| (1, 0) 5 | Peidwch chi rhoi y bai i gyd arna i. |
| (1, 0) 6 | Odd cyment o fai arnoch chi. |
| (1, 0) 12 | O, peidwch â ffysan. |
| (1, 0) 13 | Ma gyment o waed ar ych trwyn chi a sydd mewn gwmfedyn. |
| (1, 0) 14 | Ac wrth roi ych comands fel ych chi yn 'u galw nhw, roisoch chi y fi yn y cawl. |
| (1, 0) 17 | Wel, wedoch chi 'tro fan hyn'. |
| (1, 0) 18 | Wedoch chi ddim i ble, na pwy ochr, a gofynes i ai i'r chwith, a ateboch chi "Right". |
| (1, 0) 21 | Pidwch chi gweiddi arna i. |
| (1, 0) 22 | Own i'n meddwl mai gweud "Right, tro i'r chwith", o'ch chi yn feddwl a dim "Tro i'r dde", |
| (1, 0) 26 | Wel, welodd neb, do fe, a p'un bynnag, ma Huws y Siop 'na mas yn clapan rownabout. |
| (1, 0) 27 | Ma ise rhywbeth i gadw fe yn y siop. |
| (1, 0) 28 | A ma'r postyn ffôn yna mewn lle twp. |
| (1, 0) 29 | Ma' hwnna yn obstruction fan'na, John. |
| (1, 0) 32 | O, peidwch siarad fel bapa, ddyn. |
| (1, 0) 33 | Allwch chi golbo y tamed tolc 'na mas â'r mwrthwl ych hunan ac os ffaelwch chi, prynwch wing arall, a fe dala i amdani, a fe gewch chi gadw ych 'no claim bonus' am byth, achos bydda i yn mynd i'r 'School of Motoring' rhagor. |
| (1, 0) 36 | Wel gyda'ch holl wenwyn chi, fydde ni yn moyn cell 'yn hunan 'ta beth. |
| (1, 0) 40 | O'n i ddim yn meddwl 'i neud e. |
| (1, 0) 43 | Wel o'ch chi'n gweiddi cyment, own ni wedi panico cyment, o'n i ddim yn gwbod p'un odd y brêc. |
| (1, 0) 68 | O, y... beth sydd wedi digwydd 'te? |
| (1, 0) 82 | O, paid siarad trwy dy het. |
| (1, 0) 83 | Dw i ddim yn credu bod ti yn gwbod beth yw 'mental stability' i ddechre. |
| (1, 0) 88 | O, John, mae Mari yn dod adre o'r coleg dros y Sul, a ma' hi yn dod â ffrind gyda hi. |
| (1, 0) 89 | O dier, odd rhaid iddi ddod heddi, a 'do's dim yn tŷ gen i ond ffish ffingers. |
| (1, 0) 94 | Wel, ma' rhaid i fi fynd i baratoi. |
| (1, 0) 95 | Fyddan nhw yma cyn hir siŵr o fod. |
| (1, 0) 119 | O ca' dy lap, Harri. |
| (1, 0) 120 | Wel 'run man i chi gael gwbod y gwir ─ ni o'n nhw. |
| (1, 0) 121 | Fe banices i ac ath y car mas o gontrol a, wel, chi'n gwbod y rest. |
| (1, 0) 132 | A weda i beth arall wrtho chi. |
| (1, 0) 133 | Mae'r hen bolyn ffôn yna mewn lle peryglus. |
| (1, 0) 134 | Dele fe ddim bod fan yna. |
| (1, 0) 164 | Harri, am beth wyt ti'n siarad? |
| (1, 0) 184 | O, John, pidwch. |
| (1, 0) 185 | Meddyliwch beth all y canlyniade fod. |
| (1, 0) 234 | O John, bachan, beth wyt ti wedi neud iddo fe. |
| (1, 0) 235 | Edrych arno fe. |
| (1, 0) 236 | O, dewch mlan nawr, ma' popeth yn iawn. |
