| (2, 0) 255 | Does dim ods i ti pryd do i'n ol; mi ddo'n ol ar ol gorffen fy ngwaith. |
| (2, 0) 258 | Os bydd eisia rhywbeth arna i wedi dod yn ol, mi gei godi, mechan i, o dy wely i neud o; does gen ti ddim i neud yn y tŷ ma o fore tan nos ond troi dy fysedd a jantio drwy'r coed. |
| (2, 0) 259 | Mi gei godi, |my lady|, i ddawnsio tendans arna i. |
| (2, 0) 262 | Dim o glep dy dafod di ne mi gei glywed pwys y nwrn i ar dy wep. |
| (2, 0) 265 | Mi roi'r ddau mewn mowrning iti'r tro yma, y gnawes styfnig. |
| (2, 0) 272 | Be nei di, sgwn i? |
| (2, 0) 273 | Seuthi di fi neu roi di wenwyn yn y mwyd i? |
| (2, 0) 274 | Hwyrach y dywedi di wrth y plisman? |
| (2, 0) 277 | Arf! Pa arf wyt ti'n gario? |
| (2, 0) 280 | Y faeden sosi! |
| (2, 0) 281 | Enwa'r arf sy gen ti'r funud ma ne mi gei weld miloedd o sers ar un trawiad. |
| (2, 0) 282 | Mi ro un siawns iti, a dim ond un. |
| (2, 0) 283 | Ddeydi di? |
| (2, 0) 287 | Myn cebyst, mae mwy o frid ynot ti nag oeddwn yn feddwl, |
| (2, 0) 290 | Wyddwn i ddim tan heno mod i'n magu rhyw greadur mentrus fel ti. |
| (2, 0) 294 | Wel, rwan, Nel, beth am yr arf na? |
| (2, 0) 295 | Beth ydi o? |
| (2, 0) 298 | Mi ddaru't addo deyd os down i'r gornel ma. |
| (2, 0) 301 | Dyna'r arf ai ê? |
| (2, 0) 303 | Dydi o ddim yn un perig iawn wedi'r cwbl. |
| (2, 0) 305 | Laddith o ddim robin goch, mechan i, heb sôn am ddim math o gêm. |
| (2, 0) 307 | Dim o gwbl pan yr ei di'n groes i f'wyllys. |
| (2, 0) 309 | Mae'n reit y rhan amla, a chofia di hynny. |
| (2, 0) 310 | Wel, estyn y gwn na i lawr oddiar y pared i mi, mae hi'n bryd i mi gychwyn. |
| (2, 0) 313 | Be wyt ti'n feddwl—cnwllau corff a phethau felly? |
| (2, 0) 316 | Rwy'n dy ddeall i'r dim, mechan i; trio'm stopio i fynd allan at yr afon rwyt drwy godi ofn arna i. |
| (2, 0) 320 | Rwyt ti yn un o dy strancia'n siwr ddigon heno. |
| (2, 0) 321 | Cofia be ddeydais i am groesi f'wyllys. |
| (2, 0) 322 | Gillwng d'afael! |
| (2, 0) 326 | Peidiwch a mynd allan heno er fy mwyn i. |
| (2, 0) 327 | Ydi bys Nel bach yn brifo? |
| (2, 0) 328 | Gaiff dadi bach neis roi tws iddo? |
| (2, 0) 329 | Dos o ngolwg i; rwyt bron wedi ngneud i'n sâl rhwng popeth. |
| (2, 0) 330 | Be sy'n dy gorddi di heno, sgwni? |
| (2, 0) 331 | Rwyt fel ceiliog y gwynt—yn fy nyffeio rwan jest, y funud nesa yn gweld cannwyll corff yn rhedeg ar hyd baril y gwn yma, a dyma ti rwan yn mewian fel cath fanyw. |
| (2, 0) 333 | Peidiwch mynd allan heno, Nhad. |
| (2, 0) 334 | Wyt ti'n clywed? |
| (2, 0) 335 | Gillwng d'afael! |
| (2, 0) 344 | Oedd. |
| (2, 0) 348 | Oedd, am wn i, ond heriodd hi rioed mohono i fel ti, a doedd hi ddim yn gweld arwyddion fel ti; wn i ddim i bwy rwyt ti'n debig. |
