| (4, 0) 129 | Y diawl a'th gipio, gorgi anghymodlon! |
| (4, 0) 130 | Mae'r nef ar gam fod dy fath di'n cael byw. |
| (4, 0) 131 | Bron iawn na wnait im gefnu ar fy ffydd |
| (4, 0) 132 | A derbyn opiniynau'r hen Pythagoras |
| (4, 0) 133 | —Fod enaid bwystfil weithiau yn preswylio |
| (4, 0) 134 | O fewn corff dyn; fe fu dy ysbryd costog |
| (4, 0) 135 | Unwaith yn flaidd a grogwyd am ladd dynion. |
| (4, 0) 136 | Oddi ar y crocbren ffodd ei enaid brwnt |
| (4, 0) 137 | Pan oeddit ti yng nghroth dy fam, a'th larpio |
| (4, 0) 138 | Enaid a chorff; ac felly mae dy nwydau |
| (4, 0) 139 | Fel nwydau blaidd newynog, gwaedlyd, rheibus. |
| (4, 0) 298 | Mae gennyf innau wraig, a mawr y'i caraf. |
| (4, 0) 299 | Eto mi fynnwn petai hi'n y nef |
| (4, 0) 300 | I eiriol â rhyw allu i'w feddalhau. |
| (4, 0) 322 | O farnwr teg!—Clyw, Iddew! O farnwr doeth! |
| (4, 0) 327 | O farnwr doeth! Clyw, Iddew! O farnwr doeth! |
| (4, 0) 334 | O Iddew! Barnwr teg a barnwr doeth! |
| (4, 0) 343 | Daniel yr ail! O Iddew, dyma Ddaniel! |
| (4, 0) 344 | Yn awr, anffyddiwr, cefais di'n dy glun. |
| (4, 0) 373 | Erfyn yn hytrach gennad i ymgrogi, |
| (4, 0) 374 | Ac cto, gan mai'r ddinas biau d'eiddo |
| (4, 0) 375 | 'D oes gennyt yr un ddimai i brynu rhaff. |
| (4, 0) 376 | Felly bydd rhaid dy grogi ar gost y wlad. |
| (4, 0) 388 | Croglath yn rhad! Dim mymryn mwy, wir Dduw! |
| (4, 0) 410 | Wrth dy fedyddio, ti gei ddau dad-bedydd |
| (4, 0) 411 | Pe bawn i'n farnwr, rhown it ddengwr mwy |
| (4, 0) 412 | I'th hebrwng di i'r crocbren, nid i'r llan. |