| (1, 0) 159 | Hanner munud, os gwelwch yn dda. |
| (1, 0) 160 | Popeth yn ei dro. |
| (1, 0) 162 | Sut ydych chi'n teimlo? |
| (1, 0) 165 | Beth am y goes? |
| (1, 0) 166 | Dal yn boenus? |
| (1, 0) 170 | Hm! Fe all hynny fod yn arwydd da. |
| (1, 0) 171 | Y peth pwysica' rwan ydy' rhoi terfyn ar yr ansicrwydd yma. |
| (1, 0) 173 | Ac y mae hynny'n dibynnu arnoch chi. |
| (1, 0) 174 | 'Rwy'n gobeithio eich bod yn sylweddoli... |
| (1, 0) 177 | Beth...? |
| (1, 0) 187 | Ydy'—a dyna pam 'rydy' ni'n y picil truenus yma efo'n gilydd. |
| (1, 0) 200 | Mae o'n berffaith syml. |
| (1, 0) 201 | Anghofiwch bopeth am Awen ac ysbrydoliaeth. |
| (1, 0) 202 | 'Dydy'nhw'n golygu dim. |
| (1, 0) 203 | 'Rydych chi mewn penbleth am ein bod |ni|'n dal yn ôl. |
| (1, 0) 259 | Mae Lewis yn iawn, Seth. |
| (1, 0) 260 | Nid dyna'r ffordd. |
| (1, 0) 261 | Ein hunig obaith ydyw iddo fynd o'i ewyllys ei hun. |
| (1, 0) 265 | Arhoswch Seth...! |
| (1, 0) 337 | Ia, cofiwch mai ni sy'n y mwyafrif,—chwech yn erbyn un. |
| (1, 0) 344 | I beth? |
| (1, 0) 361 | Pam 'rydych chi'n petruso? |
| (1, 0) 362 | Agorwch y drws. |
| (1, 0) 415 | Maddeuwch i mi, ond 'ga' fi ofyn i rywun fy nghyflwyno? |
| (1, 0) 421 | O? Mae'n ddrwg gen' i. |
| (1, 0) 422 | 'Wyddwn i ddim─ |
| (1, 0) 454 | Yn hollol. |
| (1, 0) 455 | Mae'r amser wedi dwad i chi benderfynu. |
| (1, 0) 456 | Rydych yn sylweddoli erbyn hyn fod gennym fodolaeth annibynnol. |
| (1, 0) 491 | O'r diwedd! |
| (1, 0) 498 | Na, 'does yna ddim golwg ohono fo. |
| (1, 0) 515 | Wel, mae hi'n achlysur go arbennig, wyddoch chi Sioned. |
| (1, 0) 539 | Chware teg iddi! |
| (1, 0) 553 | Gora' oll. |
| (1, 0) 554 | Fe gewch well blas arno fo. |
| (1, 0) 570 | Mi ddof i fyny i'ch gweld mewn munud, Abram Morgan. |
| (1, 0) 575 | Na, mae o'n agosau at ben 'i gŵys, 'rhen greadur. |
| (1, 0) 603 | Wel, gair bach efo'r hen ŵr cyn iddo fo gysgu. |
| (1, 0) 605 | Poen eto? |
| (1, 0) 607 | Hidiwch befo, 'phery o ddim yn hir. |
| (1, 0) 608 | Mi ro'i dabledi i chi fory i leddfu tipyn arno fo. |
| (1, 0) 610 | Esgusodwch fi. |
| (1, 0) 654 | Na, mae o wedi blino, 'rhen greadur. |
| (1, 0) 655 | 'Rwy'n fodlon 'rwan ar ôl 'i weld o'n setlo i lawr am y noson... |
| (1, 0) 656 | Mae'n amser i chitha' fynd i fyny hefyd, Lewis. |
| (1, 0) 657 | Gorffwys ydy'r peth pwysica' 'rwan. |
| (1, 0) 660 | 'Alla' i ddim ateb hynna. |
| (1, 0) 662 | Wel, 'fyddwch chi ddim o gwmpas eich petha'n iawn am chwe' mis, beth bynnag. |
| (1, 0) 667 | Dim o gwbl. |
| (1, 0) 668 | Fe fydd yn llesol i chi. |
| (1, 0) 669 | Peidio â gorweithio wrth gwrs. |
| (1, 0) 671 | Beth ydy'r maes? |
| (1, 0) 673 | O ia. 'Wn i ddim am dano fo, 'rwy'n ofni! |
| (1, 0) 676 | Na, mi arosa' i nes y bydd eich un chi wedi'i gyhoeddi! |
| (1, 0) 681 | Nos dawch. |
| (1, 0) 682 | Mi gaf eich gweld yfory. |
| (1, 0) 687 | Wel... fe glywsoch be' dd'wedais i funud yn ôl. |
| (1, 0) 689 | Oeddwn, hyd y gwyddwn i. |
| (1, 0) 690 | Rhaid cofio, wrth gwrs, fod ei salwch o,—wel yn un braidd yn gymhleth. |
