| (1, 0) 360 | 'Neno'r nefo'dd, paid â dechra codi bwganod rŵan 'nei di. |
| (1, 0) 362 | Arglwydd, ma' hi'n brimin yma. |
| (1, 0) 364 | Fydd 'na ddim gwrthwynebiad. |
| (1, 0) 365 | Does gin y ffernols ddim sail i wrthwynebiad. |
| (1, 0) 367 | Yli. |
| (1, 0) 368 | Ty'd yma. |
| (1, 0) 369 | Dos i'r caea 'na. |
| (1, 0) 370 | Stydia hwn yn iawn. |
| (1, 0) 371 | Ma' pob twll wedi'i farcio, reit? |
| (1, 0) 372 | Dos. |
| (1, 0) 373 | Seria fo ar dy go' iti ga'l rhoid taw arnyn nhw yn y pwyllgor 'na. |
| (1, 0) 374 | Ma'r twll cynta ar y range 'i hun. |
| (1, 0) 377 | Gwrthwynebiad o ddiawl. |
| (1, 0) 379 | Helo! |
| (1, 0) 380 | Ashgrove Golf Range... |
| (1, 0) 383 | Sorry about that... |
| (1, 0) 384 | You've been ringing all afternoon? |
| (1, 0) 386 | Lle uffar ti 'di bod?... |
| (1, 0) 388 | Opening times... |
| (1, 0) 389 | From eight in the morning until the last person leaves. |
| (1, 0) 390 | It's floodlit so there's no problem... |
| (1, 0) 391 | No, no, no need to book. |
| (1, 0) 392 | Just come round. |
| (1, 0) 394 | Dy le di ydi atab petha fel hyn yn yr offis 'na. |
| (1, 0) 395 | Pam wyt ti'n porthi bendro'n fan'ma? |
| (1, 0) 396 | Dos i hel y peli 'na ne' rwbath. |
| (1, 0) 398 | Be ti'n feddwl? |
| (1, 0) 401 | Wel? |
| (1, 0) 405 | Sut? |
| (1, 0) 408 | Does 'na ddim craig i fod 'na. |
| (1, 0) 410 | Fedra 'na ddim bod. |
| (1, 0) 412 | Ma' isio chwalu'r diawl wal 'na. |
| (1, 0) 413 | Mi wna'i hefyd un o'r diwrnodia 'ma. |
| (1, 0) 414 | A ma'n siŵr dy fod titha yn mynd fath â rhwbath o'i go'. |
| (1, 0) 416 | Paid â malu awyr. |
| (1, 0) 417 | 'Dw i 'di dy weld ti washi. |
| (1, 0) 418 | Mynd nôl a mlaen ar y range fel tasa rhwbath yn dy gnoi di. |
| (1, 0) 419 | 'Dw i ddim wedi talu arian am beth fel 'na i ryw dw-lal fath â chdi 'i falu o y cyfla cynta geith o. |
| (1, 0) 421 | Be ti'n feddwl, be 'nei di? |
| (1, 0) 423 | Gneud te? |
| (1, 0) 425 | Picia i Bedfords. |
| (1, 0) 427 | Sut gwn i? |
| (1, 0) 428 | Mynd yno a holi, te washi? |
| (1, 0) 430 | Ia. |
| (1, 0) 431 | Rŵan. |
| (1, 0) 432 | Munud 'ma... |
| (1, 0) 433 | Be sy? |
| (1, 0) 435 | Be sy o'i le ar y fan? |
| (1, 0) 437 | Be ti'n mynd i falu nesa? |
| (1, 0) 438 | Hwdia. |
| (1, 0) 440 | A chym' bwyll wir dduw... |
| (1, 0) 442 | Lembo. |
| (1, 0) 445 | Ashgrove Golf Range... |
| (1, 0) 446 | O... |
| (1, 0) 447 | Na, ma'n ddrwg gin i. |
| (1, 0) 448 | Llawn dop wsnos yma. |
| (1, 0) 449 | Rhaid bwcio o flaen llaw, rhaid... |
| (1, 0) 450 | A'r un fath i titha hefyd. washi... |
| (1, 0) 451 | Damia nhw! |
