| (1, 1) 1899 | Wel, tro yma 'rwan, bechadur afrywiog. |
| (1, 1) 1906 | Pa beth yw'r dychryn sy'n eich dwyn! |
| (1, 1) 1907 | Sefwch yn fwyn i fynu. |
| (1, 1) 1910 | Gwneud cam â'r wraig wnaeth drwg ei raes, |
| (1, 1) 1911 | A hyny'n blaen sy'ch blino... |
| (1, 1) 1916 | Pa beth ydyw arian ond gwreiddyn pob drwg? |
| (1, 1) 1918 | Mae dull y byd yn myned heibio. |
| (1, 1) 1920 | Meddyliwch am eich ened, er gofid a chyneu. |
| (1, 1) 1922 | Ow, Ow, bechadur mae'n arw dy chwedel. |
| (1, 1) 1924 | Wel os darfu'r byd a'i ofid eich gwasgu, |
| (1, 1) 1925 | Oni adawodd Job dduwiol esiampl i'ch dysgu? |
| (1, 1) 1926 | Wedi colli'r holl gwbl, fe ddywed yn berffeth, |
| (1, 1) 1927 | Yr Arglwydd sy'n rhoi, ac efe sy'n dwyn ymeth. |
| (1, 1) 1932 | Mae llawer mewn cyflwr gweision cyflog, |
| (1, 1) 1933 | A wnant yn wrol wasaneth hanerog, |
| (1, 1) 1934 | Heb ddim o zel cryf afel crefydd, |
| (1, 1) 1935 | Ond y byd a'r golud yn eu dal wrth eu gilydd. |
| (1, 1) 1936 | ~ |
| (1, 1) 1937 | O! y Prophwyd sanctedd oedd yn credu |
| (1, 1) 1938 | Pe bydde heb eidion yn y beudy, |
| (1, 1) 1939 | Na dafad yn y gorlan, na ffrwyth ar olewydd, |
| (1, 1) 1940 | Eto fe lyne yn yr Arglwydd. |
| (1, 1) 1941 | ~ |
| (1, 1) 1942 | Mae llawer, ysyweth, gwae hwy heddyw yn Seion, |
| (1, 1) 1943 | Yn esmwyth eu clustog, yn wresog a breision; |
| (1, 1) 1944 | Ac eto heb ystyried i'r ened wirionedd, |
| (1, 1) 1945 | Mae llwyddiant yr ynfyd a'u lladd yn y diwedd. |
| (1, 1) 1946 | ~ |
| (1, 1) 1947 | Felly yr wyt tithe, yn dy deithio adwythig, |
| (1, 1) 1948 | Yn gwastraffu cu rade y Tad caredig; |
| (1, 1) 1949 | Ti weriest ei fawredd yn dy ddrwg arferion. |
| (1, 1) 1951 | Rhoi bai ar y wraig 'rwyt ti fel Adda, |
| (1, 1) 1952 | I esgusodi dy hunan gybydd-dra; |
| (1, 1) 1953 | Ymgaddio yn nghysgod prene natur, |
| (1, 1) 1954 | Fe a'th chwilir di allan eto'n eglur. |
| (1, 1) 1955 | ~ |
| (1, 1) 1956 | Pe bydde genyt feddylie gonest, |
| (1, 1) 1957 | Eiddo'r Creawdwr yw pobpeth a gefest; |
| (1, 1) 1958 | Y defed a'r gwartheg, yr aur a'r arian, |
| (1, 1) 1959 | Rhaid i ti ateb am y cyfan. |
| (1, 1) 1974 | Wel, mae dy gynghori di, 'rwy'n gweled, |
| (1, 1) 1975 | Fel taro pêl yn erbyn pared; |
| (1, 1) 1976 | Son am y gwragedd swnio gogan, |
| (1, 1) 1977 | Heb ystyr dim o'th ddrwg dy hunan. |
| (1, 1) 1978 | ~ |
| (1, 1) 1979 | 'Rwyt ti 'run foddion a'r neidr fyddar, |
| (1, 1) 1980 | Neu'r rhai sy'n eiste'n 'stol y gwatwar; |
| (1, 1) 1981 | Mae melldith trueni'r byd a'i aflwydd, |
| (1, 1) 1982 | Wedi dy foedro di yn dy ynfydrwydd. |
| (1, 1) 1997 | Fe alle trugaredd Duw fod yn egoryd, |
| (1, 1) 1998 | I'th achub di a hithe hefyd. |
| (1, 1) 2001 | Ow, mater mawr dros byth yn gyfan, |
| (1, 1) 2002 | Yw colli ened mewn gwall anian. |
| (1, 1) 2005 | Ow, beth fyddi gwell er arian yn dyre, |
| (1, 1) 2006 | A'th ened anfarwol yn nghanol y poene; |
| (1, 1) 2007 | Heb gael mwy na Deifas ddim i oeri dy dafod, |
| (1, 1) 2008 | Na heddwch na dyben ar bryf dy gydwybod. |
| (1, 1) 2009 | ~ |
| (1, 1) 2010 | Y gydwybod sy'n dy fynwes cofia, |
| (1, 1) 2011 | Yw'r cyfaill gore, a'r gelyn gwaetha'; |
| (1, 1) 2012 | A pha fodd y sefi na chyfri' na chyfran, |
| (1, 1) 2013 | Tra fyddych yn tystio yn dy erbyn dy hunan. |
| (1, 1) 2014 | ~ |
| (1, 1) 2015 | Ow! paham 'rwyt ti heddyw mor ddideimlad, |
| (1, 1) 2016 | Yn porthi dy gnawd i newynu dy ened, |
| (1, 1) 2017 | A cholli gwir ysbryd y bywyd tragwyddol, |
| (1, 1) 2018 | I gael dim ond sorod a phleser amserol? |
| (1, 1) 2019 | ~ |
| (1, 1) 2020 | Os marw yn dy bechod a wnei, cais ddychrynu, |
| (1, 1) 2021 | Yn y pwll gyda'r diawlied dros byth bydd dy wely; |
| (1, 1) 2022 | Gwirionedd Duw'n ddidwyll yw'r oll wy'n ei dd'wedyd, |
| (1, 1) 2023 | Derbyniwch ef yn fywiol bob un am ei fywyd. |