| (0, 1) 9 | Be rŵan? |
| (0, 1) 11 | Eto? |
| (0, 1) 13 | Ar siwrne bach fel hyn? |
| (0, 1) 16 | Dani bron yno. |
| (0, 1) 18 | Penthouse suite ddim yn rhoi cliw i chdi? |
| (0, 1) 20 | Mae na gamerâu yn y lifft. |
| (0, 1) 22 | Mae nhw 'di cysylltu i'r wê, y twpsyn. |
| (0, 1) 23 | Cyn ti fedru cyffwrdd ynddyn nhw, mae nhw'n anfon dy lun di i HQ. |
| (0, 1) 24 | Lle crand fel hyn? |
| (0, 1) 25 | Fydd yr heddlu yma mewn chwinciad. |
| (0, 1) 26 | Reit, dani yma! |
| (0, 1) 27 | Sbia - dyma'r drws i'r to. |
| (0, 1) 28 | Dora gynnig arna fo. |
| (0, 1) 32 | Fedri di ddal dy wynt tra ti'n pigo'r clo. |
| (0, 1) 33 | Dio'm yn cymryd fawr o ymdrech. |
| (0, 1) 41 | Cachwr! |
| (0, 1) 42 | Oni'n arfer cerdded deg milltir bob dydd trwy'r mynyddoedd pan oni'n 'rysgol. |
| (0, 1) 43 | Llwybrau peryglus - llawn cerrig a ballu. |
| (0, 1) 44 | 'Di hwn ddim byd. |
| (0, 1) 46 | Dwi'n cofio un noson odd'na storm. |
| (0, 1) 47 | Noson hollol dywyll. |
| (0, 1) 48 | Methu gweld dim. |
| (0, 1) 49 | Dwi'n cofio ista ar ochr y llwybr yn y llwyr dywyllwch 'ma. |
| (0, 1) 50 | A bob tro odd 'na fellten yn goleuo'r llwybr faswn i'n rhedeg ar ei hyd fel y niwl, tan iddi dywyllu'n sydyn eto. |
| (0, 1) 51 | Rhedeg adra mesul mellten. |
| (0, 1) 52 | Gymrodd oes i mi gyrradd nôl. |
| (0, 1) 54 | Dim syndod bod ti'n lwmp fawr dew. |
| (0, 1) 55 | Cwbwl odd raid i ti wneud odd rowlio dros y stryd. |
| (0, 1) 56 | A ti'n ddigon chiclyd i alw dy hun y |Corwynt Bach|. |
| (0, 1) 57 | Sbia arna ti! |
| (0, 1) 58 | |Corwynt Bach|! |
| (0, 1) 61 | Pwy ffwc 'di'r |Teithiwr Hudol|? |
| (0, 1) 62 | Ping Un o'r cymeriadau yn |Herwyr y Morfa|. |
| (0, 1) 63 | Ti'n |obsessed|. |
| (0, 1) 66 | Reit. |
| (0, 1) 68 | Pwy sa'n ennill mewn ffeit - |Corwynt Bach| neu'r |Teithiwr Hudol|? |
| (0, 1) 74 | A be am y cymeriad arall odda ti'n sôn am gynna? |
| (0, 1) 75 | Shi — rwbath. |
| (0, 1) 77 | Ia, fysa fo'n curo y |Teithiwr Hudol|? |
| (0, 1) 84 | Ocê, dyna ddigon o frêc dwi'n meddwl. |
| (0, 1) 87 | Ti'n medru meistroli'r clo 'ma ar agor ti'n meddwl? |
| (0, 1) 90 | Eh? |
| (0, 1) 92 | Ti'n malu cachu? |
| (0, 1) 93 | Oni'n meddwl wnes di ddeud does n'am clo ar y planed fedri di'm agor. |
| (0, 1) 97 | Paid a deutha fi bod ni 'di dringo'r holl risiau 'ma am ddim byd! |
| (0, 1) 98 | Tria eto! |
| (0, 1) 101 | Am faint odda ti'n brentis saer cloeon? |
| (0, 1) 104 | Digon hir. |
| (0, 1) 107 | Be ti'n feddwl? |
| (0, 1) 109 | Y, yndw. |
| (0, 1) 111 | Newyddion. |
| (0, 1) 112 | Ti'm 'di gweld y lluniau? |
| (0, 1) 113 | Mae o ffwrdd ar fusnes swyddogol yn y brifddinas. |
| (0, 1) 115 | Fydd 'na ddim. |
| (0, 1) 117 | Dani 'di gweld o'r tu allan bod y goleuadau i gyd 'di diffodd. |
| (0, 1) 120 | Faint o weithiau 'dwi gorfod deutha ti? |
| (0, 1) 121 | Dio'm yn ffŵl. |
