| (1, 1) 9 | "Ai dagr yw hon a welaf o'm blaen, a'i charn tuag ataf? |
| (1, 1) 10 | Aros, gad i mi afael ynot!... |
| (1, 1) 11 | Ond methais dy ddal, ac eto rwy'n dy weld o hyd. |
| (1, 1) 12 | Hunlle farwol─a wyt ti'n bod i'r llygaid yn unig, ac ni ellir dy deimlo? |
| (1, 1) 13 | Ai dagr y dychymyg wyt, rhyw ffug-wrthrych, yn tarddu o'r ymennydd claf? |
| (1, 1) 14 | 'Rwy'n dy weld eto, mor eglur dy ffurf â'r ddagr hon a dynnaf o fy wain... |
| (1, 1) 15 | Nid oes beth o'r fath! |
| (1, 1) 16 | Y gorchwyl gwaedlyd sy'n ymrithio hyn o flaen fy ngolwg..." |
| (1, 1) 23 | O helo, Mam, wyddwn i ddim eich bod chi yna. |
| (1, 1) 27 | Na, mynd drwy fy mhart yn y ddrama roeddwn i. |
| (1, 1) 31 | Wel honno ma' cwmni'r pentra'n mynd i berfformio nesa. |
| (1, 1) 32 | Roeddwn i'n meddwl eich bod yn gwybod. |
| (1, 1) 37 | Twt, dim o'r fath beth─ |
| (1, 1) 40 | Y! |
| (1, 1) 44 | Dyn annwyl, Mam, am be rydach chi'n siarad, deudwch? |
| (1, 1) 50 | Ar fengoch i! |
| (1, 1) 52 | Dim ond─ |
| (1, 1) 57 | Na─o ddifri? |
| (1, 1) 62 | Macbeth. |
| (1, 1) 64 | Macbeth─wyddoch chi─ |
| (1, 1) 66 | Un o ddramâu mawr y byd, 'rhen wraig! |
| (1, 1) 68 | Pregethwr? |
| (1, 1) 69 | Nac oes debyg iawn─ |
| (1, 1) 74 | 'Rydach chi'n hen ffasiwn, Mam. |
| (1, 1) 75 | Mae'r cymeriadau yna ar lwyfannau Cymru ers oes y coga'. |
| (1, 1) 76 | Ac wedi colli pob ystyr bellach. |
| (1, 1) 77 | Pypedau yn dawnsio ar ben llinyn heb rithyn o fywyd─ |
| (1, 1) 79 | Ond 'dydach chi ddim yn sylweddoli. |
| (1, 1) 80 | Yr anfarwol William Shakespeare 'sgrifennodd hon! |
| (1, 1) 81 | Y dramodydd mwya' welodd y byd erioed. |
| (1, 1) 82 | Mi dreiddiodd yn ddyfnach i mewn i'r natur ddynol na neb o'i flaen nac ar ei ôl. |
| (1, 1) 84 | Roedd calon ac enaid dyn fel llyfr agored o'i flaen. |
| (1, 1) 85 | Gwelodd y drygioni a'r pechod sy'n gymysg â'r rhinweddau ym mhob un ohonom. |
| (1, 1) 86 | Ac yr oedd barddoniaeth yn byrlymu ohono fel ffynnon ddihysbydd. |
| (1, 1) 87 | Mi ydw i'n dweud wrthych chi, Mam, mae'r cymeriadau sydd yn ei waith yn gig a gwaed fel chi a finna. |
| (1, 1) 89 | Dyna'r hen ragfarn sy' wedi bod fel mwgwd am ein llygaid ni, Mam. |
| (1, 1) 90 | Mae'n hen bryd ei daflu o i ffwrdd. |
| (1, 1) 91 | Dyna pam 'rydw i am fentro rhoi Macbeth ar y llwyfan─yn Gymraeg deallwch chi. |
| (1, 1) 92 | A doed a ddelo, mi ddalia i ati efo 'nghwmni bach. |
| (1, 1) 95 | Mi gewch chi weld peth arall! |
| (1, 1) 99 | Mam bach, does yna ddim symud arnoch chi! |
| (1, 1) 105 | Be sy'n bod, Margiad? |
| (1, 1) 107 | Naddo 'neno'r tad! |
| (1, 1) 110 | Diogi? |
