| (1, 0) 15 | Martha─wrth dy hunan? |
| (1, 0) 17 | Partoi ar gyfar beth? |
| (1, 0) 19 | Oti, fe-ginta. |
| (1, 0) 21 | Hm─a John? |
| (1, 0) 24 | A nawr, 'rwyt ti'n dyfalu beth wy'n moyn 'ma heno? |
| (1, 0) 27 | Rwy'n gneud 'ny yn ddicon amal. |
| (1, 0) 28 | Wyddast-ti pwy ddydd o'r mish yw hi heddy? |
| (1, 0) 30 | Falla nag wyt ti ddim yn cofio beth ddigwyddws bum mlynadd ar ucian yn ol ar y wechad ar ucian o Fai? |
| (1, 0) 32 | 'Rwyt ti'n dawal iawn yn i gylch-a; dyma ddydd dy |silver wedding| di. |
| (1, 0) 33 | 'Dwyt ti ddim yn meddwl gneud rwpath? |
| (1, 0) 40 | Ffrois! |
| (1, 0) 41 | Ar gyfar pen blwydd y byddwn-ni'n gneud ffrois. |
| (1, 0) 43 | Falla 'i fod-a, ond fe ddylsat gâl parti a gw'a'dd rai o'r cymdocion. |
| (1, 0) 44 | Tapun, fe alla rh'wun feddwl y bysat-ti yn gofyn i dy unig whar. |
| (1, 0) 47 | Beth am William, 'dyw e ddim yn moyn parti? |
| (1, 0) 49 | Gwn, a tsa fa'n hannar dyn─ |
| (1, 0) 51 | O'r gora, ond fe weta gymant a hyn. |
| (1, 0) 52 | Allsa Robert feddwl am ddim am wthnosa cyn i'r dwarnod ddod, a fe wyddast shwt |silver wedding| geson ni. |
| (1, 0) 54 | Beth am y plant; otyn-|nhw| ddim wedi meddwl dim am dano? |
| (1, 0) 56 | Wel, rhyw deulu ryfadd ych-chi 'ma. |
| (1, 0) 57 | A fe fydd raid i ti wed wrthyn nhw i gyd 'ma heno mai dyma dy |silver wedding| di. |
| (1, 0) 60 | Ia, teulu ryfadd ych-chi, a chreatur ryfadd wyt titha, Martha. |
| (1, 0) 61 | Ond dyna, 'rodd mam wastod yn gwed mai ti odd yr hynota o'r plant. |
| (1, 0) 62 | Wn-i beth wetsa hi tsa hi'n gallu dy weld di heno, acha noswaith fel hon. |
| (1, 0) 66 | Wyt-ti'n cretu y gall hi'n gweld ni ar y ddaear 'ma heno, tia fi? |
| (1, 0) 70 | Naddo; 'rodd hi rhy depyg i ti, neu wyt ti'n rhy depyg iddi hi. |
| (1, 0) 73 | Yn fwy tebyg iddi bob dydd, 'nenwetig nawr, a dy wallt yn gwynnu, a'r rhygna 'na ar dy ruddia di. |
| (1, 0) 74 | Pan y byddi di'n edrych arno-i amball waith, 'dwy'n gweld dim ond mam. |
| (1, 0) 75 | Rwyt ti'n symud 'run fath a hi, yn gneud petha yn gwmws fel odd hi'n arfadd gneud. |
| (1, 0) 78 | Yr ora fu ar y ddaear 'ma ariod. |
| (1, 0) 79 | Os yw hi'n gallu'n gweld ni heno, wn-i yn y byd beth ma hi'n feddwl. |
| (1, 0) 80 | All hi ddim bod yn folon iawn. |
| (1, 0) 82 | Wel fi sydd wedi câl y lwc i gyd. |
| (1, 0) 83 | Y fi gas y bywyd esmwyth, prioti'n dda, a morwn wastod wrth law. |
| (1, 0) 84 | Edrych ar yn nwylo gwynon i, na nethon-nhw ddwarnod o waith calad ariod, a edrych ar dy rai ditha, sy byth yn secur ond pan y byddi di'n cysgu. |
| (1, 0) 85 | 'Rwyt ti wedi gwitho dy fêr a d'esgyrn, ddydd ar ol dydd, a thrwy'r dydd, ar hyd y blynydda; fe ddest a phlant i'r byd, a fuast ti ddim heb weld gofid. |
| (1, 0) 86 | Dwyt-ti ddim ond pump a deugan, 'rwy inna'n hannar cant, a nid o ran y mod i yn 'i wed-a, ond chretsa neb wrth yn golwg ni, mai ti yw'r ienga. |
| (1, 0) 89 | Paid a sôn, paid a sôn! |
