| (1, 0) 34 | Nawr te, Bertie bach! |
| (1, 0) 37 | Nage Bertie, ─ |
| (1, 0) 38 | "Os wyt Gymro |hoff| o'th iaith |
| (1, 0) 39 | A |hoff| o'th dadau dewrion". |
| (1, 0) 45 | "Gwisg genhinen yn dy {yn gosod ei llaw ar ei phen} gap! |
| (1, 0) 46 | A gwisg hi yn dy {yn gosod ei llaw ar ei bron} galon!" |
| (1, 0) 60 | Evan. |
| (1, 0) 61 | Rwy'n begian arnoch chi! |
| (1, 0) 62 | Nawr, Bertie bach! |
| (1, 0) 66 | Dyna fe! Dyna fe! |
| (1, 0) 67 | Roedd popeth yn iawn nes i chwi ddwad i mewn, wrth gwrs... |
| (1, 0) 68 | Rhaid i chi gael sarnu popeth wastad. |
| (1, 0) 82 | O ie! |
| (1, 0) 83 | O ie! |
| (1, 0) 84 | Dyna hi! |
| (1, 0) 85 | Wyddwn i. |
| (1, 0) 86 | A'r holl |strain| sydd ar 'y meddwl i'r dyddiau hyn, cha i ddim cymaint a dysgu pennill i'r bachgen i'w adrodd. |
| (1, 0) 94 | Digalonni! |
| (1, 0) 95 | Beth dal i ddweud fel yna wrth y bachgen! |
| (1, 0) 96 | Dylai fod cywilydd arnoch chwi, Ifan! |
| (1, 0) 97 | A ninnau'n mynd i gadw coffadwriaeth eich tad. |
| (1, 0) 100 | (Yn wyllt.} |
| (1, 0) 101 | Dysgu adrodd, mae e, gogyfer a'r unveiling ceremony sy'n cael ei gynnal yn y ty |hwn|, er cof am eich tad |chwi|, un o ddynion mwyaf Cymru!... |
| (1, 0) 102 | Mi fyddai rhywun yn meddwl mai dad |e| {yn pwyntio at Bertie}, ac nid eich tad |chi| sy'n cael ei anrhydeddu. |
| (1, 0) 103 | Wedi'r cwbwl, roedd e'n dad i chwi. |
| (1, 0) 104 | Dyw e'n ddim ond enw o lys-dad i Bertie. |
| (1, 0) 113 | Pe baech chi'n hanner dyn, mi fysech yn i droi e allan o'r ty am siarad fel yna a chi. |
| (1, 0) 125 | David Henry! |
| (1, 0) 126 | Sefwch fanlle'r ych chi. |
| (1, 0) 127 | Mae eisiau'ch help chi arna i. |
| (1, 0) 129 | Nawr Bertie, dewch i weud eich "pisyn" eto. |
| (1, 0) 131 | Bertie! |
| (1, 0) 132 | At once, if you please! |
| (1, 0) 139 | I chi mae dioloh am hyn. |
| (1, 0) 151 | Bertie! |
| (1, 0) 152 | Dewch allan o'r rwm! |
| (1, 0) 153 | Dewch allan! |
| (1, 0) 154 | Ar unwaith! |
| (1, 0) 157 | Mi ddysga i chi i uffuddhau iddo fe, a dim i fi! |
| (1, 0) 418 | Ofynnest ti i Evan, Bertie? |
| (1, 0) 420 | Evan, rwy'n siwr y gwnewch chi gymaint a hynna i mhliso i... dysgu recitation bach i Bertie bach, gwnewch! |
| (1, 0) 423 | Oh come, come, Evan! |
| (1, 0) 424 | Roeddech chi'n gneud sport gynne ond oeddech chi? |
| (1, 0) 425 | Dysgwch y darn iddo. |
| (1, 0) 426 | 'Rych chi'n gwybod cymaint am reseito! |
| (1, 0) 429 | Oh Evan, rych chi'n gwybod mwy na fi, a mae'ch Cymraeg chi gymaint yn well. |
| (1, 0) 433 | O, rwy'n very Welsh o ran fy ideals. |
| (1, 0) 434 | Ond ches i ddim o'r cyfle gawsoch chi. |
| (1, 0) 437 | Ches i ddim o 'nwyn i fyny mewn Welsh atmosphere yn y cartref fel chi. |
