| (1, 0) 226 | Jared Jones, mae nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ; mi yfodd yn drwm heddiw ac mae o'n gynddeiriog yn i ddiod. |
| (1, 0) 227 | Wyddwn i ddim i ble i droi, ond yma y bydda i'n dod am gymwynas. |
| (1, 0) 228 | Ga i aros yn y gweithdy ma heno? |
| (1, 0) 230 | Wn i ddim sut i ddiolch i chi. |
| (1, 0) 234 | Ddeydwch chi ddim wrth neb, rwy'n siwr, fod nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ heno? |
| (1, 0) 237 | Na, dim pryd i mi heno, mi ges ddigon cyn rhedeg allan. |
| (1, 0) 240 | Dyma hi. |
| (1, 0) 243 | Nos dawch! |
| (2, 0) 253 | Pryd byddwch chi'n ol heno? |
| (2, 0) 257 | Leiciech i mi gadw'r |kettle| ar yr |hob| erbyn i chi ddod? |
| (2, 0) 260 | Fydd hynny ddim yn newydd i mi; rwyf wedi arfer codi bob awr o'r nos i'ch gillwng i'r tŷ. |
| (2, 0) 263 | Fydd hynny, chwaith, fel mae gwaetha'r modd, ddim yn newydd i mi: fydd o ddim y tro cyntaf i'ch merch gael llygad du gynno chi. |
| (2, 0) 266 | Styfnig! |
| (2, 0) 267 | Welwch chi, Nhad, does waeth gen i heno am y dwrn yna. |
| (2, 0) 268 | Rwyf wedi cadw tŷ i chi ers pan wyf yn cofio, a hynny am ddim ond fy mwyd a rhyw dipyn o ddillad rhad. |
| (2, 0) 269 | Chwynais i rioed am y driniaeth gefais gynno chi er fod y mywyd i'n galetach na bywyd y slaf isa. |
| (2, 0) 270 | Fe'm troisoch dros y drws y noson o'r blaen. |
| (2, 0) 271 | Ond marciwch hyn, os cyffyrddwch chi'ch llaw â fi heno, mi wnewch hynny am y tro ola'n eich bywyd. |
| (2, 0) 275 | Mae gen i un arf na ddefnyddiais i mohono; eto, ond mi rhof o ar waith heno os bydd raid. |
| (2, 0) 278 | Ewch yn ol i'ch cornel yn gynta ac hwyrach y cewch wybod wedyn. |
| (2, 0) 284 | Na wnaf. |
| (2, 0) 285 | Does dim ofn y dwrn na arna i heno, a fu gen i rioed i ofn o. |
| (2, 0) 288 | Mae digon o frid yno i heno fel na chewch chi na neb arall ddim plygu f'ysbryd i. |
| (2, 0) 292 | Wel, mi wyddoch rwan; mae dysg o febyd hyd fedd. |
| (2, 0) 297 | Sgwn i ddylwn i ddeyd beth ydi o? |
| (2, 0) 299 | Rwan, mae'r ffrwyn yn dyn ar y nhempar i, ac rwy'n berffaith bwyllog—rwy'n benderfynol o'ch gadael am byth os rhowch chi'ch llaw arna i eto. |
| (2, 0) 300 | Mi fedraf ennill y nhamaid, achos mi fedraf weithio, wrth lwc, a gweithio'n galed. |
| (2, 0) 302 | Ie. |
| (2, 0) 304 | Nag ydi ar un olwg—laddith o ddim cipar na hyd yn oed samon na ffesant. |
| (2, 0) 306 | Dydw i'n cyfri dim yn eich golwg, felly? |
| (2, 0) 308 | Ond dydi'ch wyllys chi ddim yn reit bob amser? |
| (2, 0) 312 | Fyddwch chi'n cael arwyddion ambell dro, Nhad? |
| (2, 0) 314 | Na, nid petha felly'n hollol. |
