| (1, 2) 334 | Ychydig mwy na châr, a llai na mab. [1] |
| (1, 2) 337 | Nid felly mae, |
| (1, 2) 338 | Fy Arglwydd, ond wyf ormod yn yr haul. [2] |
| (1, 2) 346 | Ië, 'mam, cyffredin yw. |
| (1, 2) 349 | Ymddangos, 'mam! na, mae 'n rhy wir i mi. |
| (1, 2) 350 | Pa beth yw ymddangosiad, nis gwn ddim. |
| (1, 2) 351 | Ah! nid fy mantell ddu, sy' fel yr inc |
| (1, 2) 352 | Yn unig ydyw, fy naionus fam, |
| (1, 2) 353 | Y galarwisgoedd arferedig, na |
| (1, 2) 354 | Hir anadliadau wedi eu gwasgu o fewn— |
| (1, 2) 355 | Nagê, na chwaith yr afon ffrydlawn sy'n |
| (1, 2) 356 | Dylifo o'r llygaid—na, ac nid ychwaith, |
| (1, 2) 357 | Yr ymddangosiad tristlawn ar y rudd, |
| (1, 2) 358 | Yn nghyd a phob ffurf, modd, a dull a geir |
| (1, 2) 359 | O dristwch, a'm dynodant i yn iawn: |
| (1, 2) 360 | Ymddangos mae 'r rhai hyn, mae'n wir can's maent |
| (1, 2) 361 | Yn bethau y gall dyn eu ffugio hwy: |
| (1, 2) 362 | Ond mwy nag ymddangosiad sydd o'm mewn; |
| (1, 2) 363 | Nid ydyw y rhai hyn, ond treciau a |
| (1, 2) 364 | Gwisgiadau tristwch. |
| (1, 2) 406 | Gwnaf ufuddâu fy ngoreu i chwi, 'mam. |
| (1, 2) 418 | O na wnai 'r cnawd rhy galed, caled hwn |
| (1, 2) 419 | Ymdoddi, dadmer, ac ymffurfio 'n wlith! |
| (1, 2) 420 | Neu, na pheidiasai y Tragwyddol Fôd |
| (1, 2) 421 | Yn erbyn hunan-laddiad, roi ei ddeddf! |
| (1, 2) 422 | O Dduw! O Dduw! mor flin, mor egraidd, mor |
| (1, 2) 423 | Ddi-flas, ac mor ddielw, ydyw 'r holl |
| (1, 2) 424 | Wag ddefnydd ellir wneud o bethau 'r byd! |
| (1, 2) 425 | Ffei arno! ffei! gardd hollol wyllt yw'r hon |
| (1, 2) 426 | A rêd i hâd, drygsawrus bethau, ac |
| (1, 2) 427 | O natur groes, sydd yn ei llenwi oll. |
| (1, 2) 428 | O ofid! fod i bethau dd'od i hyn! |
| (1, 2) 429 | Dau fis yn farw! na nid yw'n ddau fìs! |
| (1, 2) 430 | A'r fath ardderchog frenin ydoedd ef! |
| (1, 2) 431 | Hyperion [3] oedd, a hwn yn ellyll gwael. |
| (1, 2) 432 | Efe oedd mor gariadus wrth fy mam, |
| (1, 2) 433 | Fel na oddefai i awelon nef |
| (1, 2) 434 | Byth ddisgyn ar ei gwyneb yn rhy lym. |
| (1, 2) 435 | O nef a daear! a raid im' gofio hyn? |
| (1, 2) 436 | Hyhi a bwysai ar ei fynwes ef, |
| (1, 2) 437 | Fel pe buasai blys yn tyfu wrth |
| (1, 2) 438 | Ymborthi; ac er hyny, o fewn mis— |
| (1, 2) 439 | Na fydded i mi feddwl yn ei gylch:— |
| (1, 2) 440 | O! Anwadalwch; d' enw di yw—merch! |
| (1, 2) 441 | Bur fis! cyn baeddu yr esgidiau teg |
| (1, 2) 442 | A'r rhai canlynodd gorff fy anwyl dad, |
| (1, 2) 443 | Fel Niobê, yn ddagrau trosti oll,— |
| (1, 2) 444 | Ac wele hi, ïe, hyhi,—O nef! |
| (1, 2) 445 | Fe wnaethai bwystfil heb ddim rheswm oll, |
| (1, 2) 446 | Alaru 'n hŵy,—priododd fy ewythr, |
| (1, 2) 447 | Sef brawd fy nhad; ond dim mwy tebyg i |
| (1, 2) 448 | Fy nhad, nag ydwyf fì i Hercules: |
| (1, 2) 449 | O fewn un mis: a chyn ì helltni ei |
| (1, 2) 450 | Rhagrithiol ddagrau, roi i'r cochni fyn'd |
| (1, 2) 451 | O'i llygaid clwyfus, fe briododd hi! |
| (1, 2) 452 | O frys drygionus, yn ymruthro i |
| (1, 2) 453 | Gynfasau llosgach, â'r fath ddirfawr ffrwst. |
| (1, 2) 454 | Nid yw, ac nis gall, dd'od i ddiwedd da,— |
| (1, 2) 455 | Tor fy nghalon; tewi raid i mi. |
| (1, 2) 458 | Tra llawen wyf |
| (1, 2) 459 | Dy weled di yn iach: Horatio, |
| (1, 2) 460 | Neu 'rwyf yn colli arnaf fi fy hun. |
| (1, 2) 463 | Syr, a fy nghyfaill da: newidio wnaf |
| (1, 2) 464 | Yr enw yna gyda thi. Ond beth |
| (1, 2) 465 | A'ch dygodd chwi yn awr o Wittenberg, |
| (1, 2) 466 | Horatio?—Marcellus? |
| (1, 2) 468 | Wyf hynod falch o'ch gwel'd; prydnawn da, syr. |
| (1, 2) 469 | Ond beth, a ddaeth a chwi o Wittenberg? |
| (1, 2) 471 | Ni wrand'wn ar eich gelyn yn dweud hyn; |
| (1, 2) 472 | Ac ni chewch chwithau dreisio ar fy nghlust, |
| (1, 2) 473 | Na'm dwyn i gredu un cyhuddiad fo'n |
| (1, 2) 474 | Milwrio yn eich erbyn chwi eich hun: |
| (1, 2) 475 | Gwn nad rhyw grwydriaid segur ydych chwi. |
| (1, 2) 476 | Ond beth yw 'ch neges yma'n Elsinore? |
| (1, 2) 477 | Wel, dysgwn chwi i yfed yn bur drwin |
| (1, 2) 478 | Cyn myn'd i ffordd. |
| (1, 2) 480 | Atolwg iti, gydefrydydd, paid |
| (1, 2) 481 | A'm gwatwar; meddwl 'rwyf mai d'od a wneist |
| (1, 2) 482 | I wel'd priodi'm mam. |
| (1, 2) 485 | Ffrwst, ffrwst, [4] Horatio! y bwyd pobedig at |
| (1, 2) 486 | Y claddedigaeth [5] lanwai mewn modd oer |
| (1, 2) 487 | Y neithior-fyrddau. O na chawswn i |
| (1, 2) 488 | Gyfarfod fy mhrif elyn yn y nef |
