| (1, 0) 20 | Beth gynllwyn wyt ti'n geisio'i wneud? |
| (1, 0) 21 | Pwy all actio yn y fath dwrw? |
| (1, 0) 26 | 'Dyw'r bachgen yna ddim cwarter call ambell waith... sarnu'r cyfan... a golygfa garu o bopeth! |
| (1, 0) 29 | Pam na allai ofalu cael un ddigon byr? |
| (1, 0) 31 | Sh! |
| (1, 0) 32 | Ah! |
| (1, 0) 33 | Da iawn, da iawn eich dau. |
| (1, 0) 35 | Roeddwn i'n gwybod y byddai'r cusan yna'n mynd i lawr yn dda. |
| (1, 0) 36 | 'Does dim fel cusan ar lwyfan i dwymo'r gwaed ifanc. |
| (1, 0) 41 | Rhyw ddwy dudalen a hanner. |
| (1, 0) 42 | 'Rwy' wedi dweud wrtho am gadw llygad ar Neli. |
| (1, 0) 44 | Ddim yna! |
| (1, 0) 45 | Ydy' hi ddim yn promto? |
| (1, 0) 47 | Wel, pwy sy'n promto yn yr ochor nawr' te'? |
| (1, 0) 49 | Nag yw, neno dyn... sarnu popeth mae hwnnw. |
| (1, 0) 50 | Fe'i taflodd i hunan â bwced i ganol y llwyfan yma gynneu fach gan wneud y mwstwr rhyfedda'. |
| (1, 0) 51 | 'Roedd y lle'n debycach o lawer i ben gwaith na chefn llwyfan. |
| (1, 0) 53 | Nawr, nawr... 'dŷch chi damed gwell o glebran. |
| (1, 0) 54 | Mae'r Fyddin wedi cymryd y lle, a rhaid gwneud y gorau o'r gwaetha'. |
| (1, 0) 55 | Gwen, cer di i gymryd lle Neli. |
| (1, 0) 58 | Wel, dyma beth ofnadwy! |
| (1, 0) 59 | Ble all y sgennes na fod wedi mynd? |
| (1, 0) 60 | Mae'n gwybod yn eitha' da fod John yn colli'i "gues " yn yr ail act o hyd. |
| (1, 0) 62 | Ond fe ddylai bod digon o synnwyr yn y ferch i beidio gadael 'i lle heb roi gwybod, beth bynnag oedd yn galw. |
| (1, 0) 63 | Rhaid i fi fynd eto, spo. |
| (1, 0) 66 | Ble mae'ch un chi? |
| (1, 0) 68 | 'Does dim copi wedi bod gennych chi oddi ar hynny? |
| (1, 0) 70 | Sam? |
| (1, 0) 71 | A beth wnaeth hwnnw? |
| (1, 0) 72 | 'Ddysgodd e' mo'i ran erioed. |
| (1, 0) 77 | O paid â'm boddran i am hynny nawr. |
| (1, 0) 80 | Beth ar wyneb daear sy'n bod nawr eto? |
| (1, 0) 83 | Dyna fe... fe wyddwn i... ble mae Neli? |
| (1, 0) 87 | Wn i ddim ble maen' hw! |
| (1, 0) 92 | Peidiwch â chlebran... beth sy' wedi digwydd?... oes na neb yn promto? |
| (1, 0) 97 | 'Dŷch chi ddim wedi cwpla? |
| (1, 0) 99 | Ond 'dyw'r ail act ddim ar ben? |
| (1, 0) 107 | Ond y bachgen ofnadwy... 'dŷch chi ddim wedi cwpla'r act! |
| (1, 0) 108 | Mae Gwen heb fod i mewn eto, a'r gân heb i chanu! |
| (1, 0) 110 | Ar ganol yr Act! |
| (1, 0) 114 | Ble'r oeddet ti? |
| (1, 0) 117 | Na, nid hynny 'rwy'n feddwl... faint o'r ddrama adawsoch chi allan? |
| (1, 0) 118 | Beth oeddet ti'n wneud pan anghofiest ti? |
| (1, 0) 123 | "Amateurs!" |
| (1, 0) 124 | 'Dych chi ddim ond "amateurs!" |
| (1, 0) 125 | Pam na fuaset ti'n 'i guddio fe fel hyn ag esgus bod tân ynddo? |