| (2, 0) 315 | Dyna fi rwan wrth dynnu'r gwn ma i lawr oddiar y pared, fe gredais mod i'n gweld rhyw oleu glas yn llithro ar hyd i faril. |
| (2, 0) 317 | Mi leiciwn fedru gneud hynny, ond cyn wired a mod i'n sefyll yn y fan yma mi welais fflach las yn llithro ar hyd y gwn yma o'r trigar at i ffroen o. |
| (2, 0) 318 | Nhad bach! peidiwch mynd allan heno? |
| (2, 0) 323 | Gwrandewch arnaf am unwaith, Nhad. |
| (2, 0) 324 | Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i. |
| (2, 0) 338 | O Nhad! dyna chi wedi taro Mam i lawr, mae'i llun hi wedi disgyn. |
| (2, 0) 340 | O Mam! mi ges golled i'ch colli chi. |
| (2, 0) 342 | Yn doedd gwyneb ffein ganddi, Nhad? |
| (2, 0) 346 | Rhyw bymtheg ar hugain oedd hi'n marw, yntê, a finnau'n ddeg oed? |
| (2, 0) 347 | Oedd hi'n debig i mi o ran pryd a gwedd? |
| (2, 0) 350 | Sgwn i ymhle mae hi heno? |
| (2, 0) 352 | Ydi hi i gyd yno, tybed? |
| (2, 0) 356 | Ydi hynny oedd o Mam ym mhridd y fynwent ne ydi hi yma yn y gegin ambell dro? |
| (2, 0) 360 | Na, nid hynny, ond mi wn o'r gore i bod hi yma ambell i noson ddistaw pan y bydda i yma ar ben fy hun. |
| (2, 0) 363 | Na, welais i mohoni eto, ond rwy'n siwr mod i bron a'i gweld ambell waith; rwy'n i theimlo hi yn y gegin yma weithiau gyda'r hwyr pan y byddwch chi'n y coed. |
| (2, 0) 366 | Ofn Mam! |
| (2, 0) 368 | 'Ch ofn chi, Mam? |
| (2, 0) 369 | Na, ryda ni'n ormod o ffrindia i fod ag ofn ein gilydd, yn tyda ni? |
| (2, 0) 372 | Na, dydi Mam ddim yno; mae na rywbeth yno, ond nid Mam; mae Mam yn fyw o hyd yn rhywle, wn i ddim ymhle, ond fe awn ar fy llw i bod hi weithiau yn y gegin ma. |
| (2, 0) 373 | Nhad, peidiwch wir a mynd allan heno. |
| (2, 0) 377 | Nac ydw i, nen tad, ac eto i gyd rwyn teimlo weithia mai nid chi bia'r samons. |
| (2, 0) 381 | Wel, nid Dic Betsi gnath nhw beth bynnag, er mai fo sy'n dal y rhan fwya ohonyn nhw. |
| (2, 0) 383 | Dyda chi a Mr. Blackwell y Plas ddim o'r unfarn ar y mater yna; mae o'n talu cyflog i gipar ne ddau i'ch watsio chi a'ch tebyg. |
| (2, 0) 387 | Ydach, wrth gwrs, os ydi byw ar gêm yn farc o ŵr bynheddig. |
| (2, 0) 388 | Ond unwaith eto, rwyf am i chi aros yma heno os gnewch chi. |
| (2, 0) 392 | Er mwyn Mam, peidiwch mynd heno; fe syrthiodd ei llun oddiar y pared nawr jest, a choeliwch fi, arwydd fod rhywbeth drwg ar ddigwydd ydi hynny, a digwydd heno hwyrach. |
| (2, 0) 400 | Mr. Richard Davis, Mr. Richard Davis. |
| (2, 0) 401 | 'Ruwd annwyl dad, ai holi am Dic Betsi yr ydach chi. |
| (2, 0) 402 | Mr. Richard Davis! |
| (2, 0) 403 | Beth nesa tybed? |
| (2, 0) 404 | Mi fydd Dic Betsi wedi mynd yn scweiar mewn chwinciad. |