| (1, 2) 489 | Yn gynt, Horatio! na chael gwel'd y dydd!— |
| (1, 2) 490 | Fy nhad,—yr wyf yn tybio gwel'd fy nhad. |
| (1, 2) 492 | Yn ngolygon fy |
| (1, 2) 493 | Meddylfryd dwfn, Horatio. |
| (1, 2) 495 | Dyn oedd, |
| (1, 2) 496 | Ag i ni ei gymeryd oll yn oll, |
| (1, 2) 497 | Na welwn byth ei debyg yma mwy. |
| (1, 2) 500 | Gweled, meddwch! pwy? |
| (1, 2) 502 | Y brenin fy nhad i! |
| (1, 2) 507 | Er cariad Duw! gadewch ei glywed oll. |
| (1, 2) 528 | Ond yn mha le bu hyn? |
| (1, 2) 531 | Ond ai ni siaradasoch gydag ef? |
| (1, 2) 539 | Mae hyn yn hynod iawn. |
| (1, 2) 544 | Yn wir, yn wir, syrs, hyn a'm blina i, |
| (1, 2) 545 | A fyddwch chwi yn gwylio'r noson hon? |
| (1, 2) 547 | Yn arfog, meddwch chwi? |
| (1, 2) 549 | O'r top i'r gwaelod oll? |
| (1, 2) 551 | Nis gwelsoch chwi, gan hyny, ei wyneb ef? |
| (1, 2) 553 | Beth! a oedd ef yn edrych gyda gwg? |
| (1, 2) 555 | Ai gwelw a'i coch? |
| (1, 2) 557 | Ac a sefydlai 'i lygaid arnoch chwi? |
| (1, 2) 559 | O! na fuaswn yno gyda chwi. |
| (1, 2) 561 | Pur debyg, tra thebygol, a wnaeth ef |
| (1, 2) 562 | Arosiad hir? |
| (1, 2) 567 | Oedd ei farf |
| (1, 2) 568 | Yn llwyd? Nac oedd? |
| (1, 2) 571 | Myfi a wyliaf heno; gallai daw |
| (1, 2) 572 | I rodio eto. |
| (1, 2) 574 | Os gwisga berson fy ardderchog dad, |
| (1, 2) 575 | Siaradaf gydag ef, pe uffern ddofn |
| (1, 2) 576 | Ymrythai a pheri i mi dewi a son. |
| (1, 2) 577 | Atolwg 'rwyf, os gwnaethoch guddio hyd |
| (1, 2) 578 | Yn awr yr ymddangosiad hwn, boed e |
| (1, 2) 579 | Yn eich dystawrwydd eto 'n para yn nghudd; |
| (1, 2) 580 | A pha beth bynag heno gymer le, |
| (1, 2) 581 | Deallwch ef, ond na fynegwch ddim; |
| (1, 2) 582 | Eich cymwynasau a wobrwyaf fì, |
| (1, 2) 583 | Am hyny'n awr, yniach i chwi: ar yr |
| (1, 2) 584 | Esgynlawr, rhwng un-ar-ddeg a haner nos, |
| (1, 2) 585 | Ymwelaf â chwychwi. |
| (1, 2) 588 | Eich cariad, fel myfi i chwi: yn iach. |
| (1, 2) 590 | Ysbryd fy nhad dan arfau! Yn wir nid yw |
| (1, 2) 591 | Pob peth yn dda. 'Rwy 'n anmheu rh ddrwg-waith: |
| (1, 2) 592 | O na ddoi 'r nos! Hyd hyny, f' enaid, gwna |
| (1, 2) 593 | Yn llonydd eistedd: daw gweithredoedd drwg |
| (1, 2) 594 | I fyny 'n hyf, ger bron i lygaid dyn, |
| (1, 2) 595 | Er i'r holl ddaear geisio 'u cuddio hwynt. |
| (1, 4) 782 | Yr awyr fratha 'n dost; mae 'n erwin oer. |
| (1, 4) 784 | Pa awr yw hi? |
| (1, 4) 793 | Mae'r brenin heno'n effro, ac y mae'n |
| (1, 4) 794 | Cymeryd llymaid llawen; meddw yw, |
| (1, 4) 795 | Y corach rhwysgfawr, ac yn dawnsio mae; |
| (1, 4) 796 | A phan yr yf ei lwnc o win y Rhine, |
| (1, 4) 797 | Mae 'r tabwrdd pres a'r udgorn croch fel hyn |
| (1, 4) 798 | Yn brefu allan werth ei yfair ef. |
| (1, 4) 800 | Yn wir, y mae: |
| (1, 4) 801 | Ond i fy meddwl i—er i mi fod |
| (1, 4) 802 | Yn enedigol yma, ac felly yn |
| (1, 4) 803 | Anedig i'r arferiad—arfer i |
| (1, 4) 804 | A berchir wrth ei thori 'n llawer mwy |
| (1, 4) 805 | Nag wrth ei chadw. Mae y gloddest tra |
| (1, 4) 806 | Pendrymaidd hwn yn dwyn i ni sarâd |
| (1, 4) 807 | A drygedliwiad gan genedloedd sydd |
| (1, 4) 808 | I'r dwyrain a'r gorllewin: galwant ni |
| (1, 4) 809 | Yn feddwon, ac âg ymadroddion tra |
| (1, 4) 810 | Mochynaidd gwnant, ddirmygu 'n cynydd ni; |
| (1, 4) 811 | A hyn yn ddïau a isela ein |
| (1, 4) 812 | Holl orchfygiadau, er mor uchel y'nt, |
| (1, 4) 813 | A grym a mêr ein priodoledd ni. |
| (1, 4) 814 | Efelly dygwydd gydag aml ddyn, |
| (1, 4) 815 | Rhai am ryw ddiffyg gafwyd yn y tro |
| (1, 4) 816 | Na all'sant wrtho (am nad oes gan ddyn |
| (1, 4) 817 | Un llais yn ffurfiad cynta 'i natur wan) |
| (1, 4) 818 | Trwy dyfiant math o duedd, dora 'n aml |
| (1, 4) 819 | Amgaerau a chastellydd rheswm pur.— |
| (1, 4) 820 | Trwy ryw arferiad, orlefeinia ffurf |
| (1, 4) 821 | Defodau mwyaf teg—y dynion hyn,— |
| (1, 4) 822 | Gan gario arnynt, meddaf, argraff rhyw |
| (1, 4) 823 | Un diffyg—nodwisg natur, seren ffawd,— |
| (1, 4) 824 | Eu holl rinweddau eraill yn mhob peth |
| (1, 4) 825 | (Boent hwy mor bur a gras, a'u meddu mewn |
| (1, 4) 826 | Cyflawnder mor ddiderfyn ag all gael), |
| (1, 4) 827 | A lygrir, gan y farn gyffredin, am |
| (1, 4) 828 | Yr un bai hwnw; gwna un gronyn o |
| (1, 4) 829 | Ddrygioni 'n fynych, weithio allan y |
| (1, 4) 830 | Rhagoraf nodwedd, er difrïad dyn. |
| (1, 4) 833 | Angelion a holl weinidogion gras |
