| (1, 1) 124 | Y dyrfa ddiderfysg yn hyddysg mewn heddwch, |
| (1, 1) 125 | Dymuna'ch ystyrieth dro'digeth drwy degwch, |
| (1, 1) 126 | I adrodd cynwysiad, cymhwysiad a moese, |
| (1, 1) 127 | Gosodiad a threigliad awch yriad y chware, |
| (1, 1) 128 | ~ |
| (1, 1) 129 | Gair distadl yw chware yn mhlith rhyw rai chwerwen, |
| (1, 1) 130 | Can's cymaint o hunan sydd heno mewn dynion, |
| (1, 1) 131 | A'u serch hwy sydd hynod arnynt eu hunen, |
| (1, 1) 132 | Condemniant bawb arall â'n barus genfigen. |
| (1, 1) 133 | ~ |
| (1, 1) 134 | Mae barn anmhrofiadol a chnawdol groch nwyde, |
| (1, 1) 135 | Yn magu dirmygus genfigenus goeg wynie; |
| (1, 1) 136 | Heb ystyr fod natur trwy gysur wedi gosod, |
| (1, 1) 137 | Yn ei dull a'i lle'i hunan i'w deall yn hynod. |
| (1, 1) 138 | ~ |
| (1, 1) 139 | Mae dynion a'u donie, pe baent yn cyduno, |
| (1, 1) 140 | Mewn gras a gwir gariad a gwres i gywiro; |
| (1, 1) 141 | Pob peth â dawn felus all natur ddyfalu, |
| (1, 1) 142 | I Dduw sy'n ogoniant yn dawnsio ac yn canu. |
| (1, 1) 143 | ~ |
| (1, 1) 144 | Ond balchder naturieth sy'n tori pob rheol, |
| (1, 1) 145 | Am glod iddo'i hunan mae dyn yn wahanol; |
| (1, 1) 146 | Mewn gwlad ac mewn eglwys mae'n eglur y llygredd, |
| (1, 1) 147 | Sain o lais Pharo, a swyn Lusifferedd. |
| (1, 1) 148 | ~ |
| (1, 1) 149 | Mab y wawrddydd, hen dwyllydd, deallwch, |
| (1, 1) 150 | Sy'n galw ei waith allan rhwng gole a thywyllwch; |
| (1, 1) 151 | Hwn yw'r ysbryd crefydd coeg ryfyg a chynwr', |
| (1, 1) 152 | Sy heno'n gorphwyso mewn aml broffeswr. |
| (1, 1) 153 | ~ |
| (1, 1) 154 | Y rhai sydd heb gariad wir fwriad arferol, |
| (1, 1) 155 | Ni allant ond llenwi o ddigllonedd ysbrydol; |
| (1, 1) 156 | Ac uffern bair berw yw'r llanw digllonedd, |
| (1, 1) 157 | A'r nef ydyw'r cariad, gwynfyd sawl a'u cyrhedd. |
| (1, 1) 158 | ~ |
| (1, 1) 159 | Os cariad sydd genych, 'rwy'n mwynwych ddymuno, |
| (1, 1) 160 | Nid cariad i bechod wy'n gosod i'w geisio, |
| (1, 1) 161 | Ond caru'r gwirionedd ddiduedd wrandawiad, |
| (1, 1) 162 | Chwi gewch mewn hwyl agwedd ryw ran o'i amlygiad. |
| (1, 1) 163 | ~ |
| (1, 1) 164 | Mac genym |act| gynil, led eiddil, rhaid adde', |
| (1, 1) 165 | Am na ddichon neb draethu llawn ddull naturiaethe, |
| (1, 1) 166 | Er hyny mi addawaf gyhoeddi'r ddau ddiwyd, |
| (1, 1) 167 | A'r pla sydd ar gyfer, sef Pleser a Gofid. |
| (1, 1) 168 | ~ |
| (1, 1) 169 | Yn gyntaf daw Pleser a'i faner i fynu, |
| (1, 1) 170 | Ac ato daw Gofid ar gyfer i ddadlu: |
