| (3, 0) 681 | Rwyn dod i mewn yn ddiseremoni iawn, Mr. Harris, ond Dic Betsi— |
| (3, 0) 684 | Rwyn gofyn cymwynas go fawr gennych, Mr. Harris—gawn ni ddod a Richard Davis i mewn i'r gegin neu rywle; mae pob munud yn werthfawr. |
| (3, 0) 687 | Dowch chi, ngeneth i, mi wnawn ein gore rhyngom; peidiwch mollwng rwan. |
| (3, 0) 688 | Gawn ni ddod a fo yma, Mr. Harris? |
| (3, 0) 934 | Dyma Mr. Blackwell y Plas. |
| (3, 0) 935 | Mae wedi dod yma i weld sut mae Richard Davis. |
| (4, 0) 979 | Gweithio'n galed, Harri? |
| (4, 0) 982 | Wedi mynd i'w dê mae o rwan? |
| (4, 0) 984 | Beth ydi dy farn di am dano fel jeinar? |
| (4, 0) 985 | Dyma ti wedi cael tri diwrnod o brawf arno erbyn hyn. |
| (4, 0) 987 | Mae'n rhaid fod cwrs byd ers pan bu'n gneud gwaith jeinar? |
| (4, 0) 990 | Patrwm o ddyn ydi o, wel di, ne fasa fo ddim yn gweithio'n rhad ac am ddim fel hyn yn lle Jared yr wsnos yma. |
| (4, 0) 991 | Dyna beth ydi practical Christianity wyddost. |
| (4, 0) 993 | Gwael iawn, druan; mae'n methu symud er dydd Llun. |
| (4, 0) 996 | Digon gwael ydi o. |
| (4, 0) 998 | Mae'n anodd deyd hyd yn hyn. |
| (4, 0) 999 | Y perig ydi i'r dolur yma gyrraedd ei galon, ac wedyn mi fydd ar ben ar yr hen greadur. |
| (4, 0) 1005 | Peidiwch a chymryd golwg rhy ddifrifol ar y cês: fe all ddod drwyddi os medra i gadw'r drwg o'i galon o. |
| (4, 0) 1007 | Un twyllodrus iawn ydi'r gwyneb. |
| (4, 0) 1008 | Wel, i newid y stori, go lew y gweinidog yn cymryd i le fo fel jeinar yntê? |
| (4, 0) 1011 | Ydi o'n wir i fod o wedi cael galwad o eglwys fawr yn Lerpwl na? |
| (4, 0) 1014 | Aiff o? |
| (4, 0) 1016 | Wel, taswn i yn i le o, mi symudwn, a mi gadawswn chi fynd i'ch crogi yn Seilo ar ol y tro gwael naethoch chi â fo flwyddyn yn ol. |
| (4, 0) 1018 | Ie, wrth gwrs. |
| (4, 0) 1021 | Lol i gyd! |
| (4, 0) 1022 | I wrthod o ddaru hi am y gwyddai hi mor groes oeddach chi i'r briodas, yr hen set wael. |
| (4, 0) 1023 | Ond wedi chi ddeall fod peth o waed Scweiar y Plas yng ngwythiennau Dic Betsi, a bod y Scweiar wedi anfon Nel Davis i Lunden ar i gost i hun i gael dipyn o addysg, dyma chithau'n dechreu newid eich barn am dani'n araf. |
| (4, 0) 1024 | Ar y ngair i, rwyf bron a choelio y basach chi'n fodlon iddi fod yn wraig y gweinidog erbyn heddiw, |
| (4, 0) 1030 | Run ateb sy gen i: wn i ddim. |
| (4, 0) 1032 | Wel, mi wn ymhle mae hi'r funud ma. |
| (4, 0) 1034 | I mewn yn tŷ yn tendio ar Jared. |
| (4, 0) 1037 | Nage'n wir. |
| (4, 0) 1038 | Dysgu bod yn nyrs roedd hi yn Llunden, ac fe yrrais am dani i ddod i nyrsio Jared, ac mi wyddwn mai'r unig beth fasa'n dod a hi yma fasa clywed fod yr hen Jared mor wael. |
| (4, 0) 1039 | Mae hi'n leicio Jared erioed. |
| (4, 0) 1043 | Dyda chi ddim yn dal dig at Nel Davis, gobeithio? |
| (4, 0) 1045 | Peidiwch a chyboli'n wirion, mi fydd yr eneth yn |all right| â chi ar ol rhyw funud, a gobeithio y rhoith hi grafiad ne ddau i chi'ch dau. |
| (4, 0) 1046 | Ond rwan, does neb ond fi a'r Sgweiar yn gwybod i bod hi wedi dod i nyrsio Jared, a pheidiwch ar un cyfri a deyd wrth Mr. Harris nes y daw o i wybod i hun. |
| (4, 0) 1047 | Harri, meindia di ar dy fywyd na ddeydi di ddim wrtho pan ddaw'n ol o'i dê. |
| (4, 0) 1049 | Rwan mi awn i'r tŷ ein tri. |
| (4, 0) 1063 | Mi ddeuthoch yn ol o'ch tê, mi welaf. |
| (4, 0) 1068 | Canolig iawn. |
| (4, 0) 1069 | Rwyf newydd ddod a nyrs i dendio ar yr hen lanc er mwyn rhoi pob chware teg iddo wella, os oes gwella i fod. |
| (4, 0) 1071 | Ie. |
| (4, 0) 1072 | Pan gymrwyd Jared yn wael echdoe mi welais fod y cês yn un seriws, ac mi rois y peth o flaen y Scweiar, ac mi ddeydodd wrtho i yn y fan y basa fo'n talu am nyrs o'i boced i hun. |
| (4, 0) 1073 | Mi yrrais am dani ar unwaith ac mi ddoes a hi i'r tŷ rwan jest. |
| (4, 0) 1076 | Does neb ond y Scweiar ŵyr, a phob tro y gofynnaf iddo am |address| Nel Davis, "Fi wedi rhoi |word of honour| fi i Nel Davis i beidio deyd," medda fo. |
| (4, 0) 1078 | Peth difrifol ydi bod yn anghredadun, Mr. Harris. |
| (4, 0) 1079 | Gyda llaw, mae'r nyrs eisia coed tân, ac mi ddaw yma'n y funud i gael rhai. |
| (4, 0) 1080 | Cloben o Saesnes hyll ofnadwy ydi hi; doedd dim Cymraes i'w chael, mae'n debig. |
| (4, 0) 1081 | Wel, pnawn da. |
| (4, 0) 1203 | Gadewch lonydd i'r dyn—does dim y mater ar Jared, mae o cyn iachad ag afal Awst. |
| (4, 0) 1229 | Na doedd neb yn gwybod ond y Scweiar a Jared a finnau. |
| (4, 0) 1230 | Rwyn meddwl y dylai Mr. Harris fod yn fodlon i mi gael un gusan gan Nyrs Davis, achos fi ddaru gynllunio iddynt ddod at i gilydd. |