, 3) 631 | fy ngore i ti wneuthud, |
| (0, 3) 632 | fy nith, fy anwylyd, |
| (0, 3) 633 | fy nghares yw Cresyd. |
| (0, 4) 661 | Fy arglwyddes, Duw fo'n geidwad |
| (0, 4) 662 | ar eich llyfr a'ch holl gwmpeini. |
| (0, 4) 668 | Fy nith, gwell a allai ddigwyddo |
| (0, 4) 669 | os Duw a roddai gennad. |
| (0, 4) 670 | Gwneuthum ar fai eich trwblio |
| (0, 4) 671 | oddi wrth eich llyfr a'ch bwriad. |
| (0, 4) 672 | Ydy e'n sôn ddim am gariad? |
| (0, 4) 690 | Mae'n iach: i Dduw y diolchaf, |
| (0, 4) 691 | ond bwrio peth o'i wyneb. |
| (0, 4) 692 | Mae Troelus, ei frawd ieuaf |
| (0, 4) 693 | ail i Hector mewn gwroldeb, |
| (0, 4) 694 | neu mewn rhinwedd synhwyroldeb; |
| (0, 4) 695 | a'r dyn glanaf ar ei galon |
| (0, 4) 696 | yw hwn o'r holl feibion. |
| (0, 4) 706 | Am Hector ni rhaid ei grybwyll, |
| (0, 4) 707 | na siarad gormod geiriau. |
| (0, 4) 708 | Ef yw unig farchog didwyll |
| (0, 4) 709 | mewn llawer mwy o rinweddau |
| (0, 4) 710 | na'i holl gryfdwr mewn arfau. |
| (0, 4) 711 | Mi a wn y gallaf ddywedyd |
| (0, 4) 712 | am Troelus yr un ffunud. |
| (0, 4) 713 | Torelus ydi … Troelus! |
| (0, 4) 721 | Y gwroldeb ddoe a wnaeth Troelus! |
| (0, 4) 722 | Gwae fi nas buasech yn gweled. |
| (0, 4) 723 | Nid oes o'r help lle cyrraedd, |
| (0, 4) 724 | a'r Groegwyr cyn amled |
| (0, 4) 725 | yn ffoi rhag caffael niwed |
| (0, 4) 726 | a'r cri ym mhen gwrageddos: |
| (0, 4) 727 | "Y mae Troelus yn agos!" |
| (0, 4) 728 | ~ |
| (0, 4) 729 | Rhai'n ffoi yma, rhai'n ffoi acw, |
| (0, 4) 730 | y Groegwyr i gyd yn waedlyd |
| (0, 4) 731 | a rhai eraill wedi marw, |
| (0, 4) 732 | a rhai yn syn, heb fedryd |
| (0, 4) 733 | na ffoi ymhell na dywedyd; |
| (0, 4) 734 | a'r diwrnod y dwg arfau, |
| (0, 4) 735 | nis gwelir ond eu sodlau. |
| (0, 4) 736 | ~ |
| (0, 4) 737 | Mae'n garedicaf ar a aned |
| (0, 4) 738 | lle y byddo ganddo duedd. |
| (0, 4) 739 | Ond madws i mi fyned |
| (0, 4) 740 | i fendio ar eich annedd. |
| (0, 4) 741 | Oes a fynnwch, o'r diwedd? |
| (0, 4) 744 | Gwyliwch, gan eich bod yn atal, |
| (0, 4) 745 | rhag i mi eich trwblio wrth ddywedyd pethau gwamal. |
| (0, 4) 746 | Mi allwn i eich digio |
| (0, 4) 747 | a'ch gyrru chwi mewn cyffro. |
| (0, 4) 752 | Fy ngeiriau sydd ddiniwed |
| (0, 4) 753 | a'm meddwl sydd heb fwriad: |
| (0, 4) 754 | Beth pe soniwn am gariad? |
| (0, 4) 755 | Ond gwaetha rhoddi ateb |
| (0, 4) 756 | rhag cafael rhyw wrthwyneb. |
| (0, 4) 761 | Fy nith, myn y ddysgedig Juno, |
| (0, 4) 762 | ac myn Minerfa y dduwies, |
| (0, 4) 763 | myn Jubiter, a wnaeth i'r daran ruo, |
| (0, 4) 764 | myn Fenws fwynaidd gynnes, |
| (0, 4) 765 | os gwrandewch chi ar fy neges, |
| (0, 4) 766 | Nes dowed ange ym erbyn, |