| (0, 1) 122 | Does na'm gobaith chwanen y fydd o'n galw'r heddlu. |
| (0, 1) 123 | Meddylia am y peth - os fase ti'n lywodraethwr, a ma gyn ti gesyn llawn arian yn dy dŷ, a ti'n colli o, faset ti'n mynd i'r heddlu? |
| (0, 1) 125 | Wrth gwrs faset ti ddim! |
| (0, 1) 126 | Achos wedyn ma angen i ti egluro lle ddoth yr arian, pam dio'm yn y banc. |
| (0, 1) 127 | Os mae o'n cymryd |backhanders|, dio'm am redeg i grio i'r heddlu na'di. |
| (0, 1) 132 | Stop. |
| (0, 1) 133 | Stopia hyn rŵan, y cachwr. |
| (0, 1) 136 | Wyt ti di anghofio be ddudis di ddoe? |
| (0, 1) 137 | Ti di anghofio y ffordd wnaeth Hen Liu druan grio pan welodd o gorff llipa ei fab? |
| (0, 1) 138 | Ti wedi llwyr anghofio, do, y ffordd wnes di roi dy law ar frest Dan Bach a tyngu llw am ddialedd? |
| (0, 1) 140 | 'Na fo 'ta. |
| (0, 1) 145 | O'r diwedd. |
| (0, 1) 149 | Ti'n dwad? |
| (0, 1) 151 | Iesgob annwyl! |
| (0, 1) 152 | Dani bron yno! |
| (0, 1) 157 | Dyda ni'm yn dwyn. |
| (0, 1) 158 | Dani'n cymryd o'r cyfoethog a rhoi i'r tlawd. |
| (0, 1) 160 | Dwyn nath o. |
| (0, 1) 161 | Ennillion llygredig! |
| (0, 1) 162 | Di'r arian yma ddim yn pia iddo fo. |
| (0, 1) 163 | Does gynna fo ddim hawl i gadw o. |
| (0, 1) 165 | Dim i ni 'da ni'n ei gymryd o, Ping. |
| (0, 1) 167 | Mi yrrodd y bastun barus yma syth mewn i Dan Bach a wantho'm poeni dim. |
| (0, 1) 168 | Dio'm yn ddyletswydd iddo dalu rywfaint i'r teulu? |
| (0, 1) 169 | Na, 'di arian ddim bydd iddo fo. |
| (0, 1) 170 | Ddylsa fo farw am y fath beth. |
| (0, 1) 171 | Mae'n haeddu bwled yn ei ben. |
| (0, 1) 172 | Cymryd ei arian poced yda ni i roi i deulu Dan. |
| (0, 1) 174 | Be ffwc sy'n bod efo ti? |
| (0, 1) 175 | 'Da ni chydig o gamau ffwrdd o ffortiwn a ti'n cael ail feddyliau? |
| (0, 1) 177 | Allai'm diodda bobl fel ti. |
| (0, 1) 178 | Petruso dros yr holl bethau bach, ti'n rêl llipryn. |
| (0, 1) 179 | Llawn esgusodion. |
| (0, 1) 180 | Gwranda, os ti rhy ofn, dos o'n ngolwg i. |
| (0, 1) 181 | Wnai'r peth fy hun. |
| (0, 1) 183 | Be? |
| (0, 1) 186 | Dani'n gwastraffu amser. |
| (0, 1) 188 | Ocê. |
| (0, 1) 189 | Ocê. |
| (0, 1) 190 | Dwi'n gaddo. |
| (0, 1) 191 | Iawn? |
| (0, 1) 193 | Ty'd 'laen, |Corwynt Bach|. |
| (0, 1) 194 | G'ad i ni ddangos be 'di be i'r cont 'ma. |
| (0, 2) 201 | |Shit|! |
| (0, 2) 203 | Ma rywun yma. |
| (0, 2) 205 | Dwn 'im! |
| (0, 2) 206 | Bachgen o ryw fath. |
| (0, 2) 209 | Ga'd mi feddwl am eiliad. |
| (0, 2) 211 | Cau hi! |
| (0, 2) 215 | Dyna'r ffenest. |
| (0, 2) 217 | Ochr arall i'r ffŵl 'ma. |
| (0, 2) 219 | Faint gymrith i ti bigo'r clo yna? |
| (0, 2) 221 | Achos gymrith yr un dwytha blydi oes mul. |
| (0, 2) 223 | Wnai distractio fo, tra ti'n pigo'r clo. |
| (0, 2) 225 | Sut arall? |
| (0, 2) 227 | Cau dy drap am y blydi heddlu! |
