| (1, 1) 107 | Mi ydw i'n iawn ond i mi gael llonydd. {Mynd allan.} |
| (1, 1) 383 | Be' sy'n bod, Nhad? |
| (1, 1) 389 | Dydy' o ddim yn edrych yn debyg, nag ydy'? |
| (1, 1) 390 | Ne fuaswn i ddim yma rwan. |
| (1, 1) 392 | Naddo. |
| (1, 1) 393 | 'Doeddwn i ddim yn teimlo fel gweithio heddiw, dyna'r cyfan. |
| (1, 1) 395 | Pa un ai doeth neu annoeth, 'dydy' o 'run gronyn o wahaniaeth gen' i, Ann. |
| (1, 1) 396 | Mi ge's i lond fy mol ar stiwardio yn y fyddin: o dan draed pob siort am bum mlynedd; yn is na chaethwas. |
| (1, 1) 398 | Ydy', rwy'n gwybod. |
| (1, 1) 399 | Dyna pan 'rydw' i'n llacio'r tresi a mwynhau tipyn o ryddid am dro. |
| (1, 1) 403 | Byw o ddiwrnod i ddiwrnod—dyna fy nghred i o hyn ymlaen. |
| (1, 1) 405 | Mae'n ddrwg gen' i am hynny. |
| (1, 1) 409 | Wyddost ti beth, Ann—rwyt ti wedi gweithio' rhy hir yn offis Jones. |
| (1, 1) 410 | 'Rwyt ti wedi mynd i siarad yn union 'run fath â thwrna'. |
| (1, 1) 416 | Dyna 'rydach chi i gyd yn 'i wneud. |
| (1, 1) 417 | Busnesu felldith 'rydw' i'n ei alw fo. |
| (1, 1) 418 | Pam aflwydd na cha' i lonydd i fyw fy mywyd fel 'rydw i'n dewis? |
| (1, 1) 419 | Mae gan bob dyn hawl i hynny, gobeithio! |
| (1, 1) 420 | 'Dydw' i'n gwneud drwg i affliw o neb. |
| (1, 1) 422 | Mater i mi ydy' hynny, Ann. |
| (1, 1) 427 | Edrychwch yma, Nhad, peidiwch â meddwl 'mod i'n anniolchgar. |
| (1, 1) 428 | 'Dydw'i ddim. |
| (1, 1) 429 | 'Rwy'n gwybod eich bod yn trio fy narbwyllo i mai chi sy'n iawn. |
| (1, 1) 430 | Tithau hefyd, Ann. |
| (1, 1) 431 | Ond da chi ceisiwch sylweddoli bod yr ymyrryd parhaus yma'n mynd yn fwrn arna'i! |
| (1, 1) 432 | Triwch gofio mai 'rwan 'rydw i'n profi gwir ryddid am y tro cynta'. |
| (1, 1) 433 | Dwy flynedd ge's i ar ôl yr ysgol cyn i'r fyddin fy nghipio i ffwrdd. |
| (1, 1) 434 | Pum mlynedd wedyn o grwydro dros hanner y byd efo gwn yn fy llaw. |
| (1, 1) 435 | A mi ydach chi'n disgwyl i mi setlo i lawr yn syth i fywyd cul y dre' fach hunan-gyfiawn yma! |
| (1, 1) 436 | Ydach chi ddim yn gweld 'mod i eisio amser i gael fy ngwynt ataf? |
| (1, 1) 438 | Twt, beth ydy' blwyddyn? |
| (1, 1) 442 | Beth wyt ti'n ei feddwl? |
| (1, 1) 445 | Wnes i ddim gofyn am eich barn chi, Benja. |
| (1, 1) 447 | Wel peidiwch â phethma, da chi! |
| (1, 1) 448 | Mae yna ddigon yn fy mhen i fel y mae hi, heb i chi roi eich pig i mewn. |
| (1, 1) 451 | Sut felly? |
| (1, 1) 455 | Oes yna rywbeth o'i le yn hynny? |
| (1, 1) 457 | Os medra' i wneud digon o arian heb orfod slafio am dano fo, mi fydda' i'n berffaith fodlon. |
| (1, 1) 460 | Beth wyt ti'n drio'i awgrymu? |
| (1, 1) 462 | Dic Lloyd? |
| (1, 1) 463 | Beth amdano fo? |
| (1, 1) 467 | Twt lol—cenfigen, a dim arall! |
| (1, 1) 468 | Fedar pobol y dre yma ddim diodde' gweld neb yn mynd yn ei flaen. |
| (1, 1) 469 | Mae llwyddiant dynion ifanc fel draenen yn eu cnawd nhw. |
| (1, 1) 470 | A mi wnan' hynny fedran' nhw i wneud lobscows o bopeth. |