| (0, 1) 9 | Ac i chitha. |
| (0, 1) 12 | Y gora yn y cyffinia, w'chi. |
| (0, 1) 16 | E? |
| (0, 1) 18 | Sôn am wybed, roeddyn nhw fel pla i lawr ar y traeth gynna. |
| (0, 1) 21 | Dal genwair, nid pysgota fel y cyfryw. |
| (0, 1) 23 | E?... |
| (0, 1) 24 | la am wn i... |
| (0, 1) 25 | Mi fedar unrhyw ffŵl enweirio ar y cei, w'chi. |
| (0, 1) 27 | Peth arall ydi pysgota afon. |
| (0, 1) 28 | Rhaid ichi fod yn fwy sgilgar o beth mwdral. |
| (0, 1) 30 | Dim amheuaeth. |
| (0, 1) 31 | Mae brithilliaid yn greaduriaid call, w'chi. |
| (0, 1) 32 | Nid petha hanner-pen run fath â lledod a chathod-môr ac ati. |
| (0, 1) 33 | Mae gofyn ichi ddefnyddio dipyn o hwn... |
| (0, 1) 35 | Deudwch i mi, ydw i wedi'ch gweld chi o'r blaen ryw dro? |
| (0, 1) 37 | Ŵn i ar y ddaear. |
| (0, 1) 38 | Ond mi awn i ar fy llw. |
| (0, 1) 39 | Fel tawn i'n eich nabod chi erioed, rywsut. |
| (0, 1) 41 | Ia efalla... |
| (0, 1) 42 | Fel ro'n i'n deud, mae pysgota'r afon yn fwy nag eistedd ar eich pen-ôl yn dal genwair. |
| (0, 1) 43 | Yn un peth rhaid ichi wybod eich plu. |
| (0, 1) 44 | A medru eu gwneud nhw os bydd angen. |
| (0, 1) 46 | Mae'r hen frithyll yn gwybod y gwahaniaeth rhwng petrisen-corff-lliw-gwin a phetrisen-corff-blewyn-sgwarnog, w'chi. |
| (0, 1) 47 | Dro arall, wneith dim y tro ond pluen ceiliog-chwaden-corff-melyn-budur. |
| (0, 1) 49 | Wrthi ers pan ro'n i'n hogyn efo fy nwylo o dan y cerrig. |
| (0, 1) 50 | Cosi bol yr hen frithyll nes y bydda fo'n swrth! |
| (0, 1) 52 | E? |
| (0, 1) 53 | Ia, am wn i. |
| (0, 1) 55 | Wel, gan ichi ddeud hynna, mi ydw wedi teimlo erioed nad ydw i ddim yn hollol run fath â phobol eraill rhywsut. |
| (0, 1) 57 | Peidiwch â cham-ddeall. |
| (0, 1) 58 | Dwy i ddim yn honni am funud mod i'n well nag yn waeth na'r rhelyw. |
| (0, 1) 59 | Ond mod i'n wahanol... |
| (0, 1) 60 | Ydach chi'n siwr nad ydw i ddim wedi'ch gweld chi o'r blaen? |
| (0, 1) 61 | Puw ydi f'enw i, Jonah Puw. |
| (0, 1) 65 | Rhyfedd ichi grybwyll y peth. |
| (0, 1) 66 | Ond ers pan o'n i'n grwtyn, mi ydw i wedi teimlo rhyw berthynas od rhyngof i a'r hen Broffwyd bach hwnnw. |
| (0, 1) 67 | Effaith yr enw ar y dychymyg mae'n debyg. |
| (0, 1) 68 | Yn enwedig pan fydda i'n gorwedd ar y clogwyn yma, fin nos yn yr haf. |
| (0, 1) 72 | E? |
| (0, 1) 76 | Diawch, wyddoch chi be, rydach chi'n berffaith iawn. |
| (0, 1) 77 | Amser i freuddwydio ydi o. |
| (0, 1) 78 | A mynd yn ôl i ddyddia mebyd. |
| (0, 1) 79 | A gweld, drwy lygaid y dychymyg fel tae, helyntion yr hen Broffwyd Bach o Gath Heffer yn fy mywyd i fy hun. |
| (0, 1) 80 | Yn union fel petaen ni'n ymdoddi i'n gilydd... |
| (0, 1) 89 | Ac yn fy mreuddwyd roedd hyd yn oed rhai o'r pentrefwyr yn chwarae rhan yn yr hen chwedl... heb anghofio'r hen wraig fy nain. |
| (0, 1) 325 | Fi? |
| (0, 1) 326 | Hel cregyn ar y traeth. |
| (0, 1) 327 | Siarad efo'r gwylanod. |
| (0, 1) 328 | A gwrando ar y gwynt. |
| (0, 1) 330 | Addo tywydd drwg yfory. |
| (0, 1) 333 | Fi? |
| (0, 1) 334 | Naddo. |
| (0, 1) 337 | Wel... mi fûm i yno neithiwr. |
| (0, 1) 340 | Ia, pan oedd y ser yn dechra dwad allan. |