| (1, 4) 834 | A'n cadwo ni!—ai ysbryd iechyd wyt |
| (1, 4) 835 | Neu ellyll damniol? a wyt ti yn dwyn |
| (1, 4) 836 | I'th ganlyn rai o fwyn awelon nef |
| (1, 4) 837 | Neu ryw fflachiadau o'r diwaelod bwll, |
| (1, 4) 838 | A yw dy amcan yn ddrygionus ai |
| (1, 4) 839 | Carnaidd? ti a ddeui mewn fath ddull |
| (1, 4) 840 | Ymgomgar, [8] fel gwnaf siarad gyda thi; |
| (1, 4) 841 | Mi'th alwaf di yn Hamlet, brenin, tad, |
| (1, 4) 842 | Breninol Ddaniad. O! ateba fi: |
| (1, 4) 843 | Na âd i mi, ymdori ar fy nhraws |
| (1, 4) 844 | Mewn anwybodaeth! ond mynega im' |
| (1, 4) 845 | Paham mae 'th esgyrn cysegredig di, |
| (1, 4) 846 | A rwymwyd mewn marwolaeth, erbyn hyn |
| (1, 4) 847 | Yn tori 'u cŵyr-lïeiniau! A phaham |
| (1, 4) 848 | Mae 'r beddrod yn yr hwn y gwelsom di |
| (1, 4) 849 | Yn cael dy roi yn dawel yn dy fedd, |
| (1, 4) 850 | Yn agor ei rwth fynor-enau i - |
| (1, 4) 851 | Dy fwrw allan! Beth arwydda hyn, |
| (1, 4) 852 | Tydi, gorff marw, eto 'n arfog oll, |
| (1, 4) 853 | Yn ail ymweled â th'wyniadau 'r lloer, |
| (1, 4) 854 | Gan wneud y nos yn echrys; a nyni, |
| (1, 4) 855 | Ynfydion natur, gawn ein dychryn i'r |
| (1, 4) 856 | Fath raddau nes cael llwyr wanychu 'n ffydd, |
| (1, 4) 857 | A'n llenwi â dychmygion uwch ein bryd? |
| (1, 4) 858 | D'wed, p'odd mae hyn? paham? beth ddylem wneud? |
| (1, 4) 866 | Ni sieryd; felly gwnaf ei ddilyn ef, |
| (1, 4) 868 | Pa'm, pa beth a raid |
| (1, 4) 869 | Ei ofni? nid wyf fi yn gosod pris |
| (1, 4) 870 | Fy mywyd, mwy na phin; am f' enaid, beth |
| (1, 4) 871 | A all ef wneud i hwnw ag sydd yn |
| (1, 4) 872 | Anfarwol fel ei hunan? y mae yn |
| (1, 4) 873 | Fy ngalw eto;—âf, dilynaf ef. |
| (1, 4) 885 | Mae'n galw eto:— dos, dilynaf di. |
| (1, 4) 887 | Hwnt â'ch dwylaw oll. |
| (1, 4) 889 | Mae'm tynged i yn galw i mi fyn'd, |
| (1, 4) 890 | Nes gwneud pob mânwythïen yn fy nghorff |
| (1, 4) 891 | Mor gryfion a gewynau dur y llew. |
| (1, 4) 893 | Fe 'm gelwir eto; foneddigion, gwnewch |
| (1, 4) 894 | Fy ngollwng i:— |
| (1, 4) 896 | Myn nef, gwnaf ysbryd o'r |
| (1, 4) 897 | Hwn wna fy rhwystro:—meddaf, ewch i ffordd:— |
| (1, 4) 898 | Yn mlaen yn awr, mi a'th ddilynaf di. |
| (1, 5) 912 | Pa le y myni di fy arwain i? |
| (1, 5) 913 | Siarada; nid af fi yn mhellach gam. |
| (1, 5) 915 | Mi wnaf. |
| (1, 5) 919 | O, druan ysbryd wyt! |
| (1, 5) 923 | Siarad, ydwyf rwym |
| (1, 5) 924 | O wrandaw. |
| (1, 5) 927 | Beth? |
| (1, 5) 946 | O'r nefoedd fawr! |
| (1, 5) 949 | Mwrddrad? |
| (1, 5) 953 | Prysura, d'wed, fel gallwyf fyned ar |
| (1, 5) 954 | Chwim edyn myfyr, neu feddyliau serch |
| (1, 5) 955 | I ddial hyn. |
| (1, 5) 967 | O fy mhrophwydol enaid! f' ewythr oedd? |
| (1, 5) 1028 | O chwi, holl luoedd nef! O ddaear! A |
| (1, 5) 1029 | Pheth arall? Gaf fi gyplu uffern ddofn?— |
| (1, 5) 1030 | O ffei!—Dal, dal, fy nghalon, a chywchwi, |
| (1, 5) 1031 | Fy holl ewynau, peidiwch myn'd yn hen |
| (1, 5) 1032 | Mewn munyd, deliwch fi i fyny 'n gryf! |
| (1, 5) 1033 | Dy gofio di? Gwnaf, ysbryd truan, tra |
| (1, 5) 1034 | Y dalio cof eisteddle oddifewn |
| (1, 5) 1035 | I'r belen wallgof hon. [11] Dy gofio di? |
| (1, 5) 1036 | Gwnaf; canys oddiar lech fy nghof yn awr |
| (1, 5) 1037 | Y sychaf ymaith bob cofnodion hoff, |
| (1, 5) 1038 | Pob llyfr-ymadrodd, pob rhyw ffurfiau, a |
| (1, 5) 1039 | Blaenorol argraffiadau gawsant eu |
| (1, 5) 1040 | Copïo yno; a'th orchymyn di |
| (1, 5) 1041 | Gaiff fyw o fewn i lyfr a chyfrol fy |
| (1, 5) 1042 | Ymenydd, heb gymysgu â gwaelach beth: |
| (1, 5) 1043 | Caiff, myn y Nef! O dra drygionus wraig! |
| (1, 5) 1044 | O ti ddyhiryn! O ddyhiryn! O! |
| (1, 5) 1045 | Tydi ddamniedig a gwenieithus ddyn! |
| (1, 5) 1046 | "Fy nghoflyfr,"— gweddus yw ei roi i lawr, |
| (1, 5) 1047 | Y gall un wenu, gwenu, a bod 'run pryd |
| (1, 5) 1048 | Yn ellyll llwyr, o leiaf, sicr wyf |
| (1, 5) 1049 | Y gall fod felly yn Denmarc. |
| (1, 5) 1051 | Efelly, f' ewythr, dyna chwi. 'N awr at fy ngair; |
| (1, 5) 1052 | Hyn yw,—|Ffarwel, ffarwel! O cofia fi!| |
| (1, 5) 1053 | Myfi a'i tyngais. |
| (1, 5) 1064 | Holo, ho, |
| (1, 5) 1065 | Ho, lanc! de'wch, de'wch, aderyn, de'wch. [12] |
| (1, 5) 1069 | O rhyfeddol iawn! |
| (1, 5) 1071 | Na, na; |
| (1, 5) 1072 | Chwi a'i dadguddiwch. |
| (1, 5) 1076 | Pa fodd, atolwg, y dywedwch chwi? |
| (1, 5) 1077 | A goeliai calon dyn, y peth ofnadwy? |
| (1, 5) 1078 | Ond—mi gedwch oll yn gudd?— |
