| (1, 0) 20 | Dafydd, 'y machgen i, 'rwyt ti'n dechreu'r dydd yn bur anweddus. |
| (1, 0) 21 | Y mae'r wawr wedi torri ar ddiwrnod arall, Dafydd. |
| (1, 0) 23 | Testun diolch sydd gennym, Dafydd. |
| (1, 0) 24 | Testun diolch. |
| (1, 0) 25 | Y wawr wedi torri a ninnau mewn tŷ diddos. |
| (1, 0) 28 | Na, nid Buckingham Palas, Dafydd, ond bwthyn cyffredin y gwerinwr. |
| (1, 0) 29 | le, muriau moelion. |
| (1, 0) 30 | Ond diolch am gymaint a hynny. |
| (1, 0) 32 | Goreu'n y byd, Dafydd, goreu'n y byd. |
| (1, 0) 33 | 'Rwy'n sicr y buasai'r bobol sy'n perchenogi'r lle dinôd yma yn falch iawn i wybod eu bod wedi cyfrannu bendithion yn ddiarwybod. |
| (1, 0) 36 | Fe hyderwn hynny, Dafydd. |
| (1, 0) 37 | Fe hyderwn hynny. |
| (1, 0) 38 | Mae llawer i ddyn wedi troi angel yn ddiarwybod o'r tŷ am i fod e wedi anghofio clymu'r ci. |
| (1, 0) 42 | Rhedeg braidd yn ormodol i fyd y moethau 'rwyt ti, machgen i. |
| (1, 0) 44 | Bydd yn amyneddgar, bachan! |
| (1, 0) 45 | Dysg bwyso ar Ragluniaeth. |
| (1, 0) 46 | Wyddost ti ddim pa fendithion ddaw y diwrnod newydd hwn eto. |
| (1, 0) 49 | Diffyg gweledigaeth, 'y machgen i; diffyg gweledigaeth. |
| (1, 0) 51 | Llygad ffydd, Dafydd; llygad ffydd. |
| (1, 0) 52 | Fe wêl dyn lawer. |
| (1, 0) 53 | Mae yna fferm gerllaw, ond oes e, Dafydd? |
| (1, 0) 55 | Pwy ŵyr nad yw hi wedi insiwro yn lled drwm, Dafydd. |
| (1, 0) 56 | Dywedwch rhyw bymtheg cant. |
| (1, 0) 57 | Pwy ŵyr nad yw'r perchennog mewn dyled, a bod angen am dân,─am d─aa─n! |
| (1, 0) 58 | Does dim i buro cymdeithas fel tân, Dafydd. |
| (1, 0) 60 | O, na, na, na, Dafydd. |
| (1, 0) 61 | Dim ond â llygad ffydd, 'y machgen i. |
| (1, 0) 62 | Am argraffu ar dy feddwl di wyf i, na ŵyr dyn ddim pa fendithion a ddaw gyda'r wawr. |
| (1, 0) 63 | Os cofi di, Dafydd, 'doeddwn i ddim mewn sefyllfa i weled rhyw lawer â'r llygad naturiol neithwr.. |
| (1, 0) 64 | Son am dana ì 'rw' i nawr. |
| (1, 0) 66 | Na, Dafydd. |
| (1, 0) 67 | Yr oeddwn wedi edrych ar y gwin pan fyddo goch. |
| (1, 0) 68 | Y ddiod gadarn, Dafydd, fy mab, bydd ofalus gyda'r ddiod gadarn. |
| (1, 0) 70 | 'Roedd crefydd yn y teulu. |
| (1, 0) 71 | Fe ddioddefodd 'y nhad oherwydd i grefydd. |
| (1, 0) 73 | Canu emynau Pantycelyn berfedd nos wrth ladrata ffowls. |
| (1, 0) 74 | Dyna dynnodd sylw'r polisman, Dafydd. |
| (1, 0) 76 | Oedd, falle i fod e. |
| (1, 0) 77 | Ond dyna ddull syml yr hen bobol, weidi. |
| (1, 0) 79 | Rhyfedd meddwl fod fy nhad wedi cael ei ddal am beth mor fach a dwyn ffowls. |
| (1, 0) 81 | Do, Dafydd, do droeon. |
| (1, 0) 82 | Fyddwn i byth yn edrych i lawr hyd yn oed ar ddull syml fel yna o ennill 'y nhamed bara. |
| (1, 0) 83 | Ond, gyda pharch i goffadwriaeth hen ŵr 'y nhad, 'rwy'n credu mod i wedi gneyd mwy o arian mewn noswaith cyn hyn nag a neise fe mewn whech mis wrth ddwyn ffowls. |
