| (1, 0) 189 | Da iawn, diolch, Modryb Tabitha. |
| (1, 0) 193 | Na, mae gan Dilys ddigon o feddwl am briodi, a phriodi arian, heb i chi ei chymell, Modryb. |
| (1, 0) 194 | Byddai'n foethyn iddi feddwl am rywbeth arall, 'rwy'n tybio—meddwl am ennill, er enghraifft. |
| (1, 0) 197 | Mae'n rhyfedd bod eisiau sôn am hynny, wedi i ti gael yr holl ysgol a choleg. |
| (1, 0) 198 | Dymuno 'rwyf i dy fod wedi llwyddo yn dy arholiad, fel y gelli sefyll ar dy draed dy hunan, o'r diwedd. |
| (1, 0) 211 | Fe ddysgodd 'nhad y ffordd i mi i weithio, beth bynnag, a 'chydig o goleg fyddet ti, Dilys, wedi weld onibai hynny. |
| (1, 0) 214 | 'Ddanodais i erioed. |
| (1, 0) 215 | 'Doedd dim byd yn falchach gen i na dy fod di wedi gallu cael coleg. |
| (1, 0) 220 | Ydi, bron â bod, mam, ond mae Letitia'n gorffen tipyn bach o waith i mi gyntaf. |
| (1, 0) 224 | Wel, ydi, druan, mae Letitia dipyn yn lletchwith. |
| (1, 0) 225 | 'Rwy'n gwybod na fyddai yn taro nemor un. |
| (1, 0) 226 | Dyna pam y cymerais drugaredd arni; ond erbyn hyn y mae wedi dod at fy llaw yn gwmws. |
| (1, 0) 228 | Ydi. |
| (1, 0) 229 | Mae'n syndod fel y mae wedi dod i deipio. |
| (1, 0) 230 | Teipio llythyr y mae hi 'nawr, ond fe gaiff fynd at y te yn union. |
| (1, 0) 234 | Fe gei di weithio tê, os yw'n well gennyt, Dilys. |
| (1, 0) 235 | Chaiff Letitia ddim bod yn destun gwawd i ti. |
| (1, 0) 238 | Mi âf i at y bwyd 'nawr, mam. |
| (1, 0) 246 | Mi wnaf fy ngorau, Modryb... a fydd dim blâs copor arno i chi! |
| (1, 0) 309 | Mae te'n barod. |
| (1, 0) 310 | Dewch 'nawr. |
| (1, 0) 313 | Ydi, heno, am fod yr elw tuag at yr Ysbyty. |
| (1, 0) 314 | Rwyf innau wedi addo mynd heno. |
| (1, 0) 315 | Nid wyf byth yn arfer mynd, a byddai'n well gen i beidio mynd heno, hefyd—ond rhaid mynd, er mwyn yr Achos. |
| (1, 0) 319 | Nag ydi, 'rwy'n deall. |
| (1, 0) 321 | 'Sylwais i ddim fod eisiau cefnogaeth arni, Modryb. |
| (1, 0) 324 | Gwisg un arall 'te, Dilys. |
| (1, 0) 325 | Mae sawl un i'w cael gennyt. |
| (1, 0) 326 | Dewch 'nawr, wir, neu bydd y te yn... |
| (1, 0) 330 | Ti ŵyr orau Dilys. |
| (1, 0) 333 | Na wna, wir. |
| (1, 0) 334 | Sut y gelli di ofyn y fath beth? |
| (1, 0) 335 | Nid wyf i wedi cael un ffrog ginio ers blynyddau, a thithau wedi cael un bob blwyddyn oddiar 'rwyt yn y Coleg. |
| (1, 0) 340 | Beth sydd arnoch chi i gyd, â'ch "'Nawr yw ei hamser hi?" |
| (1, 0) 341 | A beth yw dy reswm neilltuol di heno, Dilys? |
| (1, 0) 345 | O, sut ych chi'n meddwl hynny? |
| (1, 0) 350 | Ond mae'n rhaid iddi gael ffrog newydd! |
| (1, 0) 355 | "John Gray" wir! |
| (1, 0) 356 | Bydd John Gray yn sylwi dim ar dy ffrog, gelli fentro. |
| (1, 0) 360 | Clod, wir! |
| (1, 0) 361 | Chi â'ch John Gray! |
| (1, 0) 365 | Dyna ddigon o reswm dros ei gyfarfod, ynteu! |
| (1, 0) 370 | Nag ydw i, nag am glywed gair pellach amdano. |
| (1, 0) 372 | Wel dewch at eich te. |
| (1, 0) 375 | Wel... gan ei bod hi mor bwysig i ti... cei. |
| (1, 0) 381 | Tendia di Dilys y te. |
| (1, 0) 382 | Mae popeth yn barod, ond mae'n rhaid i mi wneud tipyn bach o fusnes cyn te. |