| (0, 2) 228 | Awn ni i siarad efo'r hogyn. |
| (0, 2) 229 | Gweld be' mae'n da 'ma. |
| (0, 2) 234 | Iawn boi? |
| (0, 2) 237 | Ga'd y siarad i mi. |
| (0, 2) 238 | 'Chydig yn hwyr i fod fyny famma, yn y twllwch, ar ben dy hun. |
| (0, 2) 241 | |Security guards| newydd 'da'ni. |
| (0, 2) 242 | Neud y rownds, checkio pethe. |
| (0, 2) 244 | Felly, os ti'm yn meindio, dwi'n meddwl bod o'n amser i ti fynd adre. |
| (0, 2) 246 | Dio'm yn sâff fyny famma. |
| (0, 2) 250 | Ti'n byw yma 'ta? |
| (0, 2) 252 | O. |
| (0, 2) 253 | Neis. |
| (0, 2) 254 | Pa lawr? |
| (0, 2) 257 | Just wyndro dwi. |
| (0, 2) 259 | Na, na, argol - na! |
| (0, 2) 260 | Poeni amdanat ti yda ni. |
| (0, 2) 261 | Os fase ti'n disgyn, fydda ni mewn uffar o drwbwl. |
| (0, 2) 308 | Nefi bliw! |
| (0, 2) 309 | 'S'nam angen rhegi. |
| (0, 2) 310 | 'Dani'n trio bod yn gyfeillgar. |
| (0, 2) 315 | Be ti'n trio - cynghanedd? |
| (0, 2) 357 | Torra pob cysylltiad, well i ti gael gwared ohona nhw. |
| (0, 2) 358 | Os mae nhw'n wael i bobl eraill rŵan, fydden nhw'n wael i ti yn y dyfodol agos. |
| (0, 2) 361 | Sblitia fyny efo hi. |
| (0, 2) 362 | Sgynnai'm amser ar gyfer pobl dau wynebog. |
| (0, 2) 363 | Neis a hapus un munud, fel y diafol y nesa. |
| (0, 2) 364 | Odd gynna i gariad. |
| (0, 2) 365 | Oddan ni wedi dyweddio. |
| (0, 2) 366 | Dros pen a chlustiau mewn cariad efo hi. |
| (0, 2) 367 | Un diwrnod ma'i'n troi rownd a deud bod hi'm yn ffansio fi bellach, bod hi'n fy ngadael i am rywun arall. |
| (0, 2) 369 | Rhedeg ryw fusnes, busnes bach ond yn gwneud dwbwl fy nghyflog. |
| (0, 2) 370 | Well ganddi fod yn feistres iddo fo na gwraig i mi. |
| (0, 2) 373 | Yn union! |
| (0, 2) 374 | Dyna mae popeth yn arwain at yn diwedd. |
| (0, 2) 376 | Na? |
| (0, 2) 377 | Enwa un problem sydd ddim am bres. |
| (0, 2) 379 | Dyna mae pawb isio. |
| (0, 2) 380 | Dyna sy'n ein cymell ni i wneud pethe drwg. |
| (0, 2) 400 | Yr hen ast! |
| (0, 2) 412 | Wyt ti'n stiwdent o gwbwl? |
| (0, 2) 415 | Oni'n meddwl. |
| (0, 2) 420 | O Dduw. |
| (0, 2) 456 | Hawdd. |
| (0, 2) 457 | Shagio'r cyfarwyddwr. |
| (0, 2) 459 | Mae pawb arall yn gwneud o. |
| (0, 2) 460 | Mae 'na lot o actorion da allan yno. |
| (0, 2) 461 | Dyna 'di'r unig ffordd i gael hwb i fyny. |
| (0, 2) 463 | Fy nghariad i? |
| (0, 2) 467 | Rhoi clustan iddi a fydda ni 'di torri fyny. |
| (0, 2) 469 | Os fysa hi'n rili caru fi fase hi'm yn gwneud hynna! |
| (0, 2) 470 | Ac eniwe dydi cariad ddim yn golygu goddef anffyddlondeb. |
| (0, 2) 472 | Marw? |
| (0, 2) 473 | Fi? |
| (0, 2) 474 | |As if|. |
| (0, 2) 477 | Wel faswn i'n foi twp iawn i gredu hynna. |
| (0, 2) 485 | Dyna'r peth twpia dwi 'rioed 'di clywed. |
| (0, 2) 486 | |Ridiculous|! |
| (0, 2) 487 | Os fysa 'nghariad i'n cysgu efo dyn arall, faswn i'm yn lladd'n hun. |