| (1, 5) 1080 | Nid oes ddyhiryn o fewn Denmarc oll, |
| (1, 5) 1081 | Nad ydyw yn garn cnaf. |
| (1, 5) 1085 | Pur iawn; yr y'ch yn iawn; |
| (1, 5) 1086 | Ac felly, heb amgylchu eto fwy, |
| (1, 5) 1087 | Yr wyf yn cyfrif mai peth gweddaidd yw |
| (1, 5) 1088 | I'n ysgwyd dwylaw, ac ymadael; chwi |
| (1, 5) 1089 | Fel y gwna eich gorchwylion, neu yntê |
| (1, 5) 1090 | Eich dymuniadau 'ch troi—mae gan bob dyn |
| (1, 5) 1091 | Ryw orchwyl a dymuniad, o'r fath yw,— |
| (1, 5) 1092 | Ac o fy rhan fy hunan, gwelwch, âf— |
| (1, 5) 1093 | Atolwg. |
| (1, 5) 1096 | Gofidus wyf |
| (1, 5) 1097 | O ddyfnder calon bur, eu bod yn dramgwydd; |
| (1, 5) 1098 | O'm calon gwir ofidus wyf. |
| (1, 5) 1101 | Oes y mae, |
| (1, 5) 1102 | Myn Padrig Sant, Horatio, tramgwydd mawr. |
| (1, 5) 1103 | Yn nghylch y weledigaeth hon, y mae |
| (1, 5) 1104 | Yn ysbryd gonest iawn, gwybyddwch hyn; |
| (1, 5) 1105 | Am eich dymuniad i gael gwybod beth |
| (1, 5) 1106 | Fu rhyngom ni, meistrolwch hwnw, fel |
| (1, 5) 1107 | Y mynoch. Ac yn awr, gyfeillion da, |
| (1, 5) 1108 | Cyfeillion. ysgoleigion, milwyr y'ch, |
| (1, 5) 1109 | Ac fel y cyfryw caniatewch i mi |
| (1, 5) 1110 | Gael un dymuniad bach. |
| (1, 5) 1113 | Na wneloch byth |
| (1, 5) 1114 | Yn hysbys beth a welsoch y nos hon. |
| (1, 5) 1116 | Na; ond tyngwch hyn. |
| (1, 5) 1120 | Ar fy ngeledd. |
| (1, 5) 1123 | Yn wir, ac ar fy nghledd, |
| (1, 5) 1124 | Yn wir. |
| (1, 5) 1127 | Ha, ha. 'rhen fachgen! a |
| (1, 5) 1128 | Ddywedi dithau felly? a wyt ti |
| (1, 5) 1129 | Fan yna, gywir un? De'wch, de'wch,—chwychwi |
| (1, 5) 1130 | A glywch hwnyna yn y seler,—de'wch |
| (1, 5) 1131 | Gydsyniwch dyngu. |
| (1, 5) 1134 | Na wnewch byth son yn nghylch |
| (1, 5) 1135 | Yr hyn a welsoch, tyngwch wrth fy nghledd. |
| (1, 5) 1138 | Hic et ubique? [13] — Am hyny, bydded i'n |
| (1, 5) 1139 | Yn wir, ac ar fy nghledd, |
| (1, 5) 1140 | I newid tir:—De'wch chwi yn mlaen hyd i'r |
| (1, 5) 1141 | Fan yma, foneddigion, a gwnewch ro'i |
| (1, 5) 1142 | Eich dwylaw wrth fy nghleddyf, tyngwch wrth |
| (1, 5) 1143 | Fy nghledd, na wneloch yngan gair yn nghylch |
| (1, 5) 1144 | Yr hyn a glywsoch yma, y pryd hwn. |
| (1, 5) 1147 | Da d'wedaist ti, hen dwrch! A elli di |
| (1, 5) 1148 | Mor gyflym weithio yn y ddaear? Hen |
| (1, 5) 1149 | Ragredegydd teilwng yw! eto gwnawn |
| (1, 5) 1150 | Ymsymud unwaith, fy nghyfeillion da. |
| (1, 5) 1152 | Ac felly fel dyeithrbeth dyro di |
| (1, 5) 1153 | Groesawiad iddo. Y mae, Horatio, fwy |
| (1, 5) 1154 | O bethau yn y nef a'r ddaear hon |
| (1, 5) 1155 | Nag a freuddwydiodd eich hathroniaeth chwi. |
| (1, 5) 1156 | Ond de'wch;— |
| (1, 5) 1157 | Ac eto yma, fel o'r blaen, byth, byth— |
| (1, 5) 1158 | Trugaredd rad a'ch cynorthwyo chwi! |
| (1, 5) 1159 | Pa mor ddyeithr ac ôd bynag yr |
| (1, 5) 1160 | Wyf fi yn ymddwyn, ac y gwelaf raid |
| (1, 5) 1161 | I mi ymddangos mewn munudiol fodd |
| (1, 5) 1162 | Rhyw amser pwysig eto sydd o'm blaen, |
| (1, 5) 1163 | Ar y fath amser, na foed i chwi byth, |
| (1, 5) 1164 | A breichiau llwythog wneud fel hyn, a'r llall, |
| (1, 5) 1165 | Neu benysgydwad doeth, o'r fath a'r fath, |
| (1, 5) 1166 | Neu trwy ro'i allan ymadroddion mwys— |
| (1, 5) 1167 | Fel hyn, |Wel, wel, fe wyddom ni|;—neu, |Ni a allem, a phe mynem|; |
| (1, 5) 1168 | Neu, |Pe mynem ni siarad|;—neu, |Y mae, a phe gallent|;— |
| (1, 5) 1169 | Neu siarad dwbl ystyr o'r fath hyn; |
| (1, 5) 1170 | I ddangos dim cy'byddiaeth â myfi:— |
| (1, 5) 1171 | Hyn dyngwch chwi! a boed i fythol ras |
| (1, 5) 1172 | A hael drugaredd, ro'i pob cymhorth i'ch. |
| (1, 5) 1175 | Wel, gorphwys, gorphwys bellach O tydi, |
| (1, 5) 1176 | Derfysglyd ysbryd! Foneddigion, â'm |
| (1, 5) 1177 | Holl gariad y cyflwynaf fi fy hun; |
| (1, 5) 1178 | I chwi, a'r hyn all tlawd fel Hamlet, wneud |
| (1, 5) 1179 | I ddangos cariad a chyfeillach wir, |
| (1, 5) 1180 | Mewn dim ni phallaf, os fy Nuw a'i myn. |
| (1, 5) 1181 | Gadewch i ni gydfyn'd i fewn, a chwi |
| (1, 5) 1182 | A'ch bysedd ar eich gwefus, erfyn wyf. |
| (1, 5) 1183 | Y mae yr amser yn annhrefnus; O |
| (1, 5) 1184 | Ddygasedd melldigedig! I mi gael |
| (1, 5) 1185 | Fy ngeni 'rioed i ddwyn y peth i drefn! |
| (1, 5) 1186 | Na, deuwch, awn ein tri yn nghyd. |
| (2, 2) 1612 | Iach, trugarâed Duw. |
| (2, 2) 1615 | Wyf yn hynod dda; chwychwi |
| (2, 2) 1616 | Sydd werthwr pysgod. |
