| (1, 0) 1 | Gwelir yr Hen Ŵr yn darllen wrth ei ddesg, a llyfrau trymion o'i gwmpas. |
| (1, 0) 2 | Y mae'n ffwdanu, ac yn aflonydd wrth ddarllen. |
| (1, 0) 3 | Cyfyd. |
| (1, 0) 4 | Ei Ysgrifenyddes yn eistedd mewn cadair yn agos i'r tân. |
| (1, 0) 5 | Merch ifanc fywiog ydyw hi. |
| (1, 0) 10 | Enter y Gwas o'r dde─yntau'n go hen, ac yn meddu ar ryw hynodrwydd yn ei ymddygiad a'i ymarweddiad a wna i bobl sylwi arno. |
| (1, 0) 11 | Y mae ganddo'r teip hwnnw o wyneb a gysylltir â breuddwyd drwg; ac y mae ef mor beiriannol a llyfn ei ddull o fynd a dod ag yw bwtler da. |
| (1, 0) 18 | Sŵn cloch y drws yn canu. |
| (1, 0) 21 | Exit i'r dde. |
| (1, 0) 22 | Yr Hen Ŵr yn troi'n ôl at ei ddarllen. |
| (1, 0) 30 | Daw'r Gwas yn ôl. |
| (1, 0) 53 | Exit y Gwas. |
| (1, 0) 54 | Yr Hen Ŵr yn codi'r llyfr y bu'n ei ddarllen. |
| (1, 0) 55 | Y mae'n gyffrous yn mynd ymlaen â darllen eto. |
| (1, 0) 63 | Tra dywed ef y frawddeg olaf, clywir cynnwrf o'r tu allan i'r ystafell yn nesáu. |
| (1, 0) 73 | Exeunt i'r chwith. |
| (1, 0) 74 | Enter cwmni'r bws ar rewi, a'r Gwas yn eu harwain. |
| (1, 0) 75 | Y mae golwg ofnus, ddrwgdybus ar y Ddwy Wraig. |
| (1, 0) 76 | Ni wellheir pethau pan welant benglog ar ford fach sydd wrth eu cadeiriau. |
| (1, 0) 90 | Aethai'r Dyn Di-waith yn syth at gadair freichiau pan ddaeth ef i mewn. |
| (1, 0) 91 | Nesaodd y Ddwy Wraig at ei gilydd i ben arall yr ystafell gan edrych yn graff ar y lle; a thra bo'r gwas yn gweld bod y lleill yn setlo i lawr, ac yn cario o'r neilltu y benglog, etc., y mae'r ddwy yn ymgomio â'i gilydd.} |
| (1, 0) 107 | Mae'r Dyn Di-waith yn bwyta cnau mwnci yn ddi-stop. |
| (1, 0) 108 | Taflu'r plisg i gyfeiriad y tân 'nawr ac yn y man. |
| (1, 0) 109 | Sieryd heb godi ei ben. |
| (1, 0) 116 | Hymia'r gweddill. |
| (1, 0) 150 | Y Ddwy Wraig yn edrych ar ei gilydd. |
| (1, 0) 163 | Fel y gellid disgwyl, cafodd yr hanes gryn effaith ary Ddwy Wraig. |
| (1, 0) 164 | Hobnobiant â'i gilydd, a'u dychryn yn eglur ar eu hwyneb, ac yn eu hystumiau. |
| (1, 0) 165 | Gwrando'n barchus a wna'r lleill. |
| (1, 0) 172 | Mae hi'n codi. |
| (1, 0) 173 | Enter yr Hen Ŵr─yn sydyn ac yn ddistaw. |
| (1, 0) 175 | Distawrwydd. |
| (1, 0) 176 | Y dynion yn codi. |
| (1, 0) 177 | "Nos da syr," etc. |
| (1, 0) 198 | Edrych ar y Ddwy Wraig. |
| (1, 0) 199 | Exit i'r dde. |
| (1, 0) 229 | Cwac a'r Comiwnist yn amneidio. |
| (1, 0) 261 | Pandemoniwm cyffredinol. |
| (1, 0) 262 | "Dyma hi," "Nage," "Dyna hi dan y gadair," etc. |
| (1, 0) 263 | Y Ddwy Wraig yn ceisio ei tharo â'u basgedi, y Comiwnist â'i gap, y Cwac â'i draed. |
| (1, 0) 264 | Cododd y Di-waith ei goesau dros fraich y gadair, dyna i gyd. |
