| (1, 2) 34 | Faint ma un swig yn lladd? |
| (1, 2) 35 | O'r meddwl, o'r cof... |
| (1, 2) 36 | P'un wi isie'i ladd anyway, cadw'r meddwl, canslo mas y cof? |
| (1, 2) 37 | Parte ohono fe. |
| (1, 2) 38 | Mae'n ffycin edrych 'to! |
| (1, 2) 39 | Ond pwy sy'n feistr ar bwy, y meddwl ar y cof neu'r cof ar y meddwl. |
| (1, 2) 41 | Odi mae e'n edrych a jocan pido. |
| (1, 2) 42 | All e ddim credo 'i lyged e. |
| (1, 2) 43 | Reit boi bach. |
| (1, 2) 44 | Fe sy'n cochi nyge fi. |
| (1, 2) 45 | Mae e wedi bod yn Horizon View cwpwl o withe. |
| (1, 2) 46 | Nyge fi gas y fraint. |
| (1, 2) 47 | O'dd e moyn rhywun ifancach. |
| (1, 2) 48 | Ffycin cheek. |
| (1, 2) 49 | Ond fi agorodd y drws. |
| (1, 2) 50 | A mae e'n cofio. |
| (1, 2) 51 | Drycha, mae e fel ffycin bitwrten. |
| (1, 2) 52 | O, Crist 'na pam... |
| (1, 2) 53 | Honna sy'n dod o'r Ladies, draw at 'i ford e. |
| (1, 2) 54 | 'I ffycin wraig e. |
| (1, 2) 55 | Brilliant. |
| (1, 2) 56 | Arllws gweddill 'i beint law i wddwg. |
| (1, 2) 57 | Lawr 'i dwll pwdin. |
| (1, 2) 58 | Bwldagu. |
| (1, 2) 59 | Cerdded mas. |
| (1, 2) 60 | Y missus – all hi ddim deall beth yw 'i hast e... |
| (1, 2) 61 | Beth o'dd e'n feddwl fydden i'n neud? |
| (1, 2) 62 | Cerdded lan a gweud bod |
| (1, 2) 63 | Linda'n cofio ato fe, yn holi pryd o'dd e moyn 'i ffwc nesa...? |
| (1, 2) 84 | Un shot arall. |
| (1, 2) 85 | Un hit cyn wynebu gatre. |
| (1, 2) 86 | Se'n i'n dala'n ddigon ffresh a ifanc i witho'r hotels ma... |
| (1, 2) 87 | Ma'i mor gynnes miwn fan hyn. |
| (1, 2) 88 | Mor gyfforddus. |
| (1, 2) 89 | Ma'r twll lle na sda ni fel ffycin ffridj. |
| (1, 2) 90 | Synnu bod neb o'r bastards yn gallu ca'l cwnad, da'r chill factor sy'n clampo'u coce a'u ceillie nhw. |
| (1, 2) 91 | Ti'n gwbod, hwn yw'r gaea oera wy'n cofio ers i fi fod ar y gêm. |
| (1, 2) 92 | A ma 'ny yn amser hir. |
| (1, 2) 93 | Jest ugen mlynedd. |
| (1, 2) 94 | Coldest winter in Mary's working memory. |
| (1, 2) 95 | Dyddie ffycin creulon. |
| (1, 2) 96 | Yn bob ffycin ffordd. |
| (1, 2) 97 | Iechyd. |
| (1, 2) 98 | Ffyc... wedodd y twllpwdin wrth y manejyr. |
| (1, 2) 99 | Tara... gadawest di dy bants di yn y bedrwm cariad... y rhai patrwm tartan... y wraig ddewisodd nhw ife, bach? |
| (1, 2) 135 | Paid cadw dy gefn at neb bach. |
| (1, 2) 136 | Busnes yn wael odi e bach? |
| (1, 2) 138 | Wyneb newydd? |
| (1, 2) 139 | Ti'n gwbod ble wyt ti?... mute machine myn yffach i. |
| (1, 2) 141 | Ti'n sefyll ar y ffin rhwng dou o'r beats. |
| (1, 2) 142 | Cops canol dre a'r British Transport Police o'r stesion. |
| (1, 2) 143 | Fan hyn ma'r ddou batsh yn cwrdd. |
| (1, 2) 144 | Patrols bob cwpwl o orie. |
| (1, 2) 145 | Lle dodji ar y diawl. |
| (1, 2) 146 | Dim ateb. |
| (1, 2) 147 | A winos off y stesion. |
| (1, 2) 148 | Ma un o nhw wastod yn cario cyllell. |
| (1, 2) 149 | Yr un mewn parka a hen drwser fflêrs, gwallt lawr at 'i sgwydde. |
| (1, 2) 150 | Watsha'r diawl 'na... |
| (1, 2) 151 | Fel arall, siwr gei di amser lyfli... |
| (1, 2) 153 | Tywydd ma ddim yn help chwaith. |
| (1, 2) 154 | Dynnith y cops ti miwn ar noson fel hyn just i ga'l esgus i fynd nôl i'r cop shop am ddishgled a smôc. |
| (1, 2) 155 | Rhai o'r cops lawr na'n real ffycin bastards fyd. |
| (1, 2) 156 | Gropo dy dits di, dwylo lan rhwng dy goese di... |
| (1, 4) 250 | Sori... |
| (1, 4) 251 | Ishe bwyd arnot ti? |
| (1, 4) 254 | Iesu, mae'n oer. |
| (1, 4) 255 | Raid ti fyta rwbeth Lind. |
| (1, 4) 256 | Ma byw ar win chep a dôp yn mynd i whare'r ber a dy du fiwn di. |
| (1, 4) 257 | Ond os yw côt yn dachre troi'n rhacs, tria o leia gadw'r leining yn un pishyn. |
| (1, 4) 258 | Lind? |
| (1, 4) 259 | Ma rhaid ti drio edrych ar ôl dy hunan. |
| (1, 4) 260 | Ne fydd neb moyn ti rhagor. |
| (1, 4) 264 | Mini cod a chips. |
| (1, 4) 266 | Der mlân. |
| (1, 4) 267 | Cyn ddo nhw oeri. |
| (1, 4) 271 | Hyd no'd pan o'dd hwnna yn gwitho o'dd e ddim ddigon i gadw'r lle dwym... |
| (1, 4) 272 | O'dd arfer bod cyllyll a ffyrc, a plat yn y cwpwrt ma... |
| (1, 4) 277 | Felse'r pyntyrs yn mynd i fecso anyway. |
| (1, 4) 279 | Byt. |
| (1, 4) 280 | Rhaid i rywun ddishgwl ar dy ôl di. |
| (1, 4) 281 | A fi yw'r unig un neith. |
| (1, 4) 283 | Weles i un arall, un newydd 'to nithwr. |
| (1, 4) 284 | Yn gwitho ar gornel y stryd tu fas i'r Metropole. |
| (1, 4) 286 | Ru'n osgo. |
| (1, 4) 288 | Ond odd hon mor ffresh, mor ddi-glem... |
| (1, 4) 294 | Ofynnes i am fillet. |
| (1, 4) 296 | O'n i ffaelu agor y bastard cod lan yn y siop, i neud analysis. |