| (1, 1) 111 | Ha! |
| (1, 1) 112 | Mi ydw i wedi chwysu mwy dros y ddrama yma nag a wnes i 'rioed. |
| (1, 1) 113 | Cofia 'mod i wedi ei chyfieithu hi hefyd─ |
| (1, 1) 122 | Yli, Margiad, paid â thafodi gymaint da chdi. |
| (1, 1) 123 | 'Rwyt ti'n gwastraffu dy egni wrth siarad. |
| (1, 1) 124 | Dim ond dau air sydd eisio, "Jonah─siop." a dyna'r cwbwl drosodd. |
| (1, 1) 125 | Wn i ddim pam mae eisio gwneud consart o bob mymrun lleia. |
| (1, 1) 127 | Twt, dydach chi ddim yn fy neall i. |
| (1, 1) 128 | Does yna neb yn fy neall i. |
| (1, 1) 129 | Dyna drasiedi pob llenor ac artist erioed─cael ei fygu gan bethau dibwys, materol. |
| (1, 1) 131 | O wel, dyna'r drefn! |
| (1, 1) 132 | Rhaid mynd at y cwsmar. |
| (1, 1) 135 | O wel, dyna fo felly... |
| (1, 1) 136 | Pwy oedd o? |
| (1, 1) 140 | Margiad bach, be ydi crys gwlanan wrth ochor Macbeth? |
| (1, 1) 143 | Ia, ond "nid ar fara'n unig"─ac yn y blaen, cofiwch chi, Mam! |
| (1, 1) 150 | Ond hanner munud, Mam─ |
| (1, 1) 166 | Debyg iawn. |
| (1, 1) 167 | Mae o'n beth hollol naturiol! |
| (1, 1) 168 | Run fath â chael dannedd. |
| (1, 1) 169 | Rhan o'i dyfiant o. |
| (1, 1) 176 | Yli, Margiad, dydi hynna ddim yn wir. |
| (1, 1) 177 | Chymera' i ddim pob cyhuddiad ar draws fy nannedd chwaith. |
| (1, 1) 178 | Y ddrama ydi fy myd i, 'rwyn cyfadda. |
| (1, 1) 179 | A does gen i ddim cywilydd o hynny chwaith. |
| (1, 1) 180 | Ma' hi wedi mynd os na chaiff dyn ymddiddori mewn llenyddiaeth ar ei gora, heb gael ei gyhuddo o fod yn ddihiryn calon galed. |
| (1, 1) 185 | O paid â rwdlian yn wirion da chdi! |
| (1, 1) 186 | Mae busnas yn mynd yn llai bob blwyddyn yr amser yma. |
| (1, 1) 187 | Dim ond cyfnod rhwng dau dymor ydi o. |
| (1, 1) 188 | Mi fyddwn yn dechra pigo i fyny eto gyda hyn. |
| (1, 1) 189 | Aros i'r hen Ddoctor Parry ddwad i mewn i brynu trôns hir. |
| (1, 1) 190 | Hwnnw ydi'r arwydd bod y Gaea wedi landio. |
| (1, 1) 191 | Mi fyddwn yn gwerthu fel slecs wedyn. |
| (1, 1) 193 | O, dyna hi eto! |
| (1, 1) 194 | Ffaith amdani, Margiad, 'dwyt ti ddim yn hapus os nad oes gen ti wyneb hir. |
| (1, 1) 195 | Os nad ydio'r peth yma mae o'r peth arall. |
| (1, 1) 196 | Mae yna rai pobol felly─fedra' nhw yn eu byw beidio cwyno. |
| (1, 1) 203 | Yli, dos i nôl dillad i chdi dy hun o dy gorun i dy sowdwl. |
| (1, 1) 204 | A dos i gyrlio dy wallt hefyd i'r fargan. |
| (1, 1) 205 | Gwna fel fyd a fynnot ti ond da chdi, tria sirioli dipyn! |
| (1, 1) 206 | Ma' hi fel cynhebrwng parhaus yma. |
| (1, 1) 208 | Wel fi, debyg iawn. |
| (1, 1) 210 | Nefoedd fawr─hanner cant? |