| (2, 2) 1618 | Wel, dymunaswn eich bod yn ddyn |
| (2, 2) 1619 | Mor onest. |
| (2, 2) 1621 | Iê, syr; bod yn onest, fel y mae y byd hwn yn myned, yw bod yn un wedi ei bigo allan o ddeng mil. |
| (2, 2) 1623 | Canys os yw yr haul yn magu cynrhon mewn ci marw, gan fod yn dduw yn cusanu burgyn,— |
| (2, 2) 1624 | A oes genych ferch? |
| (2, 2) 1626 | Na adewch iddi rodio yn yr haul: mae amgyffred [20] yn fendith; ond gan y gall eich merch feichiogi, [20] gyfaill, edrychwch ati. |
| (2, 2) 1633 | Geiriau, geiriau, geiriau! |
| (2, 2) 1635 | Rhwng pwy? |
| (2, 2) 1637 | Enllibiau, syr; |
| (2, 2) 1638 | canys y mae y gwalch tuchanus hwn yn dywedyd yma, fod gan hen wŷr farfau llwydion; fod eu hwynebau yn rhychog; eu llygaid yn dyferu ambr tew, a glud pren eiryn; a bod ganddynt ddiffyg mawr o synwyr, yn nghyd a garau gweiniaid: |
| (2, 2) 1639 | yr oll o'r hyn, syr, er fy mod yn ei gredu yn dra chryf, a chadarn, eto nid wyf yn ystyried ei fod yn onestrwydd i'w roddi fel hyn arlawr; |
| (2, 2) 1640 | canys chwychwi eich hun, syr, a fyddech mor hen ag wyf finau, pe gallech, fel y môrgranc, ond myned tuag yn ôl. |
| (2, 2) 1644 | I fy medd? |
| (2, 2) 1649 | Nis gellwch, syr, gymeryd oddiarnaf unpeth y byddaf mor ewyllysgar i ymadael âg ef; oddieithr fy mywyd, dieithr fy mywyd, oddieithr fy mywyd. |
| (2, 2) 1651 | Yr hen ffyliaid blinderus hyn! |
| (2, 2) 1660 | Fy nghyfeillion da godidog! |
| (2, 2) 1661 | Pa sut yr ydwyt, Guildenstern? |
| (2, 2) 1662 | Ah, Rosencrantz! |
| (2, 2) 1663 | Lanciau da, pa sut yr ydych eich dau? |
| (2, 2) 1668 | Na gwadnau ei hesgid chwaith? |
| (2, 2) 1670 | Yna yr ydych yn byw o gylch ei gwasg, neu yn nghanol ei ffafrau? |
| (2, 2) 1672 | Yn nghuddranau ffawd? |
| (2, 2) 1673 | O, pur wir; dyhiren ydyw hi. |
| (2, 2) 1674 | Pa newydd. |
| (2, 2) 1676 | Yna mae dydd brawd yn agos: ond nid yw eich newydd yn wir. |
| (2, 2) 1677 | Gadewch i mi holi yn fwy manwl: |
| (2, 2) 1678 | Pa beth a fu eich trosedd chwi, fy nghyfeillion, yn erbyn ffawd, fel ag iddi eich gyru i gar- |
| (2, 2) 1679 | char yma. |
| (2, 2) 1681 | Carchar yw Denmarc. |
| (2, 2) 1683 | Un rhagorol; yn yr hwn y mae caethgelloedd, gwarchodgelloedd, a daeardai: a Denmarc yn un o'r rhai gwaethaf. |
| (2, 2) 1685 | Ai ê, yna nid yw felly i chwi: canys nid oes dim nac yn dda nac yn ddrwg, nad ydyw meddwl yn ei wneud felly: i mi y mae yn garchar. |
| (2, 2) 1687 | O Dduw! mi a allwn gael fy nghyfyngu mewn plisgyn cneuen, a chyfrif fy hunan yn frenin ar eangder diderfyn; pe na buasai fy mod wedi cael breuddwydion drwg. |
| (2, 2) 1689 | Nid yw breuddwyd ei hun ond cysgod. |
| (2, 2) 1691 | Yna y mae ein cardotwyr yn fodau; a'n unbeniaid ni, a'n harwyr mawrion, [21] yn gardotwyr cysgod. |
| (2, 2) 1692 | A gawn ni fyn'd i'r llys? canys, myn fy ffydd, nid allaf ymresymu. |
| (2, 2) 1694 | Dim cymaint o bwys: nis gosodaf chwi gyda'r gweddill o'm gweision; canys, i ddywedyd wrthych fel dyn gonest, yr wyf yn cael gweinyddu arnaf yn dra dychrynllyd. [22] |
| (2, 2) 1695 | Ond, yn llwybr cyffredin cyfeillgarwch, beth ydych chwi 'n ei wneud yn Elsinore? |
| (2, 2) 1697 | Cardotyn fel yr wyf, yr wyf yn dlawd, hyd yn nod mewn diolchgarwch; ond yr wyf yn diolch i chwi: ac yn sicr, gyfeillion anwyl, y mae fy niolchgarwch yn rhy ddrud am ddimai. Ai nis danfonwyd am danoch? |
| (2, 2) 1698 | Ai eich tueddiad chwi eich hunain ydoedd? |
| (2, 2) 1699 | A ydyw yn ymweliad rhyddfryd? |
| (2, 2) 1700 | De'wch, de'wch, ymddygwch yn gyfiawn tuag ataf; de'wch, de'wch, siaredwch. |
| (2, 2) 1702 | Unrhyw beth, ond ei fod i'r pwrpas. |
| (2, 2) 1703 | Fe ddanfonwyd am danoch; ac y mae math o gyffesiad yn eich golygon, y rhai nad oes |
| (2, 2) 1704 | gan eich gwyleidd-dra ddigon o fedrusrwydd i'w lliwio. |
| (2, 2) 1705 | Mi a wn mae 'r brenin a'r frenines a anfonodd am donoch. |
| (2, 2) 1707 | Fel y gallech fy nysgu i. |
| (2, 2) 1708 | Ond gadewch i mi eich tyngedu trwy hawliau ein cyfeillgarwch, trwy gydweddiad ein hieuenctyd, trwy rwymedigaeth ein cariad, a gadwyd rhyngom yn wastadol, a thrwy ba beth bynag mwy anwyl y gallai cynygydd gwell eich herchi, byddwch wastad ac uniongyrch gyda mi,—pa un a anfonwyd am danoch, ai naddo? |
| (2, 2) 1711 | Na, yna y mae genyf olwg arnoch; {wrtho ei hun}—os ydych yn fy ngharu i, nac ateliwch. |
| (2, 2) 1713 | Mi a ddywedaf i chwi paham: felly bydd fy ngwaith i yn achub y blaen yn rhwystro eich darganfyddiad chwi, [23] ac ni bydd i'ch cyfrinach i'r brenin a'r frenines fwrw un bluen. |