| (1, 4) 297 | Ofynnes i am fillet, O.K... |
| (1, 4) 299 | Allan nhw ddim X-Rayo'r blydi peth cyn i ffrio fe. |
| (1, 4) 300 | Nawr ffycin byt e. |
| (1, 4) 304 | Popeth wy'n ddod i ti, ma rhwbeth yn ffycin rong. |
| (1, 4) 305 | Y takeaway Tandoori, Mexican o'r El Paso. |
| (1, 4) 306 | Chinese o'r chinky corner, kebabs, burgers, Papa Joe Pizza... |
| (1, 4) 308 | Pob teip o fwyd sy ar ga'l yn y byd, wy'n dod ag e i ti. |
| (1, 4) 309 | A ma wastod rhwbeth yn ffycin rong. |
| (1, 4) 312 | Esgyrn yn y fish, spare ribs yn llawn gwthi, pizza yn soggi, sâm Indians yn staeno dy fysedd a dan dy winedd di, kebabs yn stico rhwng dy ddannedd di. |
| (1, 4) 313 | Dim byth thenciw Mary. |
| (1, 4) 314 | Wastod ffycin conan... |
| (1, 4) 317 | Beth yw'r ffycin yappan, y dannod ma Linda? |
| (1, 4) 319 | Y? |
| (1, 4) 323 | Beth yw'r broblem Linda? |
| (1, 4) 325 | Wy'n cymryd piti dros ferch newydd ar y gêm. |
| (1, 4) 326 | Merch sy'n nyrfys, sy'n rhynnu ar gornel stryd. |
| (1, 4) 327 | Gymres i biti drostot ti flynyddo'dd nol... |
| (1, 4) 330 | Duw a ŵyr ble byddet ti nawr se'n i ddim... |
| (1, 4) 333 | Allet ti fod yn farw nawr, se'n i ddim wedi edrych ar dy ôl di. |
| (1, 4) 334 | Ffor ny o't ti'n hedo Linda. |
| (1, 4) 335 | Walle dylen i fod wedi gadel i ti bwdru. |
| (1, 4) 336 | Ti a'r holl drwbwl ti di ddod yn y sgil. |
| (1, 4) 342 | Ti'n ffycin liability Lind. |
| (1, 4) 343 | Pan ffindies i ti, o't ti ar y ffordd mas. |
| (1, 4) 349 | Paid dechre Linda, paid â dechre. |
| (1, 4) 352 | Linda! |
| (1, 4) 354 | Jyst cia dy ffycin ben Linda. |
| (1, 4) 355 | Ti'n y nghlywed i? |
| (1, 4) 356 | Cia'i? |
| (1, 4) 362 | Sa i'n barod. |
| (1, 4) 365 | Linda... |
| (1, 4) 367 | Cer nei di! |
| (1, 4) 369 | Sa i'n barod fenyw. |
| (1, 4) 370 | Cer. |
| (1, 4) 378 | Yffarn Grist. |
| (1, 4) 379 | Ma hi'n ô'r mas fanna heddi. |
| (1, 4) 380 | Os yw hi fel ffridj miwn fan hyn, ma'i fel freezer mas fanna. |
| (1, 4) 381 | Fydde ti ddim yn para mwy na phum muned mas 'na. |
| (1, 4) 382 | Ny'r jyngl oera ar y blaned ma, yw'r ddinas fowr frwnt na mas co. |
| (1, 4) 384 | A gobitho bod e, Mr. Scoot yn rhynnu mas 'na, ne lan 'na... |
| (1, 4) 385 | Gobitho gwmpith e ar y iâ, a gobitho rhewith yr hen dyrdyn i farwolaeth cyn i neb ffeindio fe. |
| (1, 4) 387 | Ond gewn ni anghofio amdano fe a'i deip cyn bo hir. |
| (1, 4) 388 | Wy'n dala i safio. |
| (1, 4) 389 | Fyddwn ni mewn wlad well un o'r diwrnode ma. |
| (1, 4) 390 | Fi a Debs fach. |
| (1, 4) 391 | Yn llygad yr haul. |
| (1, 4) 392 | Yn bywn'n fras. |
| (1, 4) 393 | Diolch yn fowr James. |
| (1, 4) 394 | Ie, un potel arall o'r Chateau de... Runpethteaux plis James. |
| (1, 4) 395 | A paced newydd o Rizlas. |
| (1, 4) 396 | Lwchodd rheina yn y jacuzzi gynne. |
| (1, 4) 397 | Do. |
| (1, 4) 398 | Coch ne gwyrdd? |
| (1, 4) 399 | Y Rizlas lliw aur plis James. |
| (1, 4) 400 | Y seis hir... |
| (1, 4) 402 | A'r amphetamines yn cannu grwndi trw ngwythienne i, fel cadillacs bach arian ar y tarmac twym. |
| (1, 4) 403 | Ochor bella'r pool fydd bryncyn bach, a ffelt gwyrdd drostot fe, a ffloc bach o ddefed yn crwydro nôl a mlân, yn f'atgoffa i o gytre. |
| (1, 4) 404 | A cwpwl o beilons bach plastic, yn ganhwylle ar y gacen. |
| (1, 4) 405 | A tequila sunrise trw straws bobo bore, i roi hwfrad dda i realiti'r dydd cyn dechre dim. |
| (1, 5) 435 | Pam... pam... dere mlân... |
| (1, 5) 436 | Pam? |
| (1, 5) 439 | Pam ddylen i. |
| (1, 5) 440 | Os nad wyt ti'n egluro pam, os nad ydw i'n deall pam bo ti'n oeri dy din ar gornel stryd allai ddim o dy helpu di... |
| (1, 5) 441 | Pam? |
| (1, 5) 443 | Elli di ddim be? |
| (1, 5) 445 | Ffycin stiwdent arall. |
| (1, 5) 448 | 'Na ti bach paid llefen. |
| (1, 5) 450 | Na ti. |
| (1, 5) 452 | Boche bach pert dy ti. |
| (1, 5) 453 | Fel doli fach... |
| (1, 5) 454 | Be ti'n galw dy hun? |
| (1, 5) 456 | Beth yw dy enw di? |
| (1, 5) 458 | Ti di bennu'r drinc 'na nawr? |
| (1, 5) 460 | Ti ishe un arall? |
| (1, 5) 463 | Gwd, nawr grynda Bethan. |
| (1, 5) 464 | Grynda fel se ti mewn ffycin darlith. |
| (1, 5) 465 | Os ydw i neu un o'r merched yn dy weld di rownd y Pier, ar gornel stryd unrhyw le rownd y dre ma, fydd dim gwyneb ar ôl 'dy ti. |
| (1, 5) 466 | Ti'n deall. |
| (1, 5) 467 | Nele pîg y claw hammer 'ma na llafn cyllell yffarn o fes i 'r boche bach pert 'na. |
| (1, 5) 468 | A siwd licet ti fynd nol i dy goleg, i dy fywyd parchus, yn gris cros o greithie. |
| (1, 5) 469 | Nyge whare oboutu odw i Bethan. |