| (1, 1) 212 | O'r gora, dyna fo! |
| (1, 1) 213 | Os oes rhaid eu cael nhw 'does yma ddim diben mewn dadla. |
| (1, 1) 215 | Wel be? |
| (1, 1) 217 | Dos i ordro be sydd arnat ti eisio. |
| (1, 1) 218 | Dwad wrth Lloyd am ei roi o i lawr ar fy nghownt i. |
| (1, 1) 223 | Wel be aflwydd sydd o'i le ynddo fo? |
| (1, 1) 224 | Dyn busnas ydi Lloyd fel finna. |
| (1, 1) 225 | Mi fydd o'n siwr o'i arian cyn diwedd y flwyddyn. |
| (1, 1) 230 | Wel tawn i'n glem! |
| (1, 1) 255 | Wyddost ti be', Margiad, 'rwyt ti'n swnio fel 'tae ti'n wraig weddw wedi brwydro'i hunan bach dros ei phlant! |
| (1, 1) 256 | Ple 'rydw i'n dwad i mewn? |
| (1, 1) 257 | Paid â chymryd y clod i gyd da chdi! |
| (1, 1) 262 | Myn diain, dyna'r ora eto! |
| (1, 1) 263 | Gan bwy gafodd Dilys ei dychymyg byw, a'i chariad at lenyddiaeth a diddordebau'r meddwl? |
| (1, 1) 265 | 'Does dim rhaid iddi fod cywilydd o hynny. |
| (1, 1) 266 | O freuddwydion mae petha' gora'r byd yma wedi tarddu. |
| (1, 1) 268 | Mae'n rhaid i ddyn godi ei olwg i'r bryniau a'r cymylau. |
| (1, 1) 269 | Yno mae'r gwir brydferthwch, nid yn y llwch sydd odan ei draed. |
| (1, 1) 270 | Rhaid ymestyn allan tuag at y sêr, ac ymysgwyd yn rhydd oddi wrth faglau'r byd a'i bethau. |
| (1, 1) 271 | Y sêr, ia! |
| (1, 1) 272 | Fedar dyn byth ymaflyd ynddyn nhw─ma' nhw bob amser y tu hwnt i'w gyrraedd. |
| (1, 1) 273 | Ond mi fedar ymestyn─mae'n rhaid iddo fo ymestyn ne wywo fel deilen grin. |
| (1, 1) 274 | Ac yn yr ymdrech yna y mae antur bywyd─dyna sydd yn gwneud bywyd yn werth ei fyw! |
| (1, 1) 277 | Wel! |
| (1, 1) 280 | Am fyd y dychymyg, Mam. |
| (1, 1) 281 | Hwyrach nad ydach chi ddim yn fy neall i. |
| (1, 1) 282 | Ond mae Dilys yn deall, o ydi! |
| (1, 1) 283 | Ac i mi ma' hi i ddiolch am hynny. |
| (1, 1) 284 | Gyda phob parchedig barch, Margiad annwyl, does gen ti ddim mwy o ddychymyg na chwningan! |
| (1, 1) 286 | Mae o'n wir, Margiad. |
| (1, 1) 287 | Paid â meddwl mod i'n gweld bai arnat ti. |
| (1, 1) 288 | Does gen ti ddim help. |
| (1, 1) 289 | Mae'n rhaid cael pobol 'run fath â chdi, hefyd, i fynd â'r byd yn ei flaen. |
| (1, 1) 290 | Pobol sy'n gofalu am betha bach bob dydd. |
| (1, 1) 291 | A ma' rheiny'n anrhaethol bwysig wrth gwrs. |
| (1, 1) 292 | Ond da chdi, paid â hawlio'r clod i gyd. |
| (1, 1) 298 | Y! |
| (1, 1) 299 | Am be 'rydach chi'n sôn? |
| (1, 1) 301 | Wel? |
| (1, 1) 303 | Mi fydd gen i glec bach reit ddel erbyn hynny, rhen wraig, peidiwch â phoeni. |
| (1, 1) 305 | Ia, Margiad, 'rwyt ti'n edrach yn syn! |
| (1, 1) 306 | A newydd ddweud nad ydi fy nau droed i byth ar y ddaear! |
