| (1, 4) 197 | O Gwen fach! Dyma newydd drwg. |
| (1, 4) 199 | Yr wyf newydd gael llythyr oddiwrth fy nhad, yn yr hwn y dywed fod pethau yn tywyllu eto yn Nghymru. |
| (1, 4) 200 | Mae Dafydd, brawd y Tywysog, a phenaeth dylanwadol o'r enw Griffith ap Gwenwynwyn, wedi myned i lys brenin Lloegr, a bydd byddin gref o Saeson yn cychwyn yn fuan i'w cynorthwyo i ymosod ar y Tywysog. |
| (1, 4) 203 | Ond mae Meredith ap Owen wedi marw, ac ofna fy nhad y try penaethiaid y Deheudir yn erbyn y Tywysog bellach. |
| (1, 4) 210 | Taw! |
| (1, 4) 211 | Tydi yn Gymraes yn son am i mi fod yn anffyddlawn i Llewelyn! |
| (1, 4) 219 | Pe credwn ei fod ef yn anffyddlon, torai fy nghalon! |
| (1, 4) 220 | Ond na! |
| (1, 4) 221 | Chredaf fi byth y fath beth am dano—y ffyddlonaf, y dewraf o ddynion! |
| (1, 4) 222 | Ac am ba beth yr wylaf? |
| (1, 4) 223 | Mae y dagrau hyn yn annheilwng o gariadferch Llewelyn! |
| (1, 4) 224 | Estyn y delyn i mi. |
| (1, 4) 227 | Os tywyll imi ydyw'r wybren, |
| (1, 4) 228 | Os gwgu arnaf y mae fiawd, |
| (1, 4) 229 | Daw eto'n well, fe wena'r heulwen |
| (1, 4) 230 | A chyfyd calon Elen dlawd. |
| (1, 4) 231 | Ni thal im' grio chwaith na becso, |
| (1, 4) 232 | Nac i wylo dagrau ffol, |
| (1, 4) 233 | Os byw yw ef, os rhwydd-deb gaffo |
| (1, 4) 234 | Fe ddaw Llewelyn eto'n ol. |
| (1, 4) 235 | ~ |
| (1, 4) 236 | Beth os lluosog ydyw'r Saeson |
| (1, 4) 237 | Ac os creulawn ydyw'r cleddf |
| (1, 4) 238 | Mi wn am un sy'n ddewr ei galon |
| (1, 4) 239 | Ac a fydd ffyddlon hyd ei fedd. |
| (1, 4) 240 | Ei fraich sydd gref, ei wên sydd lawen, |
| (1, 4) 241 | A llechu eto gaf yn ei gol, |
| (1, 4) 242 | Tra bydd hi byw, fe greda Elen |
| (1, 4) 243 | Y daw Llewelyn eto'n ol! |
| (1, 4) 263 | Ust! |
| (1, 4) 264 | Gwen! |
| (1, 4) 265 | Tybiais y clywais swn cerddediad. |
| (1, 4) 266 | A dyna grwth. |
| (1, 4) 267 | Mae rhyw fardd am roi nosgan i ti. |
| (1, 4) 288 | Gallwn gymeryd fy llw mai Llewelyn ydyw. |
| (1, 4) 289 | Cawn weled yn y man. |
| (1, 4) 291 | Pwy yma sydd yn eofn ei lais |
| (1, 4) 292 | Pa gais sydd genyt grythwr, |
| (1, 4) 293 | Dy fod fel hyn, yn dod yn hyf |
| (1, 4) 294 | At gastell cryf boneddwr? |
| (1, 4) 306 | Nis dof er mwyn coronau heirdd, |
| (1, 4) 307 | Na molawd beirdd yn gytun, |
| (1, 4) 308 | Nid ydyw gwychder imi'n swyn─ |
| (1, 4) 311 | Ond dof er mwyn Llewelyn! |
| (1, 4) 315 | Ie, diolch fo i Dduw am ganiatau symud ymaith y cymylau bygythiol. |
| (1, 4) 316 | Pan glywais y newyddion am y trafferthion yn Nghymru, bum yn pryderu am danat, ond yn awr— |
| (1, 4) 343 | Mae gan y tywysog newyddion da O Gymru, Gwen. |
| (1, 4) 344 | Mae wedi gwneyd heddwch a'r brenin, ac wedi cael ei sicrhau yn ei Dywysogaeth. |