| (1, 2) 22 | Pa waedlyd ŵr yw hwn? |
| (1, 2) 23 | Fe allai ef fynegi ini ddamwain ola'r gad, a barnu wrth ei lun. |
| (1, 2) 31 | O gâr dewr a theilwng wrda! |
| (1, 2) 34 | Oni pharodd hynny ddigalonni'n capteiniaid Macbeth a Banguo? |
| (1, 2) 38 | Cystal y gwedd dy eiriau arnat â'th glwyfau; mae anrhydedd yn y naill a'r llall. |
| (1, 2) 39 | Ewch, cyrcher meddyg ato. |
| (1, 2) 41 | Pwy yw hwnacw? |
| (1, 2) 47 | O ba le y daethost, deilwng bendefig? |
| (1, 2) 50 | Lawenydd mawr! |
| (1, 2) 52 | Ni chaiff pendefig Cawdor fyth mwy ein twyllo am ein lles; ewch ac erchwch ei ladd yn ddiatreg, ac â'r teitl a ddygai gynt, cyferchwch Macbeth. |
| (1, 2) 54 | A gollodd ef; enillodd Macbeth hael. |