| (1, 1) 308 | Hidia di befo, 'rhen chwaer. |
| (1, 1) 309 | Mi gei di weld gyda hyn. |
| (1, 1) 310 | Dydi'r ffaith bod dyn yn ymddiddori mewn drama ddim yn ei nadu o gadw'i lygaid ar y geiniog. |
| (1, 1) 311 | 'Roedd William Shakespeare yn ddyn busnas llwyddiannus a 'run pryd y bardd mwya' welodd y byd erioed. |
| (1, 1) 314 | Yn f'amser fy hun, Margiad bach, dim cynt. |
| (1, 1) 315 | Ond mi fydd hi'n reit daclus arno ni cyn bo hir, mi fedra i dy sicrhau di o hynny. |
| (1, 1) 316 | A fydd gen ti ddim achos cwyno am brinder dillad chwaith! |
| (1, 1) 333 | Y? |
| (1, 1) 336 | O ia,reit. |
| (1, 1) 338 | "Dwbwl, dwbwl boen a thrwbwl, llosged tân i ferwi'r cwbwl." |
| (1, 1) 341 | O! helo, Dicw, chdi sydd yna? |
| (1, 1) 342 | Tyrd drwodd am funud... |
| (1, 1) 343 | Na, does yna neb yma ond rhen wraig fy mam... mae gen i eisio gair efo ti. |
| (1, 1) 346 | Dim o gwbwl, tyrd i mewn. |
| (1, 1) 351 | Eistedd i lawr am funud, Dicw. |
| (1, 1) 354 | Twt, mi fedri sbario eiliad ne' ddau. |
| (1, 1) 356 | Wel oes gen ti ryw newydd? |
| (1, 1) 363 | Oes arnat ti eisio fy ngweld i'n brifat, Dicw? |
| (1, 1) 375 | Popeth yn iawn, 'rhen wraig, popeth yn iawn. |
| (1, 1) 379 | Merchaid! |
| (1, 1) 380 | Merchaid! |
| (1, 1) 381 | Ma' nhw'n achos mwy o loes i ddyn na holl bwysa'r byd yn gyfan. |
| (1, 1) 383 | Dydi hynna fawr o gysur i mi rwan. |
| (1, 1) 387 | Ia, 'rwyt ti'n llygad dy le. |
| (1, 1) 388 | Ond tyrd, beth oedd gen ti i ddweud? |
| (1, 1) 390 | Be! |
| (1, 1) 391 | Ar fengoch i, un peth ar ôl y llall! |
| (1, 1) 392 | A'r ddrama wedi mynd mor bell. |
| (1, 1) 393 | Be' ar y ddaear fawr wnawn ni rwan? |
| (1, 1) 396 | Tria fod dipyn mwy calonnog, da chdi! |
| (1, 1) 397 | Beth ydi'r mater arno fo? |
| (1, 1) 399 | O wel, dydi hynny ddim mor ddrwg. |
| (1, 1) 400 | Ma' nhw ar eu traed ymhen rhyw dri diwrnod ar ôl y gyllell. |
| (1, 1) 401 | A does ganddo fo ddim part mawr iawn. |
| (1, 1) 402 | Ond fedar neb actio'r Porthor yn Macbeth yn debyg i Harri. |
| (1, 1) 403 | Na, dydi hi ddim mor ddrwg wedi'r cyfan. |
| (1, 1) 404 | Ond mi roist ti andros o sioc i mi am funud─do 'tawn i'n glem! |
| (1, 1) 406 | Yr arswyd fawr, 'rwyt ti'n waeth na chysurwyr Job! |
| (1, 1) 407 | Pam na fuaset ti'n dweud y cwbwl y tro cyntaf? |
| (1, 1) 409 | A throi'r gyllel yn y briw bob tro! |
| (1, 1) 410 | Dyna ddiwedd arni felly. |
| (1, 1) 411 | Mi ydw i wedi ofni peth fel hyn ar hyd y bedlan!... |
| (1, 1) 412 | Niwmonia─wyt ti'n siwr? |
| (1, 1) 416 | Harri druan─y mwyaf eiddgar o'r cwmni bach i gyd! |
