| (1, 0) 102 | Mae'n rhy hwyr i hynny, wyddoch chi. |
| (1, 0) 103 | Mae pethau wedi mynd yn rhy bell. |
| (1, 0) 105 | Amser a ddengys. |
| (1, 0) 106 | Fe ddaw'r lleill yma'n y man. |
| (1, 0) 108 | Ia, y gweddill ohono' ni. |
| (1, 0) 109 | Fy nhad, a Seth fy mrawd, Sioned y forwyn a Doctor Morus. |
| (1, 0) 110 | 'Rydych yn eu 'nabod i gyd... |
| (1, 0) 111 | Maddeuwch i mi am eistedd i lawr. |
| (1, 0) 113 | Fel y gwyddoch chi, 'dydy' fy iechyd i ddim fel y dyla' fo fod. |
| (1, 0) 114 | 'Wna' i ddim cweryla efo chi am hynny, er mai chi sy'n gyfrifol. |
| (1, 0) 115 | Y dyfodol sy' gen' i dan sylw, nid y gorffennol. |
| (1, 0) 136 | Ond 'dydy'r gwewyr ddim yn gyfyngedig i chi. |
| (1, 0) 140 | Gan bwyll, Seth. |
| (1, 0) 144 | Gwranda arna' i am funud... |
| (1, 0) 147 | 'Doeddwn i ddim yn bwriadu awgrymu'r fath beth. |
| (1, 0) 148 | Ond 'setlwn ni mo'r broblem y naill ffordd na'r llall nes y bydd pawb wedi cyrraedd.... |
| (1, 0) 149 | P'le mae nhad? |
| (1, 0) 154 | Dyma nhw ar y gair 'rwy'n credu. |
| (1, 0) 157 | Na, Doctor Morus ydy' hwn. |
| (1, 0) 163 | O rhywbeth yn debyg, doctor. |
| (1, 0) 164 | Ac wedi blino braidd wrth gwrs. |
| (1, 0) 168 | Ydy' weithia. |
| (1, 0) 169 | Ac yn ddiffrwyth bob yn ail. |
| (1, 0) 175 | Dyna'r drwg, gwaetha'r modd, doctor. |
| (1, 0) 176 | 'Dydy' o ddim. |
| (1, 0) 183 | Hanner munud, Seth. |
| (1, 0) 185 | 'Ydych chi'n meddwl bod rheswm yn ddigon? |
| (1, 0) 188 | Ystyriwch hyn; i fyny i dri mis yn ôl 'roeddech chi'n cael hwyl ar eich gwaith; yn sgrifennu'n rhwydd, a'r ddrama'n datblygu'n foddhaol... |
| (1, 0) 190 | Ac yna, yn sydyn, dyma saib. |
| (1, 0) 191 | 'Fedrech chi symud 'run cam ymlaen ond troi yn eich unfan. |
| (1, 0) 192 | Pam? |
| (1, 0) 197 | Yn hollol,—am ei fod yn ddirgelwch y tu hwnt i ddeddfau rheswm. |
| (1, 0) 198 | 'Rydych yn dod yn nes ato' ni ar eich gwaetha'. |
| (1, 0) 213 | Peidiwch â chymryd y peth yn ysgafn. |
| (1, 0) 214 | Mae'r hyn a ddywedodd Doctor Morus yn berffaith wir. |
| (1, 0) 215 | 'Roedde' ni'n ddigon bodlon cyd-gerdded â chi ar y cychwyn. |
| (1, 0) 216 | Roedd popeth mewn cytgord, a datblygiad naturiol ymhob cymeriad. |
| (1, 0) 217 | Ond yn y man, dyma ni'n cyrraedd y groesffordd. |
| (1, 0) 218 | 'Roedde' ni'n hollol sicr pa lwybr i' ddewis. |
| (1, 0) 219 | Ond 'fynnech chi ddim gadael i ni fynd. |
| (1, 0) 220 | Roeddech yn benderfynol o'n hudo ar eich ôl i gyfeiriad arall. |
| (1, 0) 221 | O ganlyniad, ar y groesffordd 'rydy' ni o hyd, a chwithau efo ni. |
| (1, 0) 248 | Seth! |
| (1, 0) 252 | Nid mater o asgwrn-cefn ydy' o. |
| (1, 0) 253 | Beth wyt ti'n 'i ddisgwyl i mi 'i wneud. |
| (1, 0) 256 | Paid â siarad yn wirion, Seth. |
| (1, 0) 257 | 'Fedrwn ni ddim. |
| (1, 0) 275 | Dyma fi, 'nhad. |
| (1, 0) 328 | Cymaint â chwithau. |
| (1, 0) 329 | 'Does dim ystyr iddo y tu allan i brofiad unigol. |
