| (1, 1) 4 | Wel, dyma obaith im' o'r diwedd gael |
| (1, 1) 5 | Llonyddwch. Gwalia sydd, e'rs blwyddi maith |
| (1, 1) 6 | Yn ysglyf wael i'r cledd, a gwaeth na'r cledd, |
| (1, 1) 7 | I frad ei phlant. Ei meibion dewrion hi |
| (1, 1) 8 | Na throent ar faes y gwaed eu cefn ar neb |
| (1, 1) 9 | A chwifio gledd neu anelwaewffon, |
| (1, 1) 10 | Wneir gan eiddigedd yn dylodion llwfr; |
| (1, 1) 11 | Er boddio dig, hwy werthent, ie'r wlad |
| (1, 1) 12 | Ar fronau'r hon eu magwyd; ie'r wlad |
| (1, 1) 13 | I'r hon y rhoisent gynt eu gwaed yn llon, |
| (1, 1) 14 | O! gwae i Gymru, a gwae mwy imi! |
| (1, 1) 15 | Y bradwyr hyn, plant Cymru oeddent hwy. |
| (1, 1) 16 | Ond mwy na hyn,—Plant ty fy nhad o'ent hwy! |
| (1, 1) 17 | Oh! Owen! nesaf frawd imi! Tydi |
| (1, 1) 18 | I'r hwn y rhoddwyd cydgyfartal ran |
| (1, 1) 19 | A mi o'r etifeddiaeth, fynet gael |
| (1, 1) 20 | Yr oll, neu fod heb ddim. Llychwinaist glod |
| (1, 1) 21 | Ac enw ty dy dad trwy droi yn fradwr, |
| (1, 1) 22 | Bradychaist fi, dy frawd; bradychaist wlad |
| (1, 1) 23 | Dy enedigaeth; a bradychu wnest |
| (1, 1) 24 | Ymddiried tad ar wely angeu it. |
| (1, 1) 25 | Do, tynaist i dy lwybrau gwirgam ffol, |
| (1, 1) 26 | Yr hwn fu'n falchder tad a llonder man: |
| (1, 1) 27 | I'm herbyn codaist gleddyf Dafydd lanc, |
| (1, 1) 28 | Yr hwn pan gynt yn blentyn gariais, do, |
| (1, 1) 29 | Ganwaith a mwy mewn mynwes cynes brawd |
| (1, 1) 30 | Fuasai'n falch i farw er ei fwyn! |
| (1, 1) 31 | Oh! Dafydd! Dafydd! tost fu'th anlwc di, |
| (1, 1) 32 | A thostach fyth fy anlwc inau it |
| (1, 1) 33 | Gymeryd felly'th arwain i wneyd cam |
| (1, 1) 34 | A'th wlad, a'th dy, a'th frawd, a thi dy hun! |
| (1, 1) 35 | Gwae, gwae i'r dydd y gorfu i Llewelyn |
| (1, 1) 36 | Ddadweinio cledd i daro brawd mor gu |
| (1, 1) 37 | A Dafydd! Llawer gwell, ie, canmil gwell |
| (1, 1) 38 | Fuasai genyf golli'm gwaed, a'm stad, |
| (1, 1) 39 | A'm bywyd, na'th niweidio di, fy mrawd, |
| (1, 1) 40 | Wrth geisio'u cadw, oni bae er mwyn |
| (1, 1) 41 | Buddianau Cymru;—ond nis gallwn byth |
| (1, 1) 42 | Wel'd Cymru'n cael ei gwerthu i law'r Sais. |
| (1, 1) 43 | Pe costiai cadw Cymru'n rhydd i mi |
| (1, 1) 44 | A'm llaw fy hun d'aberthu di fy mrawd, |
| (1, 1) 45 | Gwnawn hyny hefyd, er y gwybydd Duw |
| (1, 1) 46 | Nod oes ond un anwylach genyf na |
| (1, 1) 47 | Thydi. Ah! Elen hoff, i seren glaer, |
| (1, 1) 48 | Fy ngobaith, cysur, cariad, bywyd, oll, |
| (1, 1) 49 | Yn fuan caf fwynhau dy gwmni hoff! |
| (1, 1) 50 | Ond 'nawr am Dafydd. Yn y carchar mae, |
| (1, 1) 51 | Rwyf finau'n rhydd, yn gryf yn serch fy ngwlad, |
| (1, 1) 52 | A'm holl elynion wedi cilio'n ol. |
| (1, 1) 53 | A gresyn fyddai gadael Dafydd mwy |