| (0, 4) 767 | mi a fydda tan ych gorchymyn. |
| (0, 4) 774 | Fy nith, mae Troelus yn annwyl fab y brenin; |
| (0, 4) 775 | atoch chwi ganwaith fe arches ei orchymyn; |
| (0, 4) 776 | i chwi mae'n dwyn y fath ewyllys caredig, |
| (0, 4) 777 | onis caiff eich trugaredd nid yw ond gŵr colledig. |
| (0, 4) 778 | Y gwir sydd rhaid ei ddywedyd |
| (0, 4) 779 | am ei drymder a'i benyd: |
| (0, 4) 780 | nid oes gen i mo'r rhyfeddod, |
| (0, 4) 781 | mae'n eich caru chwi yn ormod. |
| (0, 4) 782 | ~ |
| (0, 4) 783 | Os gadewch i hwn farw, fy hoedl fi a derfydd; |
| (0, 4) 784 | ar fy ngwir wirionedd ni ddoedai i chwi mo celwydd |
| (0, 4) 785 | os ateb trugarog nis rhoddwch yma, |
| (0, 4) 786 | ar y cleddyf blaenllym fy einioes a ddiwedda. |
| (0, 4) 787 | Os o'n achos yn deuwedd |
| (0, 4) 788 | yn hoedl a ddiwedd, |
| (0, 4) 789 | yr ydych yn helaeth |
| (0, 4) 790 | yn euog o'm marwolaeth. |
| (0, 4) 791 | ~ |
| (0, 4) 792 | Ym drud annwyl gydymaith onis byddwch trugarog, |
| (0, 4) 793 | hwn yw'r cywir ddyn a'r glanrinweddol farchog; |
| (0, 4) 794 | a hwn nid yw'n erfyn ond rhowiogaidd olwg |
| (0, 4) 795 | i droi heibio marfwolaeth oddi wrth wirion diddrwg. |
| (0, 4) 796 | Beth a ddoedir amdanoch |
| (0, 4) 797 | ymhob man ar y cerddoch? |
| (0, 4) 798 | "Can och yr glendid |
| (0, 4) 799 | a ddwc einioes a bywyd." |
| (0, 4) 800 | ~ |
| (0, 4) 801 | Dalltwch nad ydwyf arnoch yn dymuno |
| (0, 4) 802 | mewn dim anonestrwydd ych rhwymo chwi iddo, |
| (0, 4) 803 | ond bod mor drugarog ar ych gair a'ch meddwl |
| (0, 4) 804 | ac achub ei einioes, dyna'r cwbwl. |
| (0, 4) 805 | Trwy fod i hoedel |
| (0, 4) 806 | a'i iechyd mewn gafael, |
| (0, 4) 807 | mae yn deg ych anrheg; |
| (0, 4) 808 | nis dymunwn i ychwaneg. |
| (0, 4) 818 | Edrych pwy sydd yma i'th weled — |
| (0, 4) 819 | nid y neb sydd achos o'th hir gaethiwed. |
| (0, 4) 820 | Mae Troelus mewn gofal a thithau mewn meddylie: |
| (0, 4) 821 | Duw! Na baech eich deuwedd i gwyno yn yr unlle. |
| (0, 4) 860 | Nid yw hyn Cresyd, yn anghyfreithol ddymuniad, |
| (0, 4) 861 | na chwaith anrhesymol, eich gwasanaethu trwy gariad. |
| (0, 4) 897 | Y moliannus Dduwiau, mewn uchelder llawenyddwch! |
| (0, 4) 898 | ~ |
| (0, 4) 899 | Fy nygosa arglwydd, a'm anwyl frawd cyfiawn, |
| (0, 4) 900 | fo wyr duw, a chwithe, faint a ddygem o ofalon |
| (0, 4) 901 | pan welais chwchwi yn hir nychu mewn cariad, |
| (0, 4) 902 | a thrymder gofalon yn chwanegu'n wastad. |
| (0, 4) 903 | Rhois fy mryd yn gwbwl |
| (0, 4) 904 | am esmwythau ych meddwl, |
| (0, 4) 905 | a throi ych tristwch |
| (0, 4) 906 | i hyn o ddifyrrwch. |
| (0, 4) 907 | ~ |
| (0, 4) 908 | Yr anrhydeddus bobloedd ar y ddaear, gwnewch ddifyrwch! |