| (1, 0) 127 | 'Ddim o gwbwl... awgrymu yw dy waith di ar y llwyfan. |
| (1, 0) 129 | Cer ymlaen─beth ddigwyddodd wedyn? |
| (1, 0) 135 | 'Alla'i ddim bod â 'nwylo ym mhopeth. |
| (1, 0) 136 | Ble mae Neli? |
| (1, 0) 137 | Mae Mari fach Huws lawer yn well na hi. |
| (1, 0) 138 | Pwy ofynodd i honna ddod? |
| (1, 0) 140 | Pwy ishe dod i le fel hyn oedd arni? |
| (1, 0) 141 | Mae 'na draddodiad drama yma. |
| (1, 0) 142 | Os byddwn ni'n gwneud rhywbeth gartre' 'dyw hi-byth yn rhydd, ond os bydd trip i rywle, mae gyda ni. |
| (1, 0) 146 | Matshyn! |
| (1, 0) 147 | Elli di ddim cymharu fflam matshyn â fflam cariad! |
| (1, 0) 148 | Mae fflam cariad i barhau am byth... yn enwedig mewn drama. |
| (1, 0) 150 | Mae'r gân yn draddodiadol... yn eiddo i'r genedl, a chystal hawl gen i 'w defnyddio â neb arall. |
| (1, 0) 151 | Ag heblaw hynny, rhaid i Gwen gael esgus i newid. |
| (1, 0) 158 | Marged, ewch i edrych amdano. |
| (1, 0) 160 | Fe gawn ni setlo'r mater hwn ar unwaith, nawr ag am byth... 'rŷch chi wedi sarnu'r ddrama... mae pob gair yn yr act yna'n bwysig... wedi treulio oriau i feddwl drosti a dyma'r tâl rwy'n gael. |
| (1, 0) 161 | Mae pob baich ar f'ysgwyddau i, ysgrifennu, cyfarwyddo, gofalu am y llwyfan, coluro, promto, popeth... hyd yn oed dysgu rhan rhywun arall os aiff e'n dost. |
| (1, 0) 162 | 'Does dim yn cael 'i wneud oni bydda'i wrth law, dim yw dim. |
| (1, 0) 163 | Rhaid y'ch tolach chi o hyd fel rhyw lot o blant bach. |
| (1, 0) 164 | 'Dwy ddim yn mo'yn y gwaith, 'does dim siâp wedi bod ar y cwmni oddi ar y dechrau... fe ddylai rhywun fod yma yn gofalu am y llwyfan, rhywun arall wrth y golau, colurwr yn perthyn i'r cwmni, dau neu dri yn promto ac yn helpu, a phob un a'i galon yn 'i waith. |
| (1, 0) 165 | Mae'r theatrau bach Saesneg yn gallu gwneud hynny, ag edrychwch ar y graen sy' ar 'u gwaith nhw. |
| (1, 0) 166 | Mae digon o frwdfrydedd ynddyn' hw i godi cartre' i'r ddrama, a ddaw byth yr un llewyrch ar y ddrama Gymraeg cyn y gwnawn ninnau'r un peth. |
| (1, 0) 167 | Does gennych chi ddim parch at ddrama... |
| (1, 0) 168 | Sam yma gynneu fach yn dod heibio ar ganol golygfa garu dyner a gwneud y twrw rhyfedda... dyw hi ddim yn deg â'r chwaryddion eraill... pwy all garu'n effeithiol a swn bwced yn clindarddan yng nghefn y llwyfan? |
| (1, 0) 171 | Dyna fe... dyna'n hollol yr hyn wy'n geisio bwysleisio─trajedi! a'r bobol yn chwerthin! |
| (1, 0) 172 | 'Dŷn 'hw ddim yn cael cyfle iddi deall hi. |
| (1, 0) 175 | Rŷch chi'n iawn, Gwen, ond rhaid cadw'r chwerthin i'r mannau priodol. |
