| (1, 3) 99 | Ni welais i erioed ddydd mor arw ac mor deg. |
| (1, 3) 106 | Lleferwch, os medrwch, pa beth ydych chwi? |
| (1, 3) 107 | Y Ddewines gyntaf: |
| (1, 3) 108 | Henffych, Macbeth! henffych, bendefig Glamis! |
| (1, 3) 122 | Arhoswch, chwi a'r amherffaith lafar, dywedwch i mi ragor. |
| (1, 3) 123 | Drwy farw Sinel (fy nhad), mi wn fy mod yn arglwydd Glamis. |
| (1, 3) 124 | Ond arglwydd Cawdor? |
| (1, 3) 125 | Y mae pendefig Cawdor eto'n fyw, yn wrda ffyniannus; a bod yn frenin, ni saif hynny ddim y tu mewn i gylch crediniaeth, mwy nag y saif fy nyfod yn arglwydd Cawdor. |
| (1, 3) 126 | Dywedwch o ba le y mae'r wybodaeth ryfedd hon i chwi, neu baham, ar y rhos melltigaid hwn, yr ydych yn ein hatal ar ein hynt â'r fath air darogan? |
| (1, 3) 127 | Tynghedaf chwi, llefarwch! |
| (1, 3) 131 | I'r awyr, y mae'r hyn oedd megis sylwedd wedi toddi i'r gwynt. |
| (1, 3) 132 | Mynaswn ped arosasent! |
| (1, 3) 134 | Bydd eich plant chwi'n frenhinoedd. |
| (1, 3) 136 | A phendefig Cawdor hefyd, onid e? |
| (1, 3) 147 | Mae Arglwydd Cawdor eto'n fyw, paham yr ydych yn fy ngwisgo â dillad benthyg? |
| (1, 3) 152 | Glamis, ac Arglwydd Cawdor! |
| (1, 3) 153 | Y mae'r peth mwyaf eto'n ol.— |
| (1, 3) 154 | Diolch i chwi am eich trafferth.— |
| (1, 3) 155 | Onid ydych yn gobeithio y bydd eich plant chwi'n frenhinoedd, am nad addawyd iddynt lai gan y rhai a roes i mi arglwyddiaeth Cawdor? |
| (1, 3) 160 | Dyma ddywedyd dau wir, fel hapus rag-chware i chware mawr yr ymherodrol bwnc.—Diolch i chwi, foneddigion.— |
| (1, 3) 162 | Ni ddichon y gwahodd goruchnaturiol hwn, fod yn ddrwg nac yn dda: os drwg, paham y rhoes i mi ernes o lwyddiant, yn dechreu gyda gwir? |
| (1, 3) 163 | Yr wyf yn Arglwydd Cawdor. |
| (1, 3) 164 | Os da, paham yr wyf yn ildio i'r awgrym y mae ei erchyll lun yn codi 'ngwallt, ac yn peri i'm calon guro yn erbyn f'asennau, yn groes i arfer natur? |
| (1, 3) 165 | Y mae ofnau presennol yn llai nag erch ddychmygion; |
| (1, 3) 166 | y mae fy meddwl, nad yw'r mwrdwr ynddo eto namyn rhyw ledrith, yn f'ysgwyd gymaint fel y mae ofer dyb yn mygu gallu gweithred, a dim nid oes namyn nad yw. |
| (1, 3) 169 | Os myn siawns fy ngwneuthur i'n frenin, dioer, coroned siawns fi, heb i mi mo'r symud. |
| (1, 3) 172 | Doed a ddel. |
| (1, 3) 173 | Y mae'r amser a'r awr yn rhedeg drwy y dydd garwaf. |
| (1, 3) 175 | Rhowch i mi eich ffafr, yr oedd pethau anghofiedig yn moedro f'ymennydd dwl. |
| (1, 3) 176 | Garedig foneddigion, y mae eich poenau erof i lawr lle trof y ddalen bob rhyw ddydd i'w ddarllen. |
| (1, 3) 177 | Awn tuagat y Brenin. |
| (1, 3) 178 | Meddyliwch am a ddamweiniodd, a phan gaffom amgen hamdden, wedi y bo i'r ysbaid bwyso'r peth, gadawer ini ymddiddan y naill a'r llall yn galon rydd. |
| (1, 3) 180 | Digoned hyn hyd hynny. |
| (1, 3) 181 | Dowch, gyfeillion. |