| (1, 1) 422 | Ahoy there, Clocsiwr! |
| (1, 1) 424 | Ia debyg iawn. |
| (1, 1) 425 | Pwy wyt ti'n feddwl ydw i, y landlybar? |
| (1, 1) 426 | Napoleon? |
| (1, 1) 428 | Paid â phoeni, mi ydw i'n dwad. |
| (1, 1) 430 | O chdi sydd yna aie! |
| (1, 1) 431 | Dic Betsi, Dic dau-wynebog, Dic ga'-i-fenthyg, Dic Slei, Dic Sebonllyd, Dic be-ga'-i-am-ddim. |
| (1, 1) 433 | Paid ti ag agor dy bîg. |
| (1, 1) 434 | Dwyt titha fawr gwell, Huw Clocsiwr, Huw ben-chwiban, Huw dim-uwch-baw-sowdwl, Huw dim-dima. |
| (1, 1) 442 | Hanner munud y ffyliaid—ydach chi eisio tynnu fy nghôt i'n gria? |
| (1, 1) 443 | Mi fedra i wneud yn iawn fy hun, diolch yn fawr. |
| (1, 1) 445 | Ydw, debyg iawn. |
| (1, 1) 446 | Wyt ti'n disgwyl i mi hongian o'r to? |
| (1, 1) 447 | Ple mae'r ddynas yma? |
| (1, 1) 451 | Da iawn. |
| (1, 1) 452 | Mi fydd yna lai o glebran o gymaint a hynny. |
| (1, 1) 453 | Be ydy'r mater arnat ti yn llygadrythu, y? |
| (1, 1) 455 | Ers faint wyt ti'n poeni am fy iechyd i? |
| (1, 1) 460 | Sobor. |
| (1, 1) 463 | Paid â dweud celwydd. |
| (1, 1) 464 | Rwyt ti wrth dy fodd. |
| (1, 1) 465 | Ond dyna'r gwir i ti, mae fy iechyd i'n ddifrifol. |
| (1, 1) 467 | Oes, ond wyddost ti pam? |
| (1, 1) 469 | Am fod bwyd wedi colli ei nerth—dyna i ti pam. |
| (1, 1) 470 | Does yna ddim lliw na blas ar gwsberis na riwbob na rwdins na letis na dim yn ddiweddar yma. |
| (1, 1) 472 | Be arall sydd i'w ddisgwyl a phobol yn chware efo'r atoms felldith yna? |
| (1, 1) 474 | Gwir bob gair i ti. |
| (1, 1) 475 | Does gen ddyn ddim hawl i fusnesu efo'r petha yna. |
| (1, 1) 476 | Mae o'n groes i natur. |
| (1, 1) 478 | A dyna'r bara rydan ni'n fwyta heddiw. |
| (1, 1) 479 | Llwch lli, a dim arall. |
| (1, 1) 480 | A dydy hyn yn ddim ond dechra—mi fydd ein bwyd ni i gyd wedi ei wenwyno cyn bo hir. |
| (1, 1) 482 | Ydw—cig ceffyl. |
| (1, 1) 483 | A rhyw sothach mewn tynia. |
| (1, 1) 484 | Roeddwn i'n agor un y diwrnod o'r blaen. |
| (1, 1) 485 | A dyna'r drewi mwya cythreulig yn dwad allan ohono fo. |
| (1, 1) 486 | Yn ddigon i godi gwallt dy ben di. |
| (1, 1) 487 | Dim rhyfedd mod i ac eraill yn colli iechyd. |
| (1, 1) 489 | Nag ydy, mi wn i hynny. |
| (1, 1) 490 | Ond fydda i ddim yna'n hir. |
| (1, 1) 491 | Rydw i'n mynd i fyw i'r "Sailor's Rest". |
| (1, 1) 494 | Lle i hen begnos fel fi dreulio diwedd oes, Dic Betsi. |
| (1, 1) 495 | Yn ddigon pell oddi wrth ladron fel chi'ch dau. |
| (1, 1) 498 | Dim ond f'arian i wyt ti'n feddwl, Clocsiwr. |
| (1, 1) 501 | Y? |
| (1, 1) 502 | Be ydy hyn? |