| (1, 0) 84 | le, rhai syml oedd yr hen bobol... |
| (1, 0) 85 | Mam, 'run fath wedyn. |
| (1, 0) 87 | 'Roedd hi'n dal cysylltiad agos â'r achos, Dafydd. |
| (1, 0) 88 | Roedd hi'n casglu mewn hen gapel bach yn agos i gartre, ac felly, mewn ffordd o siarad, dipyn o flaen ei hoes. |
| (1, 0) 90 | Wel, oedd, mewn ffordd o siarad, er, mor bell ag yr 'w i'n cofio, roeddem ni fel teulu yn byw yn weddol foethus pan oedd mam yn casglu yn yr hen gapel bach. |
| (1, 0) 91 | Hwyrach fod bendith ar yr achos da. |
| (1, 0) 92 | Gyda llaw, beth oedd dy rieni di, Dafydd? |
| (1, 0) 95 | Ma'n rhai inne hefyd. |
| (1, 0) 97 | Rôn nhw'n bobol barchus gw'lei? |
| (1, 0) 99 | Mae'n beth rhyfedd felltigedig, os bydd pobol wedi byw'n barchus dyw i plant byth yn leico gweyd gair am danyn' nhw. |
| (1, 0) 100 | Mae'r rhan fwyaf o bobol y wlad yma wedi byw mor respectabl nes bod i plant yn ofni i harddel nhw. |
| (1, 0) 101 | 'Rwy' wedi diolch llawer fod 'y nhad ymron cymint o flagard a finne... |
| (1, 0) 103 | Be ddiawl wyt ti'n moyn cysgu mewn sgubor fan hyn os o'dd dy rieni yn bobol barchus? |
| (1, 0) 106 | Be' ti'n feddwl wrth hynny? |
| (1, 0) 108 | Câl digon ar fod yn respectabl? |
| (1, 0) 109 | Be nest ti, meddwi? |
| (1, 0) 111 | Ladratest ti rywbeth? |
| (1, 0) 113 | Beth te? |
| (1, 0) 117 | Ie, ond beth wyt ti'n neyd fan hyn, heb geinog ar dy elw? |
| (1, 0) 120 | 'Doet ti ddim yn deico dy waith, gw'lei. |
| (1, 0) 122 | 'Rown i'n meddwl. |
| (1, 0) 124 | Na wn i. |
| (1, 0) 126 | Bachan, 'rwyt ti fel tiwn rownd. |
| (1, 0) 127 | Beth oet ti─clerc? |
| (1, 0) 130 | Bancer? |
| (1, 0) 132 | Na. |
| (1, 0) 133 | D'wyt ti ddim digon si-miw i fod yn fancer. |
| (1, 0) 134 | 'Doet ti ddim twrne? |
| (1, 0) 137 | Na, 'dos dim digon o'r diawl yndo ti i fod yn dwrne. |
| (1, 0) 138 | Crynhoi insiwrin? |
| (1, 0) 141 | Wel mâs â hi. |
| (1, 0) 143 | Beth? |
| (1, 0) 144 | Beth? |
| (1, 0) 145 | Beth? |
| (1, 0) 147 | Bugel Methodist! |
| (1, 0) 148 | Bugel Methodist! |
| (1, 0) 149 | Ystyria, Dafydd, 'y machgen i. |
| (1, 0) 150 | Ystyria... |
| (1, 0) 151 | Rwy'n hen ŵr penwyn, Dafydd. |
| (1, 0) 152 | Paid a thwyllo hen ŵr! |
| (1, 0) 155 | Wythnos yn ôl? |
| (1, 0) 156 | Wythnos yn ôl? |
| (1, 0) 158 | Dim erioed! |
| (1, 0) 160 | Wel, alli di ddim mynd yn ol 'na? |
| (1, 0) 165 | Dafydd, fy mab. |
| (1, 0) 166 | Dafydd, Dafydd. |
| (1, 0) 167 | Pam na fyset ti'n i phriodi hi? |
| (1, 0) 170 | Pam na fyset ti'n i phriodi hi, Dafydd; pam na fyset ti'n i phriodi hi? |
| (1, 0) 171 | Lodes ffein o'dd y lodes. |
| (1, 0) 172 | Ddylet ti ddim o'i gadel hi. |
| (1, 0) 175 | Odw i ddim yn iawn, Dafydd? |
| (1, 0) 176 | Odw i ddim yn iawn? |