| (1, 0) 452 | Blydi locals. |
| (1, 0) 454 | Arwyn? |
| (1, 0) 455 | Dos at yr ail dwll yn Cae Ffynnon. |
| (1, 0) 456 | Cym'a d'amsar! |
| (1, 0) 464 | Wedi picio i Bedfords. |
| (1, 0) 467 | O'n i'n ama ma' fel hyn basa hi. |
| (1, 0) 469 | Be ar wynab y ddaear ydi petha fel 'na? |
| (1, 0) 471 | Debycach i floda crachod. |
| (1, 0) 473 | I be? |
| (1, 0) 474 | Ydi hi'n fain arnan ni ne' rwbath? |
| (1, 0) 475 | Ydan ni ar y blydi grindil? |
| (1, 0) 476 | Mi fasan ni wedi medru ordro rhei go iawn, bysan? |
| (1, 0) 477 | Llwythi ohonyn nhw. |
| (1, 0) 478 | Mi faswn i wedi medru ca'l rhei am ddim gin y boi 'na sy 'di agor market garden yn Rhos. |
| (1, 0) 479 | Arglwydd Mawr! |
| (1, 0) 480 | Fi ga'th blanning iddo fo. |
| (1, 0) 482 | Ddeudis i ddigon do? |
| (1, 0) 483 | Pawb call yn mynd allan am bryd o fwyd i rwla os oes gynnyn nhw rwbath i' ddathlu. |
| (1, 0) 484 | Ond na, rhaid i hon ga'l rhyw sioe bin yn fan'ma. |
| (1, 0) 486 | Ble ti'n mynd? |
| (1, 0) 489 | Triw ar y diawl iddi, twyt? |
| (1, 0) 492 | Joyce? |
| (1, 0) 493 | 'Dw i'n mynd i Leamington Spa ddydd Mercher... |
| (1, 0) 494 | Cynrychioli'r pwyllgor cynllunio... |
| (1, 0) 495 | Rhyw gonsortiwm o'r ochra yna wedi dangos diddordab yn yr hen bictiwrs 'na yn dre... |
| (1, 0) 496 | Isio troi'r lle'n ganolfan siopio. |
| (1, 0) 497 | 'Dw i'n rhyw feddwl lladd dau dderyn efo un garrag. |
| (1, 0) 498 | E'lla picia' i i Warwick. |
| (1, 0) 499 | Sortio un ne' ddau o betha allan efo Peter tad Nigel ynglŷn â'r cwrs golff 'ma. |
| (1, 0) 500 | Twrna da, Peter. |
| (1, 0) 501 | Peter yn ddyn sy'n mynnu ca'l 'i faen i'r wal... |
| (1, 0) 502 | Rhyw feddwl aros noson yn rhwla. |
| (1, 0) 504 | Ochra braf, 'r ochra yna. |
| (1, 0) 505 | Enwa'r llefydd. |
| (1, 0) 506 | Swyno rhywun. |
| (1, 0) 507 | Be o'dd 'u henwa nhw d'wad? |
| (1, 0) 508 | Y pentrefi 'na... |
| (1, 0) 509 | Morton Morrell. |
| (1, 0) 510 | Norton Lindsey. |
| (1, 0) 513 | Evesham. |
| (1, 0) 514 | Gest ti dy swyno os 'dw i'n cofio'n iawn? |
| (1, 0) 518 | Y ffrog 'na brynis i iti yn Evesham. |
| (1, 0) 519 | 'Dwyt ti byth yn 'i gwisgo hi... |
| (1, 0) 520 | Gwisga hi heno... |
| (1, 0) 523 | Mi fydd Ceinwen gartra... yli... |
| (1, 0) 524 | Chwilia am ryw esgus. |
| (1, 0) 525 | Deuda fod y chwaer 'na sy gin ti ym Machynlleth wedi ffonio. |
| (1, 0) 526 | Y gŵr 'na sy gynni hi wedi ca'l pwl go ddrwg ar 'i galon eto. |
| (1, 0) 527 | Mi ddalltith. |
| (1, 0) 531 | Bydda'n amyneddgar. |
| (1, 0) 537 | Y? |
