| (0, 7) 1254 | Anrhydeddus Briaf, mae'n dy annerch Agamemnon: |
| (0, 7) 1255 | mae'n deisyf amser i gladdu a meddyginiaethu ei ddynion. |
| (0, 7) 1256 | Mae hefyd yn fodlon am Antenor ei gyfnewid |
| (0, 7) 1257 | am unferch arglwydd Calchas, hon ydyw Cresyd. |
| (0, 7) 1258 | Os bodlon i'r heddwch |
| (0, 7) 1259 | yr owran dywedwch |
| (0, 7) 1260 | ac i'r gyfnewid - |
| (0, 7) 1261 | am Antenor rhoi Cresyd. |
| (0, 9) 1651 | Yr urddasol arglwyddi ar gwbwl o Droea ac Asia, |
| (0, 9) 1652 | oddi wrth frenhinoedd Groeg yr wyf i'n dyfod yma, |
| (0, 9) 1653 | ac yn dwyn i chwi y carcharwr hyn yn gyfnewid |
| (0, 9) 1654 | am unferch Calchas, fel yr oedd eich addewid. |
| (0, 9) 1655 | Diolchgar ydynt hwythau |
| (0, 9) 1656 | am yr heddychol ddyddiau, |
| (0, 9) 1657 | a'r cytundeb yn sicir |
| (0, 9) 1658 | o'u rhan hwy a gedwir. |
| (0, 9) 1677 | Siriwch! Paham yr ydych chwi cyn budredd? |
| (0, 9) 1678 | Eich annwyl dad ar hynt a gewch ei weled, |
| (0, 9) 1679 | hwn sydd yn cystuddio mewn hiraethus ofalon |
| (0, 9) 1680 | eich bod yn byw oddi wrtho ym mysg ei elynion. |
| (0, 9) 1681 | Os tybiwch chwi y galla |
| (0, 9) 1682 | i'ch meddylie roddi esmwythdra, |
| (0, 9) 1683 | rwy'n deisyfu arnoch ac yn erfyn, |
| (0, 9) 1684 | a hyn allan, fy ngorchymyn. |
| (0, 9) 1685 | ~ |
| (0, 9) 1686 | Mi a wn, Cresyd, fod yn chwith ac yn ddieithr gennych - |
| (0, 9) 1687 | nid yw hyn ryfeddod i'r sawl a ŵyr oddi wrthych - |
| (0, 9) 1688 | gyfnewid cydnabyddiaeth y Groegwyr, sydd i chwi yn ddieithriaid, |
| (0, 9) 1689 | am y Troeaid, eich cymdogion, a Throea, y man y'ch ganed |
| (0, 9) 1690 | Na feddyliwch nas cewch weled |
| (0, 9) 1691 | ym mysg y Groegwyr wŷr cyn laned |
| (0, 9) 1692 | ag sydd yn Nhroea a'i swydd, |
| (0, 9) 1693 | a chwaneg o garedigrwydd. |
| (0, 9) 1702 | Mi a fynnwn i chwi fy nghymryd megis eich brawd diniwed, |
| (0, 9) 1703 | ac na wrthodych fy ngharedigrwydd pan ddelych ym mysg dieithriaid, |
| (0, 9) 1704 | er bod eich prudd-der o achosion mawr yn tyfu, |
| (0, 9) 1705 | nid hwyrach mewn amser y gallwn i eich helpu. |
| (0, 9) 1706 | Onide hyn a wyddwn, |
| (0, 9) 1707 | eich trymder nis ychwanegwn, |
| (0, 9) 1708 | ond trwm a fyddwn innau |
| (0, 9) 1709 | dros drymder eich meddyliau. |
| (0, 9) 1710 | ~ |
| (0, 9) 1711 | Er bod y Troeaid wrth y Groegwyr yn ddicllon, |
| (0, 9) 1712 | a'r Groegwyr wrth y Troeaid beunydd yn greulon, |
| (0, 9) 1713 | yr un duw cariad mae'r ddwyblaid yn ei wasanaethu, |
| (0, 9) 1714 | a'r ddwyblaid mae'n orfod i'r duw yma eu helpu. |
| (0, 9) 1715 | Er duw, pwy bynnag a'ch digiodd, |
| (0, 9) 1716 | arnaf i na roddwch anfodd; |
| (0, 9) 1717 | myfi ni chlywaf arnaf |
| (0, 9) 1718 | ryglyddu eich dig na'ch gwaethaf. |
| (0, 9) 1727 | At y Groegwyr gan ein bod yn owran yn agosed, |
| (0, 9) 1728 | neu at dent Calchas - bellach all ein gweled - |
| (0, 9) 1729 | mi adawaf, i gadw fy nghyfrinach angall |
| (0, 9) 1730 | wedi ei selio yn fy meddwl tan ryw amser arall. |
| (0, 9) 1731 | Moeswch i mi, Cresyd, |