| (0, 4) 909 | ~ |
| (0, 4) 910 | Fy nghywir dduw cyfiawn, yn dyst yr wyf yn dy alw, |
| (0, 4) 911 | nas gwneuthum i hyn er mwyn chwant na elw, |
| (0, 4) 912 | ond yn unig er esmwythau dy brudd-der ath gledi, |
| (0, 4) 913 | achos yr hwn bethau bu dy einioes ar golli. |
| (0, 4) 914 | Er mwyn Duw, yr owran, |
| (0, 4) 915 | cadw ei henw yn ddiogan; |
| (0, 4) 916 | synhwyrol yw dy gymdeithas, |
| (0, 4) 917 | a chadw yn lan ei hurddas. |
| (0, 4) 918 | ~ |
| (0, 4) 919 | Da i gwyddost fod i henw da hi mor barchedig |
| (0, 4) 920 | y mysg y bobl, megis morwyn fendigedig; |
| (0, 4) 921 | ni aned un dyn a wyr i hamau |
| (0, 4) 922 | ne wyr ar hon unwaith feiau. |
| (0, 4) 923 | Can och ym a erchais |
| (0, 4) 924 | fy anwyl nith a dwyllais, |
| (0, 4) 925 | yr ewyrth yw anwylyd |
| (0, 4) 926 | yn gwneuthur twyll a bradfyd! |
| (0, 4) 927 | ~ |
| (0, 4) 928 | Meddwl, Troelus, pa ddrygau fu ar gerdded |
| (0, 4) 929 | am wneuthur bost o'r cyffelyb weithred; |
| (0, 4) 930 | a pha gamddigwyddiad sydd beunydd yn digwyddo, |
| (0, 4) 931 | o ddydd i ddydd, am y weithred honno. |
| (0, 4) 932 | Am hyn i doeth yn dduwiol |
| (0, 4) 933 | y ddihareb ddwys synwhyrol: |
| (0, 4) 934 | "Cynta rhinwedd ydiw gwybod, |
| (0, 4) 935 | yr ail yw dal y tafod." |
| (0, 4) 936 | ~ |
| (0, 4) 937 | O yr tafod! Rhy fynych yr wyt yn rhy helaeth; |
| (0, 4) 938 | pa sawl gwaith y gwnaethost i lawer arglwyddes loywbleth |
| (0, 4) 939 | ddoedyd, "gwae fy fi o'r diwrnod trist im ganed!"? |
| (0, 4) 940 | Ac i lawer morwyn ddwyn trymder trwch oi thynged? |
| (0, 4) 941 | Ar cwbl yn ddychymig |
| (0, 4) 942 | o waith calon wenwynig; |
| (0, 4) 943 | ni thal bostiwr ddim i garu, |
| (0, 4) 944 | ond y doeth a fedyr gelu. |
| (0, 4) 945 | ~ |
| (0, 4) 946 | Bellach, fy anwyl frawd, ni a syrthiwn ir achosion, |
| (0, 4) 947 | a chymer yth helpu a ddoedais o gynghorion; |
| (0, 4) 948 | cadw hyn yn ddirgel, bydd lawen dy galon; |
| (0, 4) 949 | dros fy holl ddyddiau mi a fydda it yn ffydlon. |
| (0, 4) 950 | Gobeithia di yr hyn gore — |
| (0, 4) 951 | ar obaith dda mae gwyrthie; |
| (0, 4) 952 | y pethau hyn sydd i ddowad |
| (0, 4) 953 | fel y mae dy ddymuniad. |
| (0, 6) 1180 | Fy nghywir gydymaith, erddot ti ddim pes gwnaethwn, |
| (0, 6) 1181 | fy wir Duw mae felly y mynnwn. |
| (0, 6) 1182 | O'r geiriau a ddoetwy, na chymer ddig na chystydd, |
| (0, 6) 1183 | gochel i gyd hyn sydd o aflywenydd. |
| (0, 6) 1184 | Yr owran, mae dy duedd |
| (0, 6) 1185 | at lawenydd a mowredd; |
| (0, 6) 1186 | na bych dy hunan iti |
| (0, 6) 1187 | yn achos o ddrygioni. |
| (0, 6) 1188 | ~ |
| (0, 6) 1189 | Gwathaf yw hyn o holl anffortun a drygioni, |