| (2, 0) 405 | la, yma mae Richard Davis, Escweiar, yn byw, a fi {Gan bwyntio ati ei hun.} yw ei ferch, Lady Nel, sy'n golchi'r llawr ac yn berwi'r uwd iddo fo. |
| (2, 0) 406 | Dowch i mewn i'r sitting room. |
| (2, 0) 409 | Nag ydi, mae o newydd fynd am dro ar ol swper rownd i stâd; mi fydd yn mynd ddwywaith neu dair yr wsnos rhag ofn fod rhyw gnafon drwg o'r capel na yn seuthu'r gêm sy yn i barc o tu cefn i'r plas ma. |
| (2, 0) 410 | Ond rydw i, Lady Nel, yr etifeddes, yn digwydd bod i mewn. |
| (2, 0) 411 | Rhowch eich het i mi. |
| (2, 0) 413 | O'r annwyl, dyma het ddigri, mae hi'n feddal fel pwdin. |
| (2, 0) 415 | Lady Nel mewn het ciwrat! |
| (2, 0) 416 | Chi ydi ciwrat capel Seilo? |
| (2, 0) 420 | Lady Nel Davis, sgwelwch chi'n dda; dropiwch y gair "Miss" yna, achos mae o'n nhagu i bob tro y clywaf o. |
| (2, 0) 422 | |Dear me!| |
| (2, 0) 423 | Dyna fel bydd gweinidog yn siarad, ai ê? |
| (2, 0) 425 | Disgwyl gweld eich tad yr oeddwn i heno, achos dyda chi, ei ferch, ddim yn werth i'w gweld. |
| (2, 0) 428 | Dyna well dipyn y tro yna, Mr. —, be ydi'ch enw chi, deydwch? |
| (2, 0) 430 | Gan na fûm i rioed o'r blaen yn siarad â chiwrat na gweinidog, wn i ddim yn iawn sut i'ch cyfarch chi; sut mae'ch cyfarch—Mr. Harris, Mr. Eifion Harris, neu'r Parch. Eifion Harris? |
| (2, 0) 432 | Fel y mynnoch chi, Mr. Harris, achos does gen i mo'r gwrthwynebiad lleia i'ch galw'n Eifion, neu—o'r annwyl dad! mae gen i enw dan gamp arnoch, Ivy! |
| (2, 0) 433 | Mae o fel enw merch byddigiwns. |
| (2, 0) 437 | Dyna'r hen air meddal na eto; galwch fi'n Nel Davis, a pheidiwch a meddwl mod i'n gwawdio. |
| (2, 0) 438 | Rhaid i chi gofio mai dyma'r tro cyntaf rioed i mi fod yn siarad â gweinidog, a rhaid cropian cyn cerdded, wyddoch. |
| (2, 0) 439 | Dydach chi ddim yn ddig iawn, ydach chi? |
| (2, 0) 442 | Portsio samons mae o, ond peidiwch a deyd wrth y cipar. |
| (2, 0) 447 | Gneud drwg! |
| (2, 0) 448 | Drwg i bwy? |
| (2, 0) 449 | I'r samons? |
| (2, 0) 452 | Cynddrwg a pheth? |
| (2, 0) 453 | Ewch ymlaen. |
| (2, 0) 456 | Ydach chi'n meiddio galw nhad yn lleidr? |
| (2, 0) 457 | Ddaethoch chi yma heno i'n galw ni'n lladron? |
| (2, 0) 462 | Wel, a deyd y gwir, nac ydw. |
| (2, 0) 465 | Mae gen i ofn bob tro y seuthith y cipar o; ofn i weld o'n dod yn gorff i'r tŷ. |
| (2, 0) 470 | Mi fyddaf yn mynd i ganol y coed neu i lan yr afon ambell i bnawn Sul i glywed yr adar yn canu ac i wrando ar sŵn yr afon ar ben fy hun. |
| (2, 0) 473 | Addoli! |
| (2, 0) 474 | Beth ydi addoli? |
| (2, 0) 475 | Rhywbeth tebig i hiraeth ydi o, yntê? |