| (0, 1) 341 | Roeddyn nhw mor agos tawn i wedi estyn fy llaw mi faswn wedi medru gafael mewn dyrnaid ohonyn nhw. |
| (0, 1) 342 | A'u rhoi'n fwclis i Nain. |
| (0, 1) 481 | Dydd da, Syr. |
| (0, 1) 483 | Fi, Syr? |
| (0, 1) 484 | Naddo... |
| (0, 1) 485 | Hynny ydi, rhyw hanner awr... |
| (0, 1) 486 | Sut y gwyddoch chi, Syr? |
| (0, 1) 488 | Ydw... weithia. |
| (0, 1) 491 | Dwy' i ddim yn gwybod, Syr. |
| (0, 1) 493 | O bydda... ambell dro... |
| (0, 1) 494 | Hynny ydi pan fydda i wedi blino ar fy mhen fy hun. |
| (0, 1) 496 | Ydw, Syr. |
| (0, 1) 498 | Dim ond gorwedd ar y gwellt, Syr. |
| (0, 1) 499 | Ac edrych i fyny ar yr awyr. |
| (0, 1) 501 | Bob math o betha... |
| (0, 1) 502 | Wyddoch chi, — y cymylau'n newid eu siâp ac ati... |
| (0, 1) 503 | Mae arna i ofn yno, weithia, hefyd. |
| (0, 1) 505 | Dwy'i ddim yn gwybod... |
| (0, 1) 506 | Dim ond ofn. |
| (0, 1) 513 | Mi wna i 'ngora glas, Syr. |
| (0, 1) 551 | Reit, gan eich bod chi'n gofyn... |
| (0, 1) 552 | Mae o wedi digwydd eto! |
| (0, 1) 553 | Run fath ag o'r blaen. |
| (0, 1) 554 | Wel, nid yn hollol run fath. |
| (0, 1) 555 | Ond bron yn hollol run fath. |
| (0, 1) 556 | Hynny ydi, y tro yma roedd yna fymryn bach o wahaniaeth. |
| (0, 1) 557 | Y tro o'r blaen be wnes i oedd nadu'r tarw dwlcio'r hen gi dall. |
| (0, 1) 558 | A hynny hyd cae i ffwrdd. |
| (0, 1) 559 | 'Rydach chi'n cofio hynna i gyd. |
| (0, 1) 562 | Wna i ddim dweud hynny. |
| (0, 1) 563 | Dydw i ddim yn un am frolio. |
| (0, 1) 564 | Mi gewch chi benderfynu. |
| (0, 1) 565 | Y cyfan rwy i'n 'i ddweud ydi, mod i'n medru gwneud petha clyfar. |
| (0, 1) 566 | Wel, nid clyfar, efalla. |
| (0, 1) 567 | Hynod, — ia dyna fo. |
| (0, 1) 568 | Andros o hynod. |
| (0, 1) 569 | Dim ond imi feddwl a meddwl. |
| (0, 1) 570 | A chau fy nyrna nes y bydda i'n chwys diferol. |
| (0, 1) 571 | Wedyn mae o'n digwydd! |
| (0, 1) 575 | Wel, ro'n i ar y clogwyn y diwrnod o'r blaen. |
| (0, 1) 576 | Gorwedd ar fy nghefn ro'n i, yn edrach ar eroplên yn yr awyr. |
| (0, 1) 577 | A dyma fi'n clywed bref. |
| (0, 1) 578 | Beth oedd yna meddech chi? |
| (0, 1) 579 | Oen bach, wedi mynd yn sownd yn y graig. |
| (0, 1) 580 | Dyna ichi beth oedd o. |
| (0, 1) 581 | Ac wrth ei ben o, yn disgwyl ei chyfle, andros o gigfran fawr. |
| (0, 1) 582 | Roedd hi gymaint ag eryr bron. |
| (0, 1) 583 | A phig tua saith modfedd o hyd. |
| (0, 1) 586 | Wel, andros o big. |
| (0, 1) 587 | A dyna fi'n meddwl. |
| (0, 1) 588 | A chau fy nyrnau nes ro'n i'n chwys. |
| (0, 1) 589 | A deud yn ddistaw, yn fy mhen fel tae: |
| (0, 1) 590 | "Yli, Frân," medda fi, |
| (0, 1) 591 | "dim un fodfedd yn nes," medda fi, |
| (0, 1) 592 | "Rwy'n dy droi di'n garreg y munud yma!" medda fi. |
| (0, 1) 593 | Ac yn sydyn, dyma hi'n fferru yn y fan a'r lle. |
| (0, 1) 594 | Ac yn mynd yn rhan o'r graig... |
| (0, 1) 595 | Mae ei siâp hi yna o hyd... |
| (0, 1) 596 | Ond fedar neb ond yfi ei gweld hi! |
| (0, 1) 599 | Wel gan eich bod yn gofyn. |
| (0, 1) 600 | Mi es i nofio ddoe. |
| (0, 1) 601 | Roedd hi'n ddiwrnod braf a'r dŵr yn gynnes. |
| (0, 1) 602 | A dyna fi'n nofio allan rhyw bedair milltir. |