| (1, 0) 691 | Ond ar ôl heno mae'r rhagolygon yn fwy calonogol, efallai. |
| (1, 0) 694 | Diolch yn fawr. |
| (1, 0) 695 | Mae'n anodd gwrthod. |
| (1, 0) 696 | Beth ydy'o? |
| (1, 0) 701 | Diolch. |
| (1, 0) 703 | Meddwl oeddwn i rwan... |
| (1, 0) 705 | Am y tro cyntaf y dois i yma. |
| (1, 0) 706 | Pa bryd oedd o,─ chwe mis yn ôl, ynte' chwe canrif? |
| (1, 0) 707 | Mae amser wedi colli 'i ystyr rhywsut. |
| (1, 0) 708 | P'run bynnag, 'roedd hi'n noson stormus—. |
| (1, 0) 713 | Ia, rwy'n eich gweld rwan,—eich llygaid yn llawn pryder, a'r gwynt yn datod modrwy fach o'ch gwallt─ |
| (1, 0) 717 | 'Rydy' ni wedi yfed eisoes i Ryddid. |
| (1, 0) 718 | Beth fydd o y tro yma? |
| (1, 0) 721 | Pam? |
| (1, 0) 723 | Ond 'dydy' o ddim gormod i' ofyn. |
| (1, 0) 724 | Onid dyna'r rheswm i ni ddewis mynd ein ffordd ein hunain? |
| (1, 0) 727 | Ein bai ni fyddai hynny. |
| (1, 0) 728 | Os oes unrhyw rwystr yn ein ffordd, mae modd i ni ei symud rwan. |
| (1, 0) 734 | 'Does dim rhaid i chi ddiolch. |
| (1, 0) 735 | Wnes i ddim ond fy nyletswydd. |
| (1, 0) 738 | Os gwnes i, roedd yn waith agos iawn at fy nghalon i. |
| (1, 0) 746 | Gwn,─ llun Sant Jerôm yn 'i guro'i hun â charreg i ddarostwng y cnawd. |
| (1, 0) 748 | Ydy', mi greda'i hynny... |
| (1, 0) 750 | Naddo. |
| (1, 0) 751 | 'Dydw'i ddim yn bwriadu ei yfed nes... |
| (1, 0) 753 | Nes y byddwn wedi dewis y llwnc-destun priodol. |
| (1, 0) 755 | Ydy', rhy hawdd. |
| (1, 0) 756 | Mae'n amser i ni gymryd cam ymlaen rwan. |
| (1, 0) 757 | Wnaeth 'run ohono' ni hawlio Rhyddid er 'i fwyn ei hun. |
| (1, 0) 758 | 'Roedd yna amcan mwy pendant na hynny. |
| (1, 0) 759 | Mae'n syn i'r Awdur beidio â gofyn—Rhyddid i beth? |
| (1, 0) 760 | 'Roedd o'n gwestiwn mor amlwg. |
| (1, 0) 761 | A'r ateb i'r cwestiwn fydd ein llwnc-destun. |
| (1, 0) 763 | 'Does a wnelo' ni ddim â nhw rwan. |
| (1, 0) 765 | Mae ganddyn' nhw eu rhesymau eu hunain. |
| (1, 0) 766 | Seth yn ceisio rhedeg oddi wrth ei gyfrifoldeb, a Mabli oddi wrth ei phenbleth. |
| (1, 0) 767 | A dyna Lewis,—wel, does dim angen dweud am dano fo. |
| (1, 0) 769 | Mae nhw'n wahanol. |
| (1, 0) 770 | 'Roedden' nhw'n ddigon bodlon ar yr hen fywyd... |
| (1, 0) 771 | Roeddwn innau'n fodlon hefyd, nes y gwelais i chi, Ann. |
| (1, 0) 773 | Mae'n ddrwg gen'i os ydy' hynna'n eich digio. |
| (1, 0) 774 | Maddeuwch i mi. |
| (1, 0) 776 | 'Ydych chi'n dweud...? |
| (1, 0) 777 | Ann, beth wnaeth i chi ddyheu am ryddid? |
| (1, 0) 778 | Beth oedd eich cymhelliad? |
| (1, 0) 780 | Dianc oddi wrth beth? |
| (1, 0) 782 | Ia, mi wyddwn i hynna. |
| (1, 0) 783 | 'Doedd dim rhaid i mi ofyn. |
| (1, 0) 786 | 'Rydych chi allan o'r diffaethwch 'rwan, Ann. |
| (1, 0) 787 | Edrychwch i gyfeiriad arall. |
| (1, 0) 788 | Hyd yma, 'rwy' wedi cuddio fy nheimladau, ond rwan... |
| (1, 0) 790 | 'Rwy'n eich caru, Ann. |
| (1, 0) 791 | 'Rwy'n eich caru, gorff ac enaid. |
| (1, 0) 795 | Ann! |
| (1, 0) 798 | Ydw'—ein serch! |
| (1, 0) 800 | Ond 'dyw gwydriad o win Medoc ddim yn deilwng i'r achlysur. |
| (1, 0) 802 | Mae gwin eich gwefus yn felysach, Ann! |