| (1, 0) 540 | Yli, am y tro dwytha, 'nes i ddim gofyn iti ddwad yma i godi bwganod, Arwyn. |
| (1, 0) 543 | Wedi gneud ma'n nhw. |
| (1, 0) 544 | Hynny ydi, wedi gneud ydach chi ar hyd y beit. |
| (1, 0) 545 | 'Dw i isio fo trwadd ddydd Merchar heb na thwrw bach na thwrw mawr. |
| (1, 0) 546 | Sêl bendith. |
| (1, 0) 547 | A dyna ddiwadd arni. |
| (1, 0) 549 | Pa wahania'th 'neith hynny? |
| (1, 0) 550 | Ma' rhei o'r cyrsiau mwya enwog wrth ymyl mynwant. |
| (1, 0) 551 | Ballybunion? |
| (1, 0) 552 | Glywist ti am fanno? |
| (1, 0) 553 | Dydi'r ffernols sy'n y fynwant 'na ddim yn mynd i falio rhyw lawar nac ydyn? |
| (1, 0) 555 | Be ti'n feddwl, rhyfygu? |
| (1, 0) 556 | Duw, duw, tydi fy nheulu i fy hun wedi'u claddu tu ôl i'r clawdd terfyn 'na. |
| (1, 0) 557 | Yr hen ddyn, mam, y giwad i gyd hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm blydi casânt yno. |
| (1, 0) 559 | Y byw sy'n bwysig, was. |
| (1, 0) 560 | Y byw. |
| (1, 0) 561 | Cofia di hynny. |
| (1, 0) 563 | A phwy sy'n mynd i wrthwynebu? |
| (1, 0) 564 | Tacla'r eglwys 'na ym Mangor? |
| (1, 0) 565 | Does 'na ddim person yma ers dros ugain mlynadd. |
| (1, 0) 566 | Now bach? |
| (1, 0) 567 | Jini? |
| (1, 0) 568 | Harri clochydd? |
| (1, 0) 569 | Trindod ar y naw i godi dani. |
| (1, 0) 570 | Pum mlynadd arall ac mi fyddan nhw'n cau drws y lle a lluchio'r goriad. |
| (1, 0) 571 | Unwaith y mis ma'n nhw'n cynnal gwasana'th yno... |
| (1, 0) 572 | Nyth cacwn, o ddiawl. |
| (1, 0) 573 | Twt lol! |
| (1, 0) 576 | Pa fusnas ydi o iddyn nhw? |
| (1, 0) 579 | Pam ddiawl na wnân nhw ddechra mynychu'r llefydd 'ma os ydyn nhw'n golygu cymaint iddyn nhw? |
| (1, 0) 582 | Pwy sy'n darllan rwts hwnnw? |
| (1, 0) 585 | Ia, ia... |
| (1, 0) 588 | Ond ca'l y maen i'r wal 'naethon ni, te? |
| (1, 0) 591 | Y twll cynta? |
| (1, 0) 592 | Fan'cw, ar y range. |
| (1, 0) 593 | Yr ail? |
| (1, 0) 594 | Cae Ffynnon. |
| (1, 0) 595 | Y trydydd? |
| (1, 0) 596 | Yn fan'cw, Cae Fedwan. |
| (1, 0) 597 | Mi fydd y tee wrth y giât bella'. |
| (1, 0) 600 | Y pedwerydd. |
| (1, 0) 601 | Cae'r Onnan. |
| (1, 0) 602 | Fan'cw. |
| (1, 0) 603 | Lle ma'r hen bonc 'na. |
| (1, 0) 604 | A honno ydi'r broblem. |
| (1, 0) 605 | Wel, na dim problem chwaith. |
| (1, 0) 608 | 'Dw isio'i lle hi i'r green. |
| (1, 0) 610 | Ma' hi ar y ffordd, tydi? |
| (1, 0) 612 | Lle arall roi'r green? |
| (1, 0) 613 | Na. |
| (1, 0) 614 | Mi fydd raid statu'r job lot... |
| (1, 0) 615 | Mi fydd rhaid saethu. |
| (1, 0) 616 | Edrach ymlaen at hynny. |
| (1, 0) 617 | Mi awn ni at y bonc 'na ryw ben bora pan fydd tacla'r pentra 'ma yn rhochian yn 'u gwlâu. |
