| (1, 1) 21 | Wyt ti'n teimlo'n iawn dwad? |
| (1, 1) 24 | Na wyddet yn amlwg! |
| (1, 1) 25 | Dyna pam roeddet ti'n mynd drwy dy stumia fel mwnci ar ben pric. |
| (1, 1) 26 | Wyt ti'n dechra colli arnat dy hun? |
| (1, 1) 29 | Drama? |
| (1, 1) 30 | Pa ddrama? |
| (1, 1) 33 | Nac oeddwn i. |
| (1, 1) 34 | 'Dydach chi'n dweud dim wrtha i be sy'n mynd ymlaen yma. |
| (1, 1) 35 | Pawb yn mynd a dwad â'i wynt yn ei ddwrn fel cath i gythraul. |
| (1, 1) 36 | Rhy brysur i ddweud dim wrth neb. |
| (1, 1) 38 | Mae o'n wir bob gair, ond ei fod o'n wir hyll i ddeud. |
| (1, 1) 39 | Manteisio arna i am mod i'n ddiniwed bach yn y gongol yma |
| (1, 1) 42 | Ond 'dydw i ddim am ei ddiodde fo, wyt ti'n deall? |
| (1, 1) 43 | Mi ydw inna'n rhywun hefyd. |
| (1, 1) 45 | Taw am funud. |
| (1, 1) 46 | Gad i rywun arall gael gair i mewn weithia. |
| (1, 1) 47 | Mi ydw i wedi bod yn rhy wirion o lawer. |
| (1, 1) 48 | Tawn i wedi rhoi fy nhroed i lawr dipyn mi fuaswn yn cael mwy o barch. |
| (1, 1) 51 | Be ddwedaist ti? |
| (1, 1) 53 | Hidia befo. |
| (1, 1) 54 | Dim o bwys reit siwr. |
| (1, 1) 55 | Mi fedra inna fod yn indipendant hefyd yn siwr i ti. |
| (1, 1) 56 | Ac os na fydd yna altrad mawr yn y lle yma mi fydda i'n mynd at Wmffra dy frawd i aros. |
| (1, 1) 58 | Dydw i ddim wedi penderfynu eto. |
| (1, 1) 59 | Mi gawn ni weld sut y bydd petha'n siapio. |
| (1, 1) 61 | Y ddrama yna sydd gen ti─be' ydi ei henw hi? |
| (1, 1) 63 | Y? |
| (1, 1) 65 | Chlywais i erioed amdani. |
| (1, 1) 67 | Oes yna bregethwr ynddi hi? |
| (1, 1) 70 | Dydi hi'n dda i ddim felly. |
| (1, 1) 71 | Does yna ddim llawer o raen ar ddrama heb bregethwr a blaenor neu ddau. |
| (1, 1) 72 | Dyfnder sydd arnat ti eisio mewn drama, machgen i, dyfnder. |
| (1, 1) 73 | A digon o le i grio. |
| (1, 1) 78 | Paid â siarad drwy dy het. |
| (1, 1) 88 | Dim gwahaniaeth; os nad oes yna bregethwr yn eu canol nhw, rown i ddim ceiniog a dima am ei gweld hi. |
| (1, 1) 93 | Ia, rhyw syniada mawr fuo gen ti 'rioed... |
| (1, 1) 94 | Ond dim yn dwad ohonyn nhw, byth! |
| (1, 1) 96 | Pam na actiwch chi'r "Ferch o Gefn Brith"? |
| (1, 1) 97 | Dyna i ti ddrama os leci di! |
| (1, 1) 98 | A dau bregethwr, a 'dwn i ddim faint o flaenoriaid. |
| (1, 1) 100 | Mi ydw i wedi'i gweld hi'n cael ei hactio ddeg o weithiau. |
| (1, 1) 101 | A chrio lond fy mol yn braf bob tro. |
| (1, 1) 108 | Fuasa fo ddim yn clywed holl glychau Aberdyfi pan mae o'n mynd drwy 'i betha. |
| (1, 1) 117 | Gwir bob gair! |
| (1, 1) 118 | Byw mewn breuddwyd. |
| (1, 1) 126 | 'Rwyt ti'n gwneud drama o bob dim, lanc! |
| (1, 1) 141 | Crys gwlanan ydi crys gwlanan lle bynnag y mae o. |
| (1, 1) 142 | Hwnnw sy'n dwad â bara menyn i ti, nid Bacmeth, ne beth bynnag wyt ti'n ei alw fo. |
| (1, 1) 144 | Paid â rhagrithio mor ryfygus! |
| (1, 1) 145 | Oes gen ti ddim cywilydd o gwbwl, dwad? |
| (1, 1) 146 | Dy ben yn y niwl a'r cwsmeriad yn mynd yn llai bob dydd. |