| (1, 5) 470 | Nawr ffyc off mas o ma. |
| (1, 7) 489 | Wthnos ddwetha ges i alwad ffôn, bwco fisit. |
| (1, 7) 490 | O'dd y boi'n thalidomide. |
| (1, 7) 491 | O'dd e angen menyw yn uffernol. |
| (1, 7) 492 | Alli di ddim wanco os nag o's breiche da ti. |
| (1, 7) 493 | O'dd e – Graham o'dd i enw fe – newydd dderbyn furniture allowance blwyddyn. |
| (1, 7) 494 | Saith cant punt. |
| (1, 7) 495 | Benderfynodd e hala'r ffycin lot ar haws. |
| (1, 7) 496 | Ofynnodd e i fi fynd i dŷ e am y noson pan o'dd 'i fam e bant. |
| (1, 7) 497 | Blode yn y stafell wely. |
| (1, 7) 498 | Champagne. |
| (1, 7) 499 | A fi o'dd yr angel o ryw nefoedd bell wedi dod i ymweld ag e. |
| (1, 7) 500 | Se'n i wedi dod a Crist i'r byd, ne tan wrth y duwie, fydden i ddim wedi ca'l mwy o ddiolch. |
| (1, 7) 501 | O'dd e pallu stopo cusanu fi. |
| (1, 7) 502 | Finne'n gadael iddo fe neud. |
| (1, 7) 503 | O'dd e'n salw ti'n gwbod. |
| (1, 7) 504 | Neb moyn twtch ag e medde fe. |
| (1, 7) 505 | "Fydda i byth yn ddewis cynta i neb. Byth." |
| (1, 7) 506 | Fi o'dd y cynta erio'd i roi ffwc iddo fe. |
| (1, 7) 507 | A gas e fwy na jyst y ffwc. |
| (1, 7) 508 | Gas e rwbeth fydde'n aros yn dwym yn i gof e am byth. |
| (1, 7) 509 | 'Nes i'n siwr o 'ny. |
| (1, 7) 510 | Cwpwrt o drysore. |
| (1, 7) 511 | Allor o atgofion le galle fe fynd i addoli am rest i fywyd bach unig e. |
| (1, 7) 512 | Bitch soft... ti'n iawn Linda... rhy soft i'r dyddie ma. |
| (1, 8) 552 | A tithe wedyn yn mynd i godi'n rent ni? |
| (1, 8) 574 | Gad llonydd iddi. |
| (1, 8) 581 | Ca'l dipyn bach o drafferth dygymod â'r gorffennol ma hi heddi, na'i gyd. |
| (1, 8) 583 | New millennium man, siwr bo dim gorffennol da ti. |
| (1, 8) 584 | Wedi cael dy greu mas o gelloedd plastig a dafne o wa'd o'r... |
| (1, 8) 606 | Wedyn? |
| (1, 8) 621 | Mas ar y'n tine? |
| (1, 8) 622 | Fory nesa falle. |
| (1, 8) 623 | Wyt ti o ddifri yn dwyt ti, Scoot? |
| (1, 8) 637 | Ei di 'to Lind? |
| (1, 8) 639 | Sai'n barod. |
| (1, 8) 643 | Linda – ffycin cer. |
| (1, 8) 644 | Cyn i ni golli busnes. |
| (1, 8) 646 | Gad llonydd iddi'r diawl. |
| (1, 8) 647 | Bygwth yn twlu ni mas, wedyn y'n gwawdio ni... |
| (1, 8) 648 | Bastard. |
| (1, 8) 650 | Ble ma dy gydwybod di, Scoot? |
| (1, 8) 651 | Ble ma dy deimlade di? |
| (1, 8) 655 | Bastard brwnt Mr. Scoot. |
| (1, 10) 680 | Ers pryd y'n ni'n becso am y gyfreth? |
| (1, 10) 683 | Paid ti sôn am y gyfreth wrtho i. |
| (1, 10) 693 | Beth ma Linda'n weud yw bo ni'n torri cyfreth arall trw fod yn dair yn y tŷ ma. |
| (1, 10) 708 | Tynna dy got Beth. |
| (1, 10) 714 | Beth... tynna dy gôt. |
| (1, 10) 715 | Wyt ti'n aros. |
| (1, 10) 716 | Beth bynnag ma hon yn weud. |
| (1, 10) 722 | Johnnies fan hyn. |
| (1, 10) 723 | A ma wastod cwpwl ar y silff uwchben y sinc yn y grotto – mewn fynna. |
| (1, 10) 727 | Ma 'na rai pethe... |
| (1, 10) 730 | Ma 'na rai pethe na fydden i byth yn ystyried 'u neud. |
| (1, 10) 733 | Rhai pethe ddylet ti 'u gwrthod, beth bynnag yw'r amgylchiade. |
| (1, 10) 734 | A ma isie ti fod yn siwr o 'ny o'r dechre cynta. |
| (1, 10) 735 | Ma rheole. |
| (1, 10) 738 | Dim sugno na ffwcio heb johnnie. |
| (1, 10) 739 | Ofon Aids yw un o'r pethe gore sy wedi digwydd o'n safbwynt ni. |
| (1, 10) 740 | Sneb yn pallu gwisgo un o'r rhein nawr. |
| (1, 10) 741 | Dim ffwcio lan dy din o gwbwl, am unrhyw arian. |
| (1, 10) 742 | A'n bwysicach na dim byd arall – dim cusanu. |
| (1, 10) 743 | Allu di olchi dy geg a dy gont mas, ond gyda cusan ti'n rhannu rhwbeth mwy, cymryd rhan ohonyn nhw miwn i dy ben di. |
| (1, 10) 744 | A gei di'm gwared blas 'ny am hydoedd. |
| (1, 10) 746 | O, ma hi, y bitsh surbwch ma, yn folon rhannu cyngor â ti nawr. |
| (1, 10) 747 | 'Na ti fraint. |
| (1, 10) 754 | Ti'm di meddwl am bethe fel enw gwaith? |
| (1, 10) 757 | Sdim rhaid i ti gymryd hwn, os na ti moyn. |
| (1, 10) 759 | Cymer ddrinc. |
| (1, 10) 760 | Mi ddangosith Linda i ti le bach mor hapus yw parlwr cefen y menwod. |
| (1, 10) 897 | Chi'ch dwy yn dechre dod mlân yn well... |
| (1, 10) 901 | Newydd fynd. |
| (1, 10) 902 | Ie – mond siarad. |
| (1, 10) 907 | Mond ishe siarad o'dd e achos taw ffycin cop o'dd e. |
| (1, 10) 908 | Plainclothes, o'r Vice Squad. |
| (1, 10) 910 | Jack Bibby. |
| (1, 10) 911 | Ddâth e i 'ngweld i llynedd, i ofyn cwpwl o ffafre erill. |
| (1, 10) 913 | Mae e'n mynd i'n bysto ni. |
| (1, 10) 914 | Reido'r lle ma... |
| (1, 10) 923 | Dyw e ddim byd i neud â hi Lind. |
| (1, 10) 924 | Fi odd e moyn. |
| (1, 10) 925 | Neud ffafar. |
