| (1, 0) 54 | Dwedodd Miss Lloyd nad oedd dim raid i mi ei wisgo, am ei fod yn mynd ar dro o hyd. |
| (1, 0) 60 | Dyma fe yn fy mhoced {yn ei dynnu allan} os yw'n rhaid i mi ei wisgo. |
| (1, 0) 88 | Gwnaf, Miss Dilys. |
| (1, 0) 99 | Arhoswch fanna wnewch chi, nes yr âf i ofyn iddi a yw hi i mewn. |
| (1, 0) 100 | Hi fydd yn ynfyd os dewch chi ar ei thraws a hithau ddim i mewn. |
| (1, 0) 101 | (Yn ymddangos â'i chapan ar dro.} |
| (1, 0) 102 | Rhyw hen fenyw, hyll, rhyfedda, sydd yna. |
| (1, 0) 103 | Mae hi'n pallu dweud ei henw, ac yn pallu aros allan. |
| (1, 0) 112 | 'Ta' chi'n dweud mai Modryb Tabitha oe'ch chi! |
| (1, 0) 114 | Rwyf wedi clywed digon amdanoch chi. |
| (1, 0) 136 | Ho! Dyna i gyd. |
| (1, 0) 137 | 'Rown i'n meddwl... |
| (1, 0) 139 | O'r gorau, Miss Dilys, ond chi ddwedodd mai... |
| (1, 0) 140 | DILYS: Cer'wch. |
| (1, 0) 388 | Chi ganodd y gloch, Miss Lloyd? |
| (1, 0) 392 | Be sy'n bod? |
| (1, 0) 394 | Dim mynd? |
| (1, 0) 395 | Mae'n rhaid i chi fynd. |
| (1, 0) 397 | "Rych chi'n un â'ch gair bob amser, a mae'r Athro'n gwybod hynny. |
| (1, 0) 406 | O Miss Lloyd, 'rych chi'n bert ofnadwy yn eich ffrog newydd,... a 'rych chi'n bert ofnadwy bob amser, hefyd. |
| (1, 0) 409 | A mi fydd pawb yno hefyd! |
| (1, 0) 410 | 'Roedd Siwsi'r Oueens yn dweud y bydd y lle'n llawn i gwrdd â John Gray, a fod llawer wedi methu cael lle. |
| (1, 0) 413 | Ie, ond i gwrdd â John Gray, a John Gray yn methu mynd... am fod Miss Dilys wedi gwisgo ei ffrog! |
| (1, 0) 415 | Roedd Siwsi'r Oueen's wedi addo y cawn i fynd i helpu heno, er mwyn i mi gael cip ar wynebau'r bobol pan ddywedai'r Athro mai chi, Miss Lloyd annwyl, |yw| John Gray. {Chwerthin.} |
| (1, 0) 416 | Cerwch wir, Miss Lloyd. |
| (1, 0) 419 | Er mwyn yr Achos, Miss Lloyd fach. |
| (1, 0) 421 | Rhaid i chi ddweud wrtho eich hunan, 'te, wir. |
| (1, 0) 424 | Gwn yn iawn, ond gellwch fynd yn gysurus, ac mi gadwaf i'r llythyr yn sâff i chi. |
| (1, 0) 425 | 'Rwy'n gwybod yn iawn beth fydd ynddo. |
| (1, 0) 426 | Byddant yn falch iawn i gael eich llyfr. |
| (1, 0) 429 | Ond yw'r Athro wedi dweud hynny? |
| (1, 0) 430 | A mae e'n iawn bob tro, a rwyf innau'n gwybod, hefyd, na fuodd dim cystal llyfr erioed. |
| (1, 0) 432 | 'Rwy'n dweud y gwir; a fi deipiodd e bob gair, yntefe? |
| (1, 0) 435 | Dyna ddwl mae merched i feddwl am ddillad, a bechgyn, a hen ddwli fel yna, pan y gallent fod yn teipio llyfrau mawr! |
| (1, 0) 436 | Ond cer'wch chi 'nawr, Miss Lloyd. |
| (1, 0) 439 | Ydi. |
| (1, 0) 440 | Mi orffennaf i'r llythyron ar ôl cymhennu tipyn man hyn. |
| (1, 0) 443 | Yr hen scrwben â Dilys—yn meddwl dim am neb ond amdani ei hunan... |
| (1, 0) 444 | Twt! fe gaiff hi gymhennu yma ei hunan, os yw hi eisiau. |
| (1, 0) 445 | Mi âf i at fy ngwaith. |
| (1, 0) 452 | Fi sydd i ateb hwnna. |
| (1, 0) 454 | No, no, I am speaking for Miss Lloyd. |
| (1, 0) 455 | She has just gone out, and I will give a message when she comes back... yes, yes. |
| (1, 0) 456 | Oh yes, yes. |
| (1, 0) 460 | Caewch eich ceg, wnewch chi. |
| (1, 0) 462 | O thank you very much. |
| (1, 0) 463 | I will tell her... yes. |
| (1, 0) 465 | Caewch 'ceg. |
| (1, 0) 467 | Yes, yes, thank you... goodbye. |
| (1, 0) 469 | O! O! O! |
| (1, 0) 484 | 'Rwy'n golygu mynd. |
| (1, 0) 485 | Fydda i ddim yn forwyn yma, nac yn unman arall, chwaith... |
| (1, 0) 486 | Hwdiwch eich hen gapan. |
| (1, 0) 491 | Fydda i ddim yn forwyn byth ragor! |
| (1, 0) 492 | Ha, ha, ha. |
| (1, 0) 496 | Oes, oes. |
| (1, 0) 497 | Sut oech chi'n gwybod? |
| (1, 0) 500 | Yr Athro wrth gwrs. |
| (1, 0) 504 | Ydw, ydw. |
| (1, 0) 505 | 'Rwy'n mynd gyda John Gray hefyd. |
| (1, 0) 521 | Miss Lloyd fach, mae popeth yn iawn. |
| (1, 0) 522 | Daeth y neges drwy'r ffôn, a roedd Miss Dilys yn gwneud ei gorau i'w ateb {yn chwerthin} ond mi gariais i arni. |
| (1, 0) 523 | Mae nhw'n falch iawn i gael y llyfr, ac fe gewch chi lythyr yfory. |
| (1, 0) 526 | A dwedwch wrthyn' nhw 'mod i'n iawn na fydd dim eisiau i mi fod yn forwyn a gwisgo hen gapan, ragor. |
| (1, 0) 529 | 'Ddwedais i ddim mai y |fi| sy'n mynd i briodi'r Athro. |
| (1, 0) 535 | Nage, nage. |
| (1, 0) 536 | Ysgrifennydd John Gray fydda i. |