| (1, 0) 195 | I'll be with you now, right?... |
| (1, 0) 196 | Carry on! |
| (1, 0) 197 | Carry on, you're doing fine! |
| (1, 0) 198 | Mi fyddi di wedi agor bedd bach digon twt i ti dy hun cyn chwech. |
| (1, 0) 199 | Dal ati i dyrchu washi... |
| (1, 0) 200 | Mynci mul! |
| (1, 0) 203 | Arglwydd, ydi hi'n garnifal eto 'leni? |
| (1, 0) 205 | Ges i gam llynadd, sti. |
| (1, 0) 206 | O, do, cam ar y diawl. |
| (1, 0) 207 | Ma' gin i well syniad 'leni. |
| (1, 0) 208 | 'Dw i am daro fy hen beth yn 'y nghlust a mynd fath â pwmp petrol. |
| (1, 0) 210 | Ble uffar mae o, d'wad? |
| (1, 0) 212 | Morris, te? |
| (1, 0) 213 | Yn giaffar ni oll. |
| (1, 0) 214 | Y dyn mawr 'i hun. |
| (1, 0) 217 | Ma' olwyn y blydi medelwr wedi torri. |
| (1, 0) 219 | Harvester. |
| (1, 0) 220 | Yr hen beth 'na brynodd o i hel peli, te? |
| (1, 0) 222 | Wast ar bres, yli. |
| (1, 0) 223 | 'Dw i'n edrach rêl tw-lal yn tynnu hwnna o gwmpas lle. |
| (1, 0) 224 | Pawb yn y lle 'ma yn 'y nghymyd i'n giâm. |
| (1, 0) 228 | la? |
| (1, 0) 230 | Be 'dw i fod i 'neud efo'r diawl peth? |
| (1, 0) 231 | I lapio fo am fy... |
| (1, 0) 234 | Hi o'dd wrthi gynna? |
| (1, 0) 235 | O'n i'n 'i chlywad hi'n udo o'r gwaelodion 'na. |
| (1, 0) 236 | Pobol yn dechra methu'u siots wrth glywad y fath balafar. |
| (1, 0) 238 | A lle ro'ddat ti yn lle cadw golwg arni? |
| (1, 0) 239 | Dyna pam ti yma... gobeithio? |
| (1, 0) 241 | Digon gwir. |
| (1, 0) 246 | Oes rhaid i ti aros yma? |
| (1, 0) 248 | 'Dw i'n rhyw feddwl picio i'r hen Ship te? |
| (1, 0) 249 | Ffansïo dwad? |
| (1, 0) 250 | Ca'l rhyw fwrdd bach wrth ffenast yn gwynebu'r gorwal? |
| (1, 0) 251 | Potal o win. |
| (1, 0) 252 | Sgwrs. |
| (1, 0) 253 | Dipyn o ordor efo'r hogia. |
| (1, 0) 254 | Be amdani? |
| (1, 0) 258 | A be o'dd o, Morris, isio felly? |
| (1, 0) 260 | Wel, ia, te. |
| (1, 0) 262 | Ro'dd Morris efo'r hen ddyn 'cw'n 'r ysgol, sti. |
| (1, 0) 264 | O'dd, duw. |
| (1, 0) 265 | Morus yn ista ar 'i ben 'i hun yn cefn bob amsar medda fo. |
| (1, 0) 266 | Wyddost ti pam?... |
| (1, 0) 267 | Drewi. |
| (1, 0) 270 | Moi menyn pot. |
| (1, 0) 272 | Drewi fath â menyn pot. |
| (1, 0) 274 | Rhyw sgôth ddiawl fydda gin yr hen bobol. |
| (1, 0) 275 | Mi fyddan nhw'n llenwi pot llaeth efo menyn. |