| (1, 0) 389 | Ie, Letitia. |
| (1, 0) 390 | Mae'n rhaid i chi fynd â neges y'r Athro ar unwaith. |
| (1, 0) 391 | Mae rhywbeth pwysig wedi digwydd. |
| (1, 0) 393 | Alla i ddim mynd i'r Ginio, wedi'r cyfan. |
| (1, 0) 396 | 'Rwyf wedi addo, 'rwy'n gwybod, ond allaf i ddim mynd. |
| (1, 0) 398 | Dyna pam na wna ffonio'r tro nawr. |
| (1, 0) 399 | Rhaid i chwi fynd lawr ar eich beisicl i esbonio'n iawn sut y mae'n bod. |
| (1, 0) 400 | Dwedwch nas gallaf fynd am... am {yn chwerthin} am fod Dilys wedi mynnu fy unig ffrog {yn chwerthin eto} i gwrdd â John Gray. |
| (1, 0) 401 | LETITIA |
| (1, 0) 403 | 'Dych chi ddim wedi rhoi eich ffrog bert i Miss Dilys, os bosib! |
| (1, 0) 404 | Ydw wir. |
| (1, 0) 405 | Does neb yma'n meddwl fod eisiau ffrog bert ar hen ferch ddeugain oed. |
| (1, 0) 407 | 'Nawr 'nawr, Letitia! |
| (1, 0) 408 | Wel, dwedwch wrth yr Athro fod yn ddrwg gen i... |
| (1, 0) 411 | Gorau gyd. |
| (1, 0) 412 | Dyna oedd yr Athro'n obeithio—er mwyn yr Ysbyty. |
| (1, 0) 417 | Byddai'n hwyl iawn i chwi, Letitia, ond 'rwyf i wedi bod yn crynu digon wrth feddwl am y peth. |
| (1, 0) 418 | Rwy'n methu deall sut y perswadiwyd fi i roi fy ngair. |
| (1, 0) 420 | Ie, ond y mae'n amhosib 'nawr, beth bynnag. |
| (1, 0) 422 | Alla i ddim gadael y tŷ cyn y daw'r post. |
| (1, 0) 423 | Addawodd y Cyhoeddwyr roi gwybod i mi heddiw'n ddi-ffael, a... a gwyddoch mor bwysig yw eu dedfryd y tro hwn. |
| (1, 0) 427 | O Letitia! |
| (1, 0) 428 | Gwyn fyd na fyddech yn dweud y gwir! |
| (1, 0) 431 | Peidiwch rhagrithio, Letitia. |
| (1, 0) 433 | Ie, ie. |
| (1, 0) 434 | 'Wnawn i ddim byd heboch chi, Letitia. |
| (1, 0) 437 | O'r gorau. |
| (1, 0) 438 | Cystal i mi fynd ynteu. |
| (1, 0) 441 | Fydda i ddim yn hir. |
| (1, 0) 510 | Hawyr bach! |
| (1, 0) 511 | Beth yw'r twrw 'ma? |
| (1, 0) 512 | Troais 'nol i 'mofyn llythyr i'w bostio, a 'chefais i erioed y fath fraw. |
| (1, 0) 513 | Be sy'n bod, dwedwch? |
| (1, 0) 520 | Beth sy'n bod, Letitia? |
| (1, 0) 524 | O dyna dda! |
| (1, 0) 525 | Diolch byth! |
| (1, 0) 527 | Eisteddwch, Modryb Tabitha. |
| (1, 0) 528 | Mae'n rhaid i mi roi esboniad i chi i gyd, ond wn i ddim yn iawn sut y mae dechrau. |
| (1, 0) 530 | Ond y fi. |
| (1, 0) 532 | Ie... ac yr wyf wedi addo mynd â Letitia gen i fel ysgrifennydd. |
| (1, 0) 540 | Efallai y dylwn fod wedi dweud wrthych chi, 'mam, o'r blaen, mae y fi yw John Gray. |
| (1, 0) 542 | Ond yr o'wn yn gallu 'sgrifennu'n fwy rhydd, a chael mwy o lonydd pan nad oedd neb yn gwybod... |
| (1, 0) 543 | 'Nawr y cafodd Letitia glywed fod y Cyhoeddwyr wedi derbyn fy llyfr newydd. |
| (1, 0) 551 | Peth rhyfedd na fyddech yn deall na allwn i byth gadw cartre fel hyn wrth deipio yn unig. |
| (1, 0) 554 | Fe oedd yn darllen fy ngwaith, ac yn fy nghymell ymlaen. |
| (1, 0) 556 | Bydd arian y llyfr newydd i chi 'mam. |
| (1, 0) 557 | Neges y ffôn heno sydd wedi penderfynu tynged yr Athro a minnau. |
| (1, 0) 558 | Yr wyf wedi gwrthod priodi nes eich bod chi 'mam yn annibynnol. |
| (1, 0) 559 | Fydd dim eisiau i'r Athro eich cynnal chi, o gwbl. |