| (1, 1) 20 | Ia, Catrin, ardderchog. |
| (1, 1) 21 | Mwy o stwff fel yna sydd arna ni eisio, yn lle'r sothach mae nhw'n roi am oria bob nos. |
| (1, 1) 23 | Pa ddyn? |
| (1, 1) 25 | O wn i ddim. |
| (1, 1) 26 | Fforinar reit siwr. |
| (1, 1) 27 | Enw llathan o hyd—Fritz von Powlan ne rwbath. |
| (1, 1) 28 | Fforinars ydy rhain i gyd. |
| (1, 1) 30 | Y? |
| (1, 1) 31 | Dim peryg. |
| (1, 1) 32 | Mae eisio chwysu am flynyddoedd cyn meistroli offeryn. |
| (1, 1) 33 | Dydy o ddim yno' ni'r Cymry. |
| (1, 1) 34 | Mi ydan ni'n ganwrs heb eu hail—ond mae hynny'n ran o'n natur ni. |
| (1, 1) 35 | Dyfal-barhad, Catrin, hwnnw sydd ar ôl. |
| (1, 1) 38 | Y? |
| (1, 1) 39 | Buasa—efo cyllell boced! |
| (1, 1) 42 | Mi gadwodd ddigon o swn pan gafodd ei eni, beth bynnag. |
| (1, 1) 46 | Ond Catrin... |
| (1, 1) 50 | Dim o gwbwl... |
| (1, 1) 55 | Ond dydw inna ddim yn... |
| (1, 1) 57 | Does dim eisio taflu weips. |
| (1, 1) 59 | Nac ydy. |
| (1, 1) 61 | Nac ydy medda finna. |
| (1, 1) 63 | O be ydy'r iws dadla! |
| (1, 1) 64 | Mi fynni di gael y gair dwytha bob amser. |
| (1, 1) 67 | Wyt ti'n meddwl nad ydw i'n poeni dim am ei ddyfodol o? |
| (1, 1) 69 | Wel mi wyt ti'n gwneud camgymeriad. |
| (1, 1) 70 | Mae'r peth wedi bod ar fy mrêns i ers wythnosa. |
| (1, 1) 71 | Ond wrth gwrs fydda i ddim yn dangos y cwbwl. |
| (1, 1) 73 | Twt lol, tynnu dy goes di roeddwn i. |
| (1, 1) 74 | Dim eisio gwneud y peth yn destun ffrae. |
| (1, 1) 75 | Rhaid iti fod yn amyneddgar yn y busnas yma, Catrin. |
| (1, 1) 78 | Dim o gwbwl. |
| (1, 1) 79 | Ond cofia hyn, chei di ddim offeryn heddiw o dan gan punt—hyd yn oed un ail-law. |
| (1, 1) 80 | Fedri di ddim mynd i'r siop a phrynu un ar lab run fath ag owns o faco. |
| (1, 1) 82 | I be? |
| (1, 1) 83 | Doedd yna ddim sôn am Wili John 'r adeg honno. |
| (1, 1) 86 | Aros am funud, da chdi. |
| (1, 1) 87 | Paid â dechra arni eto. |
| (1, 1) 88 | Mi ddweda i wrtha ti be ydy fy nghynllun i. |
| (1, 1) 90 | Uncle Enoc. |
| (1, 1) 93 | Mi wyddost fel y mae o, yn ddigon simsan ers misoedd. |
| (1, 1) 94 | 'Rhen greadur, ar ei ben ei hun yn y tŷ yna. |
| (1, 1) 97 | Aros am funud, paid â bod mor wyllt. |
| (1, 1) 98 | Mae gan yr hen ŵr hosan reit dda yn rhywle. |
| (1, 1) 99 | Tri chant o bunna medda nhw. |
| (1, 1) 103 | Dim peryg i ti. |
| (1, 1) 104 | Mae o wedi bod yn reit gwla y tro yma. |