| (0, 6) 1190 | bod unwaith yn oludog a syrthio mewn tlodi, |
| (0, 6) 1191 | mae hwn yn synhwyrol a gatwo i elw; |
| (0, 6) 1192 | mawrhad yw cael twrnda, mwy mawrhad i gadw. |
| (0, 6) 1193 | Yn rhy ddiofal na fyddwch, |
| (0, 6) 1194 | or bod yr hin mewn tawelwch; |
| (0, 6) 1195 | rheitia yw cymryd ordor |
| (0, 6) 1196 | pan fo yr ŷd yn ysgubar. |
| (0, 6) 1197 | ~ |
| (0, 6) 1198 | Od wyt yn esmwyth, dal dy hun a gaethiwed; |
| (0, 6) 1199 | cyn sicred a bod pob tân yn goch i'w weled, |
| (0, 6) 1200 | mae mwy dichell i gadw peth nai ennill. |
| (0, 6) 1201 | Llawenydd bydol sy ynglyn ar linin candryll; |
| (0, 6) 1202 | Mae'n ddigon hawdd profi |
| (0, 6) 1203 | rhag mynyched i mae'n torril |
| (0, 6) 1204 | rhag torri hwn mewn adwyth, |
| (0, 6) 1205 | rhaid yw gymryd yn esmwyth. |
| (0, 7) 1351 | Oes o fewn y byd un dyn ar a aned |
| (0, 7) 1352 | a welodd i'w oes ryfeddod cyn ddieithred? |
| (0, 7) 1353 | Pwy all ochel y pethau a fynn fod? |
| (0, 7) 1354 | Wel, dyma fel y mae'r byd yn dyfod. |
| (0, 7) 1355 | Gwae a gwae i'r undyn |
| (0, 7) 1356 | a roddo ei goel mewn ffortun; |
| (0, 7) 1357 | yr owran fe welir |
| (0, 7) 1358 | y drwg a'r da a gyrchir. |
| (0, 7) 1367 | Dywed im, Troelus, paham rwyt cyn ynfyted |
| (0, 7) 1368 | ag ymroi dy hunan i drymder a chaethiwed? |
| (0, 7) 1369 | Ti a gefaist dy ewyllys arni yn gwbwl; |
| (0, 7) 1370 | fe a ddylai hyn esmwythau dy feddwl. |
| (0, 7) 1371 | ~ |
| (0, 7) 1372 | Hefyd, hyn a wyddost yn dda ddigon, |
| (0, 7) 1373 | fod o fewn y dref ymaf arglwyddesau gwychion, |
| (0, 7) 1374 | a chyn laned mewn pryd a glendid |
| (0, 7) 1375 | ac y gallaf merch gyrheuddud. |
| (0, 7) 1376 | Mae rhai o'r rhain cyn llawened |
| (0, 7) 1377 | am gael odd yma ei gwared, |
| (0, 7) 1378 | os colli hon yn angall, |
| (0, 7) 1379 | di a ynilli un arall. |
| (0, 7) 1388 | Ni ad Duw bod dyn bob amser yn llawenychu |
| (0, 7) 1389 | mewn un peth ac mewn dim ond hynny. |
| (0, 7) 1390 | Un a fedr ganu, arall dawnsio a chwarae, |
| (0, 7) 1391 | mae hon yn lan, mae'r llall yn dda ei chyneddfe. |
| (0, 7) 1392 | Troelus, na feddwl |
| (0, 7) 1393 | fod mewn un dyn y cwbwl; |
| (0, 7) 1394 | pob un a fyddo a rhinwedd |
| (0, 7) 1395 | a ddyle gael anrhydedd. |
| (0, 7) 1396 | ~ |
| (0, 7) 1397 | Beth a ddywed Zansis, ddysgedig ei ymddiddan? |
| (0, 7) 1398 | Fod cariad newydd yn gwthio'r hen allan. |
| (0, 7) 1399 | Achos newydd a fynn gyfraith newydd i'w farnu; |
| (0, 7) 1400 | y tân yma mewn amser mae'n arferol o ddiffoddi. |
| (0, 7) 1401 | Gan nad yw ond digwyddiad |
| (0, 7) 1402 | o lawenydd ddyfodiad, |
| (0, 7) 1403 | rhyw achosion a'i dwg. |
| (0, 7) 1404 | Allan o gof, allan o olwg. |
