| (1, 0) 24 | Joyce! Joyce! Joyce! |
| (1, 0) 29 | Rhein syrthiodd. |
| (1, 0) 30 | Mi 'nes i drio'u pigo nhw. |
| (1, 0) 32 | Wn i. Wn i. |
| (1, 0) 36 | Am wn i. |
| (1, 0) 38 | Cod nhw. |
| (1, 0) 41 | Cod nhw. |
| (1, 0) 44 | Dim ots. |
| (1, 0) 45 | Rhein 'dw i isio. |
| (1, 0) 46 | Rhein o Bonc yr Onnan. |
| (1, 0) 48 | Do, daria unwaith! |
| (1, 0) 49 | 'Drycha be ti 'di 'neud! |
| (1, 0) 51 | Sathru'r bloda llefrith 'na. |
| (1, 0) 53 | Fanna! |
| (1, 0) 54 | Drycha! |
| (1, 0) 55 | Ma'n nhw'n un slwts. |
| (1, 0) 60 | Yli llipa ydyn nhw. |
| (1, 0) 64 | Be ydi hwnna sy gin ti? |
| (1, 0) 70 | Gwyddfid. |
| (1, 0) 73 | Tafla fo. |
| (1, 0) 75 | Anlwcus. |
| (1, 0) 77 | Yr hen bobol. |
| (1, 0) 80 | Gwna be 'dw i'n 'i ddeud. |
| (1, 0) 81 | 'Dw i ddim isio fo ar gyfyl y lle 'ma. |
| (1, 0) 82 | Tafla fo! |
| (1, 0) 83 | Tafla fo! |
| (1, 0) 87 | Ma'n ddrwg gin i, Joyce. |
| (1, 0) 89 | Naci. |
| (1, 0) 90 | Parti Ceinwen. |
| (1, 0) 91 | Pan fydda hi'n hogan bach, mi fyddwn i'n mynd â hi am bicnic ar Bonc yr Onnan 'cw. |
| (1, 0) 92 | Ro'dd yna borfa yna ers talwm. |
| (1, 0) 93 | Un fras, felys. |
| (1, 0) 94 | Ro'dd gofyn ca'l nerth march i fustachu trwyddi. |
| (1, 0) 95 | Ac, o, mi fydda hi'n cwyno. |
| (1, 0) 96 | Strancio weithia. |
| (1, 0) 97 | Ond munud y gwela' hi'r bonc, gwên fawr a'i gneud hi am a welat ti at y bonc a sefyll fel sowldiwr ar yr hen graig lwyd 'na. |
| (1, 0) 98 | Rhuthro'n ôl ata'i wedyn. |
| (1, 0) 99 | Cythru yn y fasgiad o'n llaw i. |
| (1, 0) 100 | Tynnu'r lliain allan a'i osod o'n dwt ar y bonc. |
| (1, 0) 101 | Rhedag at Pwll Gasag, hel tusw bach o rhein, blodau llefrith, a'u gosod nhw'n gylch ar y lliain... |
| (1, 0) 102 | Dyna lle byddan ni, yn ista am oria yno. |
| (1, 0) 103 | Dim ond y ddwy ohonan ni. |
| (1, 0) 105 | Yn syth bin ar ôl 'i harholiad dwytha medda hi. |
| (1, 0) 106 | Deuda'i bod hi'n cychwyn am un... |
| (1, 0) 107 | Faint 'neith hi rŵan? |
| (1, 0) 110 | Tân dani felly, te? |
| (1, 0) 112 | Tair blynedd, felly. |
| (1, 0) 114 | Ma' hi'n dair blynedd ers iti ddwad yma. |
| (1, 0) 116 | Yr ha' cyn i Ceinwen fynd i Aberystwyth. |
| (1, 0) 118 | Cythral bach dan din. |
| (1, 0) 120 | Morris. |
| (1, 0) 121 | Ro'n i wedi bod am y profion 'ma y dydd Gwenar. |
| (1, 0) 122 | Adag Royal Welsh o'dd hi, cofio'n iawn. |
| (1, 0) 123 | Morris, fel arfar, yn torri'i fol i fynd efo'i giwad ddydd Sadwrn. |
| (1, 0) 124 | Ac mi a'th. |
| (1, 0) 125 | Ddydd Llun mi ddoth 'na lythyr yn deud wrtha'i 'u bod nhw isio 'ngweld i fora dydd Merchar. |
| (1, 0) 126 | Fedrwn i ddim gofyn i Ceinwen ddwad efo fi. |
| (1, 0) 127 | Ro'dd hi yng nghanol 'i harholiada. |
| (1, 0) 128 | Ffonio pob tŷ tafarn yn ochra Llanelwedd 'na. |
| (1, 0) 129 | Prin y medrwn i glywad 'i lais o. |
| (1, 0) 130 | Ffarmwrs chwil yn morio canu yn y cefndir. |
| (1, 0) 131 | Ond mi lwyddis i i egluro y bydda'n rhaid iddo fo ddwad adra i fynd â fi. |