| (1, 0) 176 | Maen' hw yma yn y ddrama'n barod. |
| (1, 0) 177 | 'Does dim amgen 'u creu nhw. |
| (1, 0) 182 | Diolch bod rhywun yn gofalu. |
| (1, 0) 184 | 'Doedd dim bai ar y dyn erbyn meddwl. |
| (1, 0) 185 | Fe âf i rownd i ddiolch iddo nawr, ag i weld bod y llwyfan yn iawn. |
| (1, 0) 186 | Paratowch chwithau bob un ohonoch. |
| (1, 0) 187 | 'Rwyt ti, Gwen, heb newid dy wisg. |
| (1, 0) 189 | Elli di ddim gwneud gwaith tŷ mewn gwisg smart fel 'na! |
| (1, 0) 193 | Welais i ddim creadur mwy direswm na merch! |
| (1, 0) 194 | Nid ar yr hewl wyt ti nawr ond mewn drama! |
| (1, 0) 196 | O dwed wrthi am 'u cadw nhw hyd ddiwedd y ddrama─mae genny' ormod ar fy meddwl nawr. |
| (1, 0) 197 | A Gwen, paid anghofio newid. |
| (1, 0) 290 | Rhagor o drwbwl nawr eto—mae rhaff y cyrten wedi torri. |
| (1, 0) 292 | Mae'n amhosibl gweithio rhaff a chwlwm arni. |
| (1, 0) 293 | Fe aeth un o'r bechgyn i edrych am raff newydd. |
| (1, 0) 294 | Gobeithio na bydd e ddim yn hir—mae'r dorf yn dechrau mynd yn anhywaith. |
| (1, 0) 297 | Rhyw Ficer o'r cylch—ond 'rwy'n deall nad yw'e wedi cyrraedd. |
| (1, 0) 298 | Petai rhywun yma i ganu, neu i adrodd neu rywbeth. |
| (1, 0) 300 | Fyddai hynny ddim yn syniad drwg o gwbwl! |
| (1, 0) 301 | Rhaid inni gael rhywun i dy gyflwyno di, ag i egluro pam y mae'r drydedd act mor hir cyn dechrau. |
| (1, 0) 311 | Nawr! |
| (1, 0) 312 | Nawr! |
| (1, 0) 313 | Nid dyma'r amser i gweryla. |
| (1, 0) 316 | Beth yw dy feddwl di, John? |
| (1, 0) 321 | Wel nag yw wrth gwrs. |
| (1, 0) 322 | Ewch iddi newid hi ar unwaith. |
| (1, 0) 348 | Oes, ond y mae... |
| (1, 0) 357 | John... Mr. John Roberts. |
| (1, 0) 358 | Ychydig bach cyn i chi... |
| (1, 0) 364 | Fel roeddwn i'n... |
| (1, 0) 374 | Un o'r merched sy'n canu, Mr. Price. |
| (1, 0) 376 | Ie. |
| (1, 0) 378 | Na—dyna oeddwn i am egluro i chi gynneu. |
| (1, 0) 379 | Mae rhaff y cyrten wedi torri a fe awgrymodd rhywun fod Gwen yn canu i lanw'r bwlch. |
| (1, 0) 380 | 'Roeddwn i'n deall y'ch bod chi heb gyrraedd neu fe fuaswn wedi gofyn i chi siarad─mae gennych chi araith? |
| (1, 0) 383 | Pa bryd y carech chi siarad—ar y diwedd neu rhwng y drydedd a'r bedwaredd act? |
| (1, 0) 424 | Y blwch coluro, wyt ti'n feddwl? |
| (1, 0) 426 | Pam? |
| (1, 0) 429 | Rho weld. |
| (1, 0) 430 | Gallet, fe allet wneud â thamaid bach hefyd. |
| (1, 0) 431 | Dere â'r blwch i fi o'r rŵm fach—'does him posib troi yno. |
| (1, 0) 436 | Fe ddof i Marged. |
| (1, 0) 437 | Aros i fi ddod 'nôl Sam cyn gwneud dim i dy wyneb. |
| (1, 0) 458 | Wel, dyw'r cyrten ddim yn barod eto, a 'roedd Mr. Price a minnau yn ceisio penderfynnu a fyddai'n well iddo roi 'i araith nawr yn lle aros i ddiwedd y drydedd act. |
