| (1, 2) 119 | Mae wedi myn'd yn amser rhyfedd iawn yn Nghymru pan droir ffwrdd fel cwn benaethiaid uchaf fedd y wlad o ddrws yr hwn a eilw'i hun yn Dywysog! |
| (1, 2) 120 | Pa beth, ysywaeth, ydyw Llewelyn y rhaid iddo ddiystyru ei gydradd fel hyn? |
| (1, 2) 121 | Ei gydradd? |
| (1, 2) 122 | le, ei well yn wir! |
| (1, 2) 123 | Mae llinach Griffith ap Gwenwynwyn yn bur heb yr un croes, tra nas gall y Llewelyn hwn fyned ddwy âch yn ol heb doriad anghyfreithlawn. |
| (1, 2) 124 | Os gallaf fi caiff eto edifaru am wrthod derbyniad i un o brif benaethiad Cymru. |
| (1, 2) 125 | Os gwrthyd ef, fe dderbyn Brenin LLoegr. |
| (1, 2) 126 | Ust! |
| (1, 2) 127 | Pwy yw hwn? |
| (1, 2) 128 | Ai Dafydd ydyw? |
| (1, 2) 129 | Nid yw'n bosibl! |
| (1, 2) 130 | Eto efe ydyw. |
| (1, 2) 132 | Holo! |
| (1, 2) 133 | Y Tywysog Dafydd! |
| (1, 2) 134 | Boreu da. |
| (1, 2) 135 | Maen llon genyf eich cyfarfod a'ch llongyfarch ar eich rhyddhad o'r carchar. |
| (1, 2) 138 | Ie. |
| (1, 2) 139 | Griffith ydwyf. |
| (1, 2) 140 | Da genyf weled fod y rhwyg rhyngoch a'r Tywysog wedi ei chyfanu. |
| (1, 2) 141 | Cymerodd chwi i'w fynwes yn gynes fel brawd yn ddiamheu. |
| (1, 2) 144 | A yw yn bosibl? |
| (1, 2) 147 | Mae'n anhawdd genyf gredu! |
| (1, 2) 148 | A chwithau'n Dywysog nesaf ato ef ei hun mewn hawl, ac uwch nag ef yn serch y wlad! |
| (1, 2) 149 | Mae hyn yn sarhad ar Gymru a'i phenaethiaid! |
| (1, 2) 152 | Am ba achos tybed? |
| (1, 2) 153 | Cywilydd! |
| (1, 2) 154 | Iti y dewraf o feibion Cymru! |
| (1, 2) 155 | Tyred gyda mi. |
| (1, 2) 156 | Dyfeisiwn ffordd i ddial arno am y sarhad yma. |
| (1, 2) 158 | Brawd yn wir! Gelyn yn hytrach. |
| (1, 2) 159 | Tebygol nad yw ond am gael cyfle i'th osod o'r neilldu yn ddirgel. |
| (1, 2) 160 | Nis beiddiai dy ladd yn y carchar; daethai'r byd i wybod. |
| (1, 2) 161 | Ond yn awr esgusa dy ryddhau, fel gallo o bosibl dy lofruddio yn ddirgel. |
| (1, 2) 162 | Mae dy fywyd mewn perygl! |
| (1, 2) 163 | Tyred gyda mi. |