| (0, 1) 91 | Jonah!... |
| (0, 1) 92 | Jonah! |
| (0, 1) 93 | Jonah! |
| (0, 1) 95 | Ble ar y ddaear fawr yma'n gron mae'r hogyn yma, deudwch? |
| (0, 1) 96 | Fedar o ddim aros yn llonydd am eiliad. |
| (0, 1) 97 | Fel tae yna ryw lyngyr tragwyddol yn ei yrru o. |
| (0, 1) 98 | Wn i ddim be ddaw ohono fo, na wn, tawn i byth o'r fan yma. |
| (0, 1) 99 | Pwy faga hogia — |
| (0, 1) 101 | Jonah!... |
| (0, 1) 102 | Jonah!... |
| (0, 1) 103 | Jonah! |
| (0, 1) 132 | Jonah!... |
| (0, 1) 133 | Jonah! |
| (0, 1) 141 | Jonah...! |
| (0, 1) 143 | Dim siw na miw yn unman. |
| (0, 1) 145 | Dim golwg ohono fo... |
| (0, 1) 146 | O diar, hen beth cas ydi pryder ynte! |
| (0, 1) 147 | Yn ddigon cas i fam, fel y gŵyr pawb. |
| (0, 1) 148 | Yn gasach fyth i nain, mi fydda i'n deud bob amser. |
| (0, 1) 149 | A mi wn i beth ydi bod yn fam ac yn nain. |
| (0, 1) 151 | A waeth imi heb na deud wrthyf fy hun am beidio â phoeni. |
| (0, 1) 152 | Fedra i ddim. |
| (0, 1) 153 | Ac mae hynny'n ddigon naturiol reit siwr, mi fydda i'n deud bob amser. |
| (0, 1) 154 | Sut mae'r hen ddihareb yn mynd "Car gafr ei myn, boed ef ddu, boed ef wyn" — |
| (0, 1) 155 | Digon gwir, er mai ei nain o ydw i ac nid ei fam o. |
| (0, 1) 156 | A dydi Jonah ddim yn hogyn drwg, cofiwch. |
| (0, 1) 157 | Dim o gwbwl. |
| (0, 1) 158 | A deud y gwir yn onast, mi fydda'i well gen i tae o'n fwy direidus. |
| (0, 1) 159 | Peth reit iach mewn hogyn ydi ambell dwll yn ei drowsus o, mi fydda i'n deud bob amser. |
| (0, 1) 160 | A'i grys o'n hongian allan. |
| (0, 1) 161 | Ac ynta'n dwyn fala weithia. |
| (0, 1) 162 | A minnau'n cael ei ddwrdio fo wedyn, â gwên o'r golwg yn fy mrest fel tae! |
| (0, 1) 163 | Yn lle hynny, mae o'n crwydro fel meudwy ar ei ben ei hun. |
| (0, 1) 164 | Ac yn breuddwydio a hel meddylia od. |
| (0, 1) 165 | Mwydro'i ben yn lân. |
| (0, 1) 166 | A finna wedyn yn poeni fy hun i andros o gamdreuliad!... |
| (0, 1) 167 | Tynnu ar ôl ei dad mae o, heddwch i'w lwch. |
| (0, 1) 168 | A phan gollodd ei fam wedyn, wel doedd yna neb ond yfi, ei nain, i fod yn fam ac yn dad iddo fo!... |
| (0, 1) 169 | Ia wel, does gan r'un ohonom ni help i'w natur. |
| (0, 1) 170 | Ac wfft i'r hen fyd yma petaen ni i gyd run fath, mi fydda i'n deud bob amser. |
| (0, 1) 171 | A mae o'n ddigon hoffus a thyner, ngwas annwyl i! |
| (0, 1) 173 | Ond y cwestiwn ydi, lle mae o? |
| (0, 1) 175 | Jonah! |
| (0, 1) 176 | Jonah! |
| (0, 1) 177 | Jonah! |
| (0, 1) 180 | Ia, tawn i flewyn haws. |
| (0, 1) 183 | Na, fasa fo ddim efo nhw w'chi. |
| (0, 1) 184 | Rhyw stwna ar ei ben ei hun fydd o fel arfer. |
| (0, 1) 185 | Wyddoch chi, — pendroni ac ati... |
| (0, 1) 186 | Roedd ei dad o'n rhyw dipyn o fardd hefyd... |