| (0, 2) 488 | Faswn i'n lladd hi. |
| (0, 2) 489 | Gwell fyth, lladd y boi arall. |
| (0, 2) 491 | Dal ddim yn gwneud sens. |
| (0, 2) 492 | Fedrai'm dalld rywun sy'n llad ei hun dros wallau rywun arall. |
| (0, 2) 493 | Chwinc yn ei ben! |
| (0, 2) 499 | Eh? |
| (0, 2) 500 | Neith hynna byth weithio. |
| (0, 2) 501 | Syniad boncyrs gan ferched yn byw ganol nunlle. |
| (0, 2) 505 | Wnaeth fy |ex| drio hynna. |
| (0, 2) 506 | Sawl blynedd yn ôl. |
| (0, 2) 507 | Yn torri ei hun efo cyllell, torri mewn i artery. |
| (0, 2) 508 | Wnes i drio agosàu, i roi pwysau ar yr anaf, a mi wthiodd y gyllell mewn i'm braich. |
| (0, 2) 509 | Odd na lot o waed 'de, yn pwmpio allan, arllwys dros y lle i gyd yr holl ffordd i'r ysbyty. |
| (0, 2) 510 | Ddaru hi fyw, ond o'dd o'n ufflon o noson. |
| (0, 2) 512 | Dodd 'na'm 'wedyn'. |
| (0, 2) 513 | Pwy 'sa'n priodi merch fel'na? |
| (0, 2) 517 | Oedd hi'm yn iawn yn ei meddwl nag o'dd. |
| (0, 2) 518 | Neu ella oedd hi'n flin efo fi am rywbeth neu'i gilydd. |
| (0, 2) 519 | Allai'm cofio. |
| (0, 2) 521 | Euog? |
| (0, 2) 522 | Na'dw. |
| (0, 2) 523 | Mae'r holl beth rhwngtha hi a'i photas. |
| (0, 2) 525 | Wrth gwrs ddim. |
| (0, 2) 527 | Mae nhw 'di clirio'r ffordd i'w gelynion - 'di helpu nhw allan! |
| (0, 2) 528 | Lle mae'r sens yn hynna? |
| (0, 2) 529 | Pa bynnag sefyllfa, peidiwch a copio'r merched o'r pentre. |
| (0, 2) 530 | Fydd y bobl dachi'n trio effeithio ddim yn teimlo'n ddrwg. |
| (0, 2) 531 | Fydden nhw'n chwerthin ar eich pen chi. |
| (0, 2) 532 | A fyddech chi ddim o gwmpas i chwerthin yn ôl arnyn nhw. |
| (0, 2) 533 | Os dachi'n gofyn i mi, dial 'di'r unig ymateb call. |
| (0, 2) 551 | Mae'n hwyr. |
| (0, 2) 552 | Amser mynd adre dwi'n meddwl. |
| (0, 2) 570 | Fyswn i'm yn gadael ti'n agos i le fel hyn! |
| (0, 2) 572 | Ond ma hynna'n wir. |
| (0, 2) 573 | Mae'r bobl sy'n deud celwyddion ac yn bihafio fel mynnan nhw fyw mewn palasau. |
| (0, 2) 574 | Does 'na'm rheswm am y peth. |
| (0, 2) 575 | Sbia ar y gerddi, y clybiau preifat! |
| (0, 2) 578 | Bod yn ddigywilydd ydi'r swydd gorau. |
| (0, 2) 586 | Dros ben llestri dydi. |
| (0, 2) 587 | Mae angen i ni gael gwared ohona nhw i gyd a'u hanghyfiawnder. |
| (0, 2) 591 | Mae isio sortio'r lle ma allan. |
| (0, 2) 592 | Lladd y rhai llygredig. |
| (0, 2) 594 | Be? |
| (0, 2) 603 | 'Di hwn di meddwi ta be? |
| (0, 2) 616 | Paid a bod yn ferthyr. |
| (0, 2) 617 | Fyddi di'n difaru'n bora. |
| (0, 2) 640 | Hei. |
| (0, 2) 644 | Odda ti'n bwriadu gwneud hynna? |
| (0, 2) 647 | Anfon o i'w drwmgwsg. |
| (0, 2) 650 | Gyrfa fel paldareiwr. |
| (0, 2) 652 | Ti di meddwi? |
| (0, 2) 654 | Finna' 'fyd. |
| (0, 2) 656 | Reit, tyd 'laen. |
| (0, 2) 658 | Gad o yna. |
| (0, 2) 659 | Fydda ni di hen adael cyn iddo ddeffro. |