| (1, 0) 416 | Seth? |
| (1, 0) 418 | O wel... |
| (1, 0) 419 | Mabli, 'ga'i gyflwyno Dr. Morus?... |
| (1, 0) 420 | Gwraig Seth ydy' Mabli, Doctor. |
| (1, 0) 457 | Dyma'r dewis i chi, felly,—un ai aros mewn cyfyng-gyngor parhaus, neu adael i ni gyflawni'n tynged yn ein ffordd ein hunain. |
| (1, 0) 495 | 'Ydy' o wedi mynd o ddifri'? |
| (1, 0) 496 | Doctor, edrychwch rhag ofn. |
| (1, 0) 535 | Ond 'rydych yn falch 'i fod o wedi mynd, Sioned? |
| (1, 0) 560 | Beth am air gennych chi, 'nhad? |
| (1, 0) 574 | 'Dydy' hyn yn golygu fawr o ddim i 'nhad, mae arna'i ofn. |
| (1, 0) 606 | Ia,—pwl sydyn. |
| (1, 0) 612 | 'Does gen' i fawr o awydd eu cymryd nhw—y tabledi yna 'rwy'n 'i feddwl. |
| (1, 0) 615 | Hwyrach eich bod yn iawn. |
| (1, 0) 616 | Ac eto, 'dyw poen ddim heb ei fantais. |
| (1, 0) 618 | Mae o wedi cryfhau fy ffydd i yn ystod y misoedd diwetha' yma, yn un peth. |
| (1, 0) 619 | 'Fedra'i ddim esbonio pam, ond mae'n ffaith. |
| (1, 0) 621 | P'run bynnag, 'rwy'n hyderus y ca' fi ymwared o'r aflwydd ar ôl heno. |
| (1, 0) 624 | la? |
| (1, 0) 626 | Dyna'r prif reswm, yn naturiol... |
| (1, 0) 627 | Wrth gwrs 'dydw' i ddim yn disgwyl gwyrth. |
| (1, 0) 628 | Mae o'n siŵr o gymryd tipyn o amser. |
| (1, 0) 629 | Ond mae'r ansicrwydd wedi mynd rwan. |
| (1, 0) 630 | 'Roedd hwnnw'n waeth na'r poen os rhywbeth... |
| (1, 0) 631 | Ar be 'rydych chi'n edrych. |
| (1, 0) 632 | Ann? |
| (1, 0) 637 | Dyna sy'n achosi poen yn fy nghoes, hwyrach... |
| (1, 0) 638 | Ond mae hi'n 'stwythach 'rwan. |
| (1, 0) 640 | Yr hen simdde fawr!... |
| (1, 0) 641 | 'Rwan 'rwy'n sylweddoli,─ 'dydw' i ddim wedi llosgi f'enw ar y pren yma eto. |
| (1, 0) 642 | Wel, pa well achlysur na heno i ddathlu'n rhyddid? |
| (1, 0) 643 | Ple mae'r procer? |
| (1, 0) 645 | Mae'r hen ŵr wedi f'atgoffa fi lawer tro am hyn. |
| (1, 0) 646 | Fe fydd yn falch pan glyw o fory... |
| (1, 0) 647 | Mae Seth wedi gwneud ers talwm. |
| (1, 0) 649 | 'Does yna ond un lle,—yn y fan yma, o dan enw 'nhad. |
| (1, 0) 651 | Dyna fo... |
| (1, 0) 653 | O,—'fuoch chi ddim yn hir iawn, Doctor. |
| (1, 0) 658 | Ia, mi ydw' i ar gychwyn... |
| (1, 0) 659 | 'Fydda' i'n hir, ydych chi'n meddwl, cyn adfer fy iechyd? |
| (1, 0) 661 | Ond mae gennych ryw syniad? |
| (1, 0) 663 | Cymaint â hynny? |
| (1, 0) 664 | O, wel, mae Adran Hanes y Brifysgol yn siŵr o fynd ymlaen heb un darlithydd! |
| (1, 0) 665 | A mi fedra' i fanteisio ar y seibiant i orffen fy ngwaith ymchwil. |
| (1, 0) 666 | Dim gwrthwynebiad gobeithio? |
| (1, 0) 670 | Ia, rhaid i mi gofio. |
| (1, 0) 672 | Hanes yr Eglwys Geltaidd. |
| (1, 0) 674 | Mae o'n hynod o ddiddorol. |
| (1, 0) 675 | 'Hoffech chi gael benthyg llyfr? |
| (1, 0) 677 | Gweniaith! |
| (1, 0) 679 | Diolch yn fawr i chi am bopeth, Doctor... |
| (1, 0) 680 | Nos dawch. |