| (1, 0) 2 | 'Rwyt ti wedi dod o'r diwedd, 'te, Dilys fach. |
| (1, 0) 3 | Ti fuost yn hir iawn. |
| (1, 0) 7 | 'Roedd e'n falch dy weld ar ôl tri mis, debyg iawn. |
| (1, 0) 13 | Mae e' wedi siarad llawer yma am John Gray, hefyd. |
| (1, 0) 16 | Mae e'n garedig iawn. |
| (1, 0) 18 | Paid a smocio, wir, Dilys. |
| (1, 0) 19 | Gwyddost y bydd Jane yn anfodlon iawn dy fod yn gwario ar sigarets. |
| (1, 0) 22 | Ddylet ti ddim gadael iddo roi popeth i ti, fel yna. |
| (1, 0) 30 | Ydi, mae pinc yn dy weddu di bob amser. |
| (1, 0) 33 | Dilys, Dilys! |
| (1, 0) 34 | Beth oedd yr holl baciau a ddaeth adre ddoe, 'te? |
| (1, 0) 39 | Ydi Jane wedi ei gweld? |
| (1, 0) 44 | O'r gorau, o'r gorau. |
| (1, 0) 45 | Galw Letitia i ddod â glo ar y tân wir. |
| (1, 0) 47 | Dyma chi ar y gair Letitia.. |
| (1, 0) 48 | Mae hi wedi oeri a... |
| (1, 0) 57 | Gad iddi, Dilys. |
| (1, 0) 69 | Onibai fod dy Fodryb Tabitha i ffwrdd, byddai hi'n siŵr o ddod yma ar gyfer dy benblwydd, yfory. |
| (1, 0) 70 | Mae hi'n dy leicio di. |
| (1, 0) 78 | 'Nawr, 'nawr, Dilys! |
| (1, 0) 84 | Ddylet ti ddim siarad fel 'na o gwbl, Dilys. |
| (1, 0) 94 | Tebyg mai gwaith teipio i Jane sydd yna oddi wrth yr Athro. |
| (1, 0) 95 | Mae e'n dod â rhyw waith iddi bob dydd, fynychaf. |
| (1, 0) 108 | Dyma syndod! |
| (1, 0) 109 | Dewch ymlaen, Tabitha. |
| (1, 0) 118 | Na, sonia Jane ddim am ei gollwng. |
| (1, 0) 126 | 'Rwy'n dal yn o debyg, diolch, ond i mi gael bod yn llonydd yn y gadair. |
| (1, 0) 127 | Rych chithau'n iawn? |
| (1, 0) 144 | Nag ydi, wir, Tabitha, ddim tebyg i chi. |
| (1, 0) 145 | Fe fyn Dilys wario'r geiniog olaf. |
| (1, 0) 147 | O, efallai! |
| (1, 0) 151 | 'Nawr Dilys, fe gest ti arian i brynu ffrog bert heddiw. |
| (1, 0) 160 | Ydi, mae'r Athro'n garedig iawn. |
| (1, 0) 165 | 'Roedd Mostyn yn ddyn da, Tabitha. |
| (1, 0) 166 | Peidiwch... |
| (1, 0) 168 | 'Dallsai Mostyn ddim help, druan! |
| (1, 0) 171 | Mostyn wyddai orau, â... |
| (1, 0) 173 | Mae Rhagluniaeth wedi gofalu amdanom. |
| (1, 0) 174 | 'Roedd hi'n dynn ar y dechrau, ond fu dim rhaid derbyn help gan neb... |
| (1, 0) 176 | Na, na, ond oedd Rhagluniaeth yn gofalu... gweld eisiau dim. |
| (1, 0) 199 | Tewch 'nawr ferched! |
| (1, 0) 200 | Rhaid i Dilys gael tipyn o wyliau'n gyntaf Jane, ac yna, daw i ennill yn dda i ni. |
| (1, 0) 205 | Mae Jane yn gwneud yn dda yn ôl ei gallu, ond cofia di, Dilys, na chafodd Jane dy fanteision di— gadael ysgol yn bymtheg oed i helpu dy dad gyda'i sgrifennu, druan! |
| (1, 0) 208 | Do, do, Tabitha. |
| (1, 0) 209 | 'Rwy'n cofio mor falch oeddem pan enillodd e ddwy gini am stori yn steddfod fawr y Bont, a... |
| (1, 0) 216 | Nag oedd, wir, Dilys. |
| (1, 0) 217 | Dim rhagor o siarad, ferched. |
| (1, 0) 218 | Beth am de, Jane? |
| (1, 0) 219 | Ydi hi ddim yn bryd te? |
| (1, 0) 237 | Tewch, wir, ferched. |
| (1, 0) 239 | O'r gorau Jane. |
| (1, 0) 240 | Bydda' i'n falch i gael cwpanaid. |
| (1, 0) 249 | Na, na, Dilys fach. |
| (1, 0) 250 | Paid â siarad fel yna. |
| (1, 0) 253 | Na fydd. |
| (1, 0) 254 | Mae Oswald yma byth a beunydd yn holi ei hynt. |
| (1, 0) 260 | 'Dyw e' naws tlotach nag oedd dy dad ym Moriah. |
| (1, 0) 266 | Ydi, mae'n gwneud popeth iddi, o hyd. |
| (1, 0) 267 | Edrychwch ar yr holl flodau a ddaeth e' yma neithiwr. |
| (1, 0) 285 | Mae Jane a minnau am i ti Dilys wylio rhag tramgwyddo'r Athro. |
| (1, 0) 286 | Wyt ti'n edrych dim am dorri calon dyn, 'rwy'n ofni. |
| (1, 0) 294 | Ble mae'r un bert hynny gefaist adeg Nadolig? |
| (1, 0) 296 | Ydi wir. |
| (1, 0) 297 | Dangos hi i dy fodryb. |
| (1, 0) 303 | Ydyn, wir. |
| (1, 0) 304 | Cer' di lan i 'nôl yr un sydd gen 'ti, Dilys fach. |
| (1, 0) 339 | 'Nawr yw ei hamser hi, Jane. |
| (1, 0) 545 | Jane fach... annwyl! |
| (1, 0) 546 | Dyna drueni... na fyddai... dy dad yma 'nawr!... |
| (1, 0) 547 | Mac Mostyn yn cael ei dalu... o'r diwedd, Tabitha... |
| (1, 0) 548 | "yn dwyn ffrwyth... ar ei ganfed." |
| (1, 0) 552 | Beth oedd yr Athro yn wneud yma bob dydd ynteu? |
| (1, 0) 560 | Da 'merch i! |
| (1, 0) 561 | Da 'merch i 'to! |
| (1, 0) 562 | Dy dad sy'n fy nghynnal i o hyd. |
| (1, 0) 563 | Fe sy'n cydio'n dy law... |
| (1, 0) 564 | Mae'r Gair yn eitha' gwir, Tabitha—"Ti â'i cei ar ôl llawer o ddyddiau." |
| (1, 0) 572 | Gall, gall. |
| (1, 0) 573 | Nawr yw ei hamser hi. |