| (1, 1) 25 | Cyfeillion i'r tir hwn. |
| (1, 1) 36 | O hono ddarn. |
| (1, 1) 38 | A ymddangosodd heno eto 'r peth? |
| (1, 1) 48 | Ust! ust! nid ymddangosa. |
| (1, 1) 53 | Wel, eistedd wnawn i lawr, a chlywn pa beth |
| (1, 1) 54 | Sydd gan Bernardo i'w ddyweyd am hyn. |
| (1, 1) 69 | Yn debyg iawn:— |
| (1, 1) 70 | Fy llenwi mae â braw a syndod erch. |
| (1, 1) 73 | Beth ydwyt ti |
| (1, 1) 74 | Ormesa ar yr amser hwn o'r nos |
| (1, 1) 75 | Ac hefyd wisga 'r deg ryfelgar ffurf |
| (1, 1) 76 | A wisgid gan Fawrhydi Denmarc gynt? |
| (1, 1) 77 | Trwy nef tyngedaf di, ymddyddan gwna. |
| (1, 1) 80 | Arosa, siarad: siarad, 'r wyf yn awr |
| (1, 1) 81 | Yn dy dyngedu eto i siarad, gwna.. |
| (1, 1) 88 | Ger bron fy Nuw, nis gall'swn gredu hyn, |
| (1, 1) 89 | Cyn i mi dderbyn y dystiolaeth wir, |
| (1, 1) 90 | Deimladwy, gan fy llygad i fy hun. |
| (1, 1) 92 | Y mae gan |
| (1, 1) 93 | Debyced ag y ti, iti dy hun; |
| (1, 1) 94 | Y cyfryw oedd yr arfau wisgai pan |
| (1, 1) 95 | Ymladdai â'r ymgeisiol Norway gynt; |
| (1, 1) 96 | 'R un fath y gwgai, pan mewn rhysedd dig |
| (1, 1) 97 | Ac gmledd dewr, y darfu daraw y |
| (1, 1) 98 | Carllusgaidd Polack ar y rhew ys talm. |
| (1, 1) 99 | Mae 'n rhyfedd. |
| (1, 1) 103 | Pa fodd i feddwl am y peth, nis gwn; |
| (1, 1) 104 | Ond fel tuedda 'm barn fy hun, mae hyn |
| (1, 1) 105 | Yn rhagargoeli rhyw drychineb mawr. |
| (1, 1) 120 | Hyn a allaf fi; |
| (1, 1) 121 | O leiaf, felly dywed siffrwd. Ein |
| (1, 1) 122 | Diwedda frenin, delw 'r hwn a ddaeth |
| (1, 1) 123 | O fewn y fynud hon i'n gwydd, oedd, fel |
| (1, 1) 124 | Y gwyddoch, wedi ei symbylu gan |
| (1, 1) 125 | Y balch Fortinbras, o dir Norway draw— |
| (1, 1) 126 | Yr hwn i frwydr roddes iddo her; |
| (1, 1) 127 | Pan ddarfu Hamlet ddewr (canys felly gwneir, |
| (1, 1) 128 | Yr ochr hon i'n byd, ei gyfrif ef,) |
| (1, 1) 129 | Ladd Fortinbras, a hwnw, hefyd, trwy |
| (1, 1) 130 | Seliedig amod. cadarnâol gan |
| (1, 1) 131 | Ddeddf a herodraeth, a fforffediodd gyd- |
| (1, 1) 132 | A'i fywyd, ei holl diroedd y rhai oedd |
| (1, 1) 133 | Yn d'od yn feddiant i'r gorchfygwr dewr: |
| (1, 1) 134 | Ar gyfer hyn, gosodwyd haner llawn |
| (1, 1) 135 | Gan ein mwyn frenin; yr hwn haner i |
| (1, 1) 136 | I etifeddiaeth Fortinbras, pe buasai ef |
| (1, 1) 137 | Orchfygwr; fel wrth yr un amod a. |
| (1, 1) 138 | Chytundeb i ei chadarnâu, y daeth |
