| (1, 0) 7 | Os na gynni di nawr, cer allan i gynllw'n a thi. |
| (1, 0) 8 | Weles i ddim tan mor... |
| (1, 0) 10 | Diain i, mae'n mynd allan eto! |
| (1, 0) 12 | Nhw a'u dramas tragwyddol. Byddai'n llawer ffitiach iddyn nhw... |
| (1, 0) 15 | Hei! |
| (1, 0) 16 | Ganbwyll a'r drws 'na! |
| (1, 0) 18 | Pwy? |
| (1, 0) 19 | Fi?... |
| (1, 0) 20 | Mae e' ar agor. |
| (1, 0) 23 | Rhowch gic iddo fe. |
| (1, 0) 25 | Gadewch e' ar agor nawr. Oes eisie gole arnoch chi 'nol 'na? |
| (1, 0) 32 | Ie... |
| (1, 0) 33 | Be' sy' 'ma heno? |
| (1, 0) 35 | O... |
| (1, 0) 36 | Y cor, ife? |
| (1, 0) 39 | O — practis drama! |
| (1, 0) 41 | Wel, pam gynllw'n na ddywedodd rhywun wrtho i fod practis? |
| (1, 0) 43 | Dim ond pum munud yn ol y clywais i am dano. |
| (1, 0) 44 | A dim ond digwydd clywed wnes i pryd hynny. |
| (1, 0) 45 | Beth am y tan 'ma? |
| (1, 0) 46 | Y'ch chi'n credu fod tan yn gallu cynneu heb... |
| (1, 0) 48 | Rarswyd fawr, — fe aiff e' allan eto! |
| (1, 0) 51 | William Tomos! |
| (1, 0) 52 | 'Does gan William Tomos ddim digon o sens i ddweud wrtho'i hunan. |
| (1, 0) 54 | Beth yw'r ddrama i fod eleni? |
| (1, 0) 57 | O... |
| (1, 0) 58 | Yr Alanas!... |
| (1, 0) 59 | Mae'n enw crand. |
| (1, 0) 61 | Gwaith pwy yw hi? |
| (1, 0) 64 | Beth?... |
| (1, 0) 65 | Wel, ar 'y ngair i! |
| (1, 0) 66 | Oes rhaid i chi chwarae dramas William Tomos o hyd? |
| (1, 0) 68 | Be' sy' gan hynny i wneud a'r peth? |
| (1, 0) 69 | Rwy i'n aelod, — wel, 'rym ni i gyd yn aelodau, ond 'dym ni? |
| (1, 0) 71 | Bah! Welodd neb na phen na chwt i un o ddramas William Tomos! |
| (1, 0) 73 | Testun sbort oedd y perfformiad dwetha, a... |
| (1, 0) 75 | Nawr, nawr, — nid amdanoch chi 'rwy'n siarad! |
| (1, 0) 76 | 'Roech chi'n olreit, yn-yn-yn naturiol fel! |
| (1, 0) 77 | Ond am y ddrama! |
| (1, 0) 78 | Talp o... |
| (1, 0) 81 | Nagoes, nagoes! |
| (1, 0) 82 | Talp o... |
| (1, 0) 85 | Mae gen i hawl i ddatgan fy marn. |
| (1, 0) 86 | Talp o nonsens o'r dechre' i'r diw—... |
| (1, 0) 90 | O! |
| (1, 0) 92 | Gallwn i fod yn son am y bregeth neu... |
| (1, 0) 96 | Wil? O, wel — talp o nonsens o'r dechre i'r diwedd! |
| (1, 0) 99 | Ma' bron pawb yn marw yn nramas William Tomos! |
| (1, 0) 102 | Bob tro mae e' am gael gwared un o'r gymeriadau, mae e'n 'i ladd e! |
| (1, 0) 103 | Slaughter House, myn brain i — a'r llwyfan yn ddim byd ond celfi a chyrff! |
| (1, 0) 105 | Dwedwch wrtho'ch bod chi wedi cael llond bola ar 'i ddr— |
| (1, 0) 108 | O, ie, wrth gwrs! |
| (1, 0) 109 | Ond 'drychwch ar Gaersalem. |
| (1, 0) 110 | Yn chwarae dramas da, ac yn eich maeddu chi bob tro! |