| (1, 1) 417 | Ac wedi edrych ymlaen gymaint ar y perfformiad. |
| (1, 1) 418 | Mi fuasa'n cropian o'r 'sbyty tae o'n medru rhywsut─i'n helpu ni. |
| (1, 1) 419 | Wn i ddim beth i wneud rwan. |
| (1, 1) 420 | Fedra i feddwl am neb i gymryd ei le fo. |
| (1, 1) 422 | Pwy aflwydd sydd yna rwan tybed? |
| (1, 1) 425 | O helo, Alun,─chdi sydd yna? |
| (1, 1) 426 | Tyrd i mewn. |
| (1, 1) 428 | Na na, dim o gwbwl. |
| (1, 1) 429 | Eistedd i lawr. |
| (1, 1) 431 | O ia. |
| (1, 1) 432 | Heb gyrraedd o'r ysgol ma' hi. |
| (1, 1) 433 | Fydd hi ddim yn hir... |
| (1, 1) 434 | Wn i ddim ydach chi'n nabod eich gilydd? |
| (1, 1) 435 | Alun Morus, hen ffrind i Dilys yma... |
| (1, 1) 436 | Dicw, saer-llwyfan y cwmni─ |
| (1, 1) 454 | Na, 'r wyt ti wedi gwneud yn o dda'n barod 'laswn i feddwl! |
| (1, 1) 460 | P'nawn da, Dicw. |
| (1, 1) 465 | Fedra petha fod dim gwaeth, Alun. |
| (1, 1) 466 | Newydd glywed fod Harri Huws wedi cael ei daro'n wael. |
| (1, 1) 470 | Go brin, mae arna i ofn. |
| (1, 1) 471 | Mi ydw i'n methu dyfalu be'i wneud. |
| (1, 1) 472 | A 'does ganddo ni fawr o amser. |
| (1, 1) 477 | Nac ydi─ond ei fod o'n hanfodol bwysig. |
| (1, 1) 478 | Y Porthor wyddost ti. |
| (1, 1) 480 | Ei dorri o allan! |
| (1, 1) 481 | Dim posib. |
| (1, 1) 482 | Macbeth heb y porthor? |
| (1, 1) 483 | Mi fuasa'n halogiad o un o gampweithia' llenyddiaeth y byd! |
| (1, 1) 485 | Dyna i ti gyffyrddiad y Meistr. |
| (1, 1) 486 | Y Porthor yn baldorddi'n wamal wrth y drws, yng nghanol yr awyrgylch du, trychinebus. |
| (1, 1) 487 | Cyferbyniad, wyt ti'n gweld─rhyw ias o ddoniolwch yng nghanol trasiedi, i ddwyshau'r trallod a'r galar. |
| (1, 1) 488 | Na, mae'r Porthor yn rhan hanfodol o wead y Ddrama. |
| (1, 1) 489 | Fedrir mo'i hepgor o byth. |
| (1, 1) 491 | Ydi, Alun. |
| (1, 1) 492 | Ar ôl y llafurio caled a'r brwdfrydedd i gyd. |
| (1, 1) 493 | Mae o'n siomiant chwerw iawn i mi. |
| (1, 1) 495 | Pendics a niwmonia 'rydw i'n deall. |
| (1, 1) 497 | Ymhen rhyw 'chydig dros dair wythnos. |
| (1, 1) 500 | Be'─wyt ti'n meddwl? |
| (1, 1) 505 | Wyddost ti be, rydw i'n credu dy fod ti'n iawn! |
| (1, 1) 506 | A mi wnaiff Harri ei ora i wella, mi ydw i'n gwybod hynny. |
| (1, 1) 507 | 'Rwyt ti wedi rhoi gobaith newydd i mi, Alun! |
| (1, 1) 508 | Goleuni yng nghanol y tywyllwch, megis. |
| (1, 1) 509 | A finna wedi digalonni'n lân. |
| (1, 1) 510 | Ond ar ôl ein hymdrechion i gyd, ma' hi'n anodd credu y buasa Ffawd yn gwneud tric mor sâl â hynna efo ni, yn tydi? |
| (1, 1) 511 | I fyny fo'r nod felly, a phob llwyddiant, gobeithio! |
| (1, 1) 518 | Be! |