| (1, 1) 139 | Ei gyfran ef, i ddwylaw Hamlet; ac |
| (1, 1) 140 | Yn awr, wych syr, mae yn ymddangos fod |
| (1, 1) 141 | Yr ieuanc Fortinbras, yr hwn y sydd |
| (1, 1) 142 | O ddewrder heb ei brofi, yn llawn o dân |
| (1, 1) 143 | o fewn cyffiniau Norway, yma a thraw, ' |
| (1, 1) 144 | Yn codi rhestrau o wrolion heb |
| (1, 1) 145 | « Berch'nogi tir, am fwyd a diod, äi |
| (1, 1) 146 | Ryw ymgyrch benderfynol: yr hon sydd |
| (1, 1) 147 | (Fel yr ymddengys i ein teyrnas ni,) |
| (1, 1) 148 | I ddim ond adfeddianu, â llaw gref, |
| (1, 1) 149 | A rhyw orfodaeth anorchfygol fawr |
| (1, 1) 150 | Y tiroedd hyny gollwyd gau ei dad: |
| (1, 1) 151 | A hyn, fel yr wyf fi yn tybied, yw |
| (1, 1) 152 | Y prif resymau dros y cwbl oll, |
| (1, 1) 153 | O'n darpariadau ni; a'r achos o |
| (1, 1) 154 | Ein dyfal wyliadwriaeth; a phrif bwnc |
| (1, 1) 155 | Y dirfawr frys, a'r cynwrf sy'n y tir. |
| (1, 1) 162 | Brycheuyn yw, i gyffro ein meddwl ni. |
| (1, 1) 163 | Yn nghyflwr uchaf, mwyaf pâlmaidd yr |
| (1, 1) 164 | Hen Rufain, rywfaint cyn y cwympodd y |
| (1, 1) 165 | Galluog Julius yr oedd beddau oll |
| (1, 1) 166 | Yn prysur ymwagâu, a'r meirw geid |
| (1, 1) 167 | Yn ysgrech ac oernadu 'n erch, o fewn |
| (1, 1) 168 | Heolydd Rhufain, mewn amdoau oll, |
| (1, 1) 169 | Fel rhagarwyddion o'r hyn oedd i dd'od. |
| (1, 1) 170 | Pan yr oedd ser gyda llosgyrnau tân, |
| (1, 1) 171 | A gwlith o waed, yn duo gwedd yr haul; |
| (1, 1) 172 | A'r seren laith, ar bwys yr hon y saif |
| (1, 1) 173 | Holl ymherodraeth Neifion ar ei hynt, |
| (1, 1) 174 | Yn glaf fel pe buasai'n ddiwedd byd. |
| (1, 1) 175 | Ac felly tebyg ragarwyddion o |
| (1, 1) 176 | Erch ddygwyddiadau,—fel blaenredwyr yn |
| (1, 1) 177 | Rhagflaenu tynged, ac yn hyfion dd'od |
| (1, 1) 178 | Fel dechreu 'r ffawd ofnadwy sydd i fod, |
| (1, 1) 179 | A ydyw'r nef a'r ddaear yn cyd-ddweud |
| (1, 1) 180 | Wrth yr hinsoddau, a'n cydwladwyr ni.— |
| (1, 1) 182 | Yn araf; gwelwch! eto mae yn d'od! |
| (1, 1) 183 | Af draws ei lwybr, pe dinystriai fi,— |
| (1, 1) 184 | Saf, ti ddrychiolaeth! os oes genyt lais, |
| (1, 1) 185 | Neu lafar oll, ymddyddan â myfi: |
| (1, 1) 186 | Os oes rhyw beth fo da, ag eisieu ei wneud |
| (1, 1) 187 | Rydd it esmwythder, ac i minau hedd, |
| (1, 1) 188 | Ymddyddan â mi: |
| (1, 1) 189 | Os wyt yn gwybod tynged fawr dy wlad, |