| (1, 0) 438 | Nawr, Evan, byddwch yn fachgen neis. |
| (1, 0) 439 | Gnewch fel rwy'n gofyn i chwi. |
| (1, 0) 449 | Pa ddarn fyddech chi'n sujesto? |
| (1, 0) 451 | Ie. |
| (1, 0) 452 | Just o flaen yr unveiling. |
| (1, 0) 455 | Oh Evan! |
| (1, 0) 457 | Nawr Evan, rwy am siarad a chi. |
| (1, 0) 458 | Nawr a fyddwch chi'n neis nawr a gwrando am dipyn bach, a pheido a bod yn brofoclyd? Rych chi am y mhliso i, ond ych chi? |
| (1, 0) 460 | Nawr, rych chi'n gwybod ond ych chi fod tipyn bach o sensation yn y pentre am yr unveiling yma... |
| (1, 0) 461 | Pobol ddieithr yn dwad yma ac yn y blaen. |
| (1, 0) 463 | Nawr, mae e'n strain fawr ar fy meddwl i. |
| (1, 0) 464 | Chysges i ddim hanner nos neithiwr. |
| (1, 0) 467 | 'Dych chi ddim yn meddwl fod eich tad annwyl yn haeddu peth parch? |
| (1, 0) 469 | Evan! |
| (1, 0) 470 | For shame... yn siarad fel yna am eich tad. |
| (1, 0) 475 | Hush, Bertie! |
| (1, 0) 476 | Gadewch rhyngof i ac Evan. |
| (1, 0) 478 | Nawr, Evan, rwy'n gwybod eich bod chwi'n |all right| yn y gwaelod. |
| (1, 0) 479 | Rych chi |yn| parchu coffadwriaeth ych tad. |
| (1, 0) 480 | Rych chi am y mhliso i ond ydych chi? |
| (1, 0) 482 | Nawr, rwy am i chwi wneud favour fach a fi. |
| (1, 0) 483 | Rwy'n siwr y gwnewch chi. |
| (1, 0) 484 | Nawr, rych chi'n gwybod fod eich tad pan oedd e byw yn annwyl iawn i mi. |
| (1, 0) 487 | Oedd! |
| (1, 0) 488 | Cyn eich geni chwi! |
| (1, 0) 489 | A mae gen i barch i enw e ac i'w syniade fe. |
| (1, 0) 491 | Mi wyddoch chwi beth oedd i syniade fe. |
| (1, 0) 500 | All right, David Henry, rhyngwyf i ac Evan mae'r discussion yn awr. |
| (1, 0) 501 | Fe adawn i hynna nawr, Evan. |
| (1, 0) 502 | Falle eich bod chwi ddim yn gweld llawer o werth mewn commemoration ceremony fel yma i ddyn mawr. |
| (1, 0) 503 | Very well. |
| (1, 0) 504 | Gadawn i hynna. |
| (1, 0) 505 | Nawr y peth wyf i am ofyn i chi yw hyn. |
| (1, 0) 506 | Rwy am i chi wneud un favour fach... er y mwyn i,... er mwyn ych tad. |
| (1, 0) 507 | Rych chi'n gwbod, Ifan, fod y gentlemen sy'n dwad yma i'r unveiling yn cymryd yn ganiataol y bydd i fab Ifan Harris wneud rhywbeth yn y seremoni... |
| (1, 0) 509 | Very well... gwrandewch funud... |
| (1, 0) 511 | Very well. |
| (1, 0) 512 | Very well. |
| (1, 0) 513 | 'Hoswch funud nawr i fi gael explaino beth wy am i chi wneud. |
| (1, 0) 514 | Dyna i gyd rwy eisieu i chi wneud yw rhoi un speech fach... |
| (1, 0) 516 | Un speech fach o flaen yr unveiling. |
| (1, 0) 517 | Nawr a ydw i'n gofyn gormod i chwi wneud un favour fach a fì am unwaith yn y mywyd? |
| (1, 0) 520 | Pam, Evan? |