| (1, 0) 618 | A... |
| (1, 0) 620 | Mi fyddan nhw'n meddwl y bydd hi'n armablydigedon yma. |
| (1, 0) 621 | Y dyddia wedi dwad i ben... |
| (1, 0) 622 | Mi fydd yn ordor ar y diawl. |
| (1, 0) 623 | Ffonia' i di pan fyddwn ni wrthi, iti ga'l dwad draw i weld y sioe... |
| (1, 0) 624 | Ond fydd 'na ddim sioe i neb, na fydd, os nad eith hwn drwadd, a hynny'n reit handi? |
| (1, 0) 625 | Mi 'dan ni'n dallt yn gilydd? |
| (1, 0) 627 | Wyt, gobeithio. |
| (1, 0) 628 | Mi fydda' i'n dy ffonio di o Leamington nos Ferchar. |
| (1, 0) 631 | Chdi, Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, awgrymodd 'mod i'n mynd. |
| (1, 0) 633 | ... beidio â bod yma pan eith hi'n dân? |
| (1, 0) 635 | O, rhaid. |
| (1, 0) 636 | Rhaid bod yn ddoeth. |
| (1, 0) 640 | Damia! |
| (1, 0) 641 | Yli'r rhein. |
| (1, 0) 642 | Mi dyfan drwy rwbath... |
| (1, 0) 643 | 'Dw i di deud a deud wrth yr hogyn Gruff 'ma am roid dôs iawn o sodium chlorate i'r lle 'ma. |
| (1, 0) 644 | Mae o'n deud i fod o wedi gneud. |
| (1, 0) 645 | Dangos rhyw dynia gwag a ballu. |
| (1, 0) 646 | Synnwn i ddim nad ydi o'n bachu 'i hannar o a'i werthu o i'r tacla 'na yn y Ship... |
| (1, 0) 647 | 'Dw i'n deud wrthat ti was, ma'n well ca'l estron i weithio iti. |
| (1, 0) 648 | Llai o stryffîg o beth diawl. |
| (1, 0) 649 | Ond dyna fo, ma' fy llafur i bron ar ben. |
| (1, 0) 650 | Ymhen rhyw bum mlynadd, ga' i roid 'y nhraed i fyny. |
| (1, 0) 651 | Mi redith y lle 'ma 'i hun. |
| (1, 0) 652 | Ca'l rhyw hoe bach myn diawl. |
| (1, 0) 653 | Gweld dipyn ar yr hen fyd 'ma cyn iddi fynd yn rhy hwyr. |
| (1, 0) 664 | Fasa ots gin ti? |
| (1, 0) 666 | Helpu Joyce i nôl y byrdda 'na. |
| (1, 0) 681 | Deud be? |
| (1, 0) 698 | Dwad â phwy yma rŵan? |
| (1, 0) 700 | Ia, ia. |
| (1, 0) 701 | Mi fydd croeso iddo fo bob amsar yn fan'ma. |
| (1, 0) 702 | Mi geith yr un croeso â'i daid. |
| (1, 0) 703 | Ac mi fydd yn esgus am uffar o sbri arall. |
| (1, 0) 704 | Y? |
| (1, 0) 705 | Hynna'n f'atgoffa i... |
| (1, 0) 707 | Ma' gin i lond bŵt o ddiod. |
| (1, 0) 736 | Wele!... |
| (1, 0) 740 | Rhyw hannar awr yn y ffrisar yn ddigon... |
| (1, 0) 742 | Rhaid lladd y gwreiddia. |
| (1, 0) 744 | Mi wna' i , gwna?... |
| (1, 0) 745 | Os na roi di ddôs i'r gwraidd, dwad eto 'neith y sglyfa'th petha. |
| (1, 0) 747 | Iawn. |
| (1, 0) 748 | Iawn. |
| (1, 0) 750 | Dim rhaid iti. |
| (1, 0) 752 | Tua'r chwech 'ma. |
| (1, 0) 754 | Ia. |
| (1, 0) 755 | Ia. |
| (1, 0) 757 | Fydd 'na ddim stomp. |