| (0, 2) 661 | Na. |
| (0, 2) 662 | Siarad siarad siarad. |
| (0, 2) 663 | Dyna fyfyrwyr i ti. |
| (0, 2) 664 | Mi ddeutha i ti hyn, fydd gynno fo goblyn o gur pen yn bora. |
| (0, 2) 667 | Awê! |
| (0, 3) 670 | Lle mae'r blydi gola? |
| (0, 3) 676 | Gwneud fi'n sâl. |
| (0, 3) 679 | O leia. |
| (0, 3) 680 | A dim ond y stafell gynta' 'di hwn. |
| (0, 3) 683 | Hei, dani'n edrych am y pres. |
| (0, 3) 686 | Ceffyl. |
| (0, 3) 689 | |Jade|. |
| (0, 3) 691 | |Emerald| yn fwy golau. |
| (0, 3) 692 | Odda nhw'n arfer cloddu jade yn y mynyddoedd tu ôl i'm mhentra. |
| (0, 3) 693 | 'Run lliw. |
| (0, 3) 696 | Llygaid ar y pres. |
| (0, 3) 698 | Wel ti'n gwneud job wael iawn hyd yn hyn. |
| (0, 3) 701 | Un neu ddau filiwn. |
| (0, 3) 704 | Ie, a dau ddyn anferthol hefyd i'w gario fyny. |
| (0, 3) 706 | Nghefnder i. |
| (0, 3) 707 | Dreifar y cwmni wnaeth anfon yr arian. |
| (0, 3) 708 | Mi welodd o'r dynion mawr ma yn cario'r cesys mewn i'r lifft heb ddeud gair, yng ngolau dydd. |
| (0, 3) 713 | Dwi'n cadw ti fyny? |
| (0, 3) 716 | Finna' 'fyd. |
| (0, 3) 717 | Cyn gynted dani'n ffindio'r cash cyn gynted gawn i gysgu. |
| (0, 3) 720 | Yndw tad. |
| (0, 3) 721 | Wnaeth 'nghefnder rannu smôc efo'r boi concierge a dio'm y fan mwya o'r llywodraethwr. |
| (0, 3) 722 | Dyna sut oni'n gwbo'r ffor fyny 'ma. |
| (0, 3) 723 | Coelia fi, hwn di'r fflat iawn. |
| (0, 3) 726 | Weles di'r fideo do? |
| (0, 3) 727 | Ei gar o oedd o. |
| (0, 3) 728 | 'Nocio'r bachgen i'r awyr. |
| (0, 3) 729 | Natho'm cyffwrdd y brêcs. |
| (0, 3) 735 | Wel welis i. |
| (0, 3) 736 | Odd o'n erchyll. |
| (0, 3) 737 | Dal i godi'r felan arna i. |
| (0, 3) 738 | Numberplate, gwyneb, popeth fo oedd o. |
| (0, 3) 742 | Dyna lle mae'r dywediad yn dod o: 'nabod ei wyneb, ddim run fath a nabod ei galon'. |
| (0, 3) 745 | Tria drws nesa. |
| (0, 3) 746 | Wnai gario 'mlaen famma. |
| (0, 3) 753 | Paid a gwaeddi, naci! |
| (0, 3) 758 | Dim byd. |
| (0, 3) 759 | Just ambell i beth, dyna'r oll. |
| (0, 3) 760 | Os fedra ni'm ffindio'r pres, o leia fedra ni werthu rywfaint o'r petha 'ma. |
| (0, 3) 762 | Sut ti'n meddwl gafodd o'r holl ornaments a'r offer technegol ma? |
| (0, 3) 763 | Arian drwg. |
| (0, 3) 765 | Dwi'n gwrthod dychwelyd yn waglaw. |
| (0, 3) 766 | Mae angen o leia digon i gyfro costau'r angladd. |
| (0, 3) 769 | Ie, ie. |
| (0, 3) 770 | Fysa fo'n cael hartan a marw, os fysa fo'm 'di marw'n barod. |
| (0, 3) 772 | Cau dy drap a dora hand i mi wnei di? |
| (0, 3) 774 | Be sgyn ti'n fanna eniwe? |
| (0, 3) 776 | Y Llywodraethwr? |
| (0, 3) 778 | Ga'mi weld. |
| (0, 3) 780 | |Shit|! |
| (0, 3) 782 | |Bastard|! |
| (0, 3) 784 | Wnaeth o'm sôn dim am hyn. |
| (0, 3) 786 | Dora fo i mi. |
| (0, 3) 788 | 'Annwyl Dad. |
| (0, 3) 789 | Erbyn i ti ddarllen hwn... ' |