| (2, 0) 351 | Mi wyddost yn gystal a finna i bod hi'n gorwedd ym mynwent y Llan. |
| (2, 0) 354 | Ydi hi gyd yno! |
| (2, 0) 355 | Be wyt ti'n feddwl? |
| (2, 0) 358 | I hyspryd hi wyt ti'n feddwl? |
| (2, 0) 359 | Welaist ti hyspryd hi rhywdro? |
| (2, 0) 362 | Ia, ond welaist ti hi, Nel? |
| (2, 0) 365 | Oes i hofn hi arnat ti? |
| (2, 0) 371 | Rwyt ti'n siarad yn union fel tae hi'n fyw rwan yn y gegin ma; yn tydi hi'n gorwedd yn ddigon llonydd yn mynwent y Llan. |
| (2, 0) 375 | Rwyt ti fel sguthan yn sgrechian yr un peth o hyd. |
| (2, 0) 376 | Wyt ti wedi troi'n dduwiol, dywed, fel pobl y capel—yn rhy dduwiol i niodde i ddal samons hefo rhwyd yn y nos? |
| (2, 0) 378 | Pwy pia nhw ynte? |
| (2, 0) 379 | Pwy nath y samons sydd yn yr afon? |
| (2, 0) 382 | Ia, ond mae'r afon a'r awyr a'r coed yn rhydd i bob dyn byw bedyddiol, ne mi ddylent fod. |
| (2, 0) 384 | Pa hawl sy ganddo fo i hawlio holl greaduriaid y coed a'r afon? |
| (2, 0) 385 | Mi rydw i'n perthyn o bell i'r corgi sgwâr, er na fyn o ddim arddel y berthynas, a dydw inna rioed wedi arddel y berthynas, a wna i byth. |
| (2, 0) 386 | Mi rydw i gymaint gŵr bonheddig ag yntau, y lordyn boldew. |
| (2, 0) 389 | Dos i Jerico, rhen frân ffôl, a phaid a chrawcian ddim yn rhagor. |
| (2, 0) 394 | Dos i dy grogi, rhen ddyllhuan y felltith. |
| (2, 0) 527 | Be felltith ydi rhyw gamocs fel hyn? |
| (2, 0) 528 | Be ydi'r antarliwd sy'n mynd ymlaen yma? |
| (2, 0) 529 | Nel, wyt ti wedi mynd yn hollol o dy |sense|? |
| (2, 0) 530 | Pwy gebyst ydi'r dyn ma sy'n llewys ei grys? |
| (2, 0) 533 | Dim o dy lol a dy giapars di yn y tŷ ma hefo dy Fistar Richard Davis ne mi dorra d'esgyrn di. |
| (2, 0) 535 | Tyn y tacla na oddiamdanat mewn dau funud. |
| (2, 0) 537 | Rhowch rhein amdanoch mewn amrantiad a dacw'r drws, ac os nad ewch trwyddo cyn i mi gyfri tri, mi'ch dyrnaf chi drwyddo. |
| (2, 0) 547 | Yr hen ffŵl ddi-ben yn chware dy gastia o hyd. |
| (2, 0) 548 | Be ddeydodd hi oedd eich enw chi? |
| (2, 0) 550 | Ga i deimlo bôn eich braich? |
| (2, 0) 554 | Tawn i byth yn symud, ma nhw mor dyn a chroen drwm a chyn gleted a chwipcord. |
| (2, 0) 556 | Mae dyn hefo braich fel yna'n rhy dda i bwlpud. |
| (2, 0) 557 | Nos dawch, Syr. |
| (2, 0) 559 | Na prin: ond pe delswn o gwbl, mi ddelswn i wrando ar ddyn â braich fel chi, ond ddo i ddim, |
| (2, 0) 564 | Dyna lun ei mam. |
| (2, 0) 565 | Nos dawch. |
| (2, 0) 570 | Wn i ddim; ond mi fuost yn cyboli cymaint â'r llun yna nes y ngneud i'n anesmwyth braidd. |
| (2, 0) 571 | Tawn i'n llwgu'r funud ma, wn i ddim o ble y doist ti hefo dy sbrydion a dy freuddwydion a dy godl. |