| (1, 1) 103 | Yli, Jonah, does gen i ddim ond dwy law. |
| (1, 1) 104 | A fedra i ddim bod mewn dau le ar unwaith. |
| (1, 1) 106 | Wyt ti ddim wedi clywed cloch y siop yna'n canu ers meityn? |
| (1, 1) 109 | Mae o'n arw o beth fod yn rhaid i mi redeg i lawr o'r lloft a chditha'n fan'ma yn diogi'n braf. |
| (1, 1) 114 | Twt, chdi a dy ddrama! |
| (1, 1) 115 | Dwyt ti'n meddwl am ddim arall. |
| (1, 1) 116 | Dy ben yn y gwynt, a rhywun arall yn gorfod gwneud y gwaith i gyd. |
| (1, 1) 119 | A'r busnas yn mynd yn llai bob dydd. |
| (1, 1) 120 | Siop wir! |
| (1, 1) 121 | Mi fydd yr hwch drwyddi gyda hyn. |
| (1, 1) 133 | Dim eisio i ti fynd rwan. |
| (1, 1) 134 | Mi ydw i wedi gofalu amdano fo. |
| (1, 1) 137 | Tomos Morgan, Ocsiwniar. |
| (1, 1) 138 | Mi wyddost mor groen-dena ydi o. |
| (1, 1) 139 | Mi fuaset yn dy golled o werthu crys gwlanan. |
| (1, 1) 155 | Digon gwir. |
| (1, 1) 156 | Mi ydw i wedi dal heb gwyno'n rhy hir, fel roeddwn i wiriona. |
| (1, 1) 157 | Ond mae yna derfyn ar amynedd y gora. |
| (1, 1) 158 | A ma' hi wedi dwad i'r pen. |
| (1, 1) 160 | Bob dim ar draws ei gilydd─busnas yn mynd i lawr a John Defi efo'r frech goch. |
| (1, 1) 161 | Sut mae modd i neb ddal? |
| (1, 1) 170 | Dydio ddim yn beth naturiol iddo fo golli ei lais yn llwyr. |
| (1, 1) 171 | A dyna'r Steddfod Genedlaethol ymhen pythefnos. |
| (1, 1) 172 | Cam cyntaf ei yrfa fo. |
| (1, 1) 173 | 'Roedd o mor saff o'r wobr gynta ar yr unawd soprano â mod in' sefyll yn fan'ma. |
| (1, 1) 174 | Ond dyna fo, be ydi'r iws siarad? |
| (1, 1) 175 | Does gen ti ddim mymryn o ddiddordeb ond yn dy betha dy hun. |
| (1, 1) 183 | Digon gwir. |
| (1, 1) 184 | Fydd yna ddim cerpyn ar y silff i werthu gyda hyn. |
| (1, 1) 192 | Wel prysured y gaea' ddweda i, ne mi fyddwn wedi llwgu yma! |
| (1, 1) 199 | Tawn i wedi swnian dipyn mwy mi fuaswn yn fwy fy mharch. |
| (1, 1) 200 | Dydi o ddim yn sylweddoli bod yn rhaid i wraig siopwr fyw i fyny i'w safle. |
| (1, 1) 201 | Mi ydw i'n teimlo fy hun yn flerach na neb yn y lle yma. |
| (1, 1) 202 | Mae gen i gywilydd mynd allan bron. |
| (1, 1) 207 | Pwy sy'n mynd i dalu? |
| (1, 1) 209 | Mae o'n mynd i gostio rhyw hanner cant o bunna i ti. |
| (1, 1) 211 | Wel 'dydw i ddim am brynu rhyw sothach rhad yn siwr i ti. |
| (1, 1) 214 | Wel? |
| (1, 1) 216 | Lle mae'r arian? |
| (1, 1) 219 | Be! |
| (1, 1) 220 | Dim o gwbwl. |
| (1, 1) 221 | Dydw i ddim am brynu dillad ar lab yn siwr i ti! |
| (1, 1) 226 | Wyt ti'n meddwl am funud y buaswn i'n mynd at Lloyd o bawb heb arian parod? |
| (1, 1) 227 | Yr hen siswrn mwya' crintachlyd yn yn y lle yma! |
| (1, 1) 228 | A'i wraig o sy' gymaint o ledi fawr! |
| (1, 1) 229 | Mi fuasa' sôn amdana i drwy'r sir cyn pen wythnos. |
| (1, 1) 232 | Mi fuasa'n well gen i fynd o gwmpas mewn barclod brâs a chlocsia na gofyn am hances-boced am ddim ganddyn nhw! |
| (1, 1) 234 | Sut y medri di feddwl am y fath beth? |
| (1, 1) 235 | Oes gen ti ddim teimlad o gwbwl, dwad? |
| (1, 1) 238 | Does dim rhaid i chi gymryd ei bart o yn f'erbyn i. |
| (1, 1) 243 | John Defi reit siwr. |
| (1, 1) 245 | Beth sydd arno fo eisio sgwn i? |
| (1, 1) 249 | Edrychwch yma, Lusa Defis, mi ydw i'n gwybod sut i fagu fy mhlant heb gyngor neb, diolch yn fawr! |
| (1, 1) 250 | Mi ydw i wedi llwyddo'n o lew hyd yn hyn rydw i'n meddwl. |
| (1, 1) 251 | Mae Dilys wedi cychwyn ar ei gyrfa. |
| (1, 1) 252 | A fydda i ddim yn fodlon nes y bydd John Defi hefyd â'i ddyfodol yn ddiogel. |
| (1, 1) 258 | Fuost ti erioed â dy ddau droed ar y ddaear, Jonah. |
| (1, 1) 259 | 'Rwyt ti'n llawn o ryw blania mawr niwlog bob amser. |
| (1, 1) 260 | Ond fi sydd wedi edrych ar ffeithia wyneb yn wyneb, a rhoi nod i'r plant y medran' nhw gyrraedd ato fo. |
| (1, 1) 285 | O! |
| (1, 1) 293 | Wel sôn amdanaf fi'n tafodi! |
| (1, 1) 307 | Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud felly? |
| (1, 1) 313 | Jonah, mi fynna i gael gwybod be'r wyt ti wedi bod yn ei wneud. |
| (1, 1) 318 | John Defi! |
| (1, 1) 319 | 'Roeddwn i wedi anghofio. |
| (1, 1) 320 | A does gen y peth bach ddim llais i weiddi. |
| (1, 1) 322 | Mi ydw i'n poeni nes 'rydw i bron â drysu yn ei gownt o. |
| (1, 1) 325 | Mi wna i'n hollol fel 'rydw i'n leicio, Lusa Defis. |