| (0, 3) 808 | |Scum|? |
| (0, 3) 809 | Ni? |
| (0, 3) 810 | Dy dad ydi'r lleidr! |
| (0, 3) 811 | Tyd a un peth i mi yn y fflat 'ma sy heb gael ei dalu am efo arian budr. |
| (0, 3) 812 | Mae popeth sy'ma wedi ei ddwyn gan y bobl gyffredin. |
| (0, 3) 816 | Dora'r ffôn lawr. |
| (0, 3) 817 | Rwan! |
| (0, 3) 821 | Fyddi di'n difaru hynna. |
| (0, 3) 824 | Nola'r rhaff o'r bag. |
| (0, 3) 826 | Yn y bag! |
| (0, 3) 829 | Mae'n malu cachu. |
| (0, 3) 830 | Mae'n amhosib bod o 'di cael drwodd i'r heddlu mor gyflym a hynna. |
| (0, 3) 833 | Arosa lle wyt ti. |
| (0, 3) 834 | Ti'n mynd i lem byd tan i ni gael be 'dan isio. |
| (0, 3) 838 | Be mae'n edrych fel? |
| (0, 3) 840 | Ti dal isio galw'r heddlu? |
| (0, 3) 841 | Eh? |
| (0, 3) 843 | Be ddudis di? |
| (0, 3) 847 | Tisio deud hynna eto? |
| (0, 3) 850 | Mae'r bachgen yn haeddu gwers, neu fydd o byth yn dysgu. |
| (0, 3) 851 | Dipyn o addysg i wneud y boi yn fwy clyfar na mae o rŵan. |
| (0, 3) 853 | Os fyswn i'n gwbod pwy odd ei dad, fyswn i 'rioed 'di cyffwrdd yn y botal 'na. |
| (0, 3) 856 | Be? |
| (0, 3) 857 | Di heina ddim byd bellach. |
| (0, 3) 859 | Na, na, na, ma gynno ni wobr gwell. |
| (0, 3) 862 | Dim y pres. |
| (0, 3) 864 | Ti'n gwbo be 'di hwn dwyt? |
| (0, 3) 866 | 'Chydig yn |sentimental|, ti'm yn meddwl? |
| (0, 3) 867 | Mwy fel cerdd na nodyn hunanladdiad. |
| (0, 3) 869 | Gorchymyn oedd hwnna? |
| (0, 3) 871 | Dwi'm yn meddwl bod rywun yn dy sefyllfa di yn gallu ordro ni o gwmpas, wyt ti? |
| (0, 3) 874 | Mae'n deimladwy iawn dydi? |
| (0, 3) 875 | Roeddet ti'n wirioneddol isio marw mewn ffordd ddewr, urddasol yndo? |
| (0, 3) 876 | I fod yn ferthyr. |
| (0, 3) 877 | Ond i le mae'r awydd marw wedi diflannu i rŵan ta? |
| (0, 3) 879 | Na. |
| (0, 3) 880 | Sgyn ti'm y dewrder i farw. |
| (0, 3) 881 | Gymris di un golwg ar ymyl y to a wnes di gachu dy drôns. |
| (0, 3) 882 | Cachwr ymhob ystyr o'r gair. |
| (0, 3) 883 | Union fel dy dad. |
| (0, 3) 884 | Na? |
| (0, 3) 885 | Dwi'n gwbo' nath o hitio bachgen pump oed a cyfro'r peth fyny rhag cael ei ddal. |
| (0, 3) 886 | Ma hynny'n ddewr ofnadwy. |
| (0, 3) 888 | Ble mae'r |hard drive| 'ma ti'n sôn am? |
| (0, 3) 890 | Paid a chwarae lol. |
| (0, 3) 892 | Mae'n deud bod gynno fo gopi o'r fideo. |
| (0, 3) 893 | Yr un oedd ar-lein. |
| (0, 3) 895 | Dim i gyd, yn ôl bob golwg. |
| (0, 3) 897 | Be oedd dy fwriad, bygwth yr hen ddyn? |
| (0, 3) 899 | Dy hunanladdiad yn ddraenen yn ei ochr. |
| (0, 3) 900 | Ma hynny'n hyfryd. |
| (0, 3) 901 | Dim ond un problem. |
| (0, 3) 902 | Ti dal yn fyw. |
| (0, 3) 904 | Dora fo i ni. |
| (0, 3) 906 | Dora'r hard drive i ni! |
| (0, 3) 911 | Yn union. |
| (0, 3) 912 | Meddylia am y peth. |
| (0, 3) 913 | Efo'r fideo fedra ni gael llif o arian pryd bynnag dani angen. |
