| (1, 0) 67 | Brensiach fawr! yn nath hi ddiwrnod chwilboeth heddiw, fechgyn? |
| (1, 0) 68 | Roedd hi'n siwr o fod yn crasu ar y brynia na heddiw, Dafydd? |
| (1, 0) 70 | Gwarchod pawb! ches i rioed gletach diwrnod yn fy mywyd yn y gweithdy acw: mi faswn yn tynnu nghroen ac eiste'n f'esgyrn, pe gallswn i. |
| (1, 0) 81 | Twt lol! rwyt ti mor ddwl a llo blwydd, Jared. |
| (1, 0) 82 | Rhyw jocio'n dragwyddol rwyt ti. |
| (1, 0) 83 | Wn i ar arffed daear sut erioed y cest ti dy droed i mewn yn sêt fawr Seilo: |clown| mewn syrcus ddylset ti fod. |
| (1, 0) 88 | Mae Hopcyn, ddalia i, yn colli llawer o hwyl wrth beidio smocio. |
| (1, 0) 99 | Pwya fo, Jared. |
| (1, 0) 100 | O! un garw wyt ti, Hopcyn; rwyt ti'n ddigon di-gydwybod i werthu petha sy'n groes i d'argyhoeddiad. |
| (1, 0) 102 | Gyr ymlaen. |
| (1, 0) 127 | Rwyt ti'n siarad yn union fel pe bawn yn gneud Toris o sgidia; gneud sgidia i Doris rwyf fi, a pheth arall ydi hynny. |
| (1, 0) 129 | Paid a phonsio'n wirion; fasa'r sgidia wnawn i iddo fo ddim yn anffyddiwrs nac yn gablwrs. |
| (1, 0) 131 | Nage'n siwr: yn ôl dy syniad di─anffyddiwr o grydd ddylai neud sgidia i anffyddiwrs, a chrefyddwr o grydd ddylai neud sgidia i grefyddwrs. |
| (1, 0) 141 | Na, dydw inna ddim yn leicio'r syniad o'i dynnu o i'r ddrag, achos cyw heb fagu adenydd ydi o, a rhaid i ni'r hen gonos beidio plicio'i blu yn rhy gynnar. |
| (1, 0) 144 | Mi fentra mhen na chawso nhw rioed well dadlu na fydd yn y gweithdy ma ambell i noson. |
| (1, 0) 174 | Peth newydd spon yn y lle yma ydi galw ymhob tŷ, Mr. Harris; nath neb erioed mohono i mi gofio. |
| (1, 0) 176 | Wel, fy marn onest i ydi, mi rydw i'n leicio gadael i ddynion fod at eu dewisiad, heb ddim gorfodaeth yn y busnes o gwbl. |
| (1, 0) 181 | Mae na lu ohonyn nhw hefyd yn cerdded mewn sgidia na thalson nhw ddim dima goch y delyn i mi am danynt─y gweilch drwg. |
| (1, 0) 188 | Mae un tŷ, er hynny, y byddai'n ddoethach i chi fynd heibio iddo heb alw, Mr. Harris. |
| (1, 0) 192 | Ie'n wir, achos hen scum o ddyn ydi o, sy'n gas gan bawb; mae o'n portsio gêm a samons bob yn ail. |
| (1, 0) 193 | Mi daliwyd o unwaith neu ddwy, ond y syndod ydi, chafodd o ddim jêl. |
| (1, 0) 195 | Ie; mi ddaeth i'r ardal ma yn llanc o rywle na ŵyr neb o ble i wasanaethu efo Mr. Blackwell yn y Plas, ac mi briododd y ferch nobla'n y gymydogaeth, ac yn fuan iawn mi drodd i feddwi a chafodd sac o'r plas, ac o ddrwg i waeth yr aeth byth er hynny, ac mae'n dial ar Mr. Blackwell drwy bortsio ar ei stâd gymaint all o drwy'r blynyddoedd. |
| (1, 0) 201 | Dyma ni wedi'ch rhybuddio, Mr. Harris. |
| (1, 0) 202 | Wrth gwrs, fe gewch neud fel y mynnoch, ond yn siwr i chi gwell i chi beidio galw yno. |
| (1, 0) 212 | Daioni wir! pa ddaioni, sgwn i? |
| (1, 0) 215 | A! rwy'n cofio rwan, roeddet ti mewn cariad â Martha, yn doeddet ti, cyn i Dic ddod i'r ardal ma? |
| (3, 0) 764 | Bobol annwyl, dyna ni wedi'i ddal yn yn act o garu â'r eneth yna. |
| (3, 0) 765 | Mae'r stori'n wir, fechgyn. |