| (1, 1) 190 | Yr hyn, trwy ei ragwybod, elli ei |
| (1, 1) 191 | Ragatal, O! ymddyddau di â mi. |
| (1, 1) 192 | Neu, os wyt wedi claddu yn dy oes |
| (1, 1) 193 | Ryw drysor yspeiliedig o fewn croth |
| (1, 1) 194 | Y ddaear, am yr hyn y d'wedant hwy |
| (1, 1) 195 | Y crwydrwch chwi ysbrydion wedi tranc, |
| (1, 1) 197 | Mynega yn ei gylch:—gwna aros a |
| (1, 1) 198 | Siarada.—Atal ef, Marcellus. |
| (1, 1) 200 | Gwna, os na erys. |
| (1, 1) 202 | Mae yma! |
| (1, 1) 211 | Ac yna hedodd, fel rhyw euog beth |
| (1, 1) 212 | Ar wys ddychrynllyd. Mi a glywais fod |
| (1, 1) 213 | Y ceiliog, yr hwn sydd yn udgorn gwawr |
| (1, 1) 214 | A'i uchel wddf a'i gân hirseiniog yn |
| (1, 1) 215 | Deffroi duw 'r dydd, ac ar ei rybudd ef, |
| (1, 1) 216 | Pa un ai yn y môr neu ynte'r tân, |
| (1, 1) 217 | Neu 'r ddaear, neu yr awyr, cyfyd pob |
| (1, 1) 218 | Rhyw ysbryd crwydrol a didrefn ì fyn'd |
| (1, 1) 219 | I'w le ei hun: ac o wirionedd hyn |
| (1, 1) 220 | Mae 'r gwrthddrych yma wedi rhoddi prawf. |
| (1, 1) 232 | Mi glywais felly; coeliaf ef mewn rhan. |
| (1, 1) 233 | Ond gwel, mae 'r bore yn ei ruddgoch wisg |
| (1, 1) 234 | Yn rhodio dros y gwlith sydd ar y bryn |
| (1, 1) 235 | I'r dwyrain draw: ein gwylfa torwn; ac, |
| (1, 1) 236 | Yn ol fy nghyngor i, mynegwn beth |
| (1, 1) 237 | A welsom ni y nos nodedig hon. |
| (1, 1) 238 | I Hamlet ieuanc; canys mentrwn roi |
| (1, 1) 239 | Fy mywyd, y gwna'r ysbryd hwn ag sydd |
| (1, 1) 240 | Fud wrthym ni, lefaru wrtho ef: |
| (1, 1) 241 | A ydych chwi 'n cydsynio î mi dd'weud |
| (1, 1) 242 | Y cyfan wrtho, fel peth iawn i'n swydd, |
| (1, 1) 243 | Ac angenrheidiol gan ein cariad ni? |
| (1, 2) 457 | Henffych i'ch Arglwyddiaeth. |
| (1, 2) 461 | Yr un, wyf fì |
| (1, 2) 462 | Fy arglwydd, ac am byth eich ufudd was. |
| (1, 2) 470 | Rhyw duedd grwydrol oedd, fy arglwydd da. |
| (1, 2) 479 | Fy arglwydd, daethum i wel'd claddu 'ch tad. |
| (1, 2) 483 | Aiê, fy arglwydd, yna rhaid ei bod |
| (1, 2) 484 | Yn siŵr, yn dilyn gyda gradd o ffrwst. |
| (1, 2) 491 | Yn mha le, f" arglwydd? |
| (1, 2) 494 | Unwaith mi 'i gwelais— 'r oedd yn frenin da. |
| (1, 2) 498 | Fy arglwydd, yr wyf fi yn meddwl im' |
| (1, 2) 499 | Ei weled neithiwr. |
| (1, 2) 501 | Fy arglwydd, gwel'd y brenin eich tad chwi. |
| (1, 2) 503 | Eich syndod cymedrolwch, rhoddwch glust |