| (2, 2) 1714 | Yr wyf yn ddiweddar (ond paham, nis gwn), wedi colli fy holl lawenydd, ac ymwrthod â holl ddefodau ymarferion; ac yn wir, y mae yn dygymod mor drymaidd gyda'm tueddfryd, fel y mae yr holl adeilad dda hon, y ddaear, yn ymddangos i mi fel penrhyn anffrwythlawn; y gortho godidog hwn, yr awyr, sylwch—y ffurfafen hardd a chrogedig hon—y tô mawreddog hwn sydd wedi ei orchuddio â thân euraidd, wele, nid yw yn ymddangos i mi yn ddim amgen na chynulliad ffiaidd a heintus o darthion. |
| (2, 2) 1715 | Y fath ddarn o waith yw dyn! |
| (2, 2) 1716 | Mor ardderchog mewn rheswm! mor annherfynol mewn cyneddfau! mewn ffurf, a symudiad, mor fynegiadol a rhyfedd! |
| (2, 2) 1717 | Mewn gweithred, mor debyg i'r angel! mewn amgyffred, mor debyg i dduw! prydferthwch y byd! un digymhar yn mhlith pob anifail! |
| (2, 2) 1718 | Ac eto, i mi, beth yw y sylwedd llwch hwn! nid yw dyn yn fy nifyru i, na dynes chwaith; er, wrth eich cilchwerthiniad chwi, yr ymddangoswch fel yn dweud felly. |
| (2, 2) 1720 | Paham y chwarddasoch, ynte, pan y dywedais, |Nid yw dyn yn fy nifyru i|? |
| (2, 2) 1722 | Yr hwn a chwareua y brenin, a fydd iddo groesaw; ei fawrhydi a gaiff deyrnged genyf fi: caiff y marchog anturus ddefnyddio ei gledd a'i darged: ni chaiff y carwr ocheneidio am ddim: caiff y dyn digrifol orphen ei ddarn mewn tangnefedd: y drelyn [24] a gaiff |
| (2, 2) 1723 | wneud i'r rhai hyny ag y mae eu hysgyfaint wedi eu goglais gan wywdra, chwerthin: a chaiff y foneddiges ddweud ei meddwl yn rhydd, neu caiff y gân ddiawdl aros am dani. |
| (2, 2) 1724 | Pa chwareuwyr ydynt hwy? |
| (2, 2) 1726 | Pa fodd y dygwydd eu bod yn crwydro? |
| (2, 2) 1727 | Yr oedd eu trigiad sefydlog yn well iddynt bob ffordd, mewn parch ac elw. |
| (2, 2) 1729 | A ydynt hwy yn dal mor enwog ag oeddynt pan oeddwn i yn y ddinas? |
| (2, 2) 1730 | A ddilynir hwy gymaint? |
| (2, 2) 1732 | Pa fodd y mae hyny yn bod? |
| (2, 2) 1733 | A ydynt hwy yn myned yn rhydlyd? |
| (2, 2) 1736 | Beth, ai plant ydynt? pwy sydd yn eu cynal? pa sut y telir iddynt? |
| (2, 2) 1737 | Ai nid ânt yn mlaen gyda'r alwedigaeth yn hŵy nag y gallant ganu? |
| (2, 2) 1738 | Ai ni ddywedant drachefn, os tyfant i fyny yn chwareuwyr cyffredin eu hunain (fel y bydd yn bur debyg, oni bydd eu moddion yn well), fod eu hysgrifenwyr yn gwneud cam â hwynt, fel ag i wneud iddynt waeddi yn erbyn eu holynwyr? |
| (2, 2) 1740 | A ydyw hyny yn bosibl? |
| (2, 2) 1742 | A ydyw y bechgyn yn cario y dydd? |
| (2, 2) 1744 | Onid yw yn bur hynod: canys y mae fy ewythr yn frenin Denmarc, a'r rhai, tra yr oedd fy nhad yn fyw, a wnaent wynebau arno, a roddant ugain, deugain, haner cant, a chan |ducat|, [27] am ei arlun mewn bychandra. [28] |
| (2, 2) 1745 | Yn siŵr, y mae rhywbeth mwy na naturiol yn hyn, pe gallai athroniaeth ei gael allan. |
| (2, 2) 1748 | Foneddigion, croesaw i chwi i Elsinore. |
| (2, 2) 1749 | Rhoddwch eich dwylaw i mi. [29] |
| (2, 2) 1750 | De'wch ynte: perthynolion croesaw yw dullwedd a defod: gadewch i mi eich moesgyfarch yn y modd hwn; rhag ofn y bydd i fy helaethder gyda'r chwareuwyr—yr hwn, meddaf wrthych, a raid edrych yn deg oddiallan—ymddangos yn fwy fel croesaw na'r eiddoch chwi. |
| (2, 2) 1751 | Y mae i chwi groesaw: ond fy ewythr-dad, a'm modryb-fam, a gawsant eu twyllo. |
| (2, 2) 1753 | Nid wyf yn orphwyllog ond i'r gogledd-ogledd-orllewin: pan fyddo y gwynt yn ddeheuol, mi adwaen hebog oddiwrth lawlif. |
| (2, 2) 1756 | Gwrandewch, Guildenstern; a chwithau hefyd;—wrth bob clust boed gwrandawydd: y babi mawr hwna, a welwch yna, nid yw eto allan o'i gawiau. |
| (2, 2) 1758 | Mi a brophwydaf, mai wedi dyfod i ddweud wrthyf yn nghylch y chwareuwyr; sylwch chwi.— |
| (2, 2) 1759 | Yr ydych yn dweud yn gywir, syr: ar ddydd Llun y bore; y pryd hwnw yr oedd, yn wir. |
| (2, 2) 1761 | Fy arglwydd, mae genyf newydd i'w ddweud wrthych chwi. |
| (2, 2) 1762 | Pan oedd Rocius yn chwareuydd yn Rhufain,— |
| (2, 2) 1764 | Pw, pw! |
| (2, 2) 1766 | Yna daeth pob chwareuydd ar ei ful,— |
| (2, 2) 1769 | O Jephthah, farnwr Israel!—y fath drysor oedd genyt ti! |
| (2, 2) 1771 | Beth— |
| (2, 2) 1772 | Un ferch deg, dim mwy, yr hon |
| (2, 2) 1773 | A garai yn rhagorol. |
| (2, 2) 1776 | Ai nid wyf yn iawn, yr hen Jephthah? |
| (2, 2) 1778 | Na, nid yw hyna yn canlyn. |