| (1, 1) 54 | Un fynyd yn y carchar. Ei ryddhau |
| (1, 1) 55 | A wnaf y fynyd hon! |
| (1, 1) 58 | Cymer y fodrwy yma, dos at geidwad y carchar; par iddo ollwng Dafydd fy mrawd allan, a dwg ef yma. |
| (1, 1) 60 | Mae'n ddoeth i mi wrandaw ar alwadau uchel natur yn fy mynwes. Mae Cymru 'nawr yn rhydd; caiff Dafydd hefyd fod yn rhydd. |
| (1, 1) 61 | Dos, brysia. |
| (1, 1) 63 | Rhaid i mi wneyd cam â mi fy hun, trwy guddio oddiwrth Dafydd y cariad brwd sy'n llenwi'm calon ato. |
| (1, 1) 65 | Wel! |
| (1, 1) 68 | Os daw Griffith fewn, nis gallaf weled Dafydd. |
| (1, 1) 69 | Ac, O, mae'm calon yn hiraethu am y llanc. |
| (1, 1) 70 | Rhaid i Griffith aros. |
| (1, 1) 72 | Hysbysu'r penaeth Ap Gwenwynwyn nas gallaf ei weled heddyw. |
| (1, 1) 74 | Ie, rhaid imi guddio fy nghalon oddiwrth Dafydd. |
| (1, 1) 75 | Rhaid gwisgo gwg lle mynwn wisgo gwên. |
| (1, 1) 76 | Rhaid bod yn swrth lle'r hoffwn fod yn llon. |
| (1, 1) 77 | Ust! |
| (1, 1) 78 | Dyma fe yn d'od. |
| (1, 1) 83 | Dy frawd? Dy D'wysog hytrach d'wed! |
| (1, 1) 84 | Ti gollaist bob rhyw hawl i'm galw'n frawd. |
| (1, 1) 85 | Y dydd dadweiniaist gledd i'm herbyn i. |
| (1, 1) 87 | Er oered oedd y carchar, nid mor oer a'th galon di o bob rhyw deimlad brawdol. |
| (1, 1) 93 | 'Rwy'n rhoddi mantais iti wella'th ffyrdd, |
| (1, 1) 94 | Ceir gwel'd os yw gwenwynig wreiddyn brad, |
| (1, 1) 95 | Fynwesaist yn dy galon, eto'n fyw, |
| (1, 1) 96 | Neu os yw'r carchar wedi ei ladd yn llwyr, |
| (1, 1) 97 | Ac os tyf pren gwladgarwch yn ei le, |
| (1, 1) 98 | Gad im' wel'd ffrwythau |gwladgar| genyt cyn |
| (1, 1) 99 | Y soni am |frawdgarwch| yn fy ngwydd. |
| (1, 1) 100 | Nid brawd imi y neb gasâ ei wlad, |
| (1, 1) 101 | Nid o'r un gwaed a mi y neb wna frad, |
| (1, 1) 102 | A Chymru hoff! Dos bellach i dy dŷ. |
| (1, 1) 104 | O Dafydd! Dafydd! O fy mrawd! fy mrawd! |
| (1, 1) 105 | Gwae fi na feiddiwn roddi ffordd im' serch, |
| (1, 1) 106 | Trwy syrthio ar ây wddf, a golchi ffwrdd |
| (1, 1) 107 | A'm dagrau dy ofidiau un ac oll, |
| (1, 1) 108 | A'th gadw'n ganwyll llygad im' fel cynt! |
| (1, 1) 109 | Ond gwell iti gael profi chwerwedd oer |
| (1, 1) 110 | Dygasedd, enyd fer, yr hwn, fel gwna |
| (1, 1) 111 | Cyffeiriau chwerwon meddyg yru ffwrdd |
| (1, 1) 112 | O'r gwaed y gwenwyn a berygla oes, |
| (1, 1) 113 | A bura'th galon dithau, ac a'th wna |
| (1, 1) 114 | Yn holliach Gymro gwladgar unwaith eto. |
| (1, 3) 168 | Dacw'r castell yn y golwg. |
| (1, 3) 169 | Dacw ffenestr ystafell #Elen |
| (1, 3) 170 | Braidd na thybiwn y gallwn oddiyma ganfod fy angyles ei hun. |
| (1, 3) 175 | Y dyn! |
| (1, 3) 176 | Ystyria beth wyt yn ddweyd! |
| (1, 3) 177 | Oni bae dy fod yn hen gyfaill profedig, torwn dy dafod di allan am y fath sarhad ar Elen. |
