| (0, 1) 8 | Dydd da ichi. |
| (0, 1) 11 | Llecyn hyfryd ar ben y clogwyn yma. |
| (0, 1) 14 | Mae o'n rhoi pendro i ddyn. |
| (0, 1) 15 | Y môr i lawr acw fel darn o sidan crychlyd. |
| (0, 1) 17 | A'r gwylanod fel gwybed yn hofran mor ddioglyd-hamddenol. |
| (0, 1) 19 | Mi fuoch i lawr ar y traeth felly? |
| (0, 1) 20 | Pysgota? |
| (0, 1) 22 | Rhyw wagsymera'n lled-obeithiol, fel tae? |
| (0, 1) 26 | O? |
| (0, 1) 29 | Tybed? |
| (0, 1) 36 | Be sy'n gwneud ichi feddwl? |
| (0, 1) 40 | Wedi gweld rhywun tebyg, reit siwr. |
| (0, 1) 45 | Felly! |
| (0, 1) 48 | Rydych chi'n awdurdod ar y pwnc, mae'n amlwg. |
| (0, 1) 51 | Swrth a bodlon mewn swyngyfaredd! |
| (0, 1) 54 | Roeddech chi'n fachgen pur anghyffredin, rwy'n gweld. |
| (0, 1) 56 | O? |
| (0, 1) 62 | Jonah, aie! |
| (0, 1) 64 | Oes yna ryw arwyddocâd yn yr enw, tybed? |
| (0, 1) 69 | Pan fydd yr haul yn pendwmpian â'i ên ar y gorwel. |
| (0, 1) 70 | A siffrwd y môr yn ei suo i gysgu. |
| (0, 1) 71 | A'r hen fynyddoedd acw'n clustfeinio ar gyfrinach yr Oesoedd. |
| (0, 1) 73 | A'r pentre oddi tanoch yn ymlacio'n braf ar ôl gwaith y dydd. |
| (0, 1) 74 | Amser i fyfyrio am y byd a'r betws. |
| (0, 1) 75 | Amser i freuddwydio. |
| (0, 1) 480 | Wel, Jonah! |
| (0, 1) 482 | Wnest ti aros yn hir ar y clogwyn neithiwr? |
| (0, 1) 487 | Rwyt ti'n hapus ar dy ben dy hun? |
| (0, 1) 489 | Pam? |
| (0, 1) 492 | Fyddi di ddim yn chwarae efo plant y pentre? |
| (0, 1) 495 | Rwyt ti'n hoff iawn o fynd i fyny'r clogwyn hefyd? |
| (0, 1) 497 | Be fyddi di'n 'i wneud yno? |
| (0, 1) 500 | Be fyddi di'n 'i weld? |
| (0, 1) 504 | Ofn beth? |
| (0, 1) 507 | Rwy'n gweld. |
| (0, 1) 509 | Rhaid iti fod yn ddewr, 'machgen i. |
| (0, 1) 510 | Wnei di addo hynna? |
| (0, 1) 511 | Bod yn ddewr bob amser? |
| (0, 1) 512 | Beth bynnag a ddigwydd? |
| (0, 1) 514 | Amser a ddengys, Jonah... |
| (0, 1) 515 | Amser a ddengys. |
| (0, 1) 519 | Cofia, Jonah, bydd ddewr... |
| (0, 1) 520 | Mi gawn gyfarfod eto... rhywdro. |