| (2, 2) 1780 | Wel, |Fel dygwyddai, Duw a wyddai|, ac yna, chwi wyddoch, |Dygwydd wnaeth y rhod, Fel yn debyg 'r oedd yn bod|,— |
| (2, 2) 1781 | Y rhes gyntaf o'r gân dduwiolaidd [30] a ddengys i chwi ychwaneg; canys gwelwch, mae fy myrhâd yn dyfod. |
| (2, 2) 1783 | Croesaw i chwi, feistri; croesaw oll:— |
| (2, 2) 1784 | Mae yn dda genyf dy weled yn iach:— |
| (2, 2) 1785 | Croesaw gyfeillion da.— |
| (2, 2) 1786 | O hen ffrynd! |
| (2, 2) 1787 | Beth, y mae dy wyneb yn sitrachog, er pan y gwelais di ddiweddaf; a wyt ti yn dyfod i fy marfu [31] yn Denmarc? — |
| (2, 2) 1788 | Beth, fy arglwyddes a'm meistres ieuanc! |
| (2, 2) 1789 | Myn eich rhïan, mae eich harglwyddesiaeth yn nês i'r nefoedd na phan eich gwelais ddiweddaf, o uchder clogsen. |
| (2, 2) 1790 | Duw a baro nad yw eich llais, fel darn o aur didrain, wedi colli ei swn.— |
| (2, 2) 1791 | Feistriaid, y mae i chwi groesaw bob un. |
| (2, 2) 1792 | Ni a redwn iddi fel hebogiaid Frengig, ehedeg at unrhyw beth a welwn; ni a fynwn araeth yn union; de'wch, rho'wch i mi brawf o'ch medr: dewch araeth gyffrous. |
| (2, 2) 1794 | Mi a'th glywais yn traddodi araeth unwaith, —ond ni chafodd ei chwareu erioed; neu, os cafodd, ddim mwy nag unwaith: canys nid oedd y chwareuaeth, yr wyf yn cofio, yn boddio y miliwn; dysglaid anhyfryd [32] oedd i'r lluaws: ond yr oedd (fel y derbyniais i hi, ac eraill, y rhai yr oedd eu barn, ar y cyfryw bynciau, yn gwaeddi yn uwch na'r eiddof finau), yn chwareuaeth ragorol; wedi ei ddosbarthu yn dda yn y golygfeydd, ei gosod i lawr gyda chymaint o wylder ag o gallineb. |
| (2, 2) 1795 | Yr wyf yn cofio clywed un yn dweud nad oedd dim deiliach yn y llinellau, i wneud y mater yn flasus; na dim mater yn yr ymadroddion, a allai gyhuddo yr awdwr o fursendod; ond galwent ef yn ddull gonest, mor iachusol ag oedd o felus, ac yn llawer mwy prydferth na choeth. |
| (2, 2) 1796 | Un araeth ynddi yr oeddwn yn ei hoffi yn benaf: ystori Aeneas wrth Dido ydoedd; ac yn y fan hono o honi yn neillduol, lle y mae yn son am laddiad Priam: os ydyw yn fyw yn eich cof, dechreuwch yn y llinell hon; gadewch i mi weled, gadewch i mi weled;— |
| (2, 2) 1797 | ~ |
| (2, 2) 1798 | "Y gerwin Pyrrhus, fel Hyrcanaidd fwyst,"— |
| (2, 2) 1799 | Nage, nid felly y mae; dechreua gyda Pyrrhus. |
| (2, 2) 1800 | ~ |
| (2, 2) 1801 | "Y gerwin Pyrrhus,—ef, yr hwn yr oedd |
| (2, 2) 1802 | Ei arfau duon, llawn mor dywyll a'i |
| (2, 2) 1803 | Amcanion, a thra thebyg oedd i'r nos,— |
| (2, 2) 1804 | Fan y gorweddai, ar ei frochus farch,— |
| (2, 2) 1805 | Yn n awr ddiwynodd y gwynebpryd du, |
| (2, 2) 1806 | Ofnadwy hwn, âg arfbaus fil mwy erch; |
| (2, 2) 1807 | O'i ben i'w draed y mae yn hollol goch; |
| (2, 2) 1808 | Ac wedi 'i ddwbio yn ddychrynllyd â |
| (2, 2) 1809 | Gwaed tadau, mamau, merched, meibion; rhai |
| (2, 2) 1810 | A bobwyd ac a doeswyd gyda yr |
| (2, 2) 1811 | Heolydd deifiol, roddant fenthyg gwawl |
| (2, 2) 1812 | Ormesol a damnedig, tuag at |
| (2, 2) 1813 | Lofruddio'u harglwydd. Wedi 'i rostio mewn |
| (2, 2) 1814 | Llid, tân, a'i ludio drosodd gyda gwaed |
| (2, 2) 1815 | Ceuledig, ac â llygaid megys y |
| (2, 2) 1816 | Carbuncl, yr uffernol Pyrrhus oedd |
| (2, 2) 1817 | Yn ceisio 'r hen daid Priam;"— |
| (2, 2) 1818 | Felly ewch yn mlaen. |
| (2, 2) 1861 | Caiff fyned at yr eilliwr, gyda'th farf di.— |
| (2, 2) 1862 | Atolwg, ewch yn mlaen:— |
| (2, 2) 1863 | Mae efe am lamddawns, neu ystori anllad, onide y mae yn cysgu:— |
| (2, 2) 1864 | Ewch chwi yn mlaen, deuwch at Hecuba. |
| (2, 2) 1867 | Y frenines gudd? |
| (2, 2) 1890 | Pob peth yn dda; mi a fynaf genyt lefaru y gweddill o hyn yn fuan.— |
| (2, 2) 1891 | Fy arglwydd da, a wnewch chwi edrych fod y chwareuwyr yn cael pob cysur? |
| (2, 2) 1892 | A ydych chwi yn clywed, ymddyger yn dda tuag atynt; canys hwynt-hwy ydynt grynodeb a byr groniclau o'r amser. |
| (2, 2) 1893 | Byddai yn well i chwi gael beddargraff drwg ar ol marw, na chael eu hanair hwynt tra y byddoch byw. |
| (2, 2) 1895 | Gwarchod pawb, ddyn, yn llawer gwell na hyny. |
| (2, 2) 1896 | Ymddyger at bob dyn yn ol ei haeddiant, a phwy a ddianc heb ei fflangellu? |
| (2, 2) 1897 | Ymddygwch tuag atynt yn ol eich hanrhydedd a'ch hurddas: po leiaf a haeddant, mwyaf o deilyngdod sydd yn eich caredigrwydd. |
| (2, 2) 1898 | Cymerwch hwynt i fewn. |
| (2, 2) 1901 | Dilynwch ef, gyfeillion; ni a wrandawn ar chwareuaeth yfory.— |
| (2, 2) 1902 | A wyt ti yn clywed, hen gyfaill; a fedri di chwareu llofraddiaeth Gonzago? |
