| (1, 0) 15 | Rhowch broc i'r tân 'na, mam, a pheidiwch a hel meddylia. |
| (1, 0) 19 | Rwy'n synnu atoch chi'n codlo'ch pen hefo breuddwydion: ryda chi'n rhoi gormod o goel arnyn' nhw o lawer. |
| (1, 0) 22 | 'Dydw i ddim yn ych cipio chi, mam druan, ond yn siwr i chi, ma'ch meddwl chi'n troi gormod ar yr un colyn. |
| (1, 0) 23 | Mae'n rhaid i chi drio 'mysgwyd o'r synfyfyrio 'na. |
| (1, 0) 27 | Twt, lol, mi wn beth ydach chi am ddeyd─mod i'n tynnu ar ol 'y nhad, mod i braidd yn oer a dideimlad fel y fo. |
| (1, 0) 30 | O ïe, ewch ymlaen─rwyf finna'n garedig ond fod rhywbeth |stiff| yn 'y natur i. |
| (1, 0) 31 | Welwch chi, mam, rwyf wedi rhoi blynyddoedd gore 'y mywyd i slafio'n galed yn y ffarm fechan 'ma, ac rwyf wedi tendio arnoch chitha gystal allwn i pan nad allech neud ond y peth nesa i ddim drosoch ych hun. |
| (1, 0) 34 | Na, na! ddeydis i mo hynny chwaith. |
| (1, 0) 35 | Y gwir plaen ydi, fedra i ddim bod yn fêl a siwgwr, a waeth i mi heb drio bellach. |
| (1, 0) 37 | Wel, mi gadawn hi ar hynyna. |
| (1, 0) 38 | Beth ydi'r breuddwyd 'ma sy wedi'ch ansmwytho chi? |
| (1, 0) 40 | Na, na, deydwch y breuddwyd: mi fydd yn ollyngdod i chi gael i ddeyd o. |
| (1, 0) 46 | 'Does dim i'w ddeyd, achos mi wyddoch be di marn i am Dic erbyn hyn. |
| (1, 0) 49 | Gwell i chi beidio hwyrach; mi wyddoch sut un ydi 'nhad ar ol rhoi'r ddeddf i lawr. |
| (1, 0) 53 | Dic bach, wir! |
| (1, 0) 54 | Mae'n ddigon hen i fod wedi torri'ch calon chi beth bynnag er's dros bum mlynedd: mae'n ddigon hen i fod wedi gneud 'y nhad ddeng mlynedd yn hynach na'i oed. |
| (1, 0) 55 | 'Dydw i ddim yn synnu na fyn 'y nhad ddim clywed i enw yn y tŷ 'ma. |
| (1, 0) 56 | Dic bach, ai ê? |
| (1, 0) 57 | Fo chwalodd ddedwyddwch yr aelwyd 'ma am byth. |
| (1, 0) 63 | Mam, cymrwch gyngor gen i, peidiwch ag upsetio'ch hunan ar i gownt o, 'dydi o ddim yn werth yr un deigryn nac ochenaid. |
| (1, 0) 73 | Rwyf bron wedi gorffen. |
| (1, 0) 76 | Yma y bydd y pregethwr fory yntê yn cael cinio a thê? |
| (1, 0) 81 | Does gen i fawr o feddwl o Ezra Davis, waeth gen i pwy glywo. |
| (1, 0) 83 | Da ne beidio, un poenus ydi o i aros mewn tŷ beth bynnag. |
| (1, 0) 85 | Dim, am wn i, ond i fod o'n ofnadwy o barticlar hefo'i fwyd. |
| (1, 0) 86 | Pam na fedar o fyta fel rhyw ddyn arall─byta popeth, yn lle pigo fel cyw iar? |
| (1, 0) 99 | Naddo. |
| (1, 0) 118 | Pwy sydd yna? |
| (1, 0) 149 | Dyma fi'n mynd ynteu. |