| (1, 10) 927 | Helpu nhw i ddala boi. |
| (1, 10) 928 | Rhyw lecturer. |
| (1, 10) 930 | Dy goleg di siwr o fod. |
| (1, 10) 931 | Ar'u list paedophiles nhw. |
| (1, 10) 932 | Cownsilyr lleol 'fyd. |
| (1, 10) 935 | Rhan o'r bait ma nhw'n seto lan. |
| (1, 10) 939 | Cua dy dwll. |
| (1, 10) 940 | Wy fod i gysylltu ag e, trw gontact, a cynnig merch fach iddo fe. |
| (1, 10) 942 | Ma tair, peder ohonyn nhw boutu thirteen ne fourteen, yn gwitho'r stesion bob prynhawn. |
| (1, 10) 943 | Mynd a'r ferch lan ato fe. |
| (1, 10) 944 | Neud y transaction. |
| (1, 10) 945 | Gadael y gweddill i bois y Vice. |
| (1, 10) 947 | Neith e ddim. |
| (1, 10) 948 | Unwaith ma nhw gyda merch fach ma hen ddynon fel na yn troi'n heli. |
| (1, 10) 949 | Fydd y groten yn olreit. |
| (1, 10) 952 | Am sbel 'to. |
| (1, 10) 953 | Ti'm gwbod fel ma'r cops. |
| (1, 10) 954 | Cyfnewid ffafre bach am gyfnode o ceasefire. |
| (1, 10) 955 | Sa i wedi ca'l yn llusgo o fla'n llys ers tair blynedd nawr. |
| (1, 10) 956 | Achos bo fi wedi dysgu siwt ma whare'r gêm yn y ddinas ma. |
| (1, 10) 959 | Macpherson. |
| (1, 10) 960 | Ti'm yn nabod e? |
| (1, 10) 969 | O's dewis da fi? |
| (1, 10) 972 | O leia gewn ni Nadolig a blwyddyn newydd yn y lle ma heb orffod becso. |
| (1, 10) 973 | Cownto'r takings a cysgu'n dawel... |
| (1, 10) 1007 | Fydde hwn wedi gwrthod llety'r anifel i Mair a Joseff. |
| (1, 10) 1024 | Ie, joia dy Nadolig Scoot. |
| (1, 10) 1025 | Ti a dy deulu bach hapus a dy gydwybod tawel. |
| (1, 10) 1029 | Ca di dy ffycin dwll ar ôl y sioe fach 'na o ffycin solidarity. |
| (1, 10) 1031 | Neith e ddim o'n towlu ni mas. |
| (1, 10) 1032 | Pwy yffarn symude miwn ma? |
| (1, 10) 1034 | Fan hyn? |
| (1, 10) 1035 | Mas fanna yn y bac ma'r 'whyn yn tyfu trw'r patio paving slabs driodd rhoi lawr mish dwetha. |
| (1, 10) 1036 | Slats yn dod off y to, a fynte newydd i riparo fe medde fe... |
| (1, 10) 1037 | Glaw yn dala i ddod miwn lan loft a'r gwyntoedd o'r môr mas fanna yn shiglo bob ffenest yn 'i fframyn... |
| (1, 10) 1038 | A'r elfenne yn sgubo trwy'r llofftydd. |
| (1, 10) 1039 | Mae'n bwrw eira. |
| (1, 10) 1041 | Nadolig llawen i ni'n tair. |
| (1, 10) 1043 | A tithe'r hen fwnc. |
| (2, 2) 1128 | Haia Lind. |
| (2, 2) 1129 | Eat, drink and be merry... |
| (2, 2) 1136 | Os y'n ni'n ca'l parti Nadolig bach, feddyles i bydde tair yn fwy o sbort na dwy. |
| (2, 2) 1139 | Ddethon ni dros y broblem fach 'na'n deidi iawn. |
| (2, 2) 1140 | Rheswm arall gallwn ni ddathlu heddi... |
| (2, 2) 1146 | Ma Beth di bod nôl yn gwitho'r min nose tu fas y Metropole. |
| (2, 2) 1153 | Wthnos nesa, pan fyddwn ni'n ail ddachre, ar ôl Boxing Day, gei di ddod nôl fan hyn. |
| (2, 2) 1154 | I witho da ni. |
| (2, 2) 1156 | Ffyc y gyfreth. |
| (2, 2) 1157 | Ma'r gyfreth, am y tro, yn troi llygad ddall. |
| (2, 2) 1158 | A ma Scoot yn sownd dan y 'mhawen i. |
| (2, 2) 1159 | Ma popeth yn dishgwl yn dwt, yn deidi. |
| (2, 2) 1160 | Yn dyw e Lind? |
| (2, 2) 1166 | Sda hi ddim gwythienne mân yn lledu fel inc mewn dŵr dan gro'n i boche o's e Lind. |
| (2, 2) 1167 | Wrth gwrs bo merch fel hon ddim yw iwso rouge. |
| (2, 2) 1168 | Mae'n cymryd pymtheg mlynedd o biclo dy hunan mewn jin a gwin chep i ga'l boche felna. |
| (2, 2) 1169 | Y boche druta yn y ddinas ma. |
| (2, 2) 1181 | A brain cells ar ôl i neud 'ny. |
| (2, 2) 1195 | Dim byd. |
| (2, 2) 1196 | 'To. |
| (2, 2) 1197 | Heno. |
| (2, 2) 1199 | Wel, do a naddo. |
| (2, 2) 1200 | Nygyw'r cops yn siwr os yw e wedi neud dim. |
| (2, 2) 1201 | Gyda kids. |
| (2, 2) 1202 | Ond ma nhw wedi bod yn agor i bost e dros y miso'dd dwetha... |
| (2, 2) 1205 | A ma nhw wedi ffindio lists porn yn rhestru Lolita Sex, a cwpwl o videos mae e wedi ordro yn ddangos merched dan o'd... |
| (2, 2) 1207 | Sai'n gwbod. |
| (2, 2) 1208 | Merched ifanc iawn anyway. |
| (2, 2) 1209 | Fforna mae e'n ca'l i gics siwr fod. |
| (2, 2) 1210 | A ma 'na'n ddigon i'r cops drio'i hamro fe nawr... |
| (2, 2) 1218 | Pwy wanieth i fi os yw'r hen foi'n mynd lawr am stretch. |
| (2, 2) 1219 | Da rest y nonces ar Rule Forty Three. |
| (2, 2) 1220 | Sa i'n becso. |
| (2, 2) 1221 | Anyway, sdim lot o ddewis da fi. |
| (2, 2) 1224 | Pan o'dd Sammy Scoot yn meddwl bod e wedi ca'l yn gwared ni, wedes i wrtho fe, |
| (2, 2) 1225 | "Fine Mr. Scoot, ond wy'n mynd i ballu helpu D.S. Bibby a'r Vice Squad, ma nhwythe wedyn yn mynd i roi fi a Lindi Lw fan hyn yn y cwrt a fynd 15 Horizon View yn ca'l i enwi yn y cês. |
| (2, 2) 1226 | Nelen i'n siwr o 'ny." |