| (2, 0) 476 | Mi glywsoch y delyn yn canu wrth gwrs; bob tro y clywa i hi mae arna i eisio crio ac eisio dawnsio run pryd. |
| (2, 0) 477 | Wn i ddim ffordd i ddeyd sut bydda i'n teimlo wrth glywed y delyn, ond mi wn fod sŵn y coed a sŵn yr |
| (2, 0) 478 | afon yn gneud yr un peth i mi'n union; mi fedrwn grio a dawnsio run anadl. |
| (2, 0) 479 | Rhywbeth fel yna ydi addoli, yntê? |
| (2, 0) 480 | Dyn yn teimlo'n rhy sad i fod yn hollol lawen ac yn rhy llawen i fod yn hollol sad—rhywbeth fel yna ydi addoli, yntê? |
| (2, 0) 483 | Glywsoch chi afon yn siarad â chi? |
| (2, 0) 484 | Glywsoch chi'r coed yn deyd rhywbeth rhyw dro? |
| (2, 0) 487 | Do, lawer gwaith. |
| (2, 0) 489 | Deyd y bydda nhw weithia mod i'n siwr o farw, ac na fydd dim colled ar f'ol. |
| (2, 0) 490 | Dro arall mae nhw'n deyd fod mam yn fyw yn rhywle, er fod i bedd hi yn y Llan. |
| (2, 0) 492 | Ar ol i chi fynd adre, hwyrach yr af allan am dro drwy'r ardd, ac mi fydd y nos a'r coed a'r afon yn dwrdio'n enbyd am i mi golli nhempar efo nhad jest cyn i chi ddod i mewn. |
| (2, 0) 494 | Do, mi collais o heno'n ddrwg, ac mi ges y drafferth fwya ges i rioed i gadw rhag cydio mewn rhywbeth pan oedd nhad yn mynd i nharo i. |
| (2, 0) 496 | Bydd, mi roi'th lygad du i mi weithia. |
| (2, 0) 500 | Helo, pwy roddodd hawl i chi i alw nhad yn enwau drwg? |
| (2, 0) 501 | Nhad i ydi o, ac mae ganddo hawl i roi clustan i mi os leicith o heb ofyn caniatad neb. |
| (2, 0) 506 | Dic Betsi a'i ferch Nel yn mynd i'r capel! |
| (2, 0) 507 | Mi edrychai pobl Seilo arnom fel pe bai cyrn ar ein pennau. |
| (2, 0) 508 | Gwêl galch ar gôt MR. HARRIS.} |
| (2, 0) 509 | Rhoswch funud, mae na smotyn gwyn o galch ar y gôt ma. |
| (2, 0) 511 | Tynnwch y gôt ma oddiamdanoch am funud ac mi brwsiaf hi mewn chwinciad ar y bwrdd ma. |
| (2, 0) 515 | Coblyn o beth ydi du, yntê, am ddal pob matholwch? |
| (2, 0) 516 | Wn i ddim pam mae neb yn gwisgo du, ac yn enwedig pregethwrs, achos lliw mowrning ydi o. |
| (2, 0) 517 | Ddaru chi sylwi y lliw mowrning yn y coed ydi cochddu a melyn, byth ddu; mynd i'w cochddu a'u melyn y mae'r coed wrth farw, ond rhowch liwiau coch a glas a gwyrdd a gwyn i mi, mi fydda'n teimlo mod i'n fyw yn rheiny; mi faswn yn mynd dros fy mhen i'r felancoli pe gwisgwn ddu. |
| (2, 0) 519 | Diain i, mi leiciwn drio côt laes fel hon amdana. |
| (2, 0) 521 | Sut rydw i'n edrach? |
| (2, 0) 522 | Tybed na wnawn i bregethwr ne giwrat ar binsh? |
| (2, 0) 532 | Dyma Mr. Eifion Harris, gweinidog newydd Seilo; dyma nhad, Mr. Richard Davis, yr oeddech yn holi am dano. |
| (2, 0) 544 | Nhad, arna i roedd y bai i gyd, ac yn wir mae'n ddrwg gen i, Mr. Harris. |