| (1, 1) 147 | A dy wraig yn gweithio'i bysedd i'r esgyrn. |
| (1, 1) 148 | Dydi hi ddim wedi cael het newydd ers ugain mlynedd bron─heb sôn am wsnos o holide. |
| (1, 1) 149 | Mae gen ti galon o garreg os medri di ddal ati mor ddihitio. |
| (1, 1) 151 | Paid â thorri ar fy nhraws i o hyd. |
| (1, 1) 152 | Rho gyfle i rywun arall ddweud gair weithia. |
| (1, 1) 153 | Nid mewn drama 'rwyt ti rwan cofia. |
| (1, 1) 154 | Mae'n hen bryd i ti ddeffro a mynd o gwmpas dy betha, machgen i, cyn iddi fynd yn rhy hwyr. |
| (1, 1) 162 | Paid â dechra llempian yn fan'ma rwan. |
| (1, 1) 163 | Fedra i ddim diodda neb yn snwffian o gwmpas y lle. |
| (1, 1) 164 | Be ydi tipyn o frech goch, dwad? |
| (1, 1) 165 | Diolcha nad ydi o ddim gwaeth. |
| (1, 1) 181 | Beth am y siop yna, machgen i? |
| (1, 1) 182 | Yn fan'ma mae dy ddyletswydd gynta di. |
| (1, 1) 197 | Paid â bod mor goeglyd. |
| (1, 1) 198 | Mae ganddi hi le i gwyno goelia i. |
| (1, 1) 222 | Wyt ti'n drysu, dwad? |
| (1, 1) 236 | Wyt ti'n mynd i ddechra llempian eto? |
| (1, 1) 237 | 'Rwyt ti'n rhy barod dy ddagra o lawer, merch i. |
| (1, 1) 239 | O, paid â siarad mor ynfyd, da chdi! |
| (1, 1) 240 | Mi ydw i'n gwybod sut i' drin o'n well na chdi'n amlwg. |
| (1, 1) 242 | Oedd yna rywun yn cnocio, dwad? |
| (1, 1) 246 | O gad iddo fo am funud. |
| (1, 1) 247 | Wnaiff o ddim drwg iddo fo ddisgwyl dipyn. |
| (1, 1) 248 | Mae o'n mynd yn ormod o fabi-mam o lawer. |
| (1, 1) 253 | Hy! |
| (1, 1) 264 | Dim cwestiwn o hynny, ma' hi'n byw mewn breuddwyd fel titha! |
| (1, 1) 276 | Hei! |
| (1, 1) 278 | 'Tyrd i lawr o'r sêr am funud, wnei di? |
| (1, 1) 279 | Beth wyt ti'n ei breglach, dwad? |
| (1, 1) 294 | Aros am funud. |
| (1, 1) 295 | 'Rydach chi'ch dau cyn waethed â'ch gilydd. |
| (1, 1) 297 | Tyrd yn ôl at y pwnc, machgan i. |
| (1, 1) 300 | 'Roeddet ti'n dweud y medret ti dalu hanner can punt i Lloyd ddiwedd y flwyddyn. |
| (1, 1) 302 | Ple 'rwyt ti'n mynd i gael yr arian? |
| (1, 1) 312 | Ddaw o ddim i 'sgidia Twm o'r Nant! |
| (1, 1) 323 | Twt, rhwbia 'i gorn gwddw fo efo dipyn o saim gŵydd. |
| (1, 1) 324 | Mi fydd yn iawn erbyn 'fory. |
| (1, 1) 327 | Hy! |
| (1, 1) 331 | Jonah! |
| (1, 1) 334 | Wyt ti'n fyddar, dwad? |
| (1, 1) 335 | Mae yna rywun yn y siop. |
| (1, 1) 339 | Wyt ti'n dechra arni eto? |
| (1, 1) 348 | Hy! |
| (1, 1) 350 | Dim i'r sawl sy'n gweithio. |
| (1, 1) 360 | 'Rydach chi wedi deud hynna o'r blaen, ddyn! |
| (1, 1) 364 | Ma' hynny'n amlwg i bawb. |
| (1, 1) 366 | Dydi o wedi gwneud dim ond bwhwman dan ei wynt ers pan mae o yma... |
| (1, 1) 367 | O'r cry'cmala felldith yma! |
| (1, 1) 368 | Mae o'n fy lladd i'n lân. |
| (1, 1) 370 | Cariwch ymlaen efo'ch swgrsio. |
| (1, 1) 371 | Mae o'n siwr o fod yn destun dwfn! |
| (1, 1) 373 | Bydd di'n ofalus hefyd, machgan i. |
| (1, 1) 374 | Mi ydw i â fy llygaid arnat ti! |
| (1, 1) 377 | Hy! |