| (1, 2) 504 | Wrandawgar, nes im' ddweud yr oll i chwi |
| (1, 2) 505 | O'r mawr ddieithrwch hwn, o'r hyn y mae'r |
| (1, 2) 506 | Boneddwyr hyn yn llygaid dyst. |
| (1, 2) 508 | Dwy nos ynghyd, y boneddigion hyn, |
| (1, 2) 509 | Marcellus a Bernardo, tra yr o'ent |
| (1, 2) 510 | Ar wyliadwriaeth, pan yn nhrymder, ac |
| (1, 2) 511 | Yn nghanol nos, a welsant yr un peth. |
| (1, 2) 512 | Rhyw wrthddrych fel eich tad, yn arfog oll, |
| (1, 2) 513 | O'r pen i'r traed, a ddenai ger eu bron, |
| (1, 2) 514 | Ac â difrifol rodiad, araf a |
| (1, 2) 515 | Breninol, elai heibio iddynt hwy; |
| (1, 2) 516 | O flaen eu llygaid dychrynedig a |
| (1, 2) 517 | Synedig-ofnus, cerddai ef dair gwaith, |
| (1, 2) 518 | O fewn i hŷd ei ddulffon; [6] hwythau yn |
| (1, 2) 519 | Ymdoddi bron i geulfa gan eu hofn, |
| (1, 2) 520 | Mud-safent, heb ymddyddan dim âg ef. |
| (1, 2) 521 | Hyn yma i mi, oedd yn ddieithrol iawn, |
| (1, 2) 522 | A mynegasant im'; a minau eis |
| (1, 2) 523 | Y drydedd nos, i wylio gyda hwynt. |
| (1, 2) 524 | Fel y dywedent am yr amser bu |
| (1, 2) 525 | A ffurf y peth, pob gair a ddaeth yn wir. |
| (1, 2) 526 | Yr yspryd ddaeth;—eich tad adwaenwn i, |
| (1, 2) 527 | Ac nid mwy tebyg yw y dwylaw hyn. |
| (1, 2) 529 | Fy arglwydd, draw |
| (1, 2) 530 | Ar yr esgynlawr, lle y gwyliem ni. |
| (1, 2) 532 | Fy arglwydd, do; ond nid atebodd ddim; |
| (1, 2) 533 | Ond unwaith, tybiais iddo godi ei ben, |
| (1, 2) 534 | A pharotoi i symud, fel pe am |
| (1, 2) 535 | Ymddyddan; ond pryd hwnw 'r ceiliog a |
| (1, 2) 536 | Grochganodd; ar y sain ymgilio wnaeth |
| (1, 2) 537 | Ar frys ì ffordd, a llwyr ddiflanodd hwnt |
| (1, 2) 538 | O'n golwg ni. |
| (1, 2) 540 | Fy anrhydeddus arglwydd, fel wy 'n fyw |
| (1, 2) 541 | Mae 'n wir; a meddyliasom ei bod yn |
| (1, 2) 542 | Ysgrifenedig yn ein dyled-swydd, |
| (1, 2) 543 | I adael i chwi wybod hyn. |
| (1, 2) 552 | Fy arglwydd, do; ei het i fyny oedd. |
| (1, 2) 554 | Gwynebpryd mwy mewn gofid, nac mewn dig. |
| (1, 2) 556 | Na, hynod welw oedd. |
| (1, 2) 558 | Gwnai yn ddidor. |
| (1, 2) 560 | Synasai chwi yn fawr. |
| (1, 2) 563 | Tra y gallasai un |
| (1, 2) 564 | A brys cymedrol gyfrif cant. |
| (1, 2) 566 | Nid tra y gwelais i ef. |
| (1, 2) 569 | Yr oedd, fel gwelais i |
| (1, 2) 570 | Hi yn ei fywyd, yn arianaidd ddu. |
| (1, 2) 573 | Mi ro'wn fy ngair y gwna. |