| (1, 0) 132 | Yn lle dwad adra'n syth ma'n rhaid i fod o wedi picio i Sbyty Gwynedd. |
| (1, 0) 133 | Gwadu 'nath o. |
| (1, 0) 134 | Ond ro'dd 'i wynab o'n wyn fel y galchan. |
| (1, 0) 135 | Deud dim na bw na be am oria. |
| (1, 0) 136 | Cerdded y caea. |
| (1, 0) 137 | Dim golwg ohono fo. |
| (1, 0) 138 | Ar ôl magu plwc, dyma fo'n rhuthro i'r parlwr 'na fath â dyn gwyllt. |
| (1, 0) 139 | "Nyrs," medda fo. |
| (1, 0) 140 | "Rhaid ca'l nyrs." |
| (1, 0) 141 | Do'n i ddim isio nyrs. |
| (1, 0) 142 | O'n i'n ddigon 'tebol ar y pryd. |
| (1, 0) 143 | Ond mi fynnodd ga'l 'i faen i'r wal, fel arfar. |
| (1, 0) 144 | Ro'dd Arwyn wedi sôn am ryw asiantaeth nyrsio... |
| (1, 0) 145 | Ac mi ddoist ti o rwla, do? |
| (1, 0) 148 | Bydd, m'wn. |
| (1, 0) 149 | Eith hi i le'n byd y dyddia yma heb hwnnw. |
| (1, 0) 151 | Rhyw hen darth ar y morfa 'na. |
| (1, 0) 152 | Hidio dim ar 'i olwg o. |
| (1, 0) 155 | Gest ti afa'l arnyn nhw. |
| (1, 0) 156 | Bob dim yn lluch i dafl hyd y lle 'ma ers i Morris ddechra stwnsian. |
| (1, 0) 159 | Rown ni un yn fan'cw a'r llall yn fan'ma. |
| (1, 0) 161 | Ia. |
| (1, 0) 162 | Rown ni'r buffet yn fan'ma, iawn? |
| (1, 0) 168 | Naci. |
| (1, 0) 169 | Mi rown ni'r bwyd yn fan'cw. |
| (1, 0) 170 | Y diodydd a ballu yn fan'ma. |
| (1, 0) 171 | Haws rywsut, bydd? |
| (1, 0) 172 | Bydd... Bydd. |
| (1, 0) 173 | Y bloda 'ma. |
| (1, 0) 174 | Mi fydd raid 'u taro nhw mewn dŵr. |
| (1, 0) 176 | Rho di drefn ar y byrdda 'ma. |
| (1, 0) 178 | 'Dw i'n iawn. |
| (1, 0) 179 | 'Dw i ddim wedi teimlo cystal ers wsnosa dallta... |
| (1, 0) 180 | A ffrog. |
| (1, 0) 182 | Gwisga ffrog. |
| (1, 0) 183 | 'Dw i 'di laru dy weld di yn yr hen drowsus hyll 'na. |
| (1, 0) 184 | Gwisga honna brynist ti pan o'ddat ti'n aros hefo dy chwaer... |
| (1, 0) 186 | ... ac mi gei di hel mwy o floda ysgo imi... |
| (1, 0) 187 | Rhaid inni roid digon o liw i'r lle 'ma. |
| (1, 0) 188 | Drycha oes 'na bunting ar ôl y carnifal dwytha yn rhwla. |
| (1, 0) 190 | Mi ddyla fod mewn bocs yn y twll dan grisia... yn y pen pella... mi ddangosa'i iti... |
| (1, 0) 322 | Ia. |
| (1, 0) 323 | Hwnnw. |
| (1, 0) 655 | Ydi Gruff wedi dwad nôl?... |
| (1, 0) 657 | O, Arwyn. |
| (1, 0) 658 | Be ti'n da 'ma rŵan? |
| (1, 0) 675 | Edrach ymlaen at weld Nans... |
| (1, 0) 677 | Nans. |
| (1, 0) 678 | Ma' hi'n dwad heno gobeithio? |
| (1, 0) 683 | Pam? |
| (1, 0) 685 | At Karen? |
| (1, 0) 688 | Ma'n ddrwg gin i Arwyn. |
| (1, 0) 689 | Yng nghanol y prysurdeb 'ma o'n i wedi anghofio'n lân. |
| (1, 0) 690 | Y babi. |
| (1, 0) 693 | Dydi o ddim i fod i gyrra'dd unrhyw funud? |
| (1, 0) 695 | O. |
| (1, 0) 696 | Mi fydd Nans a chditha wedi mopio'ch penna. |
| (1, 0) 697 | Cofia di ddeud wrthi am ddwad â fo yma, yntê Morris? |
| (1, 0) 699 | Wel y babi, te? |
| (1, 0) 706 | Lle ti'n mynd? |
| (1, 0) 709 | Y cais cynllunio 'ma. |
| (1, 0) 710 | Be sy'n digwydd? |
| (1, 0) 712 | Mi fydd 'na firi eto ma' siŵr, bydd? |
| (1, 0) 714 | Arwyn? |