| (0, 1) 604 | Wel, nid pedair efalla. |
| (0, 1) 605 | Ond ymhell dros dri chan llath. |
| (0, 1) 606 | Ac yn sydyn dyma'r gwynt yn chwythu a'r llanw'n codi. |
| (0, 1) 607 | A minnau'n cael fy nghario ar y creigia. |
| (0, 1) 608 | Fel arfer, fasa hynny'n poeni dim arna i. |
| (0, 1) 609 | Ond fedar y nofiwr gora yn y byd wneud affliw o ddim os daw cramp i'w goesa. |
| (0, 1) 610 | Mae o'n union fel lwmp o blwm. |
| (0, 1) 611 | Wel, dyna ddigwyddodd i mi. |
| (0, 1) 612 | Andros o gramp. |
| (0, 1) 613 | Ro'n i'n meddwl i bod hi ar ben arna i. |
| (0, 1) 614 | A'r creigiau du yn sgyrnygu dannedd. |
| (0, 1) 615 | Yna, dyma fi'n gweld rhywbeth. |
| (0, 1) 616 | Be meddech chi? |
| (0, 1) 617 | Llambedyddiol. |
| (0, 1) 618 | Andros o un. |
| (0, 1) 619 | Cymaint â bustach. |
| (0, 1) 620 | Mwy efallai. |
| (0, 1) 621 | Cymaint â morfil! |
| (0, 1) 622 | Wel mi wyddoch am lambedyddiol. |
| (0, 1) 623 | Mae o'n greadur call. |
| (0, 1) 624 | Ac yn dyner. |
| (0, 1) 625 | Ac yn gyfaill i ddyn. |
| (0, 1) 626 | Wel, dyma fi'n cau fy nyrna, a meddwl nes ro'n i'n chwys diferol. |
| (0, 1) 627 | Gofyn iddo fo fy helpu, ─ dyna ro'n i'n 'i wneud. |
| (0, 1) 628 | Ac yn sydyn dyma fo'n troi a nofio ataf fi. |
| (0, 1) 629 | A gadael imi afael yn ei gynffon. |
| (0, 1) 630 | A mynd â fi rhwng y creigia i'r dŵr tawel o dan y clogwyn. |
| (0, 1) 634 | Dydw i ddim yn gwybod be rydach chi'n 'i feddwl. |
| (0, 1) 636 | Wel nid yn hollol run faint â bustach, efalla. |
| (0, 1) 637 | Ond roedd o gymaint â merlyn. |
| (0, 1) 641 | Wel dyna be ddigwyddodd. |
| (0, 1) 644 | Wel... hwyrach nad oedd y cramp ddim wedi gafael yno i'n llwyr. |
| (0, 1) 645 | Ia, dyna fo. |
| (0, 1) 646 | Mi ydw i'n cofio rwan, — ro'n i'n medru symud fy llaw dde! |
| (0, 1) 649 | Ond mi ydw i'n deud wrthych chi. |
| (0, 1) 650 | Mi fedra i |wneud| i betha ddigwydd. |
| (0, 1) 651 | Petha gwyrthiol. |
| (0, 1) 655 | Wel, nid gwyrthiol, hwyrach. |
| (0, 1) 656 | Rhyfeddol, — ia dyna fo, rhyfeddol. |
| (0, 1) 660 | Wel, mi dria i fy ngora glas. |
| (0, 1) 661 | Ond cofiwch, dydi o ddim yn gweithio bob tro. |
| (0, 1) 664 | Reit... 'rhoswch am funud...! |
| (0, 1) 669 | Welwch chi'r ysgubell acw? |
| (0, 1) 670 | Mi ydw i'n ei gorchymyn i ddawnsio!... |
| (0, 1) 671 | Ysgubell — dawnsia!... |
| (0, 1) 672 | Dawnsia!... |
| (0, 1) 673 | Dawnsia! |
| (0, 1) 678 | Ia, wel, dydi o ddim yn digwydd bob amser. |
| (0, 1) 681 | Mi gewch chi weld rhyw ddiwrnod! |
| (0, 1) 682 | Mi ga i fwy o barch bryd hynny! |
| (0, 1) 684 | Ar ôl imi dyfu i fyny, mi ydw i am fod yn Broffwyd! |
| (0, 1) 694 | Mi gewch chi weld! |
| (0, 1) 695 | Mi gewch chi weld! |
| (0, 1) 728 | O dim byd, Nain. |
| (0, 1) 729 | Tipyn o hwyl ─ |
| (0, 1) 760 | Ydw... |
| (0, 1) 761 | Doeddyn nhw ddim o ddifri, Nain! |
| (0, 1) 768 | Ond Nain...! |
| (0, 1) 770 | Ydw, Nain. |
| (0, 1) 774 | Reit, Nain. |
| (0, 1) 780 | Ydw, Nain... |
| (0, 1) 781 | Ewch chi gynta. |
| (0, 1) 782 | Mi reda i ar eich ôl chi mewn munud. |
| (0, 1) 789 | Nain!... |
| (0, 1) 790 | Nain!... |
| (0, 1) 791 | Nain! |