| (2, 0) 545 | Dod yma ddaru o, Nhad, i'ch gwâdd chi a finna i'r capel. |
| (2, 0) 546 | Nath dim person na gweinidog gymaint a hynny i ni o'r blaen; a fi nath iddo dynnu ei gôt i mi gael brwsio'r calch oddiarni, ac mewn smaldod mi rhois hi amdanaf. |
| (2, 0) 569 | Pam ddaethoch chi'n ol mor fuan heno? |
| (2, 0) 573 | Mam! dyna'r goncwest gynta; mi ddaw'r ail hwyrach ymhen tipyn. |
| (3, 0) 673 | Mae na bedwar o ddynion yn cario nhad o goed y Plas. |
| (3, 0) 675 | Wn i ddim! |
| (3, 0) 676 | Wn i ddim! |
| (3, 0) 677 | O! fedra i ddim crio. |
| (3, 0) 678 | Dic Betsi! |
| (3, 0) 679 | Mae arna'i ofn y bydd o farw ar y ffordd cyn cyrraedd adre, |
| (3, 0) 686 | Oes rhyw lygedyn o obaith? |
| (3, 0) 698 | Fydda i byth eto'n esmwyth os ydi nhad—. |
| (3, 0) 699 | Ar eu gliniau y bydd pobol yn gweddïo am bethau yntê? |
| (3, 0) 701 | Gweddïo? |
| (3, 0) 702 | Na fydda i. |
| (3, 0) 703 | Dysgodd mam i mi ddeyd y mhader, ond ar ol iddi farw ddeydais i mohono byth wedyn. |
| (3, 0) 704 | Atebith o ddiben i mi ddeyd y mhader rwan? |
| (3, 0) 705 | Rwyn meddwl mod i'n i gofio fo. |
| (3, 0) 707 | "Ein Tad"—ydi O'n Dad i Dic Betsi? |
| (3, 0) 708 | Mi wn i fod O'n Dad i mam, achos roedd hi'n arfer siarad â Fo bob nos a bore. |
| (3, 0) 709 | Ond hwyrach nad ydi O ddim yn ffrindie hefo nhad am i fod o'n bortsiar. |
| (3, 0) 711 | Glywch chi sŵn traed? |
| (3, 0) 715 | O, na fedrwn i grio; mae na ryw ddistawrwydd yn y mhen i fel pe bae rhywbeth ar dorri o'i fewn. |
| (3, 0) 718 | Mae sŵn cerdded araf y pedwar dyn na ar y nghlust i. |
| (3, 0) 720 | Rwyn mynd allan i'w cyfarfod. |
| (3, 0) 725 | Fe aeth allan ar ol tê i bortsio. |
| (3, 0) 727 | Be sy'n ddifrifol? |
| (3, 0) 730 | Nid amser i ddeyd y drefn am bortsio ydi hi rwan; mae nhad wedi frifo, mae gwaed Dic Betsi'n diferu ar hyd y ffordd. |
| (3, 0) 732 | Y nefoedd fawr! |
| (3, 0) 733 | Welwch chi ddim mai nhad sy wedi frifo; nid y portsiar ydi o i mi rwan, ond nhad, ac os colla'i nhad mi golla'r cwbl sy gen i. |
| (3, 0) 735 | Dyna nhw'n cario'i gorff o i mewn. |
| (3, 0) 736 | Mae rhywbeth yn deyd wrtho i fod popeth ar ben heno. |
| (3, 0) 737 | O Nhad bach! |
| (3, 0) 739 | Os y cipar seuthodd o, gobeithio y daw barn ar ben y llofrudd! |
| (3, 0) 746 | Mam! |
| (3, 0) 751 | Ydi hi ar ben arno? |
| (3, 0) 753 | O! mae'n ddrwg gen i i mi ddychryn eich chwaer rwan. |
| (3, 0) 756 | Rwyn waeth na phagan, medde'ch chwaer, ac mae hi'n iawn. |
| (3, 0) 879 | Dwyn? |
| (3, 0) 880 | Beth ydach chi'n feddwl? |
| (3, 0) 881 | Tybed nad oes digon o faich arna i heno heb i chi roi chwaneg arnaf? |