| (1, 0) 179 | Dafydd, Dafydd, paid a thwyllo hen ŵr. |
| (1, 0) 182 | 'Nawr, Dafydd; 'nawr, 'nawr. |
| (1, 0) 187 | Pam na leicwn i, Dafydd? |
| (1, 0) 188 | Pam na leicwn i? |
| (1, 0) 191 | O. |
| (1, 0) 192 | Dafydd, Dafydd! |
| (1, 0) 193 | Mae'n ened i yn dyheu am y cyfle. |
| (1, 0) 195 | Y Parchedig Malachi Jones, B.A., B.D. |
| (1, 0) 196 | Bydd y Parchedig Malachi Jones yn pregethu yma y Saboth nesaf! |
| (1, 0) 197 | Pregethir yng nghyfarfod yr hwyr gan y Parch. Malachi Jones, B.A., B.D. |
| (1, 0) 198 | Malachi Jones, o Gapel Seion! |
| (1, 0) 200 | Pan fydd stormydd bywyd yn torri ar eich traws, pan ddaw'r ddrycin a'r tywyllwch, pwy rydd gysur i'r weddw a'r amddifad? |
| (1, 0) 201 | Malachi Jones! |
| (1, 0) 202 | Pwy fydd barod i godi cardotyn o'r llwch? |
| (1, 0) 203 | Pwy rydd gynhorthwy i'r gweiniaid? |
| (1, 0) 204 | Pwy ond yr hen Falachi. |
| (1, 0) 205 | Fe wela i yr hen saint yn eu hwylio hi drwy ddrycin y gaeaf i glywed yr hen Falachi Jones yn traethu'r genadwri. |
| (1, 0) 208 | Effeithiol iawn. |
| (1, 0) 209 | Odfa rymus iawn. |
| (1, 0) 210 | Malachi Jones ar grefydd ac ymarweddiad. |
| (1, 0) 211 | Yr hen wragedd yn foddfa o ddagrau. |
| (1, 0) 213 | ~ |
| (1, 0) 214 | Arglwydd, gâd i'm dawel orffwys, |
| (1, 0) 215 | Dan gysgodau'r palmwydd clyd, |
| (1, 0) 216 | Lle'r eistedda'r pererinion |
| (1, 0) 217 | Ar eu ffordd i'r nefol fyd. |
| (1, 0) 218 | ~ |
| (1, 0) 219 | le, mae llawer i hen sant yn teimlo'n bur ddiolchgar heno am gysgodau'r palmwydd. |
| (1, 0) 220 | Chwi'r oedrannus sydd o'm blaen i heno, mae ôl llafur a lludded y dydd ar eich hwynebau chwi; mae stormydd bywyd wedi gadael creithiau ar eich gruddiau. |
| (1, 0) 221 | Beth am dani, mobol i? |
| (1, 0) 222 | Beth am gysgodau'r palmwydd? |
| (1, 0) 223 | Deuwch gyda mi. |
| (1, 0) 224 | Mae yno ffynnon risial i'r sychedig, a lle i galon friw i orffwys─dan gysgodau'r palmwydd clyd! |
| (1, 0) 226 | Wyddost ti, neyd sport 'rown i 'nawr, ond nid dyna fel y byswn i'n pregethu. |
| (1, 0) 227 | Mi fyddwn i wedi troi pob pechadur yn yr odfa cyn pen hanner awr. |
| (1, 0) 228 | Bachan, 'rwy'n credu y troiwn i'n hunan cyn y diwedd! |
| (1, 0) 233 | Wel? |
| (1, 0) 234 | Cysuro'r weddw a'r amddifad. |
| (1, 0) 235 | Dweyd gair wrth y bobol ieuainc. |
| (1, 0) 236 | Cynnal ambell i seiat. |
| (1, 0) 237 | O, Malachi Jones yw'r dyn─ |
| (1, 0) 241 | Blino ar beth? |
| (1, 0) 252 | 'Nawr, mi fyswn i yn yng elfen mewn |frock-coat|. |
| (1, 0) 262 | Beth ddigwyddodd? |
| (1, 0) 266 | Shocks i'r saint! |
| (1, 0) 267 | Rwy'n leico hwnna. |
| (1, 0) 268 | Dere gâl i clywed nhw. |
| (1, 0) 279 | Ond be' nest ti i boeni'r saint? |
| (1, 0) 286 | Beth am y─beth yw hwnna─dim y seiat─y Cwrdd Misol? |
| (1, 0) 289 | Wedson nhw ddim un gair? |