| (1, 1) 109 | Mi fydd o'n siwr o biano i ti, ond i ni wneud yn saff o arian yr hen Enoc. |
| (1, 1) 111 | Rwan, rwan, Catrin, yn ara deg! |
| (1, 1) 116 | Dydan ni i gyd ddim run fath wyddost ti. |
| (1, 1) 119 | Paid â bod mor siwr, dydw i ddim wedi gorffen eto. |
| (1, 1) 121 | Mae yna fwy nag un ffordd o fynd â Wil i'w wely. |
| (1, 1) 123 | Gofyn i'r hen Enoc ddwad i fyw yma. |
| (1, 1) 127 | Gwranda am funud |
| (1, 1) 132 | Dyna chdi eto, yn edrach ar yr ochor ddu. |
| (1, 1) 134 | Wel mi ddaw â'i hosan efo fo Catrin. |
| (1, 1) 138 | Pwy sy'n dweud y bydd rhaid disgwyl mor hir? |
| (1, 1) 142 | Na, dydy o ddim mor iach a'i olwg, Catrin. |
| (1, 1) 144 | Gwranda, mi ges i sgwrs y bore yma efo'r doctor bach newydd yna. |
| (1, 1) 145 | Be ydy ei enw fo hefyd? |
| (1, 1) 147 | Ia, dyna fo. |
| (1, 1) 148 | Wel, mae calon rhen Enoc wedi gwanio'n arw. |
| (1, 1) 149 | Mae o'n mynd i lawr yr allt yn gyflym, medda'r Doctor. |
| (1, 1) 151 | Paid â siarad yn wirion Catrin. |
| (1, 1) 152 | Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gwybod yn well na Doctor James? |
| (1, 1) 155 | Oeddwn Blodwen, pam? |
| (1, 1) 157 | O? |
| (1, 1) 164 | Wel, beth oedd y mater felly? |
| (1, 1) 167 | Lle mae dy feddwl di dwad? |
| (1, 1) 171 | "Sailor's Rest"? |
| (1, 1) 172 | Be aflwydd ydy hwnnw? |
| (1, 1) 179 | Dydy'r hen ddyn rioed yn meddwl mynd yno debyg? |
| (1, 1) 182 | Wel myn brain i, dyna hi'n ffliwt! |
| (1, 1) 189 | Ydy debyg iawn. |
| (1, 1) 190 | Ond mae dy fam yn benderfynol na ddaw o ddim yma. |
| (1, 1) 196 | O, hidia befo fo am funud. |
| (1, 1) 198 | Wel yli, pa bryd mae'r hen ddyn yn meddwl mynd i'r lle yna, ddwedodd o? |
| (1, 1) 202 | Wn i ddim be sy gen ti yn erbyn iddo fo ddwad yma Catrin. |
| (1, 1) 210 | Beth wyt ti'n feddwl? |
| (1, 1) 212 | Y? |
| (1, 1) 213 | Pwy ydy o felly? |
| (1, 1) 216 | Wel myn brain i! |
| (1, 1) 217 | Glywaist ti hynna Catrin? |
| (1, 1) 218 | Y ledi fach! |
| (1, 1) 222 | Dyna be ydy'r cerdded o gwmpas yma mewn hanner breuddwyd felly! |
| (1, 1) 223 | Roeddwn i'n meddwl bod yna rywbeth ar dro. |
| (1, 1) 224 | Ple aflwydd welodd hi'r doctor yna tybed? |
| (1, 1) 226 | Doctor James wir! |
| (1, 1) 230 | Does arna i ddim eisio ei gweld hi'n gwneud ffŵl ohoni ei hun, Catrin. |
| (1, 1) 232 | Sgwn i! |
| (1, 1) 233 | Does yna ddim llawer er pan mae hi wedi dechra gweithio. |
| (1, 1) 235 | Ia, ond mae petha'n wahanol heddiw. |