| (1, 0) 265 | ~ |
| (1, 0) 266 | Yr Athrawes, cyn gynted ag y clywodd sôn am lygoden, yn gwichian. |
| (1, 0) 267 | Neidio i ben eì chadair a thynnu ei dillad ati. |
| (1, 0) 268 | Gwichian yn ddi-stop. |
| (1, 0) 269 | Yna chwerthin. |
| (1, 0) 270 | Tipyn o sterics. |
| (1, 0) 271 | Hyn yn tynnu sylw'r lleill. |
| (1, 0) 272 | Llewygu ym mraich y Cwac. |
| (1, 0) 275 | Y Comiwnist yn ei helpu ef i'w chario, a'r Ddwy Wraig yn paratoi'r soffa. |
| (1, 0) 276 | Rhoi'r Athrawes arni. |
| (1, 0) 277 | Tynn y Cwac ei fflasg allan a rhoi dracht iddi, a'r Comiwnist yn chwifio hances goch o flaen ei hwyneb. |
| (1, 0) 278 | Mae'r Ddwy Wraig yn hofran o'i chwmpas ganrwbio'i dwylo a cheisio gweinyddu arni. |
| (1, 0) 279 | Ar ôl edrych ennyd ar y pandemoniwm, rhoes y Di-waith ei sylw i'r cwdyn cnau unwaith eto. |
| (1, 0) 280 | Sŵn cyffredinol. |
| (1, 0) 301 | Aeth y Ddwy Wraig 'nôl i'w lle, a buont yn clebran am y digwyddiad â'i gilydd. |
| (1, 0) 302 | Mae'r Comïwmnst yn awr yn galw eu sylw. |
| (1, 0) 314 | Mynd ymlaen â chanu'n hanner cwsg a wna'r athrawes. |
| (1, 0) 316 | Canu o hyd. |
| (1, 0) 317 | Â'r Comiwnist ymlaen ati a'i hysgwyd. |
| (1, 0) 326 | Dechreua'r Athrawes chwerthin, a'r Cwac yntau gyda hi. |
| (1, 0) 327 | Y Ddwy Wraig yn amneidio ar ei gilydd ei bod hi'n feddw. |
| (1, 0) 328 | Mae'r Cwac yn symud i eistedd ar y soffa gyda hi. |
| (1, 0) 329 | Y Comiwnist yn tynnu'r "Daily Worker" o'i boced, ac yn setlo lawr i'w ddarllen.} |
| (1, 0) 331 | Enter yr Ysgrifenyddes o'r chwith, yn sgrifennu ar dabled ac yn edrych o'i hamgylch. |
| (1, 0) 332 | Gesyd ei phensil y tu ôl i'w chlust. |
| (1, 0) 333 | Dweud "t-t-t" yn anfoddog, a cherdded at y mur. |
| (1, 0) 334 | Mynd drwy ystumiau rhoddi darlun i hongian yn gymwys, ond nid oes darlun yno. |
| (1, 0) 335 | Cerdded i ffrynt y llwyfan. |
| (1, 0) 336 | Baglu. |
| (1, 0) 338 | Nid oes cath. |
| (1, 0) 339 | Cwmni'r bws yn chwilio. |
| (1, 0) 342 | Nid oes teliffon. |
| (1, 0) 343 | Â at y ddesg fel petai i'w ddefnyddio, heibio i'r Ddwy Wraig. |
| (1, 0) 352 | Y mae'n wylo erbyn hyn. |
| (1, 0) 353 | Gesyd y "receiver" anweledig yn ôl, a symud oddi wrtho heb dynnu ei llygaid i ffwrdd. |
| (1, 0) 354 | Anwybydda'n hollol y ffaith fod y lleill yn yr ystafell. |
| (1, 0) 355 | Mae ei chefn at y drws yr aeth yr Hen Ŵr allan drwyddo, ac y mae hi eto'n ysgrifennu'n ddyfal ar y dabled, pan ddaw ef i mewn. |
| (1, 0) 356 | Gwêl cwmni'r bws ef. |
| (1, 0) 366 | Yr Ysgrifenyddes yn edrych oddi amgylch. |
| (1, 0) 380 | Â tuag ati wrth siarad. |
| (1, 0) 381 | Hithau'n rhoi sgrech ac yn rhuthro allan i'r chwith. |
| (1, 0) 382 | Mae'r cwmni erbyn hyn ar eu traed, ac wedi delwi gan syfrdandod. |