| (1, 0) 237 | 'Wedith John ddim gair wrth neb, ofala i am hynny. |
| (1, 0) 243 | O, John, 'ddylet ti ddim fod wedi 'neud hyn'na. |
| (1, 0) 244 | Weloch chi ei olwg e. |
| (1, 0) 245 | Dw i ddim yn meddwl alla i wynebu fe byth eto. |
| (1, 0) 260 | Os rhywbeth yn bod 'te? |
| (1, 0) 262 | Wel, wel, os dim llawer ers pan fuodd i gefen e o'r blaen. |
| (1, 0) 263 | Wel, pryd aeth e nawr te? |
| (1, 0) 265 | Wel, wel, na beth od yntefe. |
| (1, 0) 280 | Wel, wel, mae'n rhaid iddo fe weld rhywun ynglŷn ag e nawr. |
| (1, 0) 284 | O, sefwch fanna, allwch chi gael peint gyda fi nawr, ma digon gyda fi heddi. |
| (1, 0) 294 | Wel, dyma'r llath i chi. |
| (1, 0) 295 | Odi peint yn ddigon, neu fe allwch chi gael rhagor? |
| (1, 0) 303 | Rarswyd mawr, mae'n rhaid i fi baratoi. |
| (1, 0) 304 | Bydd Mari a'r ffrind yna yma chwap, a John, tynnwch y plaster 'na oddi ar ych trwyn, achos 'dyw e ddim ond yn hela pobol i holi o hyd. |
| (1, 0) 306 | Pwy waedu neith e, achos dim ond lliw gwaed oedd yna i ddechre. |
| (1, 0) 307 | Tynnwch e bant. |
| (1, 0) 310 | Pwy binsho, ddyn, chi fel babi odych. |
| (1, 0) 311 | Dewch 'ma i fi weld. |
| (1, 0) 316 | Wrth gwrs bod e, ne fyddech chi yn chware fel plentyn trwy'r dydd i gael e off. |
| (1, 0) 318 | Wel, pidwch bod yn hir, a pidwch dechre darllen y llyfr 'na yn y bathrwm 'na heddi fel y diwrnod o'r blaen. |
| (1, 0) 322 | Helo. |
| (1, 0) 324 | John ─ ma'n nhw 'ma. |
| (1, 0) 331 | Helo, Roger, shwt ych chi. |
| (1, 0) 332 | Neis cwrdd â chi. |
| (1, 0) 339 | O, dier, odi fe. |
| (1, 0) 341 | O, na, alla i ddim gweud bod fi yn 'u nabod nhw, dim ond 'u gweld nhw yn paso, ie, dim ond 'u gweld nhw yn paso. |
| (1, 0) 345 | O, ma fe wedi mynd i'r bathrwm, fydd e lawr nawr. |
| (1, 0) 349 | Bubbles? |
| (1, 0) 351 | O, ife, wel dewch i iste lawr, nawr te, i neud ych hunan yn gysurus. |
| (1, 0) 355 | Esgusodwch fi, odi ych trowsus chi yn gwasgu arnoch chi yn rhywle? |
| (1, 0) 361 | O, John, dewch 'ma i chi gael cwrdd a ffrind Meri ni. |
| (1, 0) 362 | Roger, dyma John y gŵr. |
| (1, 0) 364 | Ma Roger yn dysgu Cymraeg yn ysgol nos, John. |
| (1, 0) 368 | A John, chi'n gwbod PC Thomas, ma fe yn wncwl i Roger. |
| (1, 0) 371 | Odi, odi, wncwl iddo fe, John. |
| (1, 0) 375 | Wel, shwt ma fe yn wncwl i chi te? |
| (1, 0) 383 | Byddwch dawel, bachan. |
| (1, 0) 384 | Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac ma fe yn neud ecserseisus bob dydd, John. |
| (1, 0) 394 | O chi'n iawn, mae John ni wedi gollwng 'i hunan i fynd yn ofnadŵ o fflabi. |