| (1, 0) 459 | John, cer i roi help llaw iddyn' hw. |
| (1, 0) 462 | Os na bydd y llwyfan... |
| (1, 0) 467 | Dim ond y treuliau. |
| (1, 0) 474 | Wel, fi yw'r llwyfenydd hefyd, ond 'does dim angen ichi son am hynny. |
| (1, 0) 488 | Enw MrGerallt Rhys sydd ar y rhaglen, ond fel y dywedodd Siân, fe fethodd â dod ar y funud ola'. |
| (1, 0) 489 | Gorfu i mi wneud y gwaith er nad wy'n rhyw lawer o law arni. |
| (1, 0) 492 | Er mwyn enw da, Mr. Price, efallai na byddai ond yn deg i chi ddweud taw rhywun arall fu wrth y gwaith, heb enwi neb. |
| (1, 0) 501 | Fe drawyd un o'r chwaryddion yn sal yn sydyn iawn echnos, a bu'n rhaid i mi ddysgu'r rhan. |
| (1, 0) 502 | Rhan fach yw hi, a 'rwy'n gwybod y ddrama bron i gyd ar gof—wedi darllen rhan pob un yn 'i dro pan na ddigwyddai ddod i bractis. |
| (1, 0) 518 | Mae llawer wedi bod yn holi ynglŷn â'r olygfa, Mr. Price. |
| (1, 0) 519 | Does dim byd arbennig yn y ddrama yn galw am hynnw. |
| (1, 0) 521 | Na... dyma'r rheswm yn syml chi, Mr. Price. |
| (1, 0) 522 | 'Does dim gwahaniaeth pa mor dda y bo eich drama chi, 'chewch chi neb iddi chware hi os bydd galw am olygfa grand neu newid golygfeydd yn ystod y ddrama. |
| (1, 0) 523 | Mae rhai o'r drâmau gorau a sgrifennwyd yn Gymraeg heb 'u gweld na'u cyhoeddi am y rheswm syml hwn. |
| (1, 0) 524 | Mae'n ddigon naturiol... festri capel fydd y neuadd gan amlaf a 'does dim cyfleusterau yno. |
| (1, 0) 525 | 'Dyw sêl y cyhoeddwyr dros y ddrama ddim yn mynd mor ddwfn â'r boced chwaith. |
| (1, 0) 526 | Fe euthum i gam ymhellach yn hon gan y gwyddwn i y byddai'n rhaid i mi fod yn Geidwad y Celfi hefyd pe ddigwyddai i'n cwmni ni 'i gwneud hi o gwbwl a minnau'n cyfarwyddo. |
| (1, 0) 527 | Gan nad oes angen celfi ar ystafell sydd ar hanner 'i spring cleano' fe fyddai'n arbed llawer iawn o drafferth i mi... 'does him angen cludo hen soffa neu gadair esmwyth neu ford, na gofalu bod tân yn y grat, dim ond benthyca dau neu dri bocs sebon heb eisiau i chi fynd ar y'ch gliniau ar ofyn neb. |
| (1, 0) 533 | Dwy gini yw honno, Mr. Price. |
| (1, 0) 547 | Oes aelwyd o'r Urdd yma, Mr. Price, neu gangen o'r Blaid Genedlaethol? |
| (1, 0) 551 | Rhannwch y ddwy gini rhyngddyn' 'hw, Mr. Price. |
| (1, 0) 553 | Ie, rhowch gini i'r Blaid, a gini i'r Urdd. |
| (1, 0) 554 | Efallai y byddech chi mor garedig â gwneud hynny'n bersonol? |
| (1, 0) 558 | 'Does gen'i fawr o awydd gwneud ffortiwn o'r drama, Mr. Price, ag hyd y gwela' i fawr o obaith chwaith. |
| (1, 0) 559 | Rhannwch chi nhw fel 'rown i'n dweud a pheidiwch â sôn gair wrth neb. |