| (1, 0) 760 | Duw duw, rho'r gora i... |
| (1, 0) 762 | Mi stedda i ar ben y blydi ffrisar efo cloc larwm yn 'y llaw os leci di? |
| (1, 0) 765 | Mi fydd hi'n noson orfoleddus, fythgofiadwy, ddedwydd, lawen. |
| (1, 0) 766 | Iawn? |
| (1, 0) 769 | Yn be? |
| (1, 0) 771 | Pa fag? |
| (1, 0) 773 | Wisgi ma' Arwyn yn 'i yfad. |
| (1, 0) 775 | 'Dw inna hefyd. |
| (1, 0) 777 | Medra! |
| (1, 0) 779 | Wna' i ddim. |
| (1, 0) 781 | Fedra i ddim blydi canu. |
| (1, 0) 783 | Rwbath arall 'lly? |
| (1, 0) 784 | Tra 'ti wrthi? |
| (1, 0) 786 | Y? |
| (1, 0) 792 | Do dam las! |
| (1, 0) 793 | Be 'nei di? |
| (1, 0) 796 | Glenmorangie ddeudis i wrth yr het. |
| (1, 0) 797 | Wn i ddim be gebyst ydi hwn ma' hi wedi'i roid imi. |
| (1, 0) 798 | Gwrando dim ar rywun, te? |
| (1, 0) 799 | Dim. |
| (1, 0) 800 | Duw duw, pan wyt ti'n gneud tsiec i rywun am bron i gant a hannar ti'n disgwl rwbath gwell na rhyw lol fel hyn, twyt? |
| (1, 0) 801 | O'n i isio Glenmorangie yn un swydd i Arwyn. |
| (1, 0) 802 | Hwnnw mae o'n yfad. |
| (1, 0) 803 | Ond dyna fo. |
| (1, 0) 804 | Be sy i' ddisgwl? |
| (1, 0) 807 | 'S gin i amsar i fynd â nhw'n ôl dwad? |
| (1, 0) 808 | Faint 'neith hi? |
| (1, 0) 809 | Oes duw. |
| (1, 0) 813 | Damia! |
| (1, 0) 814 | Ma'r car gin Gruff, tydi? |
| (1, 0) 816 | Y? |
| (1, 0) 818 | Dim byd dylat ti fwydro dy ben yn 'i gylcho... |
| (1, 0) 820 | Gwrando dim, te. |
| (1, 0) 821 | Gwrando dim. |
| (1, 0) 823 | Hogan Dei Pandy. |
| (1, 0) 825 | Fedra i ddim dallt neb yn cyflogi'r hulpan dwp. |
| (1, 0) 828 | Y cwrs naw twll 'na welis i yn y Wirral. |
| (1, 0) 829 | Ro'dd y boi wedi plannu tua thri dwsin o goed. |
| (1, 0) 830 | Wedi dewis pob un ohonyn nhw'n ofalus. |
| (1, 0) 832 | Wedi marcio ar y cynllunia ble o'dd pob un wân jac yn ca'l 'i phlannu. |
| (1, 0) 834 | Dim rwla-rwla. |
| (1, 0) 835 | O naci. |
| (1, 0) 836 | Ro'dd 'na batrwm, sti? |
| (1, 0) 837 | Trefn, rheolaeth. |
| (1, 0) 838 | Y fo o'dd i ddeud. |
| (1, 0) 839 | Neb arall. |
| (1, 0) 841 | A fel 'na bydd hi'n fan'ma dallta. |
| (1, 0) 842 | Fel'na'n union. |
| (1, 0) 848 | A mi fydd raid i hwn ga'l dipyn o help yn y lle 'ma, rhaid? |
| (1, 0) 849 | Ca'l swyddfa bach dwt. |
| (1, 0) 850 | Nid rhyw gwt sinc fel sy gynno fo rŵan. |
| (1, 0) 851 | Ysgrifenyddas bach e'lla. |
| (1, 0) 852 | Gwbod am rywun? |
| (1, 0) 853 | Be am rei o'r petha 'ma sy'n dwad i lawr i'r Ship nos Wenar? |
| (1, 0) 854 | Clywad dy fod ti'n rêl hwyliwr ar rei ohonyn nhw. |
| (1, 0) 856 | Prynu rownd ar ôl rownd, hwn. |
| (1, 0) 857 | Dyna lle ma' mhres i'n mynd sti. |
