| (1, 0) 6 | Daw Alff i'r llwyfan. |
| (1, 0) 7 | Mae hi ar goll. |
| (1, 0) 8 | Mae hi'n cario siwtces mawr, sy'n achosi cryn drafferth iddi. |
| (1, 0) 9 | Mae hi'n syrthio'n swp, wedi blino, ond yna mae'n cofio am rywbeth sy yn y siwtces. |
| (1, 0) 10 | Mae'n ei agor, a thynnu allan – siwtces arall, ychydig yn llai, gan fwynhau'r joc. |
| (1, 0) 11 | Wedyn allan o hwnnw mae hi'n tynnu siwtces arall llai fyth, ac yna un arall eto sy hyd noed yn llai. |
| (1, 0) 12 | O'r siwtces ola, bach, mae hi'n tynnu rhywbeth gwahanol iawn. |
| (1, 0) 13 | ~ |
| (1, 0) 14 | Llyfr – un hen, un hardd, a chywrain. |
| (1, 0) 15 | Mae hi'n trysori hwn, yn ei ddal yn dynn, ac ebychu'n hapus wrth ei fwytho. |
| (1, 0) 16 | Wedyn mae hi'n syllu arno, mewn penbleth, heb fod yn sicr beth yw'r trysor rhyfedd. |
| (1, 0) 17 | ~ |
| (1, 0) 18 | Maen ei lyfu, yn cnoi mymryn ar ei glawr. |
| (1, 0) 19 | Ond mae'n amlwg nad yw e'n flasus iawn. |
| (1, 0) 22 | Dyw hynny ddim yn gwneud synnwyr iddi. |
| (1, 0) 23 | Mae hi'n treio rhywbeth arall, gan roi'r llyfr ar ei phen, fel het. |
| (1, 0) 24 | Ond mae'r llyfr yn mynnu syrthio oddiar ei chorun. |
| (1, 0) 32 | Mae hi'n ochneidio, ac yn syllu'n drist ar y llyfr heb ddeall ystyr yr hen ddyfyniadau. |
| (1, 0) 33 | Wedi ymladd nawr, mae hi'n dylyfu gen, ac ar ol galw unwaith eto ar Patshyn a Sosban, mae hi'n ochneidio a gorwedd lawr i gysgu. |
| (1, 0) 34 | ~ |
| (1, 0) 35 | Yn sydyn mae hi'n eistedd fyny, wedi cael syniad gwych. |
| (1, 0) 36 | Mae hi'n gafael yn y llyfr, ac yn ei osod o dan ei phen, fel pebai hi nawr yn gwybod yn union beth yw ei swyddogaeth. |
| (1, 0) 38 | Mae'n chwerthin yn hapus. |
| (1, 0) 39 | Dyna beth yw e! |
| (1, 0) 41 | Mae'n cwtsho lawr a chwympo i gysgu. |
| (1, 0) 42 | ~ |
| (1, 0) 43 | Daw Patshyn i'r llwyfan. |
| (1, 0) 44 | Mae e'n gwisgo cot fawr. |
| (1, 0) 45 | Mae e'n edrych ar goll ac yn ofnus. |
| (1, 0) 46 | O weld Alff gwelwn ryddhad mawr ar ei wyneb. |
| (1, 0) 50 | Mae'n diosg ei got. |
| (1, 0) 51 | O dan hon mae clogyn rhyfedd o batshus a lluniau, sy'n frodwaith o straeon amrywiol. |
| (1, 0) 52 | Mae rhai patshus yn newydd a llachar, eraill wedi pylu ac yn dreuliedig. |
| (1, 0) 53 | Mae'n taenu'r got fawr dros Alff. |
| (1, 0) 56 | Swn blaidd yn udo. |
| (1, 0) 57 | Mae Patshyn yn llawn ofn. |
| (1, 0) 58 | Swn udo eto. |
| (1, 0) 59 | Mae Patshyn yn crynu fel deilen, ac yn treio ad-ennill ei hunan-feddiant. |
| (1, 0) 65 | Mae'n eistedd yn ymyl Alff, a thynnu'r got yn dynnach o'i hamgylch. |
| (1, 0) 67 | Swn udo eto. |
| (1, 0) 71 | O un o bocedi'r got mae e'n tynnu dol mewn hugan goch, ac yna trwyn blaidd, gan eu defnyddio wrth adrodd y stori. |
| (1, 0) 89 | Mae'n stopio, a chrafu ei ben mewn penbleth. |
| (1, 0) 91 | Mae'n stopio eto, yn ansicr iawn o'i hunan. |
| (1, 0) 93 | Ond ddaw hi ddim. |
| (1, 0) 96 | Mae'n dal ei ben yn ei ddwylo ac yn dechrau crio. |
| (1, 0) 97 | Mae hyn yn dihuno Alff, sy'n mynd ati i gysuro Patshyn. |
| (1, 0) 105 | Mae e'n crio mwy fyth. |
| (1, 0) 106 | Mewn ymgais i godi ei galon mae Alff yn pigo'r llyfr fyny.. |
| (1, 0) 109 | Gan wneud sioe fawr o feimio cysgu a'r llyfr o dan ei phen mae hi'n dangos i Patshyn beth all swyddogaeth y llyfr fod. |