| (1, 0) 521 | Gwrandewch. |
| (1, 0) 522 | Mae David Henry yn mynd i wneud. |
| (1, 0) 527 | Ie chwi, David Henry. |
| (1, 0) 528 | 'Dych chi ddim yn mynd i wrthod cymaint a hynna. |
| (1, 0) 531 | All right, David Henry, fe ga i siarad a chi yn nes ymlaen. |
| (1, 0) 543 | Wel dyna fe, Evan, os gwnewch chi, mae David Henry yn addo gneyd. |
| (1, 0) 548 | Dych chi ddim yn mynd i ddwad yn agos i'r seremoni |
| (1, 0) 550 | A ble mae'ch parch chi i'ch tad? |
| (1, 0) 552 | Rhag ych cywilydd chi, Evan! |
| (1, 0) 553 | Rhag ych cywilydd chi! |
| (1, 0) 554 | Mae'ch tad yn gorwedd yn llonydd mewn mangre dawel ochr ddraw i'r Werydd. |
| (1, 0) 557 | Mae ei enw yn perarogli yn ein plith ni, ac yntau'n gorwedd yn i fedd ymhlith estroniaid na wyddant am ei syniadau na'i fywyd disglair. |
| (1, 0) 561 | Yr hen un cas, brwnt, di-barch! |
| (1, 0) 562 | Mae gas gen i am danoch chi... y... y...! |
| (1, 0) 563 | Mae gas gen i ych bod chi'n fab i fi. |
| (1, 0) 564 | Rhag ych cywilydd chi! |
| (1, 0) 566 | Rwy wedi treio drwy mywyd i'ch cael chi i gredu mewn rhai o'n ideals i. |
| (1, 0) 567 | Mae Bertie wedi treio gwneud. |
| (1, 0) 568 | Wnaethoch chi ddim un cynnig erioed. |
| (1, 0) 570 | Os nad ych chi wedi i deall nw cyn hyn, ddeallwch chi ddim ohonyn nhw nawr. |
| (1, 0) 575 | Peidiwch a gofyn cwestiwn mor insulting. |
| (1, 0) 579 | Rych chi'n hollol insulting. |
| (1, 0) 586 | Peidiwch a siarad mor ffol. |
| (1, 0) 587 | Sut gall benyw wan fel fi roi gweithred i syniadau dyn mawr fel efe! |
| (1, 0) 589 | Mae'r gair yna'n hollol discourteous - hollol, pan yn son am commemoration service ych tad. |
| (1, 0) 592 | Wel pam na ddywedsech chi fel yna ar unwaith? |
| (1, 0) 597 | Beth ddywedwch chi? |
| (1, 0) 600 | O ie! O ie! |
| (1, 0) 601 | Rhywbeth cas eto! |
| (1, 0) 604 | Na chewch!... y... cewch... hynny yw... |
| (1, 0) 606 | Very cheap, Evan, very cheap. |
| (1, 0) 607 | Does neb eisie clywe beth ych chi'n alw'n wirionedd. |
| (1, 0) 608 | Peidiwch a dwad yn agos i'r seremoni! |
| (1, 0) 609 | Gwell gen i chi gadw draw. |
| (1, 0) 612 | Ddewch chi ddim yn agos, Evan... dim ar ych perigl! |
| (1, 0) 613 | Sefwch o'r ffordd, a rhowch le i bobl ddieithr i ddangos parch i'ch tad yn ei gartref. |
| (1, 0) 614 | Fe gaiff 'i fab fod lawr yn y dafarn gyda scums y pentre. |
| (1, 0) 616 | Na chewch! Fe wna i araith iddo fe. |
| (1, 0) 646 | O'r goreu. |
| (1, 0) 647 | Fe ateba i'r drws. |
| (1, 0) 650 | Mr Inskip, ddyweddsoch chi? |
| (1, 0) 653 | Oh really. |
| (1, 0) 654 | O wel, Cymraeg yw'r cwbwl yn y ty hwn... |
| (1, 0) 655 | Ewch i lan i'r llofft, Bertie bach, there's a good boy! |