| (1, 0) 276 | Rhoid soltpitar am ben o a'i wasgu o'n seitan i ga'l gwarad â phob diferyn o leithdar yno' fo. |
| (1, 0) 277 | Mi gadwa am fiso'dd, medden nhw. |
| (1, 0) 278 | Y peth mwya ffiaidd welist ti yn dy fywyd. |
| (1, 0) 279 | Unwaith y blasis i o. |
| (1, 0) 280 | Ca'l 'y ngyrru cyn Dolig, gin mam, i nôl wya at yr hen ledi, mam hwn. |
| (1, 0) 281 | Y beth fwya plaen welist ti yn dy fywyd. |
| (1, 0) 282 | Rhyw hen gôt armi gynni hi a beret du am 'i phen. |
| (1, 0) 283 | Rhedag i'r cowt munud gwela hi rywun. |
| (1, 0) 284 | 'Châi neb dwllu'r tŷ gynni hi. |
| (1, 0) 285 | Gorfod sefyll yn fan'ma yn disgwl. |
| (1, 0) 286 | Cofio unwaith, ar ôl talu am yr wya, mi ofynnodd imi o'n i isio brechdan siwgwr. |
| (1, 0) 287 | Rhyw drît bach cyn Dolig. |
| (1, 0) 288 | Dyma hi'n rhedag i'r tŷ i 'neud un imi, a dwad â hi allan ar ryw hen blât enamyl. |
| (1, 0) 289 | Anfarth o frechdan dew fath â gwadan a honno'n un o'r sgôth ddiawl. |
| (1, 0) 290 | Ro'dd edrach arni hi'n ddigon. |
| (1, 0) 291 | Mi fynnodd mod i yn 'i byta hi. |
| (1, 0) 292 | Y crystyn a'r cwbwl. |
| (1, 0) 293 | Pob blydi briwsionyn. |
| (1, 0) 294 | Ac mi ddechreuis i grio 'chan. |
| (1, 0) 295 | Wyddost ti be 'nath hi? |
| (1, 0) 296 | Sychu ngwep i efo'i barclod. |
| (1, 0) 297 | Ro'dd ogla'r sglyfa'th peth ar hwnnw hefyd. |
| (1, 0) 298 | Mi redis i o'ma, heb yr wya, a'i gneud hi gynta medrwn i am y rhyddid 'na tu ôl i'r ardd ŷd i chwdu mherfadd allan... |
| (1, 0) 299 | Dyna'r co sy gin i am fan'ma. |
| (1, 0) 300 | Ogla menyn pot. |
| (1, 0) 301 | A wy'st ti be? |
| (1, 0) 302 | Am flynyddo'dd fues i'n methu dallt... |
| (1, 0) 304 | Sut o'ddan nhw'n medru, wy'st ti... |
| (1, 0) 305 | Yn y fath ogla. |
| (1, 0) 306 | Ond gneud 'naethon nhw. |
| (1, 0) 307 | Mi landiodd hwn o rwla, do?... |
| (1, 0) 308 | Pan fydd y gwynt o ryw gyfeiriad, o ochra'r Iard 'cw, mi fydda' i'n dal i glywad o. |
| (1, 0) 309 | Mi fydd yn fy ffroena i. |
| (1, 0) 310 | Glywa' i o'r munud 'ma. |
| (1, 0) 311 | Yn yr aer, yn y muria felltith 'ma. |
| (1, 0) 312 | Yn y ddaear. |
| (1, 0) 314 | Mi fedrat titha hefyd, 'mechan i. |
| (1, 0) 320 | Ydi'r hogyn 'na'n dwad adra hefo Ceinwen? |
| (1, 0) 325 | Damia. |
| (1, 0) 326 | Mi fydd y sinach bach wrth 'y nhin i drwy'r ha'. |
| (1, 0) 328 | Help, o ddiawl. |
| (1, 0) 329 | Gostiodd ffortiwn imi llynadd. |