| (3, 0) 886 | Does dim eisiau sôn am y mhryder i jest rwan, ond mae gen i hawl i wybod beth sy wedi digwydd yma. |
| (3, 0) 887 | Ydach chi'n deyd mod i wedi dwyn eich brawd oddiarnoch chi ac Eglwys Seilo, |
| (3, 0) 893 | Eifion Harris, be sydd wedi digwydd? |
| (3, 0) 894 | Mae gen i hawl i wybod. |
| (3, 0) 898 | Wel, ewch ymlaen. |
| (3, 0) 900 | A! mae Nel Dic Betsi'n sgymun i bawb yn yr ardal, ac mi fydd byth. |
| (3, 0) 901 | Does dim maddeuant byth i mi am fod yn ferch y portsiar. |
| (3, 0) 903 | Mi fydd yn rhaid diffodd y gannwyll heno. |
| (3, 0) 905 | Phrioda i chi byth! |
| (3, 0) 907 | Mi gewch weld yn amgenach. |
| (3, 0) 908 | Ddo i byth yn dragywydd rhyngoch chi ag Eglwys Seilo na dim eglwys arall. |
| (3, 0) 910 | Pwy ddywedodd wrthych y priodwn i chi? |
| (3, 0) 912 | Naddo rioed! |
| (3, 0) 914 | A, dyna rywbeth gwahanol. |
| (3, 0) 915 | Marged Harris, dydi'ch cariad chi at eich brawd yn ddim ond fel cannwyll frwyn wrth yr haul yn ymyl y nghariad i ato; mi awn drwy ffaglau tân er ei fwyn. |
| (3, 0) 916 | Cariad! |
| (3, 0) 917 | Marged Harris, wyddoch chi mo ystyr y gair eto? |
| (3, 0) 918 | Pwy sy'n ameu fy nghariad i at eich brawd? |
| (3, 0) 920 | Rhoswch funud; dydi popeth ddim yn |all right|. |
| (3, 0) 921 | Waeth un gair na mil, phrioda i byth mohonoch. |
| (3, 0) 923 | Ydw, mi ddwedwn hynny ar goedd y byd, ond rwyn eich caru'n rhy fawr i'ch priodi. |
| (3, 0) 925 | Eifion! |
| (3, 0) 926 | Er mai merch y portsiar ydw i, ddwedais i rioed gelwydd yn y mywyd—fûm i rioed o'r blaen yn caru â neb, a chara i byth neb ond chi, ond mae'n well gen i fod heb weld ych gwyneb chi byth na dod rhyngoch chi a'ch gwaith fel gweinidog, ac mi wn nad ydi merch Dic Betsi ddim yn ffit i fod yn wraig gweinidog, a fydd hi byth. |
| (3, 0) 930 | Mae mhoen i'n ddigon heb roi un arall ato, ond waeth i chi geisio symud y Wyddfa na'm symud i o mhenderfyniad. |
| (3, 0) 931 | Unwaith eto, ac am y tro ola, phrioda i byth mohonoch. |
| (3, 0) 932 | Fe af yn ddigon pell o'r ardal ma i ennill y nhamaid rhywsut, ond am eich priodi—byth bythoedd! |
| (3, 0) 945 | Peidiwch a deyd gair yn erbyn nhad i heno. |
| (3, 0) 949 | Wyddwn i mo hynny. |
| (3, 0) 956 | Ydi o'n mynd i farw heno? |
| (3, 0) 960 | O Nhad! |
| (3, 0) 973 | Wedi marw! |
| (4, 0) 1084 | Harri, Harri, ymhle rwyt ti? |
| (4, 0) 1088 | O'r tad! |
| (4, 0) 1089 | Chi sydd yma? |
| (4, 0) 1090 | Mi ddeydodd y Doctor ffals yna mai Harri bach oedd yma. |
| (4, 0) 1092 | Be ydach chi'n neud yn y gweithdy ma? |
| (4, 0) 1093 | Ydach chi wedi gadael y weinidogaeth a throi'n jeinar? |