| (1, 0) 384 | Exit. |
| (1, 0) 385 | Eiliad o ddistawrwydd, yna symud. |
| (1, 0) 386 | Mae'r Ddwy Wraig yn casglu eu pethau at ei gilydd yn ffwdanus. |
| (1, 0) 404 | Y ddwy'n martsio'n bendant at y drws i'r dde a'i agor. |
| (1, 0) 405 | Y Gwas yn eu cwrdd yno wyneb yn wyncb yn cario hambwrdd a chwpanau te. |
| (1, 0) 408 | Sefyll yn stond. |
| (1, 0) 409 | Hwythaw'n cilio 'nôl, ac yn eistedd yn anesmwyth ar y cadeiriau lle'r oeddent o'r blaen. Mae'r Gwas yn mynd â'r te o gwmpas. |
| (1, 0) 410 | Dechrau gyda'r Athrawes. |
| (1, 0) 411 | "Diolch," etc., "Siwgr?", "Llaeth?" |
| (1, 0) 412 | Y Cwac yn cymryd y cyfle i gael llwnc o'i fflasg, ac yna ei phasio i'r Comiwnist: "Diolch, frawd."} |
| (1, 0) 422 | Exit. |
| (1, 0) 430 | A'r Athrawes ymlaen â'i yfed. |
| (1, 0) 434 | Cerdda at aspidistra wrth y mur, ac arllwys ei the. |
| (1, 0) 435 | Yna mae Gwraig 2 yn gwneud yr un peth. |
| (1, 0) 438 | Mae'r Di-waith wedi gorffen ei gwpanaid, ac yn rhoi ei gwpan ar y llawr, a'i setlo ei hunan yn ôl yn gysurus yn ei gadair. |
| (1, 0) 443 | Mae golwg annifyr ac ansicr ar y Cwac. |
| (1, 0) 444 | Â ymlaen at yr aspidistra─yn ddibwrpas hollol, gellid meddwl. |
| (1, 0) 445 | Wedi cyrraedd ato, mae'n amlwg bod rhywbeth yn peri syndod iddo. |
| (1, 0) 452 | Mae'r Cwac 'nawr yn arllwys ei gwpanaid, yn ddigywilydd ac yn agored. |
| (1, 0) 453 | Y Comiwnist yn teimlo'n annifyr. |
| (1, 0) 454 | Nid yw'r Di-waith yn symud o gwbl. |
| (1, 0) 455 | Dechreua'r Athrawes chwerthin eto braidd yn "hysterical" ar y soffa. |
| (1, 0) 456 | Mae teimlad o straen yn yr ystafell nes bod y Cwac yn ymroi i liniaru tipyn ar nerfau'r lleill. |
| (1, 0) 468 | Mae'r Comiwnist yn setlo i lawr unwaith eto i ddarllen y "Daily Worker." |
| (1, 0) 483 | Tynnu potel o'r "Pectoria" o'i boced. |
| (1, 0) 493 | Y mae'n codi hwyl, ac o hyn ymlaen yn areithio fel y gwnâi yn y ffeiriau ar ei deithiau gwerthu moddion. |
| (1, 0) 518 | Dechreuasai'r golau losgi'n wannach cyn y cyfeiriad cyntaf ato. |
| (1, 0) 519 | Aeth yn raddol yn wannach wannach. |
| (1, 0) 520 | Mae'r Cwac erbyn hyn yn gorfod cyfaddef wrtho'i hunan fod rhywbeth o le. |
| (1, 0) 521 | Â ymlaen yn beiriannol iawn â'i areithio. |
| (1, 0) 522 | Yna arafu a stopio. |
| (1, 0) 525 | Rhydd Gwraig 2 sgrech cyn iddo orffen─ |
| (1, 0) 526 | Mae'r Hen Ŵr wedi ymddangos yn y drws. |
| (1, 0) 531 | Daw'r golau'n gryfach. |
| (1, 0) 545 | Exit i'r chwith. |
| (1, 0) 546 | Distawrwydd. |
| (1, 0) 547 | Gwel Gwraig 2 fod y Di-waith wedi mynd yn swp yn y gadair. |
| (1, 0) 548 | Sgrech, a phwyntio. |
| (1, 0) 549 | Rhuthra'r Cwac a'r Comiwnist ato, ar ôl edrych ar ei gilydd. |
