| (1, 0) 33 | Rhaid i fi gael eu gweld yn tynnu'r bad mâs, ac yn mynd ag e' i'r dŵr. |
| (1, 0) 43 | O 'r annwl bach! |
| (1, 0) 44 | Mae hi'n ofnadwy 'r ochor arall i'r graig. |
| (1, 0) 45 | Mae'r tonnau'n gynddeiriog, a'r gwynt yn wallgo'─fe fuo i bron â chael fy chwythu i'r môr. |
| (1, 0) 50 | Edrychwch, dyna'r bad allan! |
| (1, 0) 52 | Hwre! |
| (1, 0) 53 | Pob lwc, fechgyn! |
| (1, 0) 68 | Dyna fe yn y dŵr! |
| (1, 0) 69 | A welwch chi Capten Jones wrth y llyw, fel mae e' wedi bod pob tro mae'r bad wedi mynd allan am yn agos i ugain mlynedd? |
| (1, 0) 93 | Welwch chi'r bad? |
| (1, 0) 94 | Mae hi'n galed arno! |
| (1, 0) 95 | Dyna'r don drostynt! |
| (1, 0) 96 | Na, dyna fe i'r golwg eto! |
| (1, 0) 128 | A welwch chi'r bad 'nawr yn rhywle? |
| (1, 0) 159 | Daw, wrth gwrs, er na bu dy dad mâs erioed ar waeth noswaith na heno. |
| (1, 0) 184 | Wn i ddim yn wir, wela i ddim. |
| (1, 0) 188 | Ust! clywch, maent yn canu. |
| (1, 0) 190 | Canu maent yn wir. |
| (1, 0) 191 | Ust! |
| (1, 0) 192 | Clywch! |
| (1, 0) 199 | Ow! o mam annwl! |
| (1, 0) 200 | Dyna'r llong wedi taro'r graig! |
| (1, 0) 208 | Na, mae'r cyfan wedi ei guddio gan y tonna'. |
| (1, 0) 228 | Hwre! dyna dri wedi cyrraedd y lan. |
| (1, 0) 229 | Whaff, Pegi a Beti, mae Sam ac Ifan draw fan yna! |
| (1, 0) 243 | Dewch, chi'r dynion! |
| (1, 0) 244 | Gwnewch rywbeth yn rhwydd. |
| (1, 0) 245 | Mae hi ar ben arno, dewch ar unwaith. |
| (1, 0) 246 | Y dyn bach yn ymladd â'r tonnau, a neb yn mynd i'w waredu! |
| (1, 0) 254 | Beth wyt ti'n 'neud, Bess? |
| (1, 0) 275 | Clymwch hwynt i gyd gyda'i gilydd. |
| (1, 0) 277 | Jenny fach, edrych am raff, wnei di, a gofyn i'r plant dy helpu di. |
| (1, 0) 286 | 'Nawr am danat ti, Bess. |
| (1, 0) 287 | Dyna fe! |
| (1, 0) 289 | Dere â rhagor, Mary Ann! |
| (1, 0) 290 | C'lymwch ymlaen. |
| (1, 0) 291 | Dyna fe! |
| (1, 0) 298 | Pob lwc i chi. |
| (1, 0) 299 | Dewch ag e' 'nol! |
| (1, 0) 300 | Cofiwch dynnu'r rhaff os byddwch am ddod 'nol. |
| (1, 0) 309 | Rhowch glwm cryf arni. |
| (1, 0) 315 | O'r annwl! beth os boddant gyda'r lleill! |
| (1, 0) 316 | Rhowch y rhaff allan─digon o honi! |
| (1, 0) 323 | Isht! |
| (1, 0) 324 | Beth oedd y sŵn yna? |
| (1, 0) 325 | Dyna fe eto! |
| (1, 0) 327 | Welwch chi rywbeth? |
| (1, 0) 336 | 'Nawr, pawb gyda'i gilydd! |
| (1, 0) 347 | Tynnwch! |
| (1, 0) 348 | Eto! |
| (1, 0) 349 | "Diolch iddo, byth am gofio llwch y llawr!" |
| (1, 0) 357 | 'Nawr, chi nad ydych yn tynnu'r rhaff, ewch lawr i'w cwrdd, a chariwch y dyn i'r tŷ agosaf ─tŷ Mari a Bess yw hwnnw! |
| (1, 0) 366 | Cofia, Mary Jane, fod yna ddigon o ddillad sych, a thân mawr, a dŵr berw yn barod. |
| (1, 0) 367 | Mae Bess yn cadw'r dillad glân yn y cas-an-drors. |
| (1, 0) 403 | Ben, brawd Mari a Bess. |
| (1, 0) 404 | Dyna ryfedd mae pethau yn digwydd! |