| (0, 3) 917 | Cau hi. |
| (0, 3) 918 | Dwi'm yn siarad efo ti. |
| (0, 3) 919 | Dwi'n siarad efo'r bastun celwyddog yma. |
| (0, 3) 921 | Dangos dy liwiau rŵan yndwyt? |
| (0, 3) 922 | Gynta, oeddet tisio achub ei enaid, rŵan ti'n trio amddiffyn y llofrudd. |
| (0, 3) 930 | Felly pam wnaeth o'm troi ei hun fewn? |
| (0, 3) 931 | Pam bygwth teulu druan y bachgen? |
| (0, 3) 932 | Rhybuddio nhw i beidio siarad! |
| (0, 3) 935 | Na. |
| (0, 3) 936 | Gafodd o'i thugs i wneud hynna ar ei ran o. |
| (0, 3) 937 | Paid a meiddio. |
| (0, 3) 938 | Weles i o efo'n llygaid 'n hun. |
| (0, 3) 939 | Pnawn ddoe, efo cordd Dan Bach yn gorwedd yn oer yn ei dÿ, cnoc ar ddrws Hen Liu, a ddoth cwpwl o fois mawr mewn i'r tÿ a'i gwffio i'r llawr. |
| (0, 3) 940 | Cleisiau du a glas. |
| (0, 3) 941 | Rhybuddio bod gwaeth i ddwad os fydd o'n meiddio gofyn am iawndal. |
| (0, 3) 942 | Pwy oedd yn gyfrifol am hynna, ti'n meddwl? |
| (0, 3) 943 | Pwy orchmynnodd y dynion i wneud y fath beth? |
| (0, 3) 946 | Ti dal i freuddwydio. |
| (0, 3) 947 | Deffra! |
| (0, 3) 949 | G'ad mi ofyn cwestiwn arall i ti. |
| (0, 3) 950 | Os fyse ti 'di cyflawni trosedd, a bod rywun yn |
| (0, 3) 951 | recordio'r holl beth ar fideo, a'i bostio ar-lein, pwy 'sa gyn y pŵer i flocio'r fideo yna? |
| (0, 3) 952 | I ddistriwio'r lincs a'r tystiolaeth? |
| (0, 3) 953 | Pwy sgyn y pŵer? |
| (0, 3) 954 | Wyt ti'n trio deutha fi wnaeth thugs dy dad wneud hyn oll tu ol i'w gefn? |
| (0, 3) 955 | Faint mor bwerus ti'n credu yda nhw? |
| (0, 3) 960 | Mab ffyddlon i'r carn. |
| (0, 3) 962 | Eh? |
| (0, 3) 964 | Be'r uffar mae'n sôn am? |
| (0, 3) 973 | O, digon ffeind. |
| (0, 3) 974 | Dio'm yn malio dim am fywyd plentyn dyn diethr. |
| (0, 3) 975 | Ond mae'n gêm i wneud rywbeth i amddiffyn teimladau ei wraig bach annwyl. |
| (0, 3) 980 | Na. |
| (0, 3) 981 | Dani heb orffen eto. |
| (0, 3) 983 | Siarada! |
| (0, 3) 984 | Lle mae'r fideo? |
| (0, 3) 1023 | Paid a trystio fo. |
| (0, 3) 1024 | |Hypocrite|. |
| (0, 3) 1025 | Deud un peth a gwneud y llall. |
| (0, 3) 1026 | Ceisio lladd ei hun ond yn disgyn i gysgu'n feddw yn canu cân. |
| (0, 3) 1030 | Y fideo! |
| (0, 3) 1033 | Mae raid i rywun dalu am droseddau dy dad. |
| (0, 3) 1038 | |Hit and run|, taliadau budr, bygwth teulu sy'n galaru. |
| (0, 3) 1039 | Ardderchog. |
| (0, 3) 1041 | Ti rioed di meddwl am gynlluniau mawr Hen Liu ar gyfer ei fab? |
| (0, 3) 1043 | Yndy. |
| (0, 3) 1048 | Na fo, rho'r bai ar sgwyddau eraill. |
| (0, 3) 1049 | 'Dim fi nath o, eich anrhydedd, bai y system ydio. |
| (0, 3) 1050 | Ti mor ddiegwyddor a ddigwilydd a dy dad! |
| (0, 3) 1052 | Be? |
| (0, 3) 1055 | |So|? |
| (0, 3) 1056 | Wrth gwrs dwisio pres! |
| (0, 3) 1057 | Wnaeth fy nyweddi adael achos oni methu fforddio modrwy iddi. |