| (0, 9) 1732 | eich llaw, eich cred, eich addewid |
| (0, 9) 1733 | ar gaffael o Diomedes |
| (0, 9) 1734 | fod yn nesaf ddyn i'ch mynwes. |
| (0, 9) 1736 | Mae cymaint o farchogion ym mysg Groegwyr mor rhinweddol, |
| (0, 9) 1737 | cyn laned, cyn foneddigeidded, ac mor weddus naturiol, |
| (0, 9) 1738 | a phob un a wnaiff ei orau am ei einioes a'i fywyd |
| (0, 9) 1739 | ar gael ohonynt ennill eich gwasanaeth chwi, Cresyd. |
| (0, 9) 1740 | Arnoch chwi y deisyfaf, |
| (0, 9) 1741 | am y boen a'r drafael yma, |
| (0, 9) 1742 | yng ngwydd y rhain fy enwi |
| (0, 9) 1743 | yn wasanaethwr ufudd i chwi. |
| (0, 12) 1892 | Fy nghariadus argwlyddes, beth a fynnwch chwi ymofyn? |
| (0, 12) 1893 | Am Droea neu am Droeaid, na soniwch amdanyn. |
| (0, 12) 1894 | Gyrrwch allan obaith chwerw a gwnewch lawenydd. |
| (0, 12) 1895 | Codwch i fyny'ch calon a'ch glendid o newydd, |
| (0, 12) 1896 | oherwydd mae Troea |
| (0, 12) 1897 | wedi ei dwyn ei hun i'r gwaetha; |
| (0, 12) 1898 | nid ydyw hon ond aros |
| (0, 12) 1899 | y trwm ddiwedd sydd yn agos. |
| (0, 12) 1900 | ~ |
| (0, 12) 1901 | Meddyliwch fod Groegwyr yn gystal gwŷr eu hymddygiad, |
| (0, 12) 1902 | cyn onest, cyn ffyddloned, cyn berffeithied mewn cariad |
| (0, 12) 1903 | ag ydyw un Troewr, ac o lawer yn garedicach |
| (0, 12) 1904 | i ufuddhau i'ch meddyliau ac i'ch gwasanaethu yn ffyddlonach. |
| (0, 12) 1905 | Chwi a roesoch im gennad |
| (0, 12) 1906 | i draethu wrthych beth o'm siarad: |
| (0, 12) 1907 | fe ddywed pobl lawer |
| (0, 12) 1908 | na ddylid caru merch mewn prudd-der. |
| (0, 12) 1909 | ~ |
| (0, 12) 1910 | Bid hysbys i ti, Cresyd, mai unfab Tideus y'm barned, |
| (0, 12) 1911 | a'm bod cyn foneddiced ag un Troewr ar a aned, |
| (0, 12) 1912 | a phe buasai fy nhad fyw hyd y dyddiau yma |
| (0, 12) 1913 | mi a fuaswn frenin ar Arge a Chalsedonia. |
| (0, 12) 1914 | Ei farwolaeth a gyrches |
| (0, 12) 1915 | pan fu'r rhyfel wrth Thebes, |
| (0, 12) 1916 | fe lladdwyd Polimeite |
| (0, 12) 1917 | a llawer o'r rhai gore. |
| (0, 12) 1918 | ~ |
| (0, 12) 1919 | F'anwylyd, gan fy mod yn gwasanaethu eich anrhydedd, |
| (0, 12) 1920 | a chwithau yw'r ferch gyntaf a ddymunais ei thrugaredd, |
| (0, 12) 1921 | erfyn yr wyf yn lleigus gael chwaneg wrthych siarad. |
| (0, 12) 1922 | Beth a bair ddrwgdybio ond hir ymdroi mewn cariad? |
| (0, 12) 1923 | Fy meddwl ni rhaid dangos, |
| (0, 12) 1924 | ni wnaiff geiriau ond paentio'r achos; |
| (0, 12) 1925 | y peth sydd raid ei wneuthur |
| (0, 12) 1926 | nid gwaeth yn fuan nag yn hwyr. |
| (0, 17) 2148 | Ti yw butain i'r Troeaid erioed er pan y'th aned, |
| (0, 17) 2149 | dos ymaith o'm golwg, na ad im byth dy weled! |
| (0, 17) 2150 | Yr owran ym mysg Groegwyr fwyfwy'n puteinia: |
| (0, 17) 2151 | os doi di byth lle y byddwyf, â'r cledd hwn y'th laddaf. |
| (0, 17) 2152 | Y neb a wnelo ddeunydd |
| (0, 17) 2153 | ar butain ffals ei deurudd! |
| (0, 17) 2154 | Dos ymaith i buteinia: |
| (0, 17) 2155 | na ad dy weled mwy ffordd yma. |