| (4, 0) 1095 | Go lew chi. |
| (4, 0) 1096 | Ches i ond prin olwg ar Jared eto. |
| (4, 0) 1097 | Mae'n edrach yn rhyfedd o dda o ran i liw hefyd, ond mae'r Doctor yn ofni am i galon. |
| (4, 0) 1098 | O! mi rown lawer am i weld o allan o berig. |
| (4, 0) 1099 | Dyna'r unig beth nath i mi ddod yn ol i'r lle ma; rwyn ffond o nghalon o Jared. |
| (4, 0) 1102 | Waeth i ni heb siarad am yr hen bethau; mae popeth drosodd erbyn hyn. |
| (4, 0) 1109 | Rwyf wedi priodi! |
| (4, 0) 1115 | O, Mr. Harris! rydach chi'n mynd heb ddeyd "lwc dda," ac heb gymaint a gofyn pwy briodais i. |
| (4, 0) 1118 | Rwyf wedi priodi nghrefft? |
| (4, 0) 1122 | Rhoswch funud, da chi. |
| (4, 0) 1123 | Beth yda ni well o fynd ymlaen fel hyn? |
| (4, 0) 1124 | Nel Dic Betsi ydw i o hyd i'r bobl yma. |
| (4, 0) 1126 | Newid ymha ffordd? |
| (4, 0) 1131 | Pam? |
| (4, 0) 1132 | Run Nel ydw i heddyw yn nillad nyrs ag oeddwn i flwyddyn yn ol ym mwthyn Pantglas. |
| (4, 0) 1135 | Mi fûm yn siarad rwan ag Ifan y crydd a Hopcyn y siop—y ddau oedd fwya'n fy erbyn. |
| (4, 0) 1136 | Mae'r ddau yn tŷ rwan. |
| (4, 0) 1139 | Swil iawn oedd y ddau am dipyn, a mi rois snap ne ddwy iddyn nhw er mwyn rhen amser gynt. |
| (4, 0) 1140 | Ond eisia cymodi oedd arnyn nhw'n amlwg, a mi doddais dipyn bach atyn nhw yn y diwedd. |
| (4, 0) 1144 | Priodi fory! |
| (4, 0) 1145 | Be sy haru'r dyn? |
| (4, 0) 1149 | O'r annwyl! |
| (4, 0) 1150 | Na, chi ddeydodd rhywdro mai gwell oedd gadael i ran o'r ddyled sefyll ar gapel er mwyn rhoi gwaith i'r blynyddoedd i ddod; os cadwch chi jiwbili heddyw fydd gynno chi ddim i neud y misoedd nesa. |
| (4, 0) 1151 | Ond beth am Marged? |
| (4, 0) 1158 | Mi rydw i'n fwy digalon na neb ohonoch. |
| (4, 0) 1159 | Mi ellwch fod yn siwr y gna i ngoreu er mwyn Jared, yr hen greadur annwyl. |
| (4, 0) 1172 | Soniwn ni byth eto am dano, dyna fi wedi cau'r drws am byth ar yr hyn a fu. |
| (4, 0) 1178 | Ar ol maddeu i'r ddau droseddwr mwya, hawdd maddeu i un oedd dipyn yn fwy pleidiol i mi nag Ifan Wyn a Hopcyn. |
| (4, 0) 1180 | Wel, dyna fi'n ffrindia â'r sêt fawr i gyd rwan. |
| (4, 0) 1184 | Roedd y Doctor yma chydig yn ol, a gwael iawn oedd o yn i gael o. |
| (4, 0) 1185 | Dydw i wedi cael fawr amser â fo eto, does fawr ers pan ddois i yma. |
| (4, 0) 1192 | O, Jared Jones, dowch yn ol efo ni i'r tŷ; wn i ddim beth ddwedith y Doctor am hyn; mae'n enbyd i chi fod yn y fan yma. |
| (4, 0) 1212 | Rhag cwilydd i chi, Jared Jones! |
| (4, 0) 1213 | Faddeua i byth i chi! |
| (4, 0) 1239 | O, nage, nid fi, ond {Anela ei bys at ei wyneb.} y pistol galwad hwnnw. |