| (1, 0) 717 | Wy'st ti be? |
| (1, 0) 718 | Fawr o ots gin i bellach. |
| (1, 0) 719 | Geith o 'neud be lecith o i'r lle 'ma. |
| (1, 0) 720 | Heblaw un peth. |
| (1, 0) 721 | Cheith o ddim rhoid i hen facha ar y bonc 'na yn fan'cw. |
| (1, 0) 722 | 'Dw i wedi deud wrthat ti droeon cymaint ma' hi'n i olygu imi. |
| (1, 0) 723 | Ceinwen a finna pia honna a neb arall... |
| (1, 0) 724 | Mae o'n mynd i ada'l llonydd iddi tydi, Arwyn? |
| (1, 0) 727 | Yn tydi, Arwyn? |
| (1, 0) 734 | Y champagne? |
| (1, 0) 735 | Gest ti o? |
| (1, 0) 738 | Mi fydd rhaid 'i oeri o. |
| (1, 0) 743 | Cadw olwg arno fo, ta. |
| (1, 0) 746 | Cofia di rŵan. |
| (1, 0) 749 | Mi fydda i'n dy atgoffa di. |
| (1, 0) 751 | Pryd roi di o i mewn? |
| (1, 0) 753 | A'i estyn o allan, te? |
| (1, 0) 756 | 'Dw i ddim isio stomp. |
| (1, 0) 758 | Gwydyr ym mhob man. |
| (1, 0) 761 | Fedra' i mo'i glirio fo. |
| (1, 0) 763 | 'Dw i ddim isio i ddim byd ddrysu petha heno, dyna'r cwbwl. |
| (1, 0) 768 | Be sy'n hwnna? |
| (1, 0) 770 | Y bag 'na? |
| (1, 0) 772 | Rhyw hen wisgi eto m'wn. |
| (1, 0) 774 | Arwyn yn medru cadw'i ben tydi? |
| (1, 0) 776 | Hy! |
| (1, 0) 778 | 'Dw i ddim isio iti ddechra rhochian tua'r deg 'ma. |
| (1, 0) 780 | A rhyw hen ganu a ballu. |
| (1, 0) 782 | Hollol. |
| (1, 0) 785 | Yr hogan Joyce 'ma. |
| (1, 0) 787 | 'Dw i wedi erfyn arni i wisgo ffrog heno. |
| (1, 0) 788 | Rhyw ffrog bach ysgafn. |
| (1, 0) 789 | Ma' gynni hi un ddigon o ryfeddod. |
| (1, 0) 790 | 'Dw i 'di 'i gweld hi. |
| (1, 0) 794 | Be? |
| (1, 0) 805 | Pam ma' Arwyn yma rŵan? |
| (1, 0) 810 | Arwyn. |
| (1, 0) 811 | Pam mae o yma rŵan? |
| (1, 0) 815 | Atab rhywun, 'nei di? |
| (1, 0) 817 | Be sy ar y gweill rŵan? |
| (1, 0) 822 | Mi gei 'neud be leci di hefo'r caea 'na ond ma'r bonc 'na yn mynd i ga'l llonydd dallta. |
| (1, 0) 824 | 'Nest ti addo imi, Morris. |
| (1, 0) 826 | 'Nest ti addo imi. |
| (1, 0) 831 | Lliain gwyn. |
| (1, 0) 833 | Cylch o floda llefrith arno fo. |
| (1, 0) 840 | Rhedag at Pwll Gaseg. |
| (1, 0) 877 | O'n i'n ama ma' fel hyn basa hi. |
| (1, 0) 878 | Lle ma'r bwrdd 'na Joyce? |
| (1, 0) 886 | Y llieinia gwynion? |
| (1, 0) 887 | Lle ar wynab y ddaear ma'n nhw? |
| (1, 0) 907 | Lle ma'r llieinia gwynion? |
| (1, 0) 909 | Nac ydyn. |
| (1, 0) 911 | 'Dw i newydd edrach. |
| (1, 0) 913 | Gas gin i bobol yn potsian efo 'mhetha i. |
| (1, 0) 915 | Ma' rhywun wedi bod wrthi. |
| (1, 0) 921 | Ma' arna' i isio sgwrs iawn efo chdi. |
| (1, 0) 923 | Paid ag edrach mor ddiniwad 'nei di. |
| (1, 0) 925 | Dangos imi lle ma'n nhw. |
| (1, 0) 1146 | 'I thiwtor hi wedi 'i blesio'n arw. |
| (1, 0) 1151 | Mi fydd gynnon ni dwrna bach yn y teulu gyda hyn. |
| (1, 0) 1163 | Dydi o ddim 'di oeri. |
| (1, 0) 1165 | Gad o tan heno. |
| (1, 0) 1170 | Newydd gyrra'dd ma' hi. |
| (1, 0) 1174 | Gad inni roid trefn iawn ar y byrdda 'ma gynta. |
| (1, 0) 1185 | Ara' deg. |
| (1, 0) 1186 | Ma' gwaith yn'o fo. |
| (1, 0) 1190 | Dim. |