| (2, 2) 1230 | A 'na pam ma rhaid i fi gadw'n ochor i o'r fargen. |
| (2, 2) 1231 | Wy'n mynd i finalizo'r trefniade a Bibby nawr, ffono'r MacPherson ma i weld os yw e'n cymryd y bait, wedyn y bait yn troi'n jailbait a heno â i a'r dwtsen fach lan i gwrdd ag e. |
| (2, 2) 1232 | Piece of piss gobitho. |
| (2, 2) 1234 | Wy'n gwbod pam bo fi'n neud hyn. |
| (2, 2) 1235 | Pam bo rhaid i fi. |
| (2, 2) 1236 | A ddim jest i droi'r sgriw ar Scoot i adel ni aros ma. |
| (2, 2) 1237 | Am reswm arall fyd. |
| (2, 2) 1238 | Er mwyn rhywun arall. |
| (2, 2) 1241 | Ma pawb yn iwso ni ta pun. |
| (2, 2) 1242 | All part of the service. |
| (2, 2) 1243 | Ac os o's rhaid i ryw ffycin darlithydd politically right on ga'l i fywyd wedi ddistriwo am fod meddwl mochedd da fe... os yw 'ny'n mynd i bywyd yn haws am sbel i fi a'r ferch fach druenus na sy'n gorwedd gatre yn dibynnu arno i... gnâf, mi gysga i'n dawel heno, diolch yn fowr... |
| (2, 2) 1245 | O ie. |
| (2, 2) 1246 | Un peth arall ffindes i mas am y MacPherson ma – odd taw darlithydd yn y adarn Biology yw e. |
| (2, 2) 1247 | Dysgu ti falle? |
| (2, 2) 1249 | Rhoi marce teidi i ti? |
| (2, 2) 1250 | Sai'n beio ti am ymladd i helpu fe, beth bynnag yw dy fotive di. |
| (2, 2) 1251 | Ond paid ti pregethu wrtho i am pwy sy'n iwso pwy, |
| (2, 2) 1252 | Bethan fach. |
| (2, 2) 1413 | Ffycin celwydd. |
| (2, 2) 1414 | Pob gair yn gelwydd Linda. |
| (2, 2) 1416 | Ti brynodd hon yntefe Linda. |
| (2, 2) 1417 | Cadw i'n dy fag i ddangos i rywrai yn y pyb lawr stryd, i ambell berson fel Beth sy'n dangos diddordeb yn dy hanes di. |
| (2, 2) 1418 | Wedodd hi am yr postmark ar yr envelope, ond bod yr envelope ddim yn digwydd bod da hi... |
| (2, 2) 1419 | Wedodd hi am y garden ga's hi Nadolig dwetha, a diwrnode 'i phenblwydd, pob un a llun cath a diawl o ddim tu fiwn... |
| (2, 2) 1422 | Ffycin stori tylwyth teg yw hi. |
| (2, 2) 1423 | A ti ddim yn nabod Lindi Lw. |
| (2, 2) 1425 | Ged y gwir wrthi, Lind. |
| (2, 2) 1428 | Gwed e 'to. |
| (2, 2) 1430 | Gwed y gwir wrthi i, Lind. |
| (2, 2) 1432 | Gwed y gwir. |
| (2, 2) 1434 | Y gwir Lind. |
| (2, 2) 1437 | Lind, gwed y gwir wrthi. |
| (2, 2) 1443 | Ddim y gwir i gyd. |
| (2, 2) 1444 | Ife Lind? |
| (2, 2) 1448 | Weda i'r gwir wrthi, Linda. |
| (2, 2) 1449 | Y gwir i gyd. |
| (2, 2) 1451 | Morwr o Rwsia. |
| (2, 2) 1452 | Wedi aros mlân ar ôl i long e adel. |
| (2, 2) 1453 | Dim arian, dim ffycin contacts. |
| (2, 2) 1454 | Ffindio hon. |
| (2, 2) 1455 | Wanglo'i ffordd miwn i fflat hi, i bywyd hi... |
| (2, 2) 1457 | O'dd e'n gallu byw ar yr elw o'dd hon yn neud mas o werthu i hunan... |
| (2, 2) 1461 | Do. |
| (2, 2) 1462 | Ohono fe. |
| (2, 2) 1463 | O gath. |
| (2, 2) 1464 | Dim llunie o gariad. |
| (2, 2) 1465 | Na dyfodol. |
| (2, 2) 1466 | O'dd e'n alc. |
| (2, 2) 1467 | Yn iwso hi. |
| (2, 2) 1468 | Hala 'i mas bob tywydd. |
| (2, 2) 1469 | Wy wedi clywed yr hanes i gyd. |
| (2, 2) 1470 | Ddim wrth hon wrth gwrs. |
| (2, 2) 1471 | O'dd hi'n gleisie a'n gwte bob nos odd hi'n dod mas i witho. |
| (2, 2) 1472 | Clients mwy choosy ddim ishe hi erbyn 'ny. |
| (2, 2) 1473 | Gorffod gwitho'r tafarne lawr y docs. |
| (2, 2) 1474 | Derbyn rhywun. |
| (2, 2) 1475 | A Sigi'n meddwi'n gachu bob nos, ar i harian hi, ac erbyn 'ny o'dd nol Sigi ddim ishe ffwc wrthi. |
| (2, 2) 1476 | Wellta fe fenwod erill... |
| (2, 2) 1478 | Rhywun i ddod a'r arian miwn, rhywun i ga'l i cholbo a'i chico bob nos pan o'dd Sigi'n feddw gachu... |
| (2, 2) 1481 | 'Na ti'r cariad, na ti'r dyfodol aur o'i blân hi Beth. |
| (2, 2) 1485 | A do, mi âth e nôl i Rwsia. |
| (2, 2) 1486 | Nawr bo honno'n wlad ble ma gangsters a pimps a racketeers yn rhemp. |
| (2, 2) 1487 | Wedi mynd yn ôl i neud i ffortiwn mae e. |
| (2, 2) 1488 | Gyda'i Sysneg carbwl a'i siwtces yn llawn sterling a dollars. |
| (2, 2) 1489 | Fydd e'n ddyn mowr yn Rwsia erbyn hyn. |
| (2, 2) 1490 | Merched yn gwitho'r bars a'r hotels iddo fe, dod miwn a currency tramor. |
| (2, 2) 1491 | British Sigi a'i chain gang o ferched tlawd – pob un yn Linda arall a'r un creithie a'r un ffycin natur llyweth, a'r un marce ffiedd dros 'u cnawd nhw tra bo nhw'n byta cachu i helpu Sigi ddod yn dollar millionaire. |
| (2, 2) 1492 | Paid ti sôn am y cariad rhamantus a'r briodas o'dd ar ddigwydd. |
| (2, 2) 1493 | Ti'n y'n ffycin clwed i Linda? |
| (2, 2) 1494 | Wy di blino arnot ti a'r ffycin celwydde ffycin twp ma. |
| (2, 2) 1499 | Ti ddim di dechre deall 'to. |
| (2, 2) 1500 | Walle nei di byth.. |