| (0, 3) 1058 | Be ffwc sy'n bod efo'r byd 'ma? |
| (0, 3) 1059 | Sbiar ar y lle ma. |
| (0, 3) 1060 | Blydi conserfatori. |
| (0, 3) 1061 | Gardd ar y to. |
| (0, 3) 1062 | |Chandeliers|. |
| (0, 3) 1063 | Dwi'n gweithio fel mul bob dydd a fyddai rioed yn medru fforddio un o'r ornaments hyll |jade| 'na. |
| (0, 3) 1064 | Mae'r teulu yma'n afiach! |
| (0, 3) 1065 | Dani'n gwneud gweithred dda heno. |
| (0, 3) 1066 | Dani'n haeddu gwobr. |
| (0, 3) 1067 | Sbia ar y llun 'na. |
| (0, 3) 1069 | Dwi'n haeddu gwyliau fel 'na hefyd dwi'n meddwl. |
| (0, 3) 1070 | Lle ydach chi'n fanna? |
| (0, 3) 1072 | Awstralia! |
| (0, 3) 1073 | Waw! |
| (0, 3) 1074 | I'r bobl bach, dibwys, |roadkill| fel ni mae Awstralia allan o'n gafael. |
| (0, 3) 1075 | Am lun cynnes. |
| (0, 3) 1076 | Gwen mawr gyn ti. |
| (0, 3) 1077 | Dim heno'n anffodus. |
| (0, 3) 1078 | Meddylia be sa'n digwydd os fase'r teulu yma'n torri fyny. |
| (0, 3) 1080 | Rhywun yn y teulu yn cael ei redeg drosodd gan gar? |
| (0, 3) 1082 | Neu rhywun yn lladd ei hunan? |
| (0, 3) 1084 | Neu mynd i'r carchar? |
| (0, 3) 1086 | Neu cael ei ddyrnu i farwolaeth? |
| (0, 3) 1088 | Fase'r teulu yn ddarnau bach. |
| (0, 3) 1089 | Ti'n cytuno? |
| (0, 3) 1092 | Teulu neis. |
| (0, 3) 1093 | Tad ffeind. |
| (0, 3) 1094 | Dyna ti'n feddwl de? |
| (0, 3) 1095 | Wnaeth tad Dan ddygsu fo i goginio sdi, wnaeth fy nhad i ddysgu fi sut i adeiladu wal yn syth. |
| (0, 3) 1096 | Be am tadau ffeind eraill, sydd ddim yn grand ond sy'n ffraeo pob eiliad o'r dydd am gyfiawnder, am fywyd gwell? |
| (0, 3) 1098 | Ti'n gwybod sut ddaru fy nhad i farw? |
| (0, 3) 1099 | Silicosis ar ôl gweithio blynyddoedd yn y chwarel. |
| (0, 3) 1100 | Ysgyfaint ddu, methu anadlu awyr glân, rhy hwyr beth bynnag. |
| (0, 3) 1102 | 35 oed yn marw. |
| (0, 3) 1103 | Dim ceiniog o iawndal. |
| (0, 3) 1104 | Rheolwyr y chwarel a swyddogion y llywodraeth yn ffrindiau mawr, teuluoedd neis, pobl dda y wlad. |
| (0, 3) 1105 | Dyda ni'r |roadkill| ddim yn haeddu teuluoedd neis na'dan? |
| (0, 3) 1106 | Felly be 'di'r ots os mae un ohona ni yn marw? |
| (0, 3) 1107 | Peidiwch â thrafferthu'r meistriaid efo'u cynlluniau mawr, ardderchog. |
| (0, 3) 1108 | Ai dyna ti'n trio deutha fi? |
| (0, 3) 1110 | Dwi'n casàu bobl sy'n defnyddio penillion! |
| (0, 3) 1112 | Geiriau mawr yn golygu dim. |
| (0, 3) 1134 | Paid ag ymddiried ynddo fo. |
| (0, 3) 1135 | Tric 'dio. |
| (0, 3) 1137 | Dani'n delio efo celwyddgi. |
| (0, 3) 1146 | Cymera hwn. |
| (0, 3) 1148 | A cadwa lygad barcud arna fo. |
| (0, 3) 1149 | Dwi'm yn trystio'r hogyn. |
| (0, 3) 1168 | A be am ein cynlluniau ni? |
| (0, 3) 1169 | Be am y cynlluniau oedd gan Hen Liu ar gyfer ei fab? |
| (0, 3) 1179 | Fedri di ddim, sgyn ti'm y gyts. |
| (0, 3) 1190 | Mab am fab. |
| (0, 3) 1191 | Karma. |