| (1, 3) 179 | I mi? |
| (1, 3) 182 | Mae digon o delynorion yn Nghymru. |
| (1, 3) 190 | Boddlon wyf i hyny, a gwystlaf fy mywyd ar ffyddlondeb Elen. |
| (1, 4) 205 | Nid yw yn gwybod dim am y newyddion diweddaf, fy mod wedi arwyddo cytundeb heddwch a Harri brenin Lloegr, trwy yr hwn y mae ef yn ymrwymo fy nghydnabod dros ei oes yn Dywysog Cymru; ac am ymyriad caredig Obollonus a rwymodd y Saeson i heddwch hollol a'r Cymry dros deyrnasiad Harri. |
| (1, 4) 213 | Dyna i ti, Meredith! |
| (1, 4) 246 | O fy Elen anwylaf! |
| (1, 4) 247 | Adwaenwn ei llais yn mhlith mil! |
| (1, 4) 248 | Yr oedd pob nodyn ganai yn taro tant atebol yn fy nghalon. |
| (1, 4) 250 | Ni fu melusach tonc erioed gan eos. |
| (1, 4) 251 | Ac a sylwaist ti, Meredith ar ei chyfeiriadau ataf fi, a'r ffydd oedd ganddi ynof? |
| (1, 4) 254 | Yr wyf yn rhwym o fyn'd ati. |
| (1, 4) 255 | Ac eto mae arnaf ofn ei dychrynu wrth ymddangos yn rhy sydyn. |
| (1, 4) 256 | Ni fynwn chwaeth iddi gredu fy mod wedi clywed ei chân. |
| (1, 4) 257 | Gwn beth a wnaf. |
| (1, 4) 258 | Cymeraf eto ffug-farf y crythwr, a chanaf dôn dan y ffenestr. |
| (1, 4) 259 | Cawn weled sut y try pethau allan. |
| (1, 4) 271 | Mae'n dda gan rai am wychder byd, |
| (1, 4) 272 | Anedd-dai clyd, a chysur: |
| (1, 4) 273 | Y marchog fyn rhyfelfarch chwim, |
| (1, 4) 274 | Ond rhoddwch i'm fy meinir. |
| (1, 4) 275 | Fe gara'r gwenyn flodau hardd, |
| (1, 4) 276 | Fe gara'r morwr tonog li', |
| (1, 4) 277 | Mi garaf finau—rhywun. |
| (1, 4) 278 | ~ |
| (1, 4) 279 | I glustiau'r bardd peroriaeth yw |
| (1, 4) 280 | Y miwsig gana Anian, |
| (1, 4) 281 | Telynau'r wig, yr awel gref, |
| (1, 4) 282 | Ac uchel lef y daran, |
| (1, 4) 283 | A churiad ysgain tòn ar dòn, |
| (1, 4) 284 | A chaniad llon aderyn; |
| (1, 4) 285 | Melusach, mwynach imi'n wir |
| (1, 4) 286 | Llais clir soniarus—rhywun. |
| (1, 4) 296 | Os cryf yw'r castell, cryfach yw |
| (1, 4) 297 | Y cariad byw'n fy nghalon; |
| (1, 4) 298 | Os eiddo'r Iarll yw'r castell hwn |
| (1, 4) 299 | Mi wn pwy bia'r Fanon. |
| (1, 4) 301 | O tyred mwy yn eiddo i mi |
| (1, 4) 302 | Tydi yn wir rwy'n garu; |
| (1, 4) 303 | Cei goron Cymru ar dy ben |
| (1, 4) 304 | A Gwalia Wen i'th foli. |
| (1, 4) 313 | Oh f'anwylyd, mor hyfryd yw cael bod gyda thi drachefn! |
| (1, 4) 314 | Bum yn mron digaloni wrth weled y rhwystrau oedd ar fy ffordd, ond diolch fo i Dduw, y maent wedi diflanu. |
| (1, 4) 317 | Ond yn awr gallwn ganu ar ol cael heulwen glir uwchben. |
| (1, 4) 345 | Ië, diolch i Dduw, gallwn obeithio bellach am flynyddau o heddwch; yna caf gyfle i ddwyn pethau i drefn yn Nghymru, a gall y wlad edrych am fwy o ddedwyddwch ynddynt nag a gawsom er's hir amser. |
| (1, 4) 347 | Cawn ddechreu yma ynte. |