| (2, 2) 1504 | Ma dewis da ti Linda... |
| (2, 2) 1512 | Gad hi fynd Beth. |
| (2, 2) 1524 | Nôl daw hi. |
| (2, 2) 1525 | A wy'n gwbod beth wy'n neud, cred ti fi. |
| (2, 2) 1526 | Gas hi magu da'i thad a'i dou frawd. |
| (2, 2) 1527 | Ac o'dd y tri yn i abiwso hi o'r amser o'dd hi'n groten fach. |
| (2, 2) 1528 | With mae'n cwtsho lan ato i a sôn am 'ny. |
| (2, 2) 1529 | Gofyn am help i wynebu beth ddigwyddodd. |
| (2, 2) 1530 | Dro arall ma'i fel gwelest ti ddi nawr... |
| (2, 2) 1532 | Fel croten fach yn cwato'i phen dan y dillad, pallu codi.. |
| (2, 2) 1534 | Ond ma Linda'n mynd o un sefyllfa i'r llall ble ma dynon yn 'i chamdrin hi. |
| (2, 2) 1535 | Fel se hi'n gwahodd 'ny. |
| (2, 2) 1536 | Buodd y Russian na jest a'i lladd hi, fwy nag unweth... |
| (2, 2) 1538 | Ffantasi arall ma hi'n dianc iddo fe yw treulio'r hafe ar ffarm i wnwcl pan o'dd hi'n fach. |
| (2, 2) 1539 | Whare yn y haul, gorwedd yn y gwair twym. |
| (2, 2) 1540 | O'dd y gwair ble o'dd Linda'n blentyn yn llawn nadrodd. |
| (2, 2) 1541 | I thad hi'n pasio mlân i'r wnwcl i hwnnw ymosod yn rhywiol arni hefyd... |
| (2, 2) 1543 | Fi sy wedi cymryd hi miwn, a fi sy wedi cytuno i ballu gadel hi fyw celwydd. |
| (2, 2) 1544 | Ma bargen da ni beth. |
| (2, 2) 1545 | A dyw e ddim o busnes di. |
| (2, 2) 1548 | Ti'n neud mwy o ddrwg nag o les. |
| (2, 2) 1550 | Nag wyt ti ffycin ddim. |
| (2, 2) 1551 | Gad hi fod mas na. |
| (2, 2) 1552 | Ti mond yn i annog hi i fyw y celwydd. |
| (2, 2) 1554 | Paid ti ffycin dechre arno i nawr. |
| (2, 2) 1555 | Bitsh anniolchgar. |
| (2, 2) 1556 | Be sy'n bod arnoch chi gyd heddi. |
| (2, 2) 1568 | Nid pobl, Beth, dynon. |
| (2, 2) 1569 | Os y ti'n whilo am y cansyr, y gwenwyn. |
| (2, 2) 1571 | Nid byd fydde 'ny, ond nefodd. |
| (2, 2) 1573 | Gwerthu dipyn o hunan barch fan hyn, prynu sleishen o ddyfodol ne gobeth fanco. |
| (2, 2) 1574 | I fi, iddi hi. |
| (2, 2) 1575 | Tredo natur yn erbyn y market forces. |
| (2, 2) 1576 | Wy'n trio rhoi pawb arall ar 'u trad ond sa i'n gwbod ble ffwc odw i'n hunan yn sefyll. |
| (2, 2) 1578 | O't ti, y noson 'na ar y pafin, yn y storm. |
| (2, 2) 1581 | Trio dy helpu di o'n i pry'ny hefyd. |
| (2, 2) 1582 | Odd gas dy fi... |
| (2, 2) 1586 | Dim byd ma neb di rhoi o'i wirfodd. |
| (2, 2) 1589 | Ma'r ochr na da ni gyd. |
| (2, 2) 1595 | Beth ti di bo yn neud? |
| (2, 2) 1596 | Studio Lind a fi fel ffycin spesimens ne beth? |
| (2, 2) 1599 | Fydde Linda ddim di sylwi wrth gwrs. |
| (2, 2) 1600 | Ddim hyn yn o'd se ti di pino hi ar ford mewn lab a'i agor hi lan... |
| (2, 2) 1603 | Yn enwedig os taw mond am bythefnos arall fydd rhaid i ti neud. |
| (2, 2) 1605 | Na ddylet. |
| (2, 2) 1606 | Ti wedi ennill rhywbeth – profiad – deall, ond ti di colli ffycin peth wmbreth. |
| (2, 2) 1609 | Os odw i'n colli y'n merch fach i, gweld hi'n cwmpo mas o mywyd i... yn diflannu... a'r ddiwedd yn dod... i gyd achos y gwenwyn ma cannodd o ddynon wedi pwmpo miwn i chorff bach eiddil hi. |
| (2, 2) 1610 | Os wy'n i cholli hi – be wyt ti'n golli? |
| (2, 2) 1611 | Ti'n colli dy hunan. |
| (2, 2) 1612 | Heb ishe – fyddi di fyth yr un peth. |
| (2, 2) 1614 | Beth? |
| (2, 2) 1618 | Jyst ffycin cer nei di. |
| (2, 2) 1630 | Mi o't ti ti fel Debbie 'fyd. |
| (2, 2) 1631 | Pan weles i ti gynta. |
| (2, 2) 1632 | Fel odd Debbie, fel galle hi fod o hyd. |
| (2, 2) 1633 | Ond nawr. |
| (2, 2) 1634 | Sgerbwd a twlle. |
| (2, 2) 1635 | Menwod a twlle. |
| (2, 2) 1637 | Ti a fi yn y jyngl am byth. |
| (2, 2) 1638 | Ond ni'n gallach a neisach na'r ffycin lot o nhw. |
| (2, 2) 1650 | Mr. Scoot. |
| (2, 2) 1660 | A ti wedi meddwi. |
| (2, 2) 1661 | Wedi ca'l llond cratsh. |
| (2, 2) 1662 | Weden i. |
| (2, 2) 1669 | A lyncest ti'r ffycin dictionary! |
| (2, 2) 1672 | Am beth o't ti'n sôn te? |
| (2, 2) 1673 | Siwd i flingo'r crôn odd ar gefne tenantied i leino dy bocedi? |
| (2, 2) 1674 | Siwd i gachu ar y tlawd, a'u neud nhw'n dlotach i ypo dy broffits dy hunan? |
| (2, 2) 1680 | Da fi ne da'r mwnci ma wyt ti'n siarad nawr? |
| (2, 2) 1683 | Jack Bibby. |
| (2, 2) 1684 | Wedodd e'm byd 'tho i jyst nawr. |
| (2, 2) 1687 | Y caff ar y gornel. |
| (2, 2) 1688 | Newydd ddod o 'na odw i nawr. |
| (2, 2) 1691 | Bastard brwnt yw Bibby. |
| (2, 2) 1692 | Boi ciedd. |
| (2, 2) 1697 | Peth braf yw gallu bod mor blês ar dy fyd yntefe Scoot. |
| (2, 2) 1699 | Ti'n hit da dy fets, Nadolig difyr o dy flân di. |
| (2, 2) 1700 | Llond sach o bresante siwr fod... |
| (2, 2) 1704 | A beth ti'n roi i dy wraig te Scoot? |