| (1, 0) 149 | Ar hyn daw Sosban i fewn yn ddirybudd. |
| (1, 0) 151 | Maen nhw'n amlwg yn hapus o'i weld, ac yn teimlo rhyddhad mawr. |
| (1, 0) 221 | Mae Alff yn neidio ar ei thraed, yn ddig, ac yn gweiddi allan at y nos. |
| (1, 0) 246 | Mae Sosban wedi casglu ei offer creu cerddoriaeth. |
| (1, 0) 247 | Gall Alff ddefnyddio aderyn papur ar ddarn o bren fel y titw. |
| (1, 0) 248 | Ac fe all Patshyn ddefnyddio amrywiaeth o bropiau fel nyth a wyneb cath y mae e'n eu tynnu o'i got. |
| (1, 0) 249 | Bydd canu yn plethu drwy'r adrodd stori. |
| (1, 0) 288 | Mae'r adrodd stori a'r canu yn dod i ben yn ddirybudd. |
| (1, 0) 344 | Does gan Alff ddim amynedd i wrando ar yr hunan dosturi yma. |
| (1, 0) 345 | Mae hi'n meddwl am rywbeth arall ac mae golwg heriol ar ei hwyneb nawr. |
| (1, 0) 372 | O blygion ei chot mae Alff yn tynnu tri briwsionyn anferth. |
| (1, 0) 386 | Ceir portread drwy ystum o'r tri yn rhannu bwyd wrth i'r briwsion gael eu taflu gan y naill at y llall mewn cylch. |
| (1, 0) 387 | Mae'r tri yn mwynhau'r ddefod a'r bwyta yn fawr iawn, ac yn gorffen sglaffio yr un pryd. |
| (1, 0) 395 | Clywir rhythm trwm yn atseinio, fel traed cawr yn yn taro'r ddaear. |
| (1, 0) 398 | Mae'r swn yn chwyddo. |
| (1, 0) 402 | Panic cyffredinol. |
| (1, 0) 408 | Maen nhw'n treio cuddio'r offerynau a'r propiau gan fynd i strach ofnadwy, tra ar yr un pryd yn treio cuddio rhag pwy bynnag sy'n agoshau. |
| (1, 0) 409 | Daw'r swn yn nes ac yn nes. |
| (1, 0) 410 | ~ |
| (1, 0) 411 | Daw'r cawr i'r llwyfan. |
| (1, 0) 412 | Mae'n horwth o beth yn cerdded ar sgidiau uchel mawr, a'i gorff dan glogyn du gyda dwylo anferth yn gwthio drwodd. |
| (1, 0) 413 | Ar ei ben mae het uchel fawr, a lliain yn cuddio'r wyneb. |
| (1, 0) 414 | Mae'r tri yn cuddio ac yn crynu. |
| (1, 0) 428 | Tro Patshyn yw hi nawr i fod yn llawn ofn. |
| (1, 0) 442 | Maen nhw'n dechrau dadlau ymysg ei gilydd. |
| (1, 0) 443 | Ar yr un pryd mae Alff yn mentro at y cawr ac yn sbecian o dan arffed ei glogyn. |
| (1, 0) 444 | Ar dop y sgidiau anferth mae par o goesau tenau iawn. |
| (1, 0) 458 | Mae'r dieithryn yn raddol yn diosg y clogyn ac yn camu lawr oddi ar y sgidiau uchel. |
| (1, 0) 459 | Merch ifanc yw hi, yn edrych fel doli, yn bert ond yn sinistr. |
| (1, 0) 494 | Mae ganddo ddarn o raff yn ei ddwylo. |
| (1, 0) 495 | Mae Sosban yn cuddio ei lygaid gyda'i ddwylo. |
| (1, 0) 500 | Dechreua symud yn agosach at y dieithryn. |
| (1, 0) 503 | Mae Patshyn yn codi'r rhaff. |
| (1, 0) 504 | Yn sydyn mae Alff yn llamu rhyngddo fe a'r dieithryn. |
| (1, 0) 509 | Mae'r tri yn syllu ar y dieithryn. |
| (1, 0) 519 | Mae e'n gwneud hynny. |
| (1, 0) 530 | Adrodda'r dieithryn y stori, ac yn raddol mae rhywbeth yn ystwyrian yng nghof Alff, nes ei bod yn ymuno yn y stori gan actio'r rhannau. |
| (1, 0) 531 | Mae hyn yn denu Sosban, sy'n llai gelyniaethus na Patshyn, i ymuno hefyd. |
| (1, 0) 564 | Erbyn hyn mae Patshyn yntau wedi ei rwydo i fewn i'r chwarae. |
| (1, 0) 590 | Can. |
| (1, 0) 608 | Maen nhw wedi blino ar ol y chwarae egniol. |
| (1, 0) 609 | Patshyn a Sosban sy'n cwympo i gysgu gyntaf. |