| (1, 1) 236 | Dydy hi ddim wedi cael mantais o'i haddysg eto. |
| (1, 1) 237 | Mae ganddi swydd reit dda—be arall sy arni eisio? |
| (1, 1) 240 | Y? |
| (1, 1) 241 | Ia, ond mae eisio dipyn bach o synnwyr cyffredin, myn brain i. |
| (1, 1) 242 | O wel... wyddost ti be, fedra i ddim peidio meddwl am yr hen Enoc. |
| (1, 1) 244 | Paid â dweud dy fod ti wedi newid dy feddwl Catrin! |
| (1, 1) 247 | Ia, ymhell o bob man, yng nghanol Saeson reit siwr. |
| (1, 1) 248 | A dyna dri chant o bunna wedi mynd i ebargofiant. |
| (1, 1) 249 | O wel, waeth i ni roi'r ffidil yn y to ddim. |
| (1, 1) 250 | Mae hi'n rhy hwyr rwan. |
| (1, 1) 252 | Beth wyt ti'n feddwl? |
| (1, 1) 254 | Be—wyt ti am adael iddo fo ddwad yma? |
| (1, 1) 256 | Wyt ti o ddifri? |
| (1, 1) 260 | Na, fydd hi ddim mor ddrwg â hynny Catrin. |
| (1, 1) 262 | Mae o'n hen stamp go lew yn y bôn. |
| (1, 1) 264 | Ddaw henaint ddim ei hunan, Catrin. |
| (1, 1) 265 | Mae yna ryw fai arno ni i gyd. |
| (1, 1) 266 | O wel, rhaid i mi fynd am y gweithdy yna─ |
| (1, 1) 270 | I be? |
| (1, 1) 275 | Hei, llai o dwrw, boi bach. |
| (1, 1) 276 | Beth wyt ti'n feddwl wyt ti—dyrnwr? |
| (1, 1) 278 | Y? |
| (1, 1) 285 | Be sy be? |
| (1, 1) 288 | O ia. |
| (1, 1) 289 | Yli, Wili John, pa bryd wyt ti'n cael dy ben blwydd? |
| (1, 1) 291 | Be fuasa ti'n lecio gael yn bresant? |
| (1, 1) 301 | Wel efalla y cei di un os byddi di'n hogyn da. |
| (1, 1) 303 | Wn i ddim eto nes y ca'i weld dyn y banc. |
| (1, 1) 304 | Ble rwyt ti'n mynd, Catrin? |
| (1, 1) 317 | Pa bryd fyddi di'n ôl tybed? |
| (1, 1) 321 | Reit. |
| (1, 1) 323 | O paid â phoeni. |
| (1, 1) 324 | Mi arhosa i yma yn lle mynd i'r gweithdy. |
| (1, 1) 333 | O chdi sydd yna Dic Betsi? |
| (1, 1) 336 | Newydd fynd allan. |
| (1, 1) 337 | Be sydd arnat ti eisio? |
| (1, 1) 341 | Rhy brysur o lawer i ddal pen rheswm efo chdi a dy siort. |
| (1, 1) 344 | Nag oes, tra byddi di o gwmpas. |
| (1, 1) 347 | Hy! |
| (1, 1) 349 | Hy! medda fi. |
| (1, 1) 352 | Naddo. |
| (1, 1) 353 | Pam? |
| (1, 1) 358 | Bydd, debyg iawn. |
| (1, 1) 359 | Mae o'n gwybod ple i gael croeso. |
| (1, 1) 360 | Mi fydd yma'n amlach cyn bo hir hefyd. |
| (1, 1) 362 | Hidia di befo. |
| (1, 1) 363 | Mi gei di weld yn ddigon buan co! |
| (1, 1) 365 | Sydyn by-be? |
| (1, 1) 366 | Mae o wedi cael drws agored yma bob amser. |
| (1, 1) 367 | Diddordeb, ddwedaist ti? |