| (1, 0) 563 | Dyna fyddai orau. |
| (1, 0) 571 | Dowch ymlaen, pawb ar y llwyfan am y drydedd act... |
| (1, 0) 572 | Siân, Marged, Sam,... ble mae Sam?... |
| (1, 0) 573 | Ewch un ohonoch chi i edrych am Sam. |
| (1, 0) 575 | Fe ffonia i at Mrs. James i ddod â'r car i gwrdd â'r bws os byddwn ni'n hwyr iawn. |
| (1, 0) 576 | Mlaen â chi i'r llwyfan. |
| (1, 0) 578 | A Gwen, bydd di'n barod ar y chwith. |
| (1, 0) 579 | Wel, 'tawn i byth—dwyt ti ddim wedi newid dy wisg! |
| (1, 0) 581 | 'Dwy i ddim wedi pregethu wrthych chi ganwaith nad oes neb i ddod ar y llwyfan nes bo'r ddrama drosodd? |
| (1, 0) 585 | Wel tawn i'n ateb y Farn! |
| (1, 0) 586 | Beth wyt ti wedi bod yn 'i wneud i dy lygaid? |
| (1, 0) 589 | Tipyn bach! |
| (1, 0) 590 | Dere iddi glanhau nhw ar unwaith cyn i neb dy weld di. |
| (1, 0) 608 | Fan hyn 'rwyt ti, Siân? |
| (1, 0) 609 | Mae'r cyrten ar godi. |
| (1, 0) 611 | Mae Sam ar y llwyfan nawr. |
| (1, 0) 613 | John, 'does gennyt ti ddim iddi wneud ar ddechrau'r act yma, cer i wneud gwaith Neli. |
| (1, 0) 615 | Ble mae hi i mi gael gafael arni? |
| (1, 0) 619 | Bydd yn barod John wrth y chwith. |
| (1, 0) 621 | Ffilm star myn asgwrn i! |
| (1, 0) 622 | Bant â thi dy le. |
| (1, 0) 625 | A Gwen, 'rwy'n wedi dweud digon wrthych chi am y wisg 'na! |
| (1, 0) 627 | Dyma'r tro ola y byddwch chi mewn drama gen i! |
| (1, 0) 699 | Siân! |
| (1, 0) 700 | Beth gynllwyn wyt ti'n wneud yma? |
| (1, 0) 701 | Maen' hw'n aros amdanat. |
| (1, 0) 704 | Pwy ŷch-chi? |
| (1, 0) 705 | Pa fusnes sydd gennych chi i fod yng nghefn y llwyfan yn ymyrraeth â'r ddrama? |
| (1, 0) 707 | Meddyliwch am well esgus y tro nesa'—dyna'r ffordd allan. |
| (1, 0) 710 | Paid gwneud cam ag e. |
| (1, 0) 711 | Pam nad wyt ti wrth dy waith? |
| (1, 0) 713 | Peth od i ti feddwl am hynny a thithau'n gwybod taw'r ochor draw 'roedd hi i ddod mewn. |
| (1, 0) 715 | 'Dwy'n awgrymu dim byd. |
| (1, 0) 716 | Fe gawn ni setlo dy driciau di am heno o flaen y Pwyllgor. |
| (1, 0) 722 | Trueni hefyd—mae deunydd da ynddi pe gellid 'i ffrwyno. |
| (1, 0) 728 | Dyma beth ofnadwy! |
| (1, 0) 729 | Pan af i o'r golwg mae rhywbeth yn sicir o fynd o'i le. |
| (1, 0) 730 | Cer ar unwaith a dwed wrthynt am beidio â gadael y cyrten lawr eto. |
| (1, 0) 732 | Dyna beth yw cawl. |
| (1, 0) 733 | Pam na all pobol ofalu am 'u gwaith? |
| (1, 0) 734 | Fe gaiff y lot y sac am hyn... |
| (1, 0) 735 | Sarnu'r ddrama!... |
| (1, 0) 736 | Pwy all fod wedi colli 'i "gue" nawr eto? |
| (1, 0) 737 | Neli! |
| (1, 0) 738 | Neli!... neb wrth law pan fo eisiau... |