| (1, 1) 54 | Mae llawer merch yn Nghymru |
| (1, 1) 55 | Yn canu heddyw 'n llon, |
| (1, 1) 56 | A'i chalon sydd yn llamu |
| (1, 1) 57 | Gan gariad dan ei bron; |
| (1, 1) 58 | Cydganu mae fy nghalon, |
| (1, 1) 59 | A'u llon galonau hwy: |
| (1, 1) 60 | Enillwyd calon Gwenfron! |
| (1, 1) 61 | A wyddoch chwi gan bwy? |
| (1, 1) 62 | ~ |
| (1, 1) 63 | Yr adar ganant odlau, |
| (1, 1) 64 | Gusanant yn y llwyn, |
| (1, 1) 65 | Cusanu brig y tonau |
| (1, 1) 66 | Mae'r awel dyner fwyn, |
| (1, 1) 67 | A'r gwenyn,—blodau cochion |
| (1, 1) 68 | Gusenir ganddynt hwy: |
| (1, 1) 69 | Cusenir gruddiau Gwenfron! |
| (1, 1) 70 | A wyddoch chwi gau bwy? |
| (1, 1) 81 | Gwn. Gan un a gwisg boneddwr yn ei gylch, |
| (1, 1) 82 | Yn cuddio dani adyn iselradd! |
| (1, 1) 84 | Gan un a gwisg filwrol yn ei gylch, |
| (1, 1) 85 | Yn cuddio dani galon llwfrddyn tlawd. |
| (1, 1) 87 | Gan un a ddwg yr hyn nas gall ei enill. |
| (1, 1) 89 | Gan un sydd ddewr i fygwth dynes egwan, |
| (1, 1) 90 | Ond try yn ngwyneb dyn yn llwfrddyn truan. |
| (1, 1) 99 | Help! help! O nefoedd dyner help! |