| (0, 1) 187 | Fy mab rwy'n ei feddwl, heddwch i'w lwch...ia, wel,... fel yna mae hi. |
| (0, 1) 189 | Daw gobeithio. |
| (0, 1) 191 | "Ond" by-be? |
| (0, 1) 192 | Dowch, rydach chi'n fy nychryn i'n fwy wrth bethma fel yna! |
| (0, 1) 194 | Arswyd y byd! |
| (0, 1) 195 | A minna wedi ei siarsio fo dro ar ôl tro i gadw o'r lle. |
| (0, 1) 197 | Na? |
| (0, 1) 216 | Ydi, gobeithio'r annwyl! |
| (0, 1) 230 | O tewch, tewch, da chi! |
| (0, 1) 231 | Rydach chi fel oracla yn darogan dinistr. |
| (0, 1) 232 | Piga drain? |
| (0, 1) 233 | Mi ydw i'n eistedd ar andros o dwmpath. |
| (0, 1) 234 | A phob un run fath â hoelan-wyth. |
| (0, 1) 235 | Does yna ddim ond un peth amdani, — mynd draw i'r clogwyn... |
| (0, 1) 237 | Drapia'r crud-cymala felltith yma... |
| (0, 1) 238 | Mwya'r brys, mwya'r rhwystr, mi fydda i'n deud bob amser...! |
| (0, 1) 715 | Be sy'n mynd ymlaen yma?... |
| (0, 1) 716 | Be ydach chi'n 'i wneud? |
| (0, 1) 718 | Ydach chi'n clywed y rabscaliwns coman? |
| (0, 1) 719 | Be ydi'ch meddwl chi? |
| (0, 1) 721 | Rhowch yr hogyn yna i lawr, y munud yma! |
| (0, 1) 723 | Jonah... tyrd yma. |
| (0, 1) 724 | Wrth f'ochr. |
| (0, 1) 726 | Beth oeddyn nhw'n 'i wneud iti? |
| (0, 1) 730 | Hwyl, by-be! |
| (0, 1) 731 | Dim rhaid iti ddeud gair. |
| (0, 1) 732 | Digon hawdd gweld. |
| (0, 1) 733 | Golwg arnat ti. |
| (0, 1) 734 | Fel taet ti wedi cael dy dynnu drwy ddrain. |
| (0, 1) 735 | Edrych ar dy ddillad! |
| (0, 1) 737 | Ydach chi'n gall deudwch? |
| (0, 1) 738 | Yr hwliganiaid digywilydd! |
| (0, 1) 739 | Y cnafon powld! |
| (0, 1) 740 | Giang fawr yn erbyn un! |
| (0, 1) 741 | Llwfrgwn! |
| (0, 1) 743 | Cau di dy geg, y gwalch! |
| (0, 1) 745 | Dim gwahaniaeth. |
| (0, 1) 746 | Dydw i ddim yn lecio dy wep di. |
| (0, 1) 748 | Heglwch hi adre, y rebals, cyn ichi gael blas y ffon yma! |
| (0, 1) 750 | O'm golwg i! |
| (0, 1) 751 | Am adre! |
| (0, 1) 752 | Y munud yma. |
| (0, 1) 753 | Gwadnwch hi! |
| (0, 1) 755 | Tacla! |
| (0, 1) 756 | Sbwriel!... |
| (0, 1) 757 | Caridyms! |
| (0, 1) 759 | Wyt ti'n siwr dy fod ti'n iawn? |
| (0, 1) 762 | Hy!... |
| (0, 1) 763 | A pheth arall, ble rwyt ti wedi bod? |
| (0, 1) 764 | Chwilio pob man amdanat. |
| (0, 1) 765 | Ar biga drain ers oria. |
| (0, 1) 766 | Does dim yn waeth na phryder, mi fydda i'n dweud bob amser. |
| (0, 1) 767 | Fuost ti ar ben y Clogwyn yna eto, a minnau wedi rhybuddio gymaint arnat ti? |
| (0, 1) 769 | Os ei di'n agos yna eto, mi gei di flas y ffon yma ar dy ben-ôl, wyt ti'n deall? |
| (0, 1) 771 | Ia, wel, dyna fo. |
| (0, 1) 772 | Tyrd adre rwan. |
| (0, 1) 773 | Mae'n siwr dy fod ti bron â llwgu. |
| (0, 1) 776 | O'r gora... |
| (0, 1) 777 | Paid â thin-droi. |
| (0, 1) 778 | Mae'r tear y bwrdd... |
| (0, 1) 779 | Wyt ti'n clywed? |
| (0, 1) 783 | Hy! |