| (1, 0) 550 | Agor ei grafat; rhwbio'i ddwylo; slapio'i wyneb, etc. |
| (1, 0) 551 | Yntau'n dihuno, ac yn ymladd ei ffordd o'r gadair. |
| (1, 0) 564 | Mae'r Di-waith yn eistedd nôl yn ei gadair, ac yn paratoi am nap pellach. |
| (1, 0) 571 | Y mae yn ei hwyliau erbyn hyn. |
| (1, 0) 591 | Ac yntau yn ei hwyliau tua therfyn yr araith, y mae'r golau yn diffodd glec, a sgrech hir yr Ysgrifenyddes yn melltennu drwy'r tywyllwch. |
| (1, 0) 592 | Distawrwydd hollol─yna hwb-wb yn yr ystafell. |
| (1, 0) 593 | Daw'r golau nôl. |
| (1, 0) 594 | Mae'r Hen Ŵr yn y drws. |
| (1, 0) 595 | Pawb yn sefyll yn stond─ond bod y Di-waith yn dal i gysgu. |
| (1, 0) 596 | Mae'r Hen Ŵr yn rhuthro í mewn, a'r Ysgrifenyddes gydag ef. |
| (1, 0) 597 | Â ef o amgylch y Menywod, gan deimlo eu pyls, eu talcen, edrych eu llygaid; mae'r Cwac a'r Comiwnist yn ffyrnig ar ôl y syfrdandod cyntaf. |
| (1, 0) 598 | Drwy'r adeg gwaedda'r Hen Ŵr ei gasgliadau, a'r Ysgrifenyddes yn eu copio ar ei thabled.) |
| (1, 0) 637 | Bu'r Ysgrifenyddes yn sefyll yn ddistaw o'r neilltu, yn copio'n brysur drwy'r adeg, heb godi ei phen. |
| (1, 0) 638 | Yn awr, edrych o amgylch, ac a'r ddwy fenyw yn ymosod arni mor fygythiol, y mae fel petai'n ansicr beth i'w wneud. |
| (1, 0) 639 | Sieryd yr Hen Ŵr â hi. |
| (1, 0) 673 | Bu'r Di-waith yn eistedd i fyny yn ei gadair wrth y tân yn bwyta cnau drwy'r adeg. |
| (1, 0) 674 | Mae'r Ddwy Wraig mewn ymgom dawel, ddig â'i gilydd. |
| (1, 0) 675 | Pan sieryd y Comiwnist, dyma eu dicter yn fflamio. |
| (1, 0) 678 | Y ddwy 'nawr yn ymosod ar yr Hên Ŵr â'u basgedi a'u siolau. |
| (1, 0) 682 | Teifl y siôl am ei ben. |
| (1, 0) 683 | Mae'r ddwy'n baglu ar ei draws ac â'u pwysau wedi ei fwrw 'nôl yn erbyn y soffa, lle y lled-orwedd. |
| (1, 0) 684 | Mae'r lleill yn edrych ar ei gilydd, heb wybod yn iawn sut i ymyrryd. |
| (1, 0) 685 | Edrychodd y Di-waith ar yr ymosod, ac yna, mynd 'nôl at ei gnau. |
| (1, 0) 686 | Enter y Gwas. |
| (1, 0) 687 | Edrych yn syn. |
| (1, 0) 689 | Y Ddwy Wraig yn dechrau casglu eu pethau ar unwaith. |
| (1, 0) 698 | Exeunt, yn gadael yr Hen Ŵr yn llipa ar y soffa─llyfr Robert Burton dan ei gesail o hyd. |
| (1, 0) 699 | Edrych y Gwas arno. |
| (1, 0) 700 | Yna â allan yn fwtleraidd ar ôl y Ddwy Wraig. |
| (1, 0) 701 | Ffwdan cyffredinol y lleill yn paratoi i ymadael. |
| (1, 0) 708 | Exit, a'r Cwac yn mynd allan y tu cefn iddi. |
| (1, 0) 715 | Sylweddola fod y llyfr dan ei gesail o hyd. |
| (1, 0) 716 | Edrych arno. |
| (1, 0) 717 | Dechrau ei agor. |
| (1, 0) 718 | Ei daflu oddi wrtho i'r llawr. |
| (1, 0) 721 | Enter y Gwas. |
| (1, 0) 723 | Try'r Hen Ŵr ei ben yn araf ac edrych arno. |
| (1, 0) 728 | LLEN. |