| (2, 2) 1707 | Yn dyw hi'n fenyw lwcus. |
| (2, 2) 1710 | Menyw lwcus. |
| (2, 2) 1711 | A menyw bert. |
| (2, 2) 1712 | Hardd hyd no'd. |
| (2, 2) 1715 | Na. |
| (2, 2) 1716 | Fyddet ti ddim yn gadel hi'n agos aton ni fan hyn. |
| (2, 2) 1718 | Pan wy'n syrfo tu ôl y bar yn y dre ar y penwthnose, wy'n gweld mas i'r precinct siopa. |
| (2, 2) 1723 | Wrth gwrs. |
| (2, 2) 1725 | Fel pictiwr. |
| (2, 2) 1726 | Glased? |
| (2, 2) 1732 | Cofia, wy wedi sylwi hefyd, er ych bod chi yn gwpwl mor giwt, ti a'r missus, Mr. |
| (2, 2) 1733 | Scoot... |
| (2, 2) 1735 | Chi byth yn twtsiad, odych chi? |
| (2, 2) 1736 | Gafel dwylo, braich am ysgwydd, ambell gusan bach... dim byd felna. |
| (2, 2) 1739 | Mond pan ma nhw da rhywun fel fi. |
| (2, 2) 1767 | Lico'r cap Santa, Mr. Scoot? |
| (2, 2) 1770 | Felna? |
| (2, 2) 1773 | Ti ddim yn cwyno wyt ti Scoot? |
| (2, 2) 1777 | Wy mor no'th o babi bach o dan y lleder ma. |
| (2, 2) 1779 | Fel llaw fach binc mewn maneg dynn. |
| (2, 2) 1781 | Ma'r lleder yn mwytho. |
| (2, 2) 1782 | A ma nghrôn i'n dwym, yn rhwyfus, yn fyw o deimlade. |
| (2, 2) 1783 | Ti'n gweld, ma'r dillad ma yn neud fi deimlo'n neis, ma nhw hefyd mor ymarferol. |
| (2, 2) 1784 | Fel gelli di ddychmygu. |
| (2, 2) 1786 | Costith 'ny i ti fel mae e'n costi i bawb arall. |
| (2, 2) 1787 | Hyd no'd i Sammy Scoot, y mishtir nowr. |
| (2, 2) 1791 | Ma pâr o jeans da fi fanna. |
| (2, 2) 1792 | Allen i newid miwn i rheiny, os wy ti yn mynnu... |
| (2, 2) 1798 | A dyw'r missus, dyw Miriam, ddim yn gwbod amdanon ni. |
| (2, 2) 1799 | Bo na hwrs yn gwitho yn un o dy dai di? |
| (2, 2) 1802 | Beth arall ti'n gadw odd wrthi? |
| (2, 2) 1803 | Odi hi'n gwbod faint wyt ti'n joio bod rownd fan hyn, miwn a mas o'n palwr cefen bach ni? |
| (2, 2) 1808 | Ymddangos fel se ti'n neud lot o waith. |
| (2, 2) 1809 | Riparo ambell ddrws, ambell ffenest. |
| (2, 2) 1810 | Ffidlan oboutu wyt ti gan fwya. |
| (2, 2) 1811 | Paid becso. |
| (2, 2) 1812 | Wy'n deall yn iawn. |
| (2, 2) 1815 | Ni yw'r atyniad. |
| (2, 2) 1816 | Y magnet. |
| (2, 2) 1817 | Yntefe. |
| (2, 2) 1818 | Ni, a'r stafell goch. |
| (2, 2) 1824 | Nid twtsh a ni. |
| (2, 2) 1825 | Ond edrych. |
| (2, 2) 1826 | Odi Miriam yn gwbod am 'ny? |
| (2, 2) 1827 | Amal i waith, wy di sefyll fanna, heb yn wbod i ti Scoot, yn edrych arnot ti a dy lyged wenci wedi hoelio at y twll pipo, dy law di, wastod y llaw dde 'na, yn ddwfwn yn y boced ma... |
| (2, 2) 1828 | Ti'n lico cyrtens pipo yn dwyt ti Scoot? |
| (2, 2) 1829 | Paid becso... ma da ni gyd y'n cyfrinache bach... |
| (2, 2) 1831 | A blys naturiol. |
| (2, 2) 1832 | Whilo cyffro, fel plant drwg, mentro neud y pethe na ddylen nhw... |
| (2, 2) 1833 | A pwy sy'n dy weld di wrthi? |
| (2, 2) 1834 | Mond fi a'r hen fwnci mud. |
| (2, 2) 1835 | Yntefe Scoot... |
| (2, 2) 1840 | Hollol naturiol. |
| (2, 2) 1841 | Rhan o'n natur ni gyd, y pethe bach cudd ma. |
| (2, 2) 1842 | A sdim dishgwl i ti sôn am bethe fel 'na wrth Miriam. |
| (2, 2) 1844 | Lico... |
| (2, 2) 1846 | Deall. |
| (2, 2) 1847 | Na fydde. |
| (2, 2) 1848 | Ne walle bydde hi. |
| (2, 2) 1849 | On sdim dishgwl i chi siarad am bethe fel hyn os e Scoot? |
| (2, 2) 1850 | Cyfrinache bach fel hyn sy'n rhoi blas ar fyw, rhoi mîn ar brofiade dyn... |
| (2, 2) 1851 | Wy'n gwbod. |
| (2, 2) 1854 | Paid becso, bydd popeth yn iawn. |
| (2, 2) 1860 | 'Ny'r gwahaniaeth rhyngo i a Miriam yntefe Scoot. |
| (2, 2) 1861 | Hi yw'r dywysoges. |
| (2, 2) 1862 | Fi yw'r slag. |
| (2, 2) 1863 | Ti'n rhoi popeth iddi hi, yn i thrin hi fel y cheina druta ar y seld – gyda fi allu di'n ffieiddio i, u nhrin i fel baw – ond gyda fi allu di fod yn onest. |
| (2, 2) 1864 | Pan ddaw'r cwsmer nesa miwn, dere di at y twll pipo, Scoot. |
| (2, 2) 1865 | Gei di sioe sbesial. |
| (2, 2) 1866 | Gwed 'tho i beth licet ti weld? |
| (2, 2) 1867 | Be fydde'n dy gynhyrfu di fwya? |
| (2, 2) 1868 | Y sioe ma fydd dy wobr fach di, am ddod a'r tân newydd i dwymo'r hen le ma, am gadw to uwch y'n penne ni am sbel 'to... |
| (2, 2) 1870 | ... Am roi lan da ni cyhŷd, diode hwrs yn gwitho yn un o dy dai di, Mr. Samuel Scoot... |
| (2, 2) 1871 | Licet ti ddod miwn aton ni – ymuno â ni? |
| (2, 2) 1872 | Dou ohonoch chi, dou ddyn mowr cyhyrog yn neud fel fynnoch chi â Mary fach...... y'n iwso i bob siâp... |
| (2, 2) 1874 | Be se ti'n ca'l dod miwn, reit lan at arffed y gwely, i staran, a gwynto mor agos a licet ti... |
| (2, 2) 1876 | Tro cynta erio'd es i da dyn am arian, o'n i gyda ffrind o'r un ysgol... |