| (1, 1) 171 | Ar ol i'r rhai'n gilio plwc heibio daw'r Cybydd, |
| (1, 1) 172 | Sef Rondol y Roundiad, un caled dig'wilydd. |
| (1, 1) 173 | ~ |
| (1, 1) 174 | At hwn daw'r wraig fwynlan, sef Sian Ddefosionol, |
| (1, 1) 175 | Methodis o fodde, dan enw crefyddol; |
| (1, 1) 176 | Rhai hyn a ddangosant, er llawer o annghysur, |
| (1, 1) 177 | Fod rhagrith anfuddiol mewn amryw grefyddwyr. |
| (1, 1) 178 | ~ |
| (1, 1) 179 | I fynu'n ol hyny dan ganu heb ddim gwenieth, |
| (1, 1) 180 | Daw un yn ganlynol dan enw Rhaglunieth; |
| (1, 1) 181 | At hono mae'n taro Rheswm naturiol, |
| (1, 1) 182 | Cewch glywed yn gyfan ymddyddan rhwydd weddol. |
| (1, 1) 183 | ~ |
| (1, 1) 184 | Ac yna Boddloneb dda wyneb ddiwenieth, |
| (1, 1) 185 | A draetha gynghorion ddwys dirion ystyrieth; |
| (1, 1) 186 | 'Nol hyny daw'r Cybydd, trwch arwydd tra chwerw, |
| (1, 1) 187 | I gwyno'n drwm oeredd fod y wraig wedi marw. |
| (1, 1) 188 | ~ |
| (1, 1) 189 | At hwnw daw Pleser i'w hwylio i ymgyplysu, |
| (1, 1) 190 | Gyda gwraig arall, gan fyn'd trosto i garu; |
| (1, 1) 191 | Ac yna daw henwraig ac anras i'w dilyn |
| (1, 1) 192 | Ato i'w hoff hurtio trwy ddywedyd ei ffortun. |
| (1, 1) 193 | ~ |
| (1, 1) 194 | A chwedi'n daw Pleser mewn amser cyfaddas, |
| (1, 1) 195 | I'w nodi'n buredig i wneud y briodas; |
| (1, 1) 196 | Gwraig oedd Gwaceres, ddu lodes ddyledog, |
| (1, 1) 197 | Siopwraig wael eiddo, lawn ddichell gelwyddog. |
| (1, 1) 198 | ~ |
| (1, 1) 199 | Yn ol hyn o erlid daw Gofid ar gyfer, |
| (1, 1) 200 | A'i ddawn yn hoff lwysedd i ymddyddan â Phleser; |
| (1, 1) 201 | Oblegyd crefydde, ymrysone sy' hynod, |
| (1, 1) 202 | A'r swn gydd am bres bychen a llawer bras bechod. |
| (1, 1) 203 | ~ |
| (1, 1) 204 | Ac yno daw'r Cybydd yn ddedwydd ei dd'wediad, |
| (1, 1) 205 | Gan ganmol ei addas briodas bur rediad; |
| (1, 1) 206 | Mae'n gwerthu â dull hyffordd ei holl offer ffermwr, |
| (1, 1) 207 | A'i feddwl yn foddus naws hapus fyw'n siopwr. |
| (1, 1) 208 | ~ |
| (1, 1) 209 | Ond wedi'r holl gwbl mawr drwbl sydd iddo, |
| (1, 1) 210 | Mae ef mewn gwall oerddig yn colli'r holl eiddo, |
| (1, 1) 211 | Ac yn syrthio i anobeth o farieth i oferedd, |
| (1, 1) 212 | Yn fall ei 'madawiad, ac felly mae'r diwedd. |
| (1, 1) 213 | ~ |
| (1, 1) 214 | A dyna ddarn dreiglad egoriad o'r geirie, |
| (1, 1) 215 | I'w datgan yn gywren ni a wnawn yma'n gore; |
| (1, 1) 216 | Na ddigiwch, cyd-ddygwch, maddeuwch yn ddie, |
| (1, 1) 217 | Nid ydym ond egwan ddau ddynan diddonie. |