| (1, 2) 27 | Pwy yw hwn sydd yn ei waed? |
| (1, 2) 28 | A barnu wrth ei lun, gallai ef roi gwybod i ni beth fu tro olaf y frwydr. |
| (1, 2) 36 | O, gâr dewr a gwrda teilwng! |
| (1, 2) 39 | Oni pharodd hynny ddigalonni'n Capteiniaid Macbeth a Banguo? |
| (1, 2) 43 | Cystal y gwedd d'eiriau arnat ag y gwedd dy glwyfau; y mae anrhydedd yn y naill a'r lleill. |
| (1, 2) 44 | Ewch, cyrcher meddyg ato. |
| (1, 2) 46 | Pwy yw hwnacw? |
| (1, 2) 52 | O ba le y daethost, deilwng bendefig? |
| (1, 2) 55 | Llawenydd mawr! |
| (1, 2) 57 | Ni chaiff Pendefig Cawdor fyth mwy ein twyllo am ein lles, ewch ac erchwch ei ladd rhag blaen, ac â'r teitl a ddygai ef gynt, cyferchwch Macbeth. |
| (1, 2) 59 | Y peth a gollodd ef, fe'i henillodd Macbeth urddasol. |