| (1, 4) 783 | Y mae y gwynt yn ddeifiol a thra llym. |
| (1, 4) 785 | Meddyliwyf fi; |
| (1, 4) 786 | Ei bod yn fyr o haner nos. |
| (1, 4) 788 | Yn wir? ni chlywais i, mae'n tynu at |
| (1, 4) 789 | Yr amser pan y gwna yr ysbryd dd'od |
| (1, 4) 790 | I rodio 'n ol ei arfer yn y lle. |
| (1, 4) 792 | Pa beth, fy arglwydd, ydyw ystyr hyn? |
| (1, 4) 799 | A ydyw yn arferiad. |
| (1, 4) 832 | Fy arglwydd, gwelwch, y mae ef yn d'od. |
| (1, 4) 859 | Amneidia i chwi fyned gydag ef, |
| (1, 4) 860 | Fel pe b'ai ganddo ryw ddadguddiad i'w |
| (1, 4) 861 | Fynegu ichwi, ar eich pen eich hun. |
| (1, 4) 865 | Na, peidiwch myn'd, ar gyfrif yn y byd. |
| (1, 4) 867 | Na, peidiwch, arglwydd. |
| (1, 4) 874 | Beth os arweinia chwi tuag at y llif, |
| (1, 4) 875 | Fy arglwydd, ynte i echryslawn ben |
| (1, 4) 876 | Y clogwyn â fargoda at y môr? |
| (1, 4) 877 | Ac yno wisgo rhyw ofnadwy ffurf, |
| (1, 4) 878 | A'ch difeddiano o lywodraeth ar |
| (1, 4) 879 | Eich reswm, nes eich hyrddio 'n gwbl i |
| (1, 4) 880 | Orphwyllder. F' arglwydd, O! ystyriwch hyn. |
| (1, 4) 881 | Mae 'r lle ei hun, yn rho'i dych'mygion o |
| (1, 4) 882 | Anobaith yn mhob menydd, heb ddim mwy, |
| (1, 4) 883 | Tra 'n edrych o'r fath uchder ar y môr, |
| (1, 4) 884 | A chlywed ei ruadau yn mhell i lawr. |
| (1, 4) 888 | Cyngorer chwi, nis cewch ddim myn'd yn wir. |
| (1, 4) 900 | Mae 'n myn'd yn ffyrnyg, trwy ddychymyg certh. |
| (1, 4) 903 | Canlynwn:—i ba ddiwedd y daw hyn? |
| (1, 4) 905 | Y Nefoedd fawr a'i gesyd oll yn iawn. |
| (1, 5) 1055 | Fy arglwydd, fy arglwydd,— |
| (1, 5) 1059 | Y Nef a'i amddiffyno! |
| (1, 5) 1063 | Holo, ho, ho, fy arglwydd! |
| (1, 5) 1068 | Pa newydd, f' arglwydd? |
| (1, 5) 1070 | Fy arglwydd da, mynegwch ef. |
| (1, 5) 1073 | Yn enw 'r Nef, ni wnaf. |
| (1, 5) 1074 | Fy arglwydd da. |
| (1, 5) 1082 | Nid ydoedd raid. |
| (1, 5) 1083 | I ysbryd godi f' arglwydd, o ei fedd, |
| (1, 5) 1084 | I dd'wedyd hyn. |
| (1, 5) 1094 | Rhyw eiriau gwylltion digysylltiad yw |
| (1, 5) 1095 | Y rhai 'n, fy arglwydd. |
| (1, 5) 1099 | Nid oes, |
| (1, 5) 1100 | Fy arglwydd, ynddynt unrhyw dramgwydd. |
| (1, 5) 1111 | Beth yw, |
| (1, 5) 1112 | Fy arglwydd, gwnawn. |
| (1, 5) 1117 | Yn wir, fy arglwydd, nis |
| (1, 5) 1118 | Gwnaf fi. |
| (1, 5) 1132 | Cynygiwch ffurf y llw, |
| (1, 5) 1133 | Fy arglwydd. |
| (1, 5) 1151 | O ddydd a nos! mae hyn yn ddyeithr iawn! |