| (1, 0) 330 | Pan ma' hi'n dwad yn gil-dwrn am roid rhei o'r tacla 'ma ar ben ffordd, 'u helpu nhw efo'u swing a ballu, pwy sy'n 'i fachu o? |
| (1, 0) 331 | Hwnna. |
| (1, 0) 332 | Punno'dd hefyd dallta di. |
| (1, 0) 333 | Cym'yd trugaradd arno fo. |
| (1, 0) 334 | Meddwl ma' rhyw stiwdant bach tlawd ydi o. |
| (1, 0) 337 | Tlawd, o ddiawl. |
| (1, 0) 338 | Ma' gin 'i dad o y ffyrm twrneiod fwya yn Warwick. |
| (1, 0) 339 | Meddan nhw, meddan nhw, te? |
| (1, 0) 340 | Gyda llaw, ydi'r giaffar wedi deud wrthat ti? |
| (1, 0) 341 | Ffyrm tad Nigel fydd yn handlio'r busnas cwrs golff newydd 'na. |
| (1, 0) 351 | Fedra i ddim rŵan. |
| (1, 0) 352 | Ma' rhaid imi drwsio'r medelwr, rhaid? |
| (1, 0) 355 | Joyce? |
| (1, 0) 357 | Ca'l rhyw gongl bach wrth y ffenast... |
| (1, 0) 381 | 'Dw i 'di bod yn chwilio amdanach chi. |
| (1, 0) 397 | Sut medra' i? |
| (1, 0) 400 | Drychwch. |
| (1, 0) 402 | Olwyn yr harvester. |
| (1, 0) 403 | Y darn haearn 'ma sy'n 'i dal hi. |
| (1, 0) 404 | Wedi torri'n gratsian. |
| (1, 0) 406 | Wrth glawdd y fynwant 'na. |
| (1, 0) 407 | Mynd dros graig ne' rwbath. |
| (1, 0) 409 | Mi ro'dd 'na un. |
| (1, 0) 411 | E'lla syrthio oddi ar wal y fynwant 'nath hi. |
| (1, 0) 415 | Nag o'n, wir rŵan. |
| (1, 0) 420 | Be wna'i? |
| (1, 0) 422 | Rhaid 'i drwsio fo. |
| (1, 0) 424 | 'S gen i ddim weldar. |
| (1, 0) 426 | Oes 'na rywun yn weldio yn fanno? |
| (1, 0) 429 | Rŵan, 'lly? |
| (1, 0) 434 | Ga'i fenthyg y car? |
| (1, 0) 436 | Clutch 'di mynd. |
| (1, 0) 846 | Pam na fasach chi 'di deud wrtha' i? |
| (1, 0) 859 | Pam na fasach chi wedi deud? |
| (1, 0) 861 | Fod Bedfords 'di mynd yn ffliwt? |
| (1, 0) 863 | Receivers i mewn ers wsnos. |
| (1, 0) 864 | Dim ond Arthur o'dd yna. |
| (1, 0) 866 | Sut medrwn i? |
| (1, 0) 867 | Do'dd 'na ddim weldar ar gyfyl y lle. |
| (1, 0) 869 | 'D wn i'm duw. |
| (1, 0) 872 | E'lla medra' i. |
| (1, 0) 875 | O ia, welis i Ceinwen yn dre. |
| (1, 0) 879 | Gwrandwch, mi ddyla chi ga'l gwbod... |
| (1, 0) 885 | 'Dw i fod mewn dau le ar unwaith, ydw? |
| (1, 0) 895 | Iawn! |
| (1, 0) 896 | Iawn! |
| (1, 0) 1040 | Am wn i. |
| (1, 0) 1059 | Olwyn. |
| (1, 0) 1062 | 'D wn i'm duw... |
| (1, 0) 1063 | Ffitith o byth. |
| (1, 0) 1212 | Rhaid ichi ffonio'r ffyrm. |
| (1, 0) 1213 | 'Neith hwn ddim blydi ffitio. |