| (1, 0) 858 | I lawr corn gyddfa hŵrs o Lerpwl. |
| (1, 0) 860 | Deud be d'wad? |
| (1, 0) 862 | Ers pryd? |
| (1, 0) 865 | Gest ti ddarn i'r olwyn 'na? |
| (1, 0) 868 | Be 'nei di rŵan? |
| (1, 0) 870 | Fedri di dynnu un oddi ar rwbath arall? |
| (1, 0) 871 | Ma' 'na ddigon o ryw 'nialwch yn y rhiwal 'na. |
| (1, 0) 873 | Wel, gneud ta te, yn lle porthi bendro yn fan'ma. |
| (1, 0) 891 | A dos i chwilio am ddarn i'r olwyn 'na. |
| (1, 0) 892 | Ma'r cae 'na'n un o beli. |
| (1, 0) 893 | Drycha! |
| (1, 0) 901 | Na! |
| (1, 0) 902 | Trin yr olwyn 'na gynta. |
| (1, 0) 903 | 'Dw i ddim isio fflyd o bobol yn hewian wrth y drws 'na. |
| (1, 0) 904 | Dos wir dduw. |
| (1, 0) 957 | Da i rwbath? |
| (1, 0) 959 | Hon? |
| (1, 0) 964 | Cystal â'r Glenmorangie? |
| (1, 0) 965 | Y? |
| (1, 0) 967 | Hogan Dic Pandy ddim cymaint o hulpan ag o'n i'n feddwl, felly? |
| (1, 0) 969 | Pwy? |
| (1, 0) 971 | Ynglŷn â be? |
| (1, 0) 973 | Ydi hi wedi bod yn mulo am honno eto? |
| (1, 0) 976 | Oes!... |
| (1, 0) 977 | Pa wahania'th 'neith o iddi hi; mi fydd hi... |
| (1, 0) 979 | A ma' hwn yn stwff go lew ydi? |
| (1, 0) 980 | Wel, wel. |
| (1, 0) 984 | Tywallt olew ar y dyfroedd yn ôl dy arfar. |
| (1, 0) 985 | Ti'n giamstar ar hynny bellach. |
| (1, 0) 986 | Giamstar arni 'rioed, Arwyn bach. |
| (1, 0) 987 | Y meistr ar eiria. |
| (1, 0) 988 | Ro'ddat ti'n dipyn o fardd un adag, toeddat? |
| (1, 0) 989 | Be ddigwyddodd? |
| (1, 0) 990 | Be 'nest ti? |
| (1, 0) 991 | Hudo'r hen awen i borfeydd mwy gwelltog? |
| (1, 0) 992 | Ca'l dy dywys gerllaw'r llygredd tawel... |
| (1, 0) 993 | Ac ni ddychwel yr enaid, ia? |
| (1, 0) 998 | Cwpan dena. |
| (1, 0) 999 | Fydda'r hen wraig 'y mam yn 'i hiwsio hi i drin menyn ers talwm. |
| (1, 0) 1003 | Dos â'r diawl peth o'ma. |
| (1, 0) 1004 | Presant bach i Nans. |
| (1, 0) 1007 | Be ma' hi'n da i mi? |
| (1, 0) 1011 | Dwi i wedi deud a deud wrth Gruff 'na am roid matsian i'r job lot. |
| (1, 0) 1012 | 'Dw i isio clirio'r lle 'ma, Arwyn. |
| (1, 0) 1013 | A does 'na ddiawl o neb yn dallt hynny! |
| (1, 0) 1019 | Wel? |
| (1, 0) 1020 | Be amdani? |
| (1, 0) 1084 | Gwylia'r blydi coesa 'na! |
| (1, 0) 1085 | Pwyll! |
| (1, 0) 1086 | Pwyll! |
| (1, 0) 1089 | Gafa'l ynddyn nhw! |
| (1, 0) 1091 | A rho dy law dano fo! |
| (1, 0) 1093 | Fedri di 'neud rwbath heb gwyno d'wad? |
| (1, 0) 1095 | 'D wn i'm duw. |
| (1, 0) 1096 | Tara fo yn fan'ma. |
| (1, 0) 1098 | Fan'ma. |
| (1, 0) 1099 | Rhwla. |
| (1, 0) 1101 | Ty'd â fo i mi 'nei di? |