| (1, 0) 111 | Rwy' wedi dweud o'r blaen, ac fe ddweda' i eto — os 'ych chi am gael shap ar bethe yma, fe fydd yn rhaid i chwi gael gwared ar William T—... |
| (1, 0) 113 | Hylo — pwy sy' 'na?... |
| (1, 0) 114 | O, dyma fe! |
| (1, 0) 116 | Mae'n bryd iti gynneu, hefyd! |
| (1, 0) 121 | Ydi — mae e' wedi'i gynneu, — ond 'does dim diolch â chi, William Tomos. |
| (1, 0) 124 | Pam na ddwedsech chi wrtho i fod practis i fod heno? |
| (1, 0) 129 | O, peth bach dibwys, iefe? |
| (1, 0) 131 | 'Chewch chi ddim tan o gwbwl y tro nesa'. |
| (1, 0) 133 | Faint o amser fyddwch chi heno? |
| (1, 0) 135 | O!... |
| (1, 0) 136 | Felly? |
| (1, 0) 137 | Wel, cofiwch, rwy i'n mynd i'r gwely am ddeuddeg! |
| (1, 0) 862 | Ewch chi 'mlaen — peidiwch a'n hidio ni. |
| (1, 0) 865 | Pwy? |
| (1, 0) 866 | Fi? |
| (1, 0) 867 | Nid fi sy'n mynd i'w wneud e — ond fe' 'ma. |
| (1, 0) 869 | Tiwnio'r piano. |
| (1, 0) 876 | Fyddwch chi ddim scrapyn gwell o siarad a fe. |
| (1, 0) 878 | Nagyw — Sais yw e'. |
| (1, 0) 879 | You go on, Mr. Isaacs. |
| (1, 0) 880 | The piano is over there. |
| (1, 0) 883 | Wnaiff hynny fawr o wahaniaeth i Mr. Isaacs. |
| (1, 0) 884 | Mae e'n gyfarwydd a swn. |
| (1, 0) 885 | Go on, Mr. Isaacs. |
| (1, 0) 886 | I know you are in a hurry. |
| (1, 0) 889 | Beth y'ch chi'n feddwl? |
| (1, 0) 891 | Ydych — ydych — ewch 'mlaen ag e. |
| (1, 0) 893 | Nid y fi ddaeth ag e' yma. |
| (1, 0) 894 | Fe ddaeth i'n ty ni a dweud bod Samuel Morgan, Arweinydd y Gan, wedi'i ddanfon e i diwnio'r piano. |
| (1, 0) 895 | Siaradwch chi a Samuel Mo— |
| (1, 0) 897 | Be' wn i? |
| (1, 0) 898 | Ond nid brass band yw e. |
| (1, 0) 899 | Un nodyn ar y tro, dyna i gyd. |
| (1, 0) 902 | ... ac ambell gord yn awr ac yn y man. |
| (1, 0) 935 | Pwy? |
| (1, 0) 936 | Fi? |
| (1, 0) 937 | Wnes i ddim. |
| (1, 0) 939 | Ond nid y fi ddaeth ag e. |
| (1, 0) 940 | Samuel Morgan, arweinydd y— |
| (1, 0) 967 | Hanner munud, 'nawr. |
| (1, 0) 968 | Hanner munud. |
| (1, 0) 969 | Cofiwch mai fi yw'r cadeirydd! |
| (1, 0) 971 | Mr. Isaacs, stop your old racket with that cold piano for a minute! |
| (1, 0) 972 | Dyna welliant. |
| (1, 0) 973 | 'Nawr te. |
| (1, 0) 974 | Mae'n debyg fod rhaid talu am chwarae drama. |
| (1, 0) 976 | Wel, peidiwch a gofidio am hynny. |
| (1, 0) 979 | Mi setla i am y talu! |
| (1, 0) 985 | Mi ddo i at hwnna 'nawr. |
| (1, 0) 986 | Rhyw chwe mis yn ol mi sgrifennais i ddrama fy hun... |
| (1, 0) 989 | Ac mae'n grand! |
| (1, 0) 990 | "Y Mab Afradlon!" |
| (1, 0) 1003 | Mr. Isaacs, you can start again now. |