| (0, 10) 1782 | O Troelus, pa fodd y mae rhain yn cytynnu |
| (0, 10) 1783 | sy'n gweled eu cariadau ac eraill yn eu priodi, |
| (0, 10) 1784 | a hefyd yn eu gweled mewn gwelyau eu gŵyr priod? |
| (0, 10) 1785 | Duw a'i gŵyr, trwy synnwyr mae gorfod iddynt gydfod. |
| (0, 10) 1786 | Fel mae amser i'th friwo, |
| (0, 10) 1787 | felly daw amser i'th helpio. |
| (0, 10) 1788 | Nid yw'r amser ond agos: |
| (0, 10) 1789 | gobaith da yn hir all aros. |
| (0, 10) 1798 | Dy wendid, dy ynfydrwydd a'th drafferthus freuddwydion |
| (0, 10) 1799 | gad ymaith gyda dy holl feddyliau gweigion, |
| (0, 10) 1800 | y rhain sy'n tyfu o felancoli gwydn, |
| (0, 10) 1801 | yr hwn sydd achos o drafferthus gyntun. |
| (0, 10) 1802 | Hyn yr ydwyf yn ei weled: |
| (0, 10) 1803 | nad oes undyn ar a aned |
| (0, 10) 1804 | a fedr yn union |
| (0, 10) 1805 | roddi deall ar freuddwydion. |
| (0, 10) 1806 | ~ |
| (0, 10) 1807 | Yr hen bobl a ddywed am freuddwyion |
| (0, 10) 1808 | mai hwy sy'n dangos dirgelwch Duw cyfion, |
| (0, 10) 1809 | eraill yn dywedyd mai o uffernol hudoliaeth, |
| (0, 10) 1810 | ac eraill yn meddwl mai complecsiwn amherffaith, |
| (0, 10) 1811 | a'r llall sy'n dangos |
| (0, 10) 1812 | mai glythineb yw'r achos. |
| (0, 10) 1813 | Nis gŵyr neb yn sicir |
| (0, 10) 1814 | pwy un o'r rhain a goelir. |
| (0, 10) 1815 | ~ |
| (0, 10) 1816 | Y dysgedig a ddywed mai impresion |
| (0, 10) 1817 | ydyw'r achlysur i'r holl freuddwydion, |
| (0, 10) 1818 | megis petai un yn meddwl ac ar hynny yn cysgu. |
| (0, 10) 1819 | Y meddwl eilwaith sydd ynddo yn adnewyddu. |
| (0, 10) 1820 | Chwi a gewch ryw un i siarad |
| (0, 10) 1821 | mae ar ryw amser ar y lleuad; |
| (0, 10) 1822 | rhai eraill, wrth y flwyddyn; |
| (0, 10) 1823 | nid gwiw coelio gormod unddyn. |
| (0, 10) 1824 | ~ |
| (0, 10) 1825 | Yr hen wragedd sy'n rhoi mwyaf coel mewn breuddwydion |
| (0, 10) 1826 | neu mewn awgwri o ehediad adar gwylltion. |
| (0, 10) 1827 | Mae llawer, rhag ofn, wrth fran llesmeirio, |
| (0, 10) 1828 | wrth glywed cigfrain ac adar cwrffwr yn drwcleisio. |
| (0, 10) 1829 | Gwae fi, dduw, pan fytho |
| (0, 10) 1830 | y fath bethau a hyn i'm trwblio; |
| (0, 10) 1831 | a bod Cresyd mor berffaith |
| (0, 10) 1832 | a dyn yn gobaith. |
| (0, 10) 1833 | ~ |
| (0, 10) 1834 | Tyred, gad i ni siarad am yr hen fuchedd yn Nhroea, |
| (0, 10) 1835 | y modd y buom gynt yn fyw ac y byddwn eto ar hyn yma. |
| (0, 10) 1836 | Cyn myned heibio y ddegfed awr o'r degfed dydd |
| (0, 10) 1837 | fe dry hyn i gyd i ti mewn hir lawenydd. |
| (0, 10) 1838 | Awn oddi yma yn union |
| (0, 10) 1839 | at frenin Sarpedon |
| (0, 10) 1840 | i somi hyn o amser |
| (0, 10) 1841 | sy'n atgoffau dy brudd-der. |