| (2, 2) 1904 | Ni a'i mynwn nos yfory. |
| (2, 2) 1905 | Chwi a allech, mewn angen, astudio araeth o ryw ddwsin neu un ar bymtheg o linellau, y rhai a roddwn i lawr, i'w gosod ynddi? |
| (2, 2) 1906 | Onid allech? |
| (2, 2) 1908 | O'r goreu.— |
| (2, 2) 1909 | Canlynwch yr arglwydd hwna; a gwelwch na watwaroch ef. |
| (2, 2) 1912 | Fy nghyfeillion da, mi a'ch gadawaf hyd y nos: croesaw i chwi i Elsinore. |
| (2, 2) 1915 | Ië, felly, Duw a fyddo gyda chwi:— |
| (2, 2) 1916 | Yn awr yr wyf yn unig. O y fath |
| (2, 2) 1917 | Anfadyn a gwerinol gaethwas wyf! |
| (2, 2) 1918 | Ai nid yw yn wrthuni, y gall y |
| (2, 2) 1919 | Chwareuwr hwn, yn unig mewn rhyw ffug, |
| (2, 2) 1920 | Neu freuddwyd nwyd, gyffroi ei enaid fel |
| (2, 2) 1921 | Y myno ei fryd, fel, oddiwrth ei waith, |
| (2, 2) 1922 | Y gwelwa 'i holl wynebpryd, dagrau yn |
| (2, 2) 1923 | Ei lygaid ef, gorphwylledd yn ei drem, |
| (2, 2) 1924 | Llais wedi troi, a'i holl deithi yn |
| (2, 2) 1925 | Agweddu gyda ffurfiau 'n ol ei fryd. |
| (2, 2) 1926 | A'r oll am ddim! Am Hecuba! |
| (2, 2) 1927 | Beth yw Hecuba iddo, neu efe |
| (2, 2) 1928 | I Hecuba, fel yr wylai yn ei chylch? |
| (2, 2) 1929 | Beth a wnai ef pe b'ai yn meddu y |
| (2, 2) 1930 | Cymelliad a'r anogaeth feddaf fi |
| (2, 2) 1931 | I nwyd? Fe foddai yr esgynlawr â |
| (2, 2) 1932 | Heillt ddagrau, ac fe holltai glust y bobl |
| (2, 2) 1933 | Ag echrys araeth; gwnai 'n orphwyllog yr |
| (2, 2) 1934 | Euogion, synai 'r dynion rhydd, a gwnai |
| (2, 2) 1935 | Ddyrysu 'r anwybodus; ac yn wir |
| (2, 2) 1936 | Brawychai gyneddf clust a llygaid pawb. |
| (2, 2) 1937 | Eto myfi, |
| (2, 2) 1938 | Rhyw ddwl a lleidiog-feddwl adyn wyf |
| (2, 2) 1939 | Yn nychu, fel rhyw Ioan fyddo yn |
| (2, 2) 1940 | Breuddwydio, heb ofalu am f' achos i, |
| (2, 2) 1941 | Heb allu dweud un dim; dim, hyd yn nôd |
| (2, 2) 1942 | Dros frenin, 'r hwn ar ei feddianau ac |
| (2, 2) 1943 | Ei anwyl fywyd gwnaed dinystriad mawr |
| (2, 2) 1944 | Melldigus. A wyf fi yn llwfrddyn, wys? |
| (2, 2) 1945 | Pwy a'm geilw i'n ddyhiryn? hollta'm pen? |
| (2, 2) 1946 | A dỳn fy marf, a'i daflu i'm gwyneb i? |
| (2, 2) 1947 | A'm gwasga yn fy nhrwyn, neu roi i mi |
| (2, 2) 1948 | Y celwydd yn fy ngwddf, mor ddwfn ag i |
| (2, 2) 1949 | Fy ymysgaroedd? Pwy wna i mi hyn? |
| (2, 2) 1950 | Ha! |
| (2, 2) 1951 | Mi a'i cymerwn; canys nis gall fod |
| (2, 2) 1952 | Nad wyf yn dyner, ac yn fyr o fustl |
| (2, 2) 1953 | I wneuthur trais yn chwerw; neu, cyn hyn, |
| (2, 2) 1954 | Pesgwn i holl farcutanod gwlad |
| (2, 2) 1955 | A syrth y caethddyn hwn: O waedlyd, ac |
| (2, 2) 1956 | Anlladaidd adyn! O ddideimlad, a |
| (2, 2) 1957 | Thwyllodrus, trythyll, annaturiol adyn! |
| (2, 2) 1958 | O! 'r fath ful ydwyf! Y mae hyn yn ddewr, |
| (2, 2) 1959 | I mi, mab anwyl dad lofruddiwyd, ac |
| (2, 2) 1960 | Sy 'n cael fy anog i ddialedd gan |
| (2, 2) 1961 | Y nef ac uffern, orfod megys rhyw |
| (2, 2) 1962 | Garnbutain, i ddilwytho 'm calon lawn |
| (2, 2) 1963 | A geiriau, gyda syrthio i regu, fel |
| (2, 2) 1964 | Budrogyn neu geginwas! |
| (2, 2) 1965 | Ffei arno! pw! Yn nghylch fy menydd i! |
| (2, 2) 1966 | Ymff! Wele, mi a glywais cyn hyn fod |
| (2, 2) 1967 | Y creaduriaid euog hyn, wrth eistedd mewn |
| (2, 2) 1968 | Chwareuaeth, wedi cael trwy gallder yr |
| (2, 2) 1969 | Olygfa eu taro hyd yr enaid, fel |
| (2, 2) 1970 | Yn union gwnaethant oddef eu dryg-waith; |
| (2, 2) 1971 | Can's gwna llofruddiaeth, er nas medda ar |
| (2, 2) 1972 | Un tafod, siarad mewn rhyw wyrthiol fodd. |
| (2, 2) 1973 | Mi fynaf gael gan y chwareuwyr hyn |
| (2, 2) 1974 | I chwareu rhywbeth fyddo'n debyg i |
| (2, 2) 1975 | Lofruddiad fy hoff dad, o flaen fy ewythr: |
| (2, 2) 1976 | Mi sylwaf ar ei wedd; a chwiliaf i'w |
| (2, 2) 1977 | Archollion hyd y byw; os cilia 'n ôl, |
| (2, 2) 1978 | Neu neidio, mi a wn fy llwybr i. |
| (2, 2) 1979 | Yr ysbryd welais, gall mai'r diafol oedd: |
| (2, 2) 1980 | Y diafol fedda allu i wisgo mwyn- |
| (2, 2) 1981 | Agweddiad. Ïe, ac fe ddichon, o |
| (2, 2) 1982 | Fy ngwendid, a fy mhrudd-glwyf (gan ei fod |
| (2, 2) 1983 | Yn dra galluog âg ysbrydion o'r |
| (2, 2) 1984 | Fath hyn),—ei fod yn ceisio 'm blino, er |
| (2, 2) 1985 | Fy namnio; mi a fynaf dir fo gwell |
| (2, 2) 1986 | Na hyn: y chwareu ydyw 'r peth; trwy hwn |
| (2, 2) 1987 | Y caf gydwybod ddrwg y brenin, gwn. |