| (1, 1) 368 | Na, cariad brawdol, Dic Betsi. |
| (1, 1) 369 | Ond wrth gwrs wyddost ti ddim be ydy hwnnw. |
| (1, 1) 370 | "Nymbar wan" ydy hi efo chdi bob amser. |
| (1, 1) 373 | Wnest ti rioed gymwynas os yr oedd hynny'n golygu gwario dima. |
| (1, 1) 374 | Mi ydw i'n dy nabod ti'n reit dda, co! |
| (1, 1) 378 | Dydy o ddim o bwys gen i... wel, pam? |
| (1, 1) 382 | Be! |
| (1, 1) 383 | Wel, myn brain i! |
| (1, 1) 384 | Sut y medri di edrach ar ei ôl os gwni? |
| (1, 1) 387 | Ha! |
| (1, 1) 389 | Digon o fwyd wir! |
| (1, 1) 390 | Rwyt ti'n byw ar wellt dy wely fel y mae hi. |
| (1, 1) 394 | Pwy sy'n colli ei limpyn? |
| (1, 1) 396 | Ond yr hen ŵr yn mynd atat ti—! |
| (1, 1) 400 | Dyna ydy dy obaith di beth bynnag, y llabwst calon-galed. |
| (1, 1) 402 | O fedri di ddim fy nhwyllo i, Dic Betsi. |
| (1, 1) 403 | Ar ôl arian rhen Enoc rwyt ti. |
| (1, 1) 404 | Ond waeth i ti fynd i chwibanu ddim─yma mae o'n dwad. |
| (1, 1) 406 | Ia, yma. |
| (1, 1) 407 | Mae Catrin wedi bod yn pwyso arna i ei gymryd o i mewn ers misoedd. |
| (1, 1) 408 | Yn tosturio ei weld o'n byw yn yr hen dŷ yna ar ei ben ei hun. |
| (1, 1) 410 | Ydy, debyg iawn. |
| (1, 1) 411 | Does yna ddim tosturi yn dy natur di. |
| (1, 1) 413 | Naddo eto. |
| (1, 1) 414 | Ond mi fydda i'n mynd ato fo heno am dro— |
| (1, 1) 415 | Aros! |
| (1, 1) 423 | Uncle Enoc, chi sydd yna? |
| (1, 1) 427 | Dowch i mewn, rhen ddyn. |
| (1, 1) 432 | Ia, go dda myn brain i! |
| (1, 1) 435 | Rwan, rwan, rhen ŵr, peidiwch â chynhyrfu. |
| (1, 1) 436 | Rhoswch, mi helpa i chi efo'r gôt yna. |
| (1, 1) 440 | Dim eisio i ti fusnesu, Dic Betsi. |
| (1, 1) 444 | Rwan dewyrth, ydach chi am eistedd i lawr? |
| (1, 1) 449 | Catrin? |
| (1, 1) 450 | Allan yn y siop... |
| (1, 1) 459 | Wel sut mae'r iechyd erbyn hyn, rhen ŵr? |
| (1, 1) 461 | Tewch â dweud! |
| (1, 1) 462 | Mae'n ddrwg gen i glywed. |
| (1, 1) 471 | 'Rydach chi'n iawn, dewyrth, myn brain i. |
| (1, 1) 477 | Siwr o fod... |
| (1, 1) 481 | Ydach chi'n cael dipyn o gig, rhen ddyn? |
| (1, 1) 488 | Dydy o ddim yn lles i chi aros yn yr hen dŷ yna chwaith, dewyrth. |
| (1, 1) 496 | Dim o gwbwl, dewyrth, cyn belled ag yr ydw i yn y cwestiwn beth bynnag. |
| (1, 1) 497 | Does gen i ddim ond eich lles chi mewn golwg. |
| (1, 1) 499 | Choelia i fawr. |
| (1, 1) 500 | A finna'n mynd i ofyn i chi ddwad i fyw yma efo ni! |