| (3, 0) 771 | Rhinwedd ei swydd fel gweinidog, wir! |
| (3, 0) 772 | Paid a lolian. |
| (3, 0) 773 | Os nad oedd o'n caru rwan, wadnais i rioed bâr o sgidia yn rhinwedd fy swydd fel crydd. |
| (3, 0) 780 | Na, thwtsia i mohonyn nhw. |
| (3, 0) 781 | Be wyddom ni nad tacla'r eneth na i witsio a deyd ffortun ydyn nhw? |
| (3, 0) 784 | Mwy tebyg o lawer mai arfa i daro mennydd y cipar ydyn nhw. |
| (3, 0) 792 | Do siwr. |
| (3, 0) 793 | O'r gegin oedde ni'n dod pan y gwelsom chi yn rhoi gair o gysur i'w ferch o yn rhinwedd eich swydd fel gweinidog. |
| (3, 0) 795 | Ergyd, efallai, ydi'r gair goreu. |
| (3, 0) 796 | Llawer ergyd gafodd hi ganddo o dro i dro, a fedr o ddim marw heb roi un arall iddi, yr hen haffgi brwnt. |
| (3, 0) 798 | Wel, os ar lan yr Iorddonen mae o, mi dyffeia fo y gwnaiff o'i oreu glas i bortsio samon neu ddau ohoni cyn i heglu hi dros y dŵr. |
| (3, 0) 804 | Welwch chi, Mr. Harris, heb guro rhagor o gwmpas y twmpathau, oes rhywbeth yn y siarad ma sy'n heplas drwy'r lle eich bod am briodi'r ferch yna? |
| (3, 0) 809 | Marchog y myniawyd, ai ê? |
| (3, 0) 810 | Mae'n well gen i hynny na bod yn rhyw dderyn corff fel ti yn prowla am siawns i naddu arch i Dic Betsi. |
| (3, 0) 811 | Rwan, Mr. Harris, mae'n bryd i ni gael gwybod, ydach chi'n meddwl priodi merch Dic neu beidio, achos ryda ni bawb ers misoedd bellach mewn pryder ynghylch y peth. |
| (3, 0) 816 | Pam, ynte, mae o'n pwyo'i wimblad i mi? |
| (4, 0) 997 | Dydi o ddim yn anobeithiol ydi o? |
| (4, 0) 1001 | Mi rydw i'n methu byta na chysgu na gweithio wrth feddwl am dano. |
| (4, 0) 1002 | Wn i ar y ddaear be ddaw ohono i os bydd yr hen gono annwyl farw. |
| (4, 0) 1010 | Ie, iechyd i'w galon o. |
| (4, 0) 1012 | Ydi nen tad! |
| (4, 0) 1013 | Mae dwy ne dair o eglwysi mawr am i ddwyn o oddiarnom yn Seilo, rhen gnafon sâl. |
| (4, 0) 1020 | Heblaw hynny, mi fasa Mr. Harris wedi ei phriodi yn ein dannedd oni bae iddi wrthod yn bendant. |
| (4, 0) 1026 | Dydw i'n malio run frwynen am i pherthynas hi â Gŵr y Plas, ond mi gymra fy llwy bydd ychydig o ysgol yn Llunden yn siwr o ddofi dipyn arni, ac roedd eisia dofi gryn lawer arni. |
| (4, 0) 1031 | Gwyddoch o'r goreu, ond mi gaiff Doctor balu celwydd yn ddi-gosb; mi wyddoch chi a'r Scweiar drwy'r misoedd ymhle mae hi, ond na ddeydwch chi ddim. |
| (4, 0) 1035 | Gwarchod pawb, ydi hi yn y tŷ rwan? |
| (4, 0) 1040 | Wel diain i, mi fydd gen i ofn mynd i weld Jared os ydi hi'n tendio arno. |
| (4, 0) 1050 | Diaist, mae gen i dipyn o ofn i gwynebu hi. |
| (4, 0) 1051 | Dos di'n gynta, Hopcyn. |
| (4, 0) 1053 | Mae'n rhaid i ti gychwyn, achos ti ydi'r pen blaenor. |
| (4, 0) 1155 | Ie'n siwr, mi roddodd bum munud go boenus i ni'n dau, ond yn ôl ein haeddiant hwyrach. |
| (4, 0) 1156 | Nyrs, annwyl, gwellwch yr hen Jared os oes modd. |
| (4, 0) 1187 | Paid, Hopcyn bach, paid a gneud dyn yn fwy digalon nag ydi o. |
| (4, 0) 1188 | O'r tad, gobeithio daw o uwchben i draed unwaith eto. |
| (4, 0) 1218 | Yr hen gena drwg gen ti. |