| (1, 0) 396 | O, chi ddim hanner mor egniol nawr â phan briodes i chi gynta'. |
| (1, 0) 401 | Ie, i gael gweld pa mor ffit ych chi. |
| (1, 0) 403 | Pwy rhy hen, chi newydd weud bod chi mwy ffit nawr nag erioed. |
| (1, 0) 407 | Dewch mlân nawr. |
| (1, 0) 408 | Penliniwch lawr fel mae Roger yn 'i neud. |
| (1, 0) 413 | Dewch ymlaen, bachan. |
| (1, 0) 418 | Nawr te, lan â ti. |
| (1, 0) 425 | Odd Roger yn iawn eich bod chi wedi gollwng ych hunan, fyse eliffant ddim mwy stiff. |
| (1, 0) 432 | O, odd e wedi bod yn trio gneud ecserseisus gyda Roger, a dim shap o gwbwl ac... |
| (1, 0) 433 | O... ych chi, Jen, ddim wedi cwrdd a Roger wrth gwrs. |
| (1, 0) 434 | Roger dyma Mrs. Williams drws nesa. |
| (1, 0) 439 | Mae Roger yn mynd i fod yn P.T. teacher, ac mae'i dad e yn Brif Gwnstabl yn Birmingham a mae Roger wedi dysgu Cymraeg. |
| (1, 0) 440 | Saesnes yw ei fam e, chi'n gweld. |
| (1, 0) 452 | O hen beth cas yw slip disc. |
| (1, 0) 453 | Rwy'n cofio cath 'yn chwaer i e blynydde 'nôl. |
| (1, 0) 454 | O, peth poenus ofnadŵ. |
| (1, 0) 472 | O dewch 'ma, a i 'mofyn tipyn o sultanas i chi nawr, Jên. |
| (1, 0) 497 | O, ti wedi dod 'te. |
| (1, 0) 504 | O, wel, fi ddim yn gwbod. |
| (1, 0) 512 | Mas i ble, bachan? |
| (1, 0) 519 | O, dyw dy dad ddim yn ffysi am y car ers pan gath e bwmp ar y wing rhyw fis yn ôl yn erbyn clawdd. |
| (1, 0) 524 | O na fe te, bydd bwyd yn barod gyda fi erbyn dewch chi'n ôl. |
| (1, 0) 530 | O peidwch becso, ma'r gwaetha drosodd nawr, a ma' Roger i'w weld i bob golwg yn fachgen hyfryd. |
| (1, 0) 531 | Wel dw i ddim wedi golchi llestri brecwast eto, ma'n rhaid i fi fynd ati. |
| (1, 0) 565 | O, Harri bach, weles i erioed shwd beth. |
| (1, 0) 566 | Dw i ddim yn credu alla i edrych yn i wyneb e byth eto. |
| (1, 0) 567 | Gobitho y ceith e bromoshon gloi iddo fe fynd o'r dre yma. |
| (1, 0) 572 | O, paid gwrando ar John i gyd. |
| (1, 0) 573 | Mae e yn fachan neis iawn a gall neb help bod e yn digwydd perthyn i PC Thomas, a maen nhw wedi mynd lawr nawr i weld e a'i wraig yn 'yn car ni. |
| (1, 0) 591 | O, Harri, beth sydd wedi digwydd? |
| (1, 0) 600 | O, John, John bachan, dewch mlan. |
| (1, 0) 606 | O, John, dewch chi, chi wedi cael sioc ofnadŵ. |
| (1, 0) 607 | Bydd popeth yn iawn. |
| (1, 0) 613 | O, ni newydd cael newydd bod Mari a Roger wedi cael smash a roedd e'n ormod i John. |
| (1, 0) 614 | Gath e lewyg bach. |
| (1, 0) 616 | Gwed, wyt ti'n gwbod rhywbeth a o's rhywun wedi cael dolur? |
| (1, 0) 626 | Olreit te, chi John yn siŵr bod chi'n iawn nawr? |