| (0, 3) 185 | Yr wyf, fy anrhydeddus frenin, |
| (0, 3) 186 | yn ufudd i'ch gorchymyn. |
| (0, 3) 187 | Nid yw reswm i'r Groegwyr, |
| (0, 3) 188 | trwy i dichell a'i synwyr, |
| (0, 3) 189 | a'i geiriau bugyl duon, |
| (0, 3) 190 | gael o honyn a fynon. |
| (0, 3) 191 | Nid ydyn ond dieithred; |
| (0, 3) 192 | mae'n ddigon hawdd i gwaredd. |
| (0, 3) 193 | Fy meddwl i a'm cyngor amcan — |
| (0, 3) 194 | nis can ond a enillan. |
| (0, 3) 392 | Elusen i i chwi wrando |
| (0, 3) 393 | ar riddfanys wylo, |
| (0, 3) 394 | a thrugarhau wrth achwyn |
| (0, 3) 395 | y wirionaidd forwyn. |
| (0, 3) 396 | Pe base yn gydnabyddys |
| (0, 3) 397 | ai fynediad twyllodrys, |
| (0, 3) 398 | dyledys naturiol |
| (0, 3) 399 | gadw yn gyfrinachol |
| (0, 3) 400 | y pethau drwy fawrloes |
| (0, 3) 401 | a gelle iw thad i einioes. |
| (0, 3) 402 | ~ |
| (0, 3) 403 | Os byddir mor gerulon a'i lladd, |
| (0, 3) 404 | beth a ddywaid y gelynion? |
| (0, 3) 405 | "Lle bo'r fath greulondeb, |
| (0, 3) 406 | na gall fod gwroldeb." |
| (0, 3) 424 | I'ch cartref hwnt cerddwch, |
| (0, 3) 425 | trymder mawr na ddygwch. |
| (0, 3) 426 | Cymrwch ych rhyddid |
| (0, 3) 427 | yn llawen, a'ch bywyd; |
| (0, 3) 428 | Ac am gymaint ac a alla, |
| (0, 3) 429 | rhowch ych hyder arna. |
| (0, 7) 1262 | Diomedes, mae'n rhyfedd gennyf eich dymuniad, |
| (0, 7) 1263 | am Antenor rhoi Cresyd yn gyfnewidiad. |
| (0, 7) 1264 | Carcharwr yw Antenor - carcharwr a gewch amdano. |
| (0, 7) 1265 | Rhydd yw Cresyd - nid iawn mo'r gyfnewid honno. |
| (0, 7) 1266 | Camgymryd eich cynhaeaf - |
| (0, 7) 1267 | nid arfer Groeg sydd yma. |
| (0, 7) 1268 | Yn nhref Troea nis gwelwyd |
| (0, 7) 1269 | erioed werthu merched. |