| (0, 3) 281 | Y sawl a fynno gadw pawb i ddisgwyl yn rhy hir amdano ac yntau'r pennaf o'r cwmpeini oll, yna bydd raid myned gyda symbalau a ffaglau i'w geisio a'i ddwyn at ei ddyletswydd. |
| (0, 3) 284 | Yr oeddwn yn tybio, cyn i mi gyrraedd atat, fod rhywun yma yn d'ymyl yn peri rhyw ddrwg ti. |
| (0, 3) 287 | Mae'r geiriau hyn yn peri poen i mi, ac ni ddisgwyliwn monynt gennyt chwaith. |
| (0, 3) 288 | Ni'm denir i gan bob rhyw hogyn gwirion, tydi dy hunan yw fy nghariad i—a'm gŵr. |
| (0, 3) 290 | Peth hy yw cariad hogyn, peth heb barch; peth tyner, mawr ei fryd, yw cariad gŵr. |
| (0, 3) 291 | Bydd ei law ef yn hael a'i fryd yn gyson, hynny fydd yn tynnu merched ato. |
| (0, 3) 293 | Y mae'r gair yna'n gyrru ofn arnaf. |
| (0, 3) 294 | Y mae angau fel sarff wenwynig, yn gorwedd o'r golwg dan y blodau—ni ddylid byth mo'i deffroi hi. |
| (0, 3) 297 | A adwaen innau'r ddeubeth hyn, a pha beth yw eu henwau? |
| (0, 4) 343 | Pa beth sydd arnat, beth sy'n dy flino? |
| (0, 4) 346 | Cymerwch eich lleoedd fel y mynnoch! |
| (0, 4) 347 | Chwi fechgyn, dowch â dŵr i ni olchi'n bysedd. |
| (0, 4) 349 | Pam y sefi di mor synn? |
| (0, 4) 350 | Eistedda ni i lawr. |
| (0, 4) 352 | Beth sydd o'i le arnat? |
| (0, 4) 353 | A wyt ti'n glaf, dywed? |
| (0, 4) 357 | Eistedd! |
| (0, 4) 358 | Dywed ryw air caredig wrthynt! |
| (0, 4) 368 | A saif y gair amdanaf innau hefyd? |
| (0, 4) 371 | Y mae dy lygaid di yn rhythu'n ofnadwy! |
| (0, 4) 372 | Am ba beth y mynni di roi cosb arnaf i, dywed? |
| (0, 4) 376 | Er mwyn cariad Crist, pa beth sydd o'i le arnat, fy nghariad annwyl? |
| (0, 4) 377 | Dyma fi gyda thi, gwel fi, eiddot ti wyf, heddiw ac yn dragywydd. |
| (0, 4) 382 | Duw fo'n gwarchod! |
| (0, 4) 387 | Chwi gyfeillion a cheraint annwyl, y mae rhywbeth yn rhyfedd ar f'anwylyd heddiw. |
| (0, 4) 388 | Ni wn i ddim i ble i droi. |
| (0, 4) 389 | Oni ellwch chwi roi rhyw gymorth i mi? |
| (0, 4) 390 | Dyma fo'n sefyll yn ddigalon ac ar wahan, ac yn sôn am bethau sy'n chwithig. |
| (0, 4) 391 | Ni welais erioed mono fel hyn o'r blaen. |
| (0, 4) 393 | Ni wn i ddim beth a all fod wedi digwydd iddo. |
| (0, 4) 479 | 'Rwy'n erfyn, peidiwch â rhoi'r gorau i ganu. |
| (0, 4) 483 | Da chwithau, na thewch â chanu. |
| (0, 4) 499 | Pobun! |
| (0, 4) 500 | Ie, gwel, dyma dy Gydymaith annwyl. |
| (0, 4) 513 | Ni chlywaf i ddim sain. |
| (0, 4) 524 | Rhaid iti addo hynny i mi, f'anwylyd! |
| (0, 4) 525 | Mi drengwn o ing a gofid pe'th welwn yn fynych fel yna! |
| (0, 5) 546 | Cymorth, Arglwydd Waredwr! |