| (1, 0) 1102 | 'Dw i 'di dysgu bellach 'i bod hi'n haws o lawar gneud petha dy hun yn yr hen fyd 'ma. |
| (1, 0) 1103 | Llai o draffarth o beth diawl. |
| (1, 0) 1105 | Pwy uffar ma' hwnna'n feddwl ydi o? |
| (1, 0) 1107 | Hwnna'n fan'cw. |
| (1, 0) 1108 | Ar y range. |
| (1, 0) 1109 | Yli arno fo. |
| (1, 0) 1112 | Sefyll yn fanna'n rhythu ar bawb. |
| (1, 0) 1113 | Be mae o isio? |
| (1, 0) 1115 | Drw'r chwaral 'na ma'n nhw dwad. |
| (1, 0) 1116 | Ma' gofyn ffensio'r lle. |
| (1, 0) 1117 | Rhwbath i Nigel i' 'neud dros yr ha'. |
| (1, 0) 1118 | O gofio sut cafodd o'i fagu ma' rwbath digon ffetus yn'o fo. |
| (1, 0) 1119 | O, oes. |
| (1, 0) 1120 | Fo beintiodd hwn yli. |
| (1, 0) 1122 | Edrach yn siort ora, tydi? |
| (1, 0) 1123 | Y? |
| (1, 0) 1125 | Paid â'i gada'l hi'n rhy hwyr rŵan. |
| (1, 0) 1128 | Cofia fi ati... |
| (1, 0) 1129 | A Karen hefyd. |
| (1, 0) 1131 | A ffonia'n criw ni heno hefyd tra wyt ti wrthi. |
| (1, 0) 1132 | 'Dw i ddim isio dim lol ddydd Merchar. |
| (1, 0) 1133 | Rhoid sêl bendith arno fo. |
| (1, 0) 1134 | A dyna ddiwadd arni... |
| (1, 0) 1135 | Y babi 'ma, pan gyrhaeddith o... |
| (1, 0) 1136 | Pwy fydd y tad bedydd? |
| (1, 0) 1140 | Ceinwen. |
| (1, 0) 1144 | Pam na fasat ti wedi deud wrtha' i 'u bod nhw wedi cyrra'dd? |
| (1, 0) 1147 | Wir? |
| (1, 0) 1152 | Rhywun i roid trefn arna' i Arwyn? |
| (1, 0) 1158 | Joyce? |
| (1, 0) 1159 | Gwydr, y munud 'ma! |
| (1, 0) 1161 | Gwydra champagne te! |
| (1, 0) 1164 | Digon da byth. |
| (1, 0) 1167 | Ro'th yr hulpan y poteli iawn imi tro 'ma tybad? |
| (1, 0) 1169 | Be welodd hi? |
| (1, 0) 1171 | "Am hynny, cadwn ŵyl", yntê, Arwyn? |
| (1, 0) 1172 | Y? |
| (1, 0) 1176 | Gwranda ar hon yn rhefru. |
| (1, 0) 1177 | E'lla ca' i dipyn o lonydd a chditha gartra. |
| (1, 0) 1178 | Rhoid 'y nhraed i fyny dros yr ha'. |
| (1, 0) 1179 | Gweld yr hen le 'ma'n dwad i drefn. |
| (1, 0) 1180 | Fyddi di ddim yn nabod y lle 'ma mhen chydig fisoedd 'mechan i. |
| (1, 0) 1181 | O, na fyddi. |
| (1, 0) 1182 | Mi fydd hi fel ail Eden yma 'bydd Arwyn? |
| (1, 0) 1183 | Y? |
| (1, 0) 1187 | Oes, gobeithio, am igain punt y botal. |
| (1, 0) 1193 | A lle ma'r Nigel 'ma sy gin ti? |
| (1, 0) 1194 | Wedi picio i'r range ia? |
| (1, 0) 1195 | Euros |
| (1, 0) 1196 | Ble 'dw i fod i roid hwn? |
| (1, 0) 1198 | Hei! |
| (1, 0) 1199 | O'ma! |
| (1, 0) 1200 | Lôn! |
| (1, 0) 1201 | Lle preifat ydi fan'ma! |
| (1, 0) 1202 | Glywist ti fi? |
| (1, 0) 1203 | Euros |
| (1, 0) 1204 | Mae o braidd yn drwm. |
| (1, 0) 1205 | Ga' i 'i daro fo'n fan'ma? |
| (1, 0) 1210 | Y? |