| (1, 0) 610 | Mae Alff yn dylyfu gen, yna'n cymryd ei llyfr o'r siwtces a'i ddangos i'r dieithryn. |
| (1, 0) 616 | Cogio cysgu a wna'r dieithryn. |
| (1, 0) 617 | Mae'r lleill yn mwmial a thuchan yn eu cwsg. |
| (1, 0) 618 | Pan fo'r dieithryn yn siwr eu bod yn cysgu'n sownd mae hi yn gafael yn y llyfr, yna'r clogyn straeon, yna'r offerynnau cerdd ac yn dechrau cilio i'r tywyllwch yn slei bach. |
| (1, 0) 619 | Ond mae Patshyn yn dihuno'n sydyn ac yn gweld beth sy'n digwydd. |
| (1, 0) 623 | Mae'r lleill yn dihuno. |
| (1, 0) 627 | Mae nhw'n treio corneli'r dieithryn... |
| (1, 0) 629 | Yn ystod y cwrso mae'r dieithryn yn gollwng y clogyn, yna'r offerynnau ac mae Patshyn a Sosban yn cipio'r rhain yn ol. |
| (1, 0) 630 | Mae nhw allan o bwff yn lan. |
| (1, 0) 634 | Mae Alff yn dal i gwrso ar ol y dieithryn. |
| (1, 0) 647 | Mae Alff wedi hanner dal y diethryn, sy'n troi arni yn fygythiol ac yn ffyrnig. |
| (1, 0) 655 | Mae clywed hyn yn sioc i'r tri teithiwr. |
| (1, 0) 656 | Mae Alff yn treio cipio'r llyfr eto. |
| (1, 0) 663 | Mae hi'n agor y llyfr yn ofalus, yna'n fwriadus ac yn filain mae hi'n rhwygo'r dudalen gynta allan ohono. |
| (1, 0) 664 | Mae hi'n gwasgu'r dudalen yn belen a'i thaflu at Alff. |
| (1, 0) 665 | Gyda sgrech fach o boen mae Alff yn pigo'r dudalen fyny. |
| (1, 0) 666 | Mae Patshyn a Sosban yn ei chysuro. |
| (1, 0) 679 | Mae hi'n pwyntio. |
| (1, 0) 680 | Mae nhw'n agor y belen bapur a syllu ar y dudalen. |
| (1, 0) 713 | Mae hi'n pwyntio at glogyn straeon Patshyn. |
| (1, 0) 714 | Dyw e ddim am ollwng ei afael arno. |
| (1, 0) 717 | Mae'n paratoi i rwygo tudalen arall o'r hen lyfr. |
| (1, 0) 718 | Mae e'n dal yn gyndyn. |
| (1, 0) 722 | Mae Patshyn yn mynd ati a rhoi'r clogyn lawr yn ei hymyl, yn anfoddog iawn. |
| (1, 0) 726 | Mae Sosban yn gwneud yr un peth, dan brotest. |
| (1, 0) 751 | Maent yn nodio, yn bryderus. |
| (1, 0) 766 | Mae hi'n oedi am ennyd, fel pe'n cofio rhywbeth, yna'n cario mlaen ond yn llai hyderus. |
| (1, 0) 769 | Unwaith eto mae hi'n oedi, fel pe'n ymdrechu i gofio rhywbeth eto. |
| (1, 0) 777 | Y tro yma mae hi yn stopio, ac yn cael anhawster wrth geisio darllen ymlaen. |
| (1, 0) 799 | Mae'r lleill yn ymwybodol nawr fod rhywbeth pwysig iawn yn digwydd, ac mae'r dieithryn yn gafael yn y dudalen a rwygwyd ganddi o'r llyfr. |
| (1, 0) 803 | Mae Alff yn edrych ar y dudalen ac yn pwyntio at y gair. |
| (1, 0) 808 | Mae Alff yn syllu ar y dieithryn dan deimlad mawr. |
| (1, 0) 839 | Mae'n codi ei law ac yn pwyntio fel pe'n gorchymyn Beth i adael. |
| (1, 0) 840 | Mae Alff a Patshyn yn edrych yn brudd. |
| (1, 0) 841 | Dechreua Beth gerdded i ffwrdd. |
| (1, 0) 842 | Ond all Sosban ddim cynnal y ffugio, ac mae'n prysuro i alw Beth yn ol. |
| (1, 0) 864 | Mae'r pedwar yn edrych ar ei gilydd, yna gyda gobaith a hyder maen nhw'n sibrwd yn gryf: |
| (1, 0) 866 | Llawenydd. |
| (1, 0) 867 | Maen nhw'n dechrau pacio eu pethau wrth iddyn nhw ganu y gan olaf. |
| (1, 0) 879 | Erbyn diwedd y gan maen nhw wedi gadael y llwyfan – ag eithrio Alff. |
| (1, 0) 880 | Clywn Patshyn yn galw arni o'r pellter. |
| (1, 0) 881 | Mae hi'n gafael yn y siwtces ac yn prysuro i ffwrdd ar eu hol. |
| (1, 0) 882 | Y DIWEDD |