| (1, 0) 657 | Wel dyma rwm Mr Ifan Harris pan oedd e byw. |
| (1, 0) 661 | Ie siwr. |
| (1, 0) 662 | Fe dreuliodd 'y mhriod a minna lawer awr ddedwydd yn y rwm yma! |
| (1, 0) 668 | O, rych chi'n welcome. |
| (1, 0) 669 | Ry ni, - y mab a minnau bob amser yn hoffi croesawu rhai fydd yn dwad yma i weld y ty mewn ysbryd o wir barch at 'y mhriod annwyl. |
| (1, 0) 673 | Mrs Harris-Jones, Mr Inskip. |
| (1, 0) 677 | Ydi siwr, Mr Inskip. |
| (1, 0) 679 | Y... ydi... ydi. |
| (1, 0) 680 | Mae e'n siarad llawer am i dad. |
| (1, 0) 685 | O ydi. |
| (1, 0) 686 | 'I dad yw'r cwbl gan Evan. |
| (1, 0) 690 | Mrs Harris-Jones. |
| (1, 0) 695 | Naddo siwr, na. |
| (1, 0) 697 | Roedd ei dad newydd groesi draw i'r America pan a gafodd Evan bach ei eni. |
| (1, 0) 703 | Dim ond enw yn unig, Mr Inskip. |
| (1, 0) 707 | Dyma gadair Mr Ifan Harris. |
| (1, 0) 712 | Ie, yn hon yr eisteddodd mhriod bob nos pan oedd e yma. |
| (1, 0) 715 | Ie. |
| (1, 0) 716 | Yn hon yr eisteddai y mhriod bob nos pan oedd e yma. |
| (1, 0) 719 | Hoffech chi gael eistedd ynddi, Mr Inskip? |
| (1, 0) 721 | Eisteddwch te, Mr Inskip. |
| (1, 0) 727 | Right opposite i chwi fanna mae pen ysgrifennu Mr Harris. |
| (1, 0) 730 | A hwnna yr ysgrifennodd e rai o'i bethau goreu i'r Wasg. |
| (1, 0) 733 | Wel, Mr Inskip, 'does neb wedi cyffwrdd a'r i pen yna ers blynyddau, a neb wedi newid y níb. |
| (1, 0) 737 | Ond fe gewch chi... |
| (1, 0) 742 | Fe gewch chi, Mr Inskip, ysgrifennu a phen 'y mhriod annwyl. |
| (1, 0) 744 | Cewch. |
| (1, 0) 749 | Mrs Harris-Jones. |
| (1, 0) 760 | Wel, rwy' bob amser yn dweud wrth Evan bach mod i'n leico gweld pobl ddieithr yn talu parch i'r pethau bach adawodd Evan ar ei ol. |
| (1, 0) 767 | Wel? |
| (1, 0) 773 | 'Dwy ddim yn meddwl mai Evan a ysgrifennodd hwnnw. |
| (1, 0) 782 | Na'r darn yna chwaith. |
| (1, 0) 785 | Dwy ddim yn meddwl i Evan ysgrifennu llinell o farddoniaeth yn ei fywyd. |
| (1, 0) 787 | Prose yw i weithiau fe i gyd. |
| (1, 0) 790 | Dyna ddesc Mr Harris pan oedd e byw. |
| (1, 0) 793 | Rhaid i chwi fy esgusodi i am funud, Mr Inskip. |
| (1, 0) 794 | Mi ddof yn ol ymhen tipyn bach. |
| (1, 0) 908 | Evan! |
| (1, 0) 910 | Evan! rhag ych cywilydd chwi! |
| (1, 0) 912 | Mr Inskip, peidiwch a gwrando arno. |
| (1, 0) 913 | Gneud ffwl ohonoch chi mae e. |
| (1, 0) 914 | Rhag ych cywilydd chwi, Evan! |
| (1, 0) 918 | Mae'n ddrwg gen i am hyn... fod Evan wedi bod mor ddiscourteous. |
| (1, 0) 924 | Mae'n ddrwg iawn gen i. |
| (1, 0) 925 | Dwy ddim yn gwybod beth arall ddywedodd e... |
| (1, 0) 929 | Good-bye, Mr Inskip, good-bye. |
| (1, 0) 930 | Mae'n ddrwg gen i am hyn. |