| (2, 2) 1877 | O'n i'n eighteen, a hithe yn fifteen, y ddwy o'n i'n mentro gyda'n gilydd, i weld siwd brofiad fydde fe, a odd y ddwy o'n i ishe arian. |
| (2, 2) 1878 | O'n i newydd adel cartre, gadel popeth... |
| (2, 2) 1879 | Boi canol o'd, sales rep, bigodd ni lan, yn 'i gar. |
| (2, 2) 1880 | O'dd e ishe watsho fi yn llio'i cont hi a'i twll tin hi. |
| (2, 2) 1881 | I wyneb e reit miwn na yn ymyl y'n wyneb i. |
| (2, 2) 1882 | A radio'r car mlân, rhyw World Cup... y Final, da Holland a West Germany. |
| (2, 2) 1883 | Y mhen i rhwng coese a boche tin y groten fach ma, a dyn tew yn tuchan a wanco a llais ar y radio yn sôn am total football. |
| (2, 2) 1884 | Sai hyd yn o'd yn cofio pwy enillodd... |
| (2, 2) 1885 | Ond alla i gofio'r tast yn y ngheg i hyd heddi... |
| (2, 2) 1886 | Rwbeth felny licet ti neud Scoot? |
| (2, 2) 1889 | A ma ny'n saffach hefyd yn dyw e. |
| (2, 2) 1890 | Ti wastod wedi lico edrych wyt ti, Scoot? |
| (2, 2) 1894 | Edrych ar ferched bach? |
| (2, 2) 1895 | A whare da dy hunan? |
| (2, 2) 1898 | Yn molchi? |
| (2, 2) 1899 | Yn neud pîpî....? |
| (2, 2) 1900 | A ti'n whare, a whare...? |
| (2, 2) 1904 | Cyffro a cysur run pryd. |
| (2, 2) 1905 | Wy'n deall yn iawn Scoot. |
| (2, 2) 1906 | Ti angen cysur yn dwyt ti, ti'n haeddu dy gyffro... |
| (2, 2) 1907 | Haeddu'r plesere ma ar y slei. |
| (2, 2) 1908 | O'dd gyda ti whâr hefyd yn do'dd e. |
| (2, 2) 1909 | O't ti'n pipo arni hi Scoot? |
| (2, 2) 1914 | A ble o't ti. |
| (2, 2) 1915 | Y bachgen bach... Sammy bach? |
| (2, 2) 1919 | A hithe'n smwddo fan hyn...? |
| (2, 2) 1921 | A dy law yn dy boced Sammy... |
| (2, 2) 1924 | A whare... |
| (2, 2) 1926 | Ti'n dala'n galed Sammy bach. |
| (2, 2) 1928 | Bywyd i hunan da coc, yn do's e Sammy. |
| (2, 2) 1933 | Natur Sammy bach... |
| (2, 2) 1936 | Dychmyga bo ti yn y stafell goch Sammy. |
| (2, 2) 1938 | Ti di bod na ganwaith, tu fiwn dy ben. |
| (2, 2) 1939 | Pan ti'n gorwedd yn y gwely... |
| (2, 2) 1941 | Fel hyn y'n ni'n dachre ontefe. |
| (2, 2) 1944 | Ti'n moyn i fi gario mlân... |
| (2, 2) 1946 | Ti di watsho fi yn neud hyn ddege o withe, yn dwyt ti Sammy? |
| (2, 2) 1948 | Ma'n gwmws be ti ishe yntefe Sammy. |
| (2, 2) 1949 | Am unwaith wyt ti ddim ishe ca'l y dewis. |
| (2, 2) 1950 | Ti wrth dy fodd yr esgus da ti... a nawr Sammy, ti ar dy gefen yn y stafell goch, a pwy odw i? |
| (2, 2) 1951 | Nid Miriam ife? |
| (2, 2) 1952 | Pwy odw i... |
| (2, 2) 1953 | Mary? |
| (2, 2) 1954 | Linda? |
| (2, 2) 1955 | Y Beth fach ifanc 'na? |
| (2, 2) 1956 | Dy whâr di? |
| (2, 2) 1957 | Dy ferch di? |
| (2, 2) 1958 | Am hyn ti'n breuddwydo yntefe Sammy. |
| (2, 2) 1959 | Pan ti'n gorwedd yn dy wely, yn ymyl dy wraig fach ddelicet... am hyn ti'n breuddwydo fel bachgen bach drwg a'i law yn nythu rhwng i goese... am hyn ych chi gyd yn breuddwydo. |
| (2, 2) 1961 | Pob dyn, yn landlord, yn ficer, yn flaenor, yn sant... yn mwytho'u coce yn yr orie cudd, rhwng hanner nos a gole dydd. |
| (2, 2) 1963 | Yn codi cornel carped y meddwl, yn agor drws y seler tywyll Sammy bach... Sammy? |
| (2, 2) 1965 | Dere nawr Sammy... Be ti moyn wrtho i Sammy? |
| (2, 2) 1968 | Wy yn dy garu di Sammy. |
| (2, 2) 1970 | Mor gryf, mor galed.. |
| (2, 2) 1972 | Fel llaw mewn maneg dwym Sammy. |
| (2, 2) 1973 | Bachgen bach yng nghôl 'i fam. |
| (2, 2) 1974 | Fel hyn Sammy... Fel hyn? |
| (2, 2) 1987 | Drych arnot ti Sammy. |
| (2, 2) 1988 | Bob tro ti'n edrych yn y drych cofia hyn... |
| (2, 2) 1989 | Cofia'r noson hyn. |
| (2, 2) 1995 | Mochyn bach yw Sammy. |
| (2, 2) 2008 | Beth wede Miriam, Sammy? |
| (2, 2) 2009 | A dy ffrindie di yn y clwb cinio? |
| (2, 2) 2013 | Wyn yn deall. |
| (2, 2) 2014 | Nid mochyn wyt ti Scoot – ond mwydyn. |
| (2, 2) 2015 | Yntefe? |
| (2, 2) 2017 | Drych Scoot, ti'n llipa. |
| (2, 2) 2018 | Mwydyn bach, yn siwps yn y glaw... |
| (2, 2) 2019 | Ti'n ddim Scoot. |
| (2, 2) 2020 | Heb yr arian yn dy gownt banc di, heb y gwenwyn yn dy galon di, ti'n ddim. |
| (2, 2) 2021 | Ti'n ddim byd. |
| (2, 2) 2023 | Ti'n neud dy arian di, dy ffortiwn mas o hofel fel hyn a menwod fel ni... |
| (2, 2) 2029 | A be se dy ferch fach di, pan dyfith hi, yn troi at hyn, yn dod aton ni fel stiwdent bach di-glem 'na? |
| (2, 2) 2030 | Beth ma'r byd yn ddysgu iddyn nhw Scoot? |
| (2, 2) 2031 | Beth wyt ti a fi yn gadel ar y'n hole iddyn nhw. |
| (2, 2) 2032 | Gwed. |
| (2, 2) 2035 | Cadw di dy broperty a dy barlwr. |
| (2, 2) 2036 | Dy dwlc. |
| (2, 2) 2037 | Cadw'r blydi lot. |