| (1, 0) 90 | Pan on-i'n ifanc, a'r rhai bach am ddod ato-i, 'dodd gen-i gynnyg meddwl am danyn-nhw, ond nawr,─falla ma rhyw farn sy arno-i─pan fydda-i'n cysgu, ag amball waith pan fydda-i ar ddihun, 'rwy fel t'swn-i'n teimlo dwylo bach ar y 'ngwynab-i, a thro arall, fe 'llwn dystio mod i'n clwad plant yn llefan─y rhai bach wrthotas i pan o'n i'n ifanc. |
| (1, 0) 93 | Ond dyna. |
| (1, 0) 95 | Beth sy gent-ti yn dy gylch heno─nid hen ffetog mam yw honna, iefa? |
| (1, 0) 98 | A beth yw hon─nid dyma dy ddress briotas di! |
| (1, 0) 100 | Pwy altrodd hi i ti? |
| (1, 0) 102 | A 'rwy'n câl dod 'ma heno? |
| (1, 0) 104 | Na, gorfod iddo fa fynd sha Chardydd y p'nawn'ma. |
| (1, 0) 105 | Wyt-ti wedi cynnu tân yn y rwm genol─oti ddi'n barod gen-ti? |
| (1, 0) 107 | I'r swpar heno, bid siwr. |
| (1, 0) 109 | Wyt-ti ddim yn mynd i gynnal dy |silver wedding| yn y gecin? |
| (1, 0) 111 | Y ti wyt ti, a ti fyddi di! |
| (1, 0) 112 | Beth ga-i ddod yn bresant i ti? |
| (1, 0) 114 | Raid i ti gâl rwpath. |
| (1, 0) 115 | Beth licsat-ti gâl? |
| (1, 0) 119 | Ia. |
| (1, 0) 121 | O─chai di ddim o'r llestri. |
| (1, 0) 122 | Chymswn i ddim can punt am rheina. |
| (1, 0) 124 | Fysa'n well gen-i wario deg punt ar rwpath arall i ti. |
| (1, 0) 126 | O'r gora, fe ddwa-i â'r cŵn gen i heno. |
| (1, 0) 127 | Ble ma Miriam? |
| (1, 0) 129 | Miriam! |
| (1, 0) 131 | Ar ol i ti gwpla gwishgo, wy-i am i ti ddod i'n tŷ ni. |
| (1, 0) 133 | Wath i ti beth. |
| (1, 0) 134 | Wyt ti'n diall? |
| (1, 0) 137 | John, dera ditha hefyd. |
| (1, 0) 140 | Ma'n rhaid i ti ddod. |
| (1, 0) 141 | Cofia nawr. |
| (1, 0) 147 | Fydd 'na ddim |fuss|. |
| (1, 0) 148 | On-i'n meddwl ma fel hyn y bydda petha, a 'rwy wedi partoi ryw 'chydig ar dy gyfar di. |
| (1, 0) 149 | Gofala na chaiff William fynd i'r seiat heno acha noswath fel hon. |
| (1, 0) 151 | O, dyna ti eto─ |
| (1, 0) 153 | Ble ma fa? |
| (1, 0) 156 | Fel mynnot-ti. |
| (1, 0) 157 | Dyma fi'n mynd nawr; fe fydda-i 'nol cyn hir. |
| (1, 0) 522 | 'Rwy i wedi dy weld di lawar i dro yn depyg i mam, ond heno, â'r shôl 'na ar dy war, fuas bron a chretu i bod hi o flan yn llyced i. |
| (1, 0) 539 | On i'n meddwl, falla y licsat-ti ifad tê o rhain heno. |
| (1, 0) 545 | Dyma fe. |
| (1, 0) 548 | Beth wyt-ti'n whilo? |
| (1, 0) 550 | O ia, y cŵn oddiar y mamplis. |
| (1, 0) 551 | Fysa'n well gen-ti gâl y cŵn? |
| (1, 0) 554 | Ma nhw wedi bod gen i am dros ucian mlynadd; fe 'lli di 'u câl nhw nawr. |
| (1, 0) 555 | Catw nhw i Miriam. |
| (1, 0) 563 | Dyna, fe wyddwn na fysa-ti ddim yn folon. |
| (1, 0) 573 | Ia, raid i ti ishta lawr heno. |
| (1, 0) 589 | Os gen-ti ddim gwell cyllath na hon i dorri bara? |
| (1, 0) 592 | Na, rho gyllath arall i fi. |
| (1, 0) 597 | Wel, ma popath yn barod nawr. |
| (1, 0) 598 | (Yn nesu at y bwrdd.) |
| (1, 0) 599 | Ble gaf fì ishta, man hyn? |
